Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 2ail Rhagfyr, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 60882574# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T.A.J. Davies, J.S. Edmunds, J.G. Prosser a H.E. Evans [Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd].

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

6 - Effaith Covid-19 ar y Gwasanaeth Rheoli Pobl

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

EFFAITH COVID-19 AR WAITH CYNNAL A CHADW NAD YW'N YMWNEUD Â THAI pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am effaith pandemig Covid-19 ar yr Is-adran Eiddo o safbwynt Craffu - Polisi ac Adnoddau h.y: Cynnal a Chadw nad yw'n ymwneud â Thai. Wrth asesu effaith y pandemig ar y gwasanaeth hwn, helpodd yr adroddiad hefyd i lywio sut y gellid ei ailosod a gwella rhagor ar y ffordd câi ei ddarparu yn y dyfodol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

·       O ran y gwersi a ddysgwyd dros y misoedd diwethaf, roedd y defnydd o TGCh a systemau i reoli data yn yr is-adran wedi cynyddu ynghyd â chyfleoedd i ddefnyddio data amser real i reoli contractwyr a'r gweithlu mewnol er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon. Wrth symud ymlaen, roedd yr Is-adran yn edrych ar sut y gallai adeiladu ar hyn er mwyn cyflwyno gweithio mwy symudol a gwella gweithio cartref ymhellach ynghyd â datblygu aml-swyddogaethau gydag Adran yr Amgylchedd;

·       Byddai adolygiad o eiddo'r Awdurdod i nodi eiddo nad oedd eu hangen mwyach er mwyn darparu gwasanaethau, fel y gellid lleihau'r baich o ran y cyllid cyfyngedig oedd ar gael ar gyfer gwaith cynnal a chadw;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod llawer o weithio ar draws adrannau wedi bod yn ystod y pandemig, a barnwyd y dylid cadw cyfleoedd o'r fath lle roeddent wedi bod yn fuddiol o ran darparu gwasanaethau; roedd hyn yn destun adolygiad TIC ar hyn o bryd.  Cydnabuwyd hefyd fod angen i'r Awdurdod sicrhau bod defnydd llawn yn cael ei wneud o'r holl offer a chyfarpar oedd yn eiddo i'r Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

EFFAITH COVID AR GWASANAETH TECHNOLEG GWBODAETH, CHYFATHREBU A POLISI CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – y Dirprwy Arweinydd, am effaith pandemig Covid-19 ar yr Is-adran Polisi Corfforaethol a TGCh, a'r gwaith oedd wedi digwydd i gefnogi'r Awdurdod a thrigolion Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at yr adborth cadarnhaol gan y cyhoedd yn dilyn cyflwyno'r system apwyntiadau ar-lein ar gyfer ymweld â'r depos gwastraff cartref o ganlyniad i'r pandemig. Oherwydd ei llwyddiant, roedd yn bosibl y byddai'r system yn cael ei gwneud yn un barhaol;

·       Atgoffwyd yr Aelodau o 'Dull Cwmwl yn Gyntaf' yr Awdurdod y cyfeiriwyd ato yn y Strategaeth Trawsnewid Digidol a lansiwyd yn 2017, a oedd wedi ei alluogi i ymdopi â heriau pandemig Covid. Roedd nifer sylweddol o systemau TG cefn swyddfa'r Awdurdod eisoes 'yn y cwmwl' a oedd yn eu gwneud yn fwy cynaliadwy a chydnerth wrth symud ymlaen. Roedd yr Awdurdod yn awyddus i sicrhau y gallai'r cyhoedd gyrchu cynifer o wasanaethau a data ar-lein ag oedd yn bosibl megis y system apwyntiadau ar gyfer gwastraff cartref y cyfeirir ato uchod;

·       Rhagwelid y byddai'r polisi dod â'ch dyfais eich hun yn cael ei ymestyn i'r Aelodau maes o law;

·       Cyfeiriwyd at yr 80 o ipads a ddarparwyd i gartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig a hysbyswyd yr Aelodau mai'r bwriad oedd cynyddu'r nifer hwn, gwella wi-fi i breswylwyr lle bo'n bosibl, a darparu setiau teledu clyfar. Roedd yr Awdurdod yn dal i weithio'n agos gyda Llesiant Delta;

·       Ailadroddwyd bod angen mynd i'r afael â'r ardaloedd hynny yn Sir Gaerfyrddin lle roedd cysylltedd â'r rhyngrwyd yn wael. Cyfeiriwyd at fenter gan Lywodraeth Cymru lle gallai trigolion a busnesau gwledig yng Nghymru â chyflymder band eang o lai na 30 Mbps fod yn gymwys i gael arian ychwanegol tuag at y gost o osod band eang a all ymdopi â gigabit yn eu hadeiladau pan fyddant yn rhan o brosiect gr?p;

·       Cyfeiriwyd at bwysigrwydd canolfannau Hwb yng nghanol y dref, yn enwedig i bobl oedd heb fynediad i wasanaethau ar-lein. Mynegwyd y farn y dylid ymestyn cyfleusterau tebyg i'r ardaloedd gwledig;

·       Cynghorwyd yr Aelodau i gysylltu â'r is-adran TGCh os oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion lle nad oedd gan blant ysgol fynediad i gyfrifiadur at ddibenion gweithio gartref;

·       Rhagwelid y byddai'r cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ymuno â gwasanaethau'r cyngor ar-lein drwy 'Fy Nghyfrif' yn arwain at werthusiad o'r arbedion effeithlonrwydd y gellid eu gwneud o ganlyniad i hynny, ynghyd â phatrymau gwaith;

·       Mewn ymateb i gwestiwn, y gred oedd bod partneriaid y Cyngor, fel y Bwrdd Iechyd a'r Heddlu, heb fuddsoddi mewn seilwaith TG i'r un graddau ac roedd llawer o'u staff wedi methu gweithio gartref yn ystod y pandemig;

·       Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gwe-lywio gwefan y Cyngor yn cael ei fonitro'n barhaus gyda golwg ar wella profiad y cwsmer ac roedd cyflwyno cyfleuster 'Ffefrynnau' yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

EFFAITH COVID-19 AR GWASANAETH RHEOLI POBL pdf eicon PDF 550 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – Dirprwy Arweinydd ar effaith pandemig Covid-19 ar y Gwasanaeth Rheoli Pobl a'r gwaith a oedd wedi'i wneud i gefnogi staff a thrigolion Sir Gaerfyrddin. Wrth asesu effaith y pandemig ar y gwasanaeth hwn, helpodd yr adroddiad hefyd i lywio sut y gellid ei ailosod a gwella rhagor ar y ffordd câi ei ddarparu yn y dyfodol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod gwaith tîm TIC wedi'i atal er mwyn i'r staff gael eu had-leoli i gynorthwyo mewn meysydd eraill fel trefnu parseli bwyd yn ystod y pandemig;

·       O ganlyniad i newid patrymau gwaith oherwydd y pandemig, gan gynnwys gweithio gartref, byddai gofynion lle swyddfa yn y dyfodol yn cael eu hasesu gan ystyried hefyd y rhaglen gweithio ystwyth. Cyfeiriwyd at ddisgwyliad Llywodraeth Cymru bod o leiaf 30% o dimau gweinyddol y Cyngor yn gweithio yn eu cartref neu'n agos ato, ac roedd yn amlwg bod disgwyl i'r dulliau newydd o weithio yn sgil y pandemig barhau lle y bo'n bosibl, gan ystyried menter y 10 Tref hefyd;

·       O ran y canolfannau Hwb yn y 3 prif dref, dywedwyd bod canolfannau symudol ar waith ar hyn o bryd, fel rhan o'r fenter 10 Tref, a oedd ar y cyfan yr un peth â llwybrau'r llyfrgelloedd teithiol yn yr ardaloedd gwledig;

·       O ran absenoldeb salwch, roedd llai o'i gymharu â'r un adeg y llynedd a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno maes o law. Ynghyd â'r is-adran TG roedd ffrwd covid byw wedi'i ddatblygu a oedd yn cael ei ddiweddaru'n barhaus gyda manylion salwch staff. Mantais hyn oedd bod staff yn gallu gweithio mewn meysydd eraill a allai fod dan bwysau oherwydd salwch staff;

·       Sicrhawyd yr Aelodau bod mecanweithiau a pholisïau ar waith, gan gynnwys creu hyrwyddwyr llesiant, i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei gefnogi yn ei rôl p'un a oedd yn gweithio gartref neu mewn swyddfa;

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] y byddai'n anfon y wybodaeth i'r aelodau pan geid gwybod beth oedd y rhesymau dros yr amrywiadau mewn gwariant ar weithwyr asiantaeth a gweithwyr achlysurol ar draws yr awdurdod. Cytunodd hefyd i gyflwyno, yn un o gyfarfodydd y dyfodol, adroddiad yr oedd wedi'i gwblhau a oedd yn canolbwyntio ar weithwyr achlysurol a gweithwyr asiantaeth;

·       Yn unol â'r dulliau newydd o weithio, roedd strategaeth gyfathrebu fewnol newydd hefyd yn cael ei datblygu, a'r gobaith oedd y byddai ar waith cyn bo hir;

·       Nodwyd bod 91 o staff ar ffyrlo ar hyn o bryd, yn bennaf yn y gwasanaethau hamdden;

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

DIWEDDARIAD AM Y GWASANAETH COVID-19 IS-ADRAN GWEINYDDIAETH A'R GYFRAITH pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – yr Arweinydd, y gwasanaethau cyfreithiol a phridiannau tir, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – Dirprwy Arweinydd, gwasanaethau democrataidd, ar effaith pandemig Covid-19 ar yr Is-adran Gweinyddiaeth a'r Gyfraith a'r heriau a wynebir. Wrth asesu effaith y pandemig ar y gwasanaeth hwn, helpodd yr adroddiad hefyd i lywio sut y gellid ei ailosod a gwella rhagor ar y ffordd câi ei ddarparu yn y dyfodol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

·       Nodwyd y byddai'r Awdurdod yn ceisio ymestyn y defnydd o ddronau pan fyddai materion preifatrwydd wedi'u datrys;

·       Roedd y ffaith nad oedd y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig bob amser wedi dilyn y rheoliadau, a oeddynt eu hunain yn cael eu cyhoeddi ar fyr rybudd yn aml a chyda diwygiadau pellach, wedi cyflwyno heriau o ran dehongli gan adran y gyfraith ar ran yr Awdurdod;

·       O ran y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig o ran dulliau o weithio yn y dyfodol, roedd yn amlwg bod y tîm wedi dangos ei fod yn gallu darparu gwasanaeth tra bo staff yn gweithio gartref, er bod angen gweithio o swyddfa i ddelio â rhai materion;

·       Er bod cyfarfodydd wedi'u canslo ar ddechrau'r pandemig, roedd y Pwyllgorau bellach yn cyfarfod yn rheolaidd yn rhithwir, a rhagwelid y gallai fod yn bosibl cynnal cyfarfodydd hybrid yn y dyfodol lle gallai aelodau a swyddogion fynychu naill ai'n bersonol neu drwy'r rhyngrwyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

EFFAITH COVID AR MARCHNATA A'R CYFRYNGAU pdf eicon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – Arweinydd, marchnata a'r cyfryngau, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – Adnoddau, gwasanaethau cwsmeriaid, ar effaith pandemig Covid-19 ar yr Is-adran Marchnata a'r Cyfryngau a'r gwaith a wnaed gan y tîm i ddosbarthu gwybodaeth ddwyieithog i holl drigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin. Wrth asesu effaith y pandemig ar y gwasanaeth hwn, helpodd yr adroddiad hefyd i lywio sut y gellid ei ailosod a gwella rhagor ar y ffordd câi ei ddarparu yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[HYD Y CYFARFOD

Am 1:00pm wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly

PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2020 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2020-21.

 

Cyfeiriwyd at anghysondeb yn ymwneud â'r Adran Cymunedau oedd yn deillio o ddau drosglwyddiad hwyr nad oeddent wedi'u trosglwyddo i'r prif amrywiannau. Roedd y rhain yn ymwneud â symud £100k rhwng taliadau uniongyrchol yng nghyllidebau pobl h?n a thaliadau uniongyrchol mewn cyllidebau anableddau corfforol a throsglwyddo £59k o grant byw'n annibynnol Cymru i daliadau uniongyrchol anableddau corfforol. Er na fyddai hyn yn newid y gwariant a ragwelwyd, byddai rheolaeth ychwanegol, o ganlyniad, yn cael ei chynnwys yn y templed monitro. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - GORFFENNAF 2020 pdf eicon PDF 383 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Arweinydd gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2020.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu - Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Cytunodd y Swyddog Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth y byddai'n canfod pwy oedd yr aelodau ar Gyngor Partneriaeth Cymru Gyfan, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn eu cynrychioli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 6ed Gorffennaf 2020.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU 2019/20 pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am flwyddyn y cyngor 2019/20 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith y Pwyllgor gan gynnwys:-

·       Trosolwg ar y Rhaglenni Gwaith Craffu

·       Y materion allweddol a ystyriwyd

·       Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu Eraill neu ganddynt

·       Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

12.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR POLISI AC ADNODDAU AR GYFER 2020/21 pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer gweddill 2020/21 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar gyfer gweddill 2020/21.  

 

13.

COFNODION - 27AIN IONAWR 2020 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.