Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K.V. Broom, K. Madge a D. E. Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law |
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21. PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2020 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2020-21. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr achos busnes dros Bentref Llesiant Pentre Awel bellach wedi'i gymeradwyo. Dywedwyd er bod y broses o lenwi swyddi gwag wedi arafu, a hynny'n rhannol oherwydd y pandemig, gan arwain at danwariant mewn meysydd cysylltiedig megis cost gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, fod disgwyl i recriwtio gynyddu wrth i'r cyfyngiadau symud lacio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1af Ebrill 2020 - 31ain Rhagfyr 2020, i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn unol â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys am 2020-21 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth 2020. Mewn ymateb i sylw, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er y cytunwyd, o dan Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, i fenthyca cyllid pan oedd cyfraddau llog ar eu mwyaf manteisiol (fel yr oedd hi ar hyn o bryd), fod y Cyngor mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle'r oedd yn gallu defnyddio ei falansau arian parod gan arbed ar ofynion benthyca. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n gyson. Pwysleisiwyd mai diben benthyca oedd cefnogi cynlluniau cyfalaf ac nid y gyllideb refeniw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro. |
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU. PDF 322 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 30 Ebrill 2021. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 2il ac 8fed Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir. |