Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Madge a'r Cynghorydd H.A.L. Evans, Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.M. Allen

4 - Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2021/22 - Menter 10 tref

Yr Aelod lleol dros Hendy-gwyn ar Daf;

H.L. Davies

 

4 - Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2021/22 - Menter 10 tref

Yr Aelod lleol dros Lanymddyfri.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2021/22 pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2021-22 a amlinellai y blaenoriaethau ar gyfer yr adran ac a nodai sut yr oeddent yn cefnogi’r 5 Ffordd o Weithio a 7 Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Yn sgil pandemig Coronafeirws COVID-19, roedd hwn yn gynllun cryno; byddai fel arfer yn cynnwys adran adolygu ond roedd hwn eisoes wedi'i gynnwys yn yr Asesiadau o Effaith COVID-19 ar Wasanaethau a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

TGCh a Pholisi Corfforaethol

·       Dywedwyd y byddai profiadau ac adborth staff ac Aelodau dros y flwyddyn ddiwethaf o ran gweithio gartref ac ati yn cyfrannu at ddatblygiad rhaglen waith y dyfodol a ‘ffyrdd newydd o weithio’;

·       Eglurwyd mai’r sgôr risg uchaf bosibl o dan ‘Risgiau Adrannol Allweddol’ fyddai 25 ac y byddai matrics yn cael ei ddefnyddio;

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch adrodd am ‘Fesurau Llwyddiant Allweddol’ fel canrannau yn hytrach na thargedau, eglurwyd bod hyn wedi’i osod ar lefel Cymru gyfan a’i fonitro gan Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd roedd cynlluniau busnes is-adrannol gweithredol yn sail i'r Cynllun Adrannol ‘lefel uchel’ a oedd yn cynnwys llawer mwy o fanylion a mesurau perfformiad gweithredol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y rhain yn chwarterol. Awgrymwyd y dylid trefnu sesiwn gloywi ar gyfer y Pwyllgor ynghylch y System Monitro Perfformiad a Gwella(PIMS);

Y Gyfraith a Gweinyddiaeth

·       O ran ‘cyllidebau cyfun’ gydag awdurdodau eraill, dywedwyd bod pob awdurdod ar hyn o bryd yn cadw rheolaeth ar ei gyfran ei hun o’r gyllideb ond bod trafodaethau ar wariant yn cael eu cynnal ar sail partneriaeth;

·       Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Gweinyddiaeth, mewn ymateb i gwestiwn, nad oedd gan Adran y Gyfraith ddigon o adnoddau ar hyn o bryd a bod yn rhaid i rywfaint o waith cyfreithiol sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol ac addysg yn benodol gael ei gontractio'n allanol a'r gwasanaethau perthnasol fyddai'n talu amdanynt. Roedd trafodaethau ar y gweill gydag adrannau cleientiaid gyda'r bwriad o nodi cyllid a fyddai'n caniatáu i dîm mewnol y gyfraith gadw mwy o waith yn fewnol;  

Rheoli Pobl

·       Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol i ail-edrych ar hepgor perfformiad y tîm TIC o'r 'Mesurau Llwyddiant Allweddol' yn enwedig o ystyried yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd hyd yma a'r posibiliadau ar gyfer gwella ar y llwyddiant hwnnw mewn meysydd nad oeddent wedi cael sylw hyd yn hyn megis masnachadwyedd;

·       Cyfeiriwyd at yr anawsterau presennol y mae gweithwyr newydd yn eu profi oherwydd diffyg ymgysylltiad wyneb yn wyneb â'u cydweithwyr a'r angen i greu ethos tîm. Dywedwyd y gallai Penaethiaid Gwasanaeth ganiatáu i staff ddychwelyd i'r swyddfa am resymau sy'n gysylltiedig â materion llesiant, diffyg lle neu fand eang gartref, hyfforddiant/sefydlu a chymorth ar gyfer prentisiaethau a staff newydd, neu ofynion gwaith e.e. gweithio ar bapur neu'r angen i gwrdd â'r cyhoedd wyneb yn wyneb;

Adfywio - Eiddo

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd unrhyw beth y gallai'r awdurdod ei wneud i sicrhau bod unrhyw eiddo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL GWASANAETHAU CORFFORAETHOL 2021/2022 pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2021-22 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       O ran y ddwy sgôr risg uchaf o 25 yn yr is-adran Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, dywedwyd bod y rhain mewn meysydd blaenoriaeth uchel ond bod rheolaethau ar waith i sicrhau y darperir gwasanaethau a oedd yn cynnwys monitro parhad;

·       Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd bod y Gofrestr Risg Gorfforaethol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio yn manylu ar y risg gychwynnol a'r risgiau a ailaseswyd a oedd yn ystyried y rheolaethau a roddwyd ar waith.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2021/22 pdf eicon PDF 434 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried darnau o Gynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2021-22 yn ymwneud â'r Is-adran Eiddo a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor. Roedd y darnau o'r Cynllun yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oeddent yn cefnogi 5 Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cytunodd y Pennaeth Eiddo, mewn ymateb i gwestiwn, i ymchwilio i gyfleoedd i ychwanegu at y rhestr o fesurau llwyddiant allweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.

 

7.

STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2021-2024 pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Trawsnewid Digidol arfaethedig 2021-2024 a oedd yn manylu ar flaenoriaethau a dyheadau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu'r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud i gyflawni ei weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol dros y 3 blynedd nesaf. Nodwyd bod y ddibyniaeth ar dechnoleg i ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol trwy'r pandemig Covid-19 wedi dangos pa mor dreiddiol oedd technoleg ddigidol ar draws pob sector ac wedi'i hintegreiddio'n llawn mewn sawl agwedd ar fywyd. Ystyriwyd bod angen Strategaeth Trawsnewid Digidol arloesol a chyffrous ar Gyngor Sir Caerfyrddin oherwydd profwyd y gall technoleg ddigidol drawsnewid y Sir a bywydau pobl yn ogystal â chreu arbedion tymor hir ar gyfer y Cyngor.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Dywedwyd nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at ganran yr ardaloedd digyswllt y cyfeiriwyd atynt mewn cyfarfodydd blaenorol a gofynnwyd y cwestiwn a oedd cyflymder lleihau’r ganran hon yn debygol o gynyddu’n sylweddol. Mewn ymateb, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr awdurdod wedi gweithio'n agos gyda swyddogion sy'n ymwneud â'r Fargen Ddinesig ac y byddai hyn yn chwarae rhan allweddol o ran helpu i wella mynediad/cysylltedd band eang yn yr ardaloedd hyn;

·       Pwysleisiodd y Pennaeth TGCh ac Eiddo Corfforaethol y gwaith sylweddol sy'n cael ei wneud i wella cysylltedd i bawb gan gynnwys y cynllun talebau sydd ar gael i gymunedau a oedd yn cael problemau gyda band eang. Pwysleisiwyd, er bod y Cyngor yn gallu cynnig cysylltedd wi-fi yn rhai o'i adeiladau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, nid oedd yn ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd gan fod hon yn fenter sector preifat. Fodd bynnag, gallai cymunedau elwa ar gysylltedd ag ysgolion gwledig yn y dyfodol o bosib.

                            

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnwys Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021-2024.

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR POLISI AC ADNODDAU AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar gyfer 2021/22.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 10 Mehefin 2021.

10.

COFNODION - 29AIN MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 29 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau