Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan  tel: 01267 224030 email:  badolan@sirgar.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, J.S. Edmunds ac A.G. Morgan.

 

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Glynog Davies (Is-gadeirydd) gan fod y Cynghorydd Hugh Richards (Cadeirydd) wedi gorfod gadael yn fuan ar ôl i'r cyfarfod ddechrau.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr i'r Cynghorydd Deryk Cundy am ei gyfraniadau cadarnhaol i waith y Pwyllgor gan mai hwn oedd ei gyfarfod olaf.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd dim cwestiynau wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 389 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 3ydd Chwefror 2016.  Rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Adfywio a Pholisi, wybod i'r cyfarfod na fyddai'r adroddiad ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn barod mewn pryd ar gyfer y cyfarfod nesaf oherwydd amseriad cyhoeddi'r cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod yr adroddiad tan y cyfarfod ar 16eg Mawrth 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eitemau ar gyfer y dyfodol, yn amodol ar y newid uchod.

 

6.

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW – 2016/17 I 2018/19 pdf eicon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2016/17 - 2018/19 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 16eg  Tachwedd 2015. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro ar 9fed Rhagfyr ac y byddai cyllideb Sir Gaerfyrddin 1% yn llai yn hytrach na 3.3% yn llai sef y ganran yr oedd y Strategaeth wedi ei seilio arni.  Roedd hyn yn cyfateb i £7.5m ychwanegol ar gyfer cyllideb 2016/17 ond hefyd roedd yn cynnwys y Grant Cytundeb Canlyniadau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu £35m i ddiogelu addysg a £21m i ddiogelu gofal cymdeithasol ledled Cymru a oedd yn cyfateb i £2.1m ac £1.3m, yn y drefn honno, ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Roedd hi'n aneglur o hyd i ba raddau y byddai cyllidebau'r ysgolion yn cael eu diogelu. Roedd un ar ddeg o grantiau heb eu cadarnhau hyd yn hyn, fodd bynnag roedd y lleihad o ran y Grant Gwastraff (y Grant Amgylchedd Sengl bellach), sef 6%, yn llawer llai na'r 25-50% yr oedd y Gweinidog wedi'i grybwyll yn flaenorol. I grynhoi, ni fyddai bellach angen rhoi sylw i'r diffyg yn yr arbedion effeithlonrwydd oedd wedi'u clustnodi ar gyfer 2016/17, ond roedd rhaid gwireddu'r £13.6m o arbedion oedd wedi eu clustnodi.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwyd pryder ynghylch amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad terfynol ar ddechrau mis Mawrth gan fod angen pennu lefel y Dreth Gyngor erbyn 11eg Mawrth. Gofynnwyd beth fyddai effaith bosibl unrhyw amrywiannau yn y setliad terfynol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn anodd ateb y cwestiwn hwn. Roedd y cynllun ar waith ar gyfer ymateb i fân addasiadau ac roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi ar ddeall yn flaenorol nad oeddynt yn rhagweld rhyw lawer o newidiadau. Byddai'r sefyllfa'n gliriach ar ddechrau mis Chwefror ar ôl i'r cyfnod ymgynghori orffen ar 20fed Ionawr. Roedd yr amserlenni cyffredinol a hwyrder y cyhoeddiadau'n gysylltiedig â'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn San Steffan.

 

Mynegwyd siom nad oedd eglurder ynghylch diogelu addysg. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai ein Strategaeth ni oedd trosglwyddo'r £2.1m i'r ysgolion, a fyddai'n lleihau'r arbedion effeithlonrwydd yr oedd disgwyl iddynt hwy gyflawni yn 2016/17 i £3.4m. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn cynrychioli Llywodraeth Leol mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynghylch diogelu addysg. Yn ôl fel y deallai ef roedd yr holl awdurdodau lleol yn bwriadu trosglwyddo eu cyfran o'r £35m i'r ysgolion. Hefyd roedd trafodaeth ar waith ynghylch y posibilrwydd o gynnwys y £90m o grantiau addysg penodol yn y Grant Cynnal Refeniw, a fyddai'n golygu bod Sir Gaerfyrddin yn cael £5.4m yn rhagor. Ychwanegodd fod 4 awdurdod gwledig wedi cael y toriadau mwyaf yn y setliad dros dro, a bod Llywodraeth Cymru yn cynnig grant amddifadedd gwledig o £5m i'w cynorthwyo.

