Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bernadette Dolan tel: 01267 224030 email: badolan@sirgar.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P.A. Palmer, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol (Cymunedau).
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 359 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau sydd ar ddod i'w hystyried yn ystod ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 22 Ebrill 2016.
|
|
DIWEDDARIAD BWRDD GWASANAETHAU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2015 PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Yn ychwanegol at gofnod 8 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2015 ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2015. Roedd y diweddariad yn cynnwys crynodeb o strwythur y Bwrdd, y materion a drafodwyd yn ystod y flwyddyn a'r camau a gymerwyd o ran prosiectau a darnau penodol o waith. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi cael ei sefydlu yn 2007, a 2015-16 oedd blwyddyn olaf ei fodolaeth cyn sefydlu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mai 2016, er mwyn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) [cyfeirir at hyn yng nghofnod 7 isod]. Byddai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfrifol am wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y Sir, a byddai'n defnyddio'r egwyddor datblygiad cynaliadwy i sicrhau ei fod yn cyfrannu hyd eithaf ei allu at gyflawni'r saith nod llesiant cenedlaethol. Er bod angen cadarnhau trefniadau craffu o ran gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd disgwyl y byddai pwyllgor craffu penodol yn yr awdurdod lleol (y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn Sir Gaerfyrddin) yn ymgymryd â'r rôl hon. Gallai'r pwyllgor craffu dynodedig ofyn i unrhyw aelod o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi tystiolaeth i'r pwyllgor, ond byddai hynny yn rhan o’r swyddogaethau ar y cyd a gyflwynwyd iddo fel aelod o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn unig.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad: · Mewn ymateb i bryder ynghylch y disgwyliad fod yr Awdurdod yn darparu cymorth gweinyddol i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, nodwyd bod y mater ynghylch cyllido eisoes wedi cael ei godi â Llywodraeth Cymru; · Mynegwyd pryderon am y gost a fyddai'n debygol o fod yn gysylltiedig â chynnal y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ystyried y disgwyliadau; · Awgrymwyd y dylid gofyn i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried gwahodd 2 aelod o'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau i fod yn rhan o'r Bwrdd gyda'r nod o ffurfioli'r cyswllt â'r broses graffu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
BIL LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 PDF 404 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyfeirio at gofnod 6 uchod, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a oedd yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2016 ymlaen. Nod y Ddeddf, a fyddai'n berthnasol i 44 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru [yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin], oedd gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru gan geisio gosod yr egwyddor hon wrth wraidd yr hyn y mae gwasanaeth cyhoeddus yn ei wneud yng Nghymru.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad: · Cydnabuwyd bod gofynion y Ddeddf yn fiwrocrataidd iawn ac yn cynnwys llawer o'r hyn yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes yn ei gyflawni, ond byddai angen rhoi mesurau ar waith i ddangos y cyflawniadau hynny; · Er bod amcanion y Ddeddf yn glodwiw, mynegwyd barn bod y disgwyliadau'n uchel ac ystyriwyd y byddai'n anodd mesur y canlyniadau; · Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Ddeddf yn debygol o newid ffocws yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwella.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ADRODDIAD MONITRO YNGHYLCH CYLLIDEB REFENIW A CHYLLIDEB GYFALAF 2015/16 PDF 409 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a’r Gwasanaethau Corfforaethol ar 31 Rhagfyr 2015 o ran blwyddyn ariannol 2015/16.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad: · Gofynnwyd a oedd y swyddi gwag yn yr Adran Cymunedau yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod rhai adrannau mewn rhai achosion o bosibl yn osgoi penodi staff er mwyn gwneud y broses ailstrwythuro yn haws a hwyluso arbedion effeithlonrwydd; · Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr Awdurdod yn gallu ystyried cynnig cymorth megis Gostyngiad Treth Dewisol i Fusnesau Bach a Chanolig a oedd yn cael trafferth i dalu'r ardrethi busnes; · Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at y gwaith a oedd yn cael ei gyflawni gan yr adain AD i gynorthwyo ysgolion ag ymddeoliadau cynnar; · Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y cyfraddau defnydd yng Nghartrefi Gofal yr Awdurdod Lleol yn bodloni'r targedau cyllidebol gofynnol; · Atgoffwyd y Pwyllgor bod Seminar Hyfforddiant Rheoli'r Trysorlys wedi'i drefnu ar gyfer 11 Ebrill 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
ESBONIADAU DROS BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 31 KB Cofnodion: Rhoddwyd yr adroddiad gerbron y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r cyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a oedd wedi'i gynnal ar 3 Chwefror 2016, yn gofnod cywir.
|