 

Nodwyd bod meincnodi'r gwasanaethau cymorth ledled Cymru wedi cael sylw yn y seminarau i'r aelodau ynghylch y gyllideb. Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hyn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2016/17 - 2020/21 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhaglen gyfalaf bum mlynedd roedd y Bwrdd Gweithredol wedi'i chymeradwyo ar 4ydd Ionawr ar gyfer ymgynghori yn ei chylch.  Dywedwyd bod amseriad y setliad dros dro wedi golygu mai dim ond y Pwyllgor Craffu yr ymgynghorir ag ef. Fodd bynnag roedd bwriad hefyd i gyflwyno'r rhaglen mewn seminar i'r aelodau. Roedd y rhaglen gyfan yn fwy na £221m o fuddsoddiad cyfalaf, ac roedd cysylltiad pendant rhyngddi ac adfywio a chreu swyddi yn y sir. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ei fod yn awyddus i glywed beth oedd barn y Pwyllgor.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd bwriad i ysgol newydd Gorllewin Caerfyrddin gael ei chwblhau yn ystod cyfnod 5 mlynedd y rhaglen, a hefyd ai'r "dreth toeon" o'r datblygiad tai oedd y cyllid allanol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cwblhau'r ysgol yn dibynnu ar amseriad codi'r datblygiad tai, ond bod y model cyllido yn cynnwys yr ysgol ym Mand A llinell amser rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai cyfran gyntaf y dreth toeon yn cyllido'r anghenion o ran y seilwaith, ond wedyn byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ysgol.

 

Cyfeiriwyd at adroddiadau diweddar yn y wasg ynghylch defnyddio £20m ychwanegol o arian wrth gefn neilltuedig er mwyn cefnogi rhaglen gyfalaf newydd, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru yng ngoleuni hyn.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr arian wrth gefn oedd wedi ei neilltuo ar gyfer y rhaglen gyfalaf wedi ei roi o'r neilltu ers nifer o flynyddoedd. Eglurodd fod adolygiad o'r holl arian wrth gefn neilltuedig wedi ei gynnal, fel oedd wedi digwydd yn ystod blynyddoedd blaenorol, a bod modd bellach i ryddhau rhywfaint, megis yr arian wrth gefn ar gyfer gwerthuso swyddi a statws unffurf. Dywedwyd y gallai'r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth ar ôl etholiadau'r Cynulliad a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid cael ei gymeradwyaeth ef cyn y gellid defnyddio arian wrth gefn. Fodd bynnag, byddai gan y Cyngor hwn raglen gyfalaf tymor hir a fyddai'n gysylltiedig ag adfywio a chreu swyddi, a byddai'n gallu dangos bod yr arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio mewn modd darbodus a chynlluniedig.

 

Gofynnwyd a oedd y £2m a neilltuid bob blwyddyn ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn ddigonol i ddiwallu'r galw. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y rhaglen gyffredinol yn cael ei datblygu gyda chyfraniad yr adrannau. Roedd y data ynghylch y galw hanesyddol yn dangos fod £2m yn ddigonol ond byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro.

 

Gofynnwyd a oedd y gyllideb o £300k ar gyfer erydiad y glannau yn ddigonol o ystyried y digwyddiadau diweddar o ran hinsawdd a llifogydd.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y ceisiadau o'r adrannau'n cael eu hasesu gan y Gr?p Llywio Asedau Strategol oedd hefyd yn monitro'r rhaglen a byddai'n ymateb i unrhyw newidiadau yn y galw.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch Cysyniad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 30 KB

Cofnodion:

Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd adroddiad ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd y newid o ran dyddiad ailgyflwyno'r adroddiad y soniwyd amdano o dan gofnod 5.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad, yn amodol ar gofnod 5.

9.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR, COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 25AIN O DACHWEDD 2015 pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 25ain o Dachwedd 2015, er mwyn nodi eu bod yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau