Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 25ain Tachwedd, 2015 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan  tel: 01267 224030 email:  badolan@sirgar.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Bowen, W.J.W. Evans, A.W. Jones a J. Williams

 

Hefyd derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd P.A. Palmer, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol (Hyrwyddwr Cymunedol, Cwsmeriaid a Pholisi, Hyrwyddwr Gwrthdlodi) a'r Cynghorydd L.M. Stephens, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol (Adnoddau Dynol, Effeithlonrwydd a Chydweithio, Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg)

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

 

Rhif y Cofnod

 

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd A.G. Morgan

Eitem 8

Oherwydd bod ganddo uned ddiwydiannol ar brydles yn Llynnoedd Delta, Llanelli 

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

NoNid oedd dim wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf, ddydd Mercher 6ed Ionawr 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr eitemau ar gyfer y dyfodol.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro a amlinellai'r sefyllfa gyllidebol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16 fel yr oedd ar 31ain Awst 2015. Roedd yr adroddiad  yn cynnwys:

 

·       Y Gyllideb Refeniw Gorfforaethol (Atodiad A);

·       Cyllideb Refeniw Adran y Prif Weithredwr  a'r Adran Adnoddau (Atodiad B);

·       Rhaglen Gyfalaf Gorfforaethol 2015/16 (Atodiad C) a

·       Rhaglen Gyfalaf Adran y Prif Weithredwr a'r Adran Adnoddau 2015/16 (Atodiad D)

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Holwyd beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol na fu newid arwyddocaol.

 

            Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau cyllidebol a achoswyd gan gostau Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol a Dileu Swyddi yn yr ysgolion. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod hynny y tu allan i'n rheolaeth ac yn bryder sylweddol. Roedden nhw'n gweithio gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn deall effaith dileu swyddi staff, yn hytrach na'u trosglwyddo i ysgol arall. Roedd hefyd yn destun pryder bod staff yn colli eu swyddi, ond eu bod wedyn yn cael eu hailgyflogi gan ysgol arall.

 

            Gofynnwyd am wybodaeth bellach ynghylch rhai cynigion ar gyfer arbed arian a oedd wedi llithro'n ôl eleni. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Adnoddau Dynol wedi gwneud darn pwysig o waith ar arbedion wrth gefn, oedd yn cynnwys trafodaethau gyda'r gweithwyr ynghylch newid y cyfraddau. Roedd yn annhebygol y byddai'r arbedion yn cael eu cyflawni eleni. Bu oedi o 6–8 mis wrth gyflawni arbedion ym maes Gofal Cymdeithasol, ond roedd y newidiadau wedi dechrau dod trwodd bellach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN CORFFORAETHOL AR REOLI PERFFORMIAD - Y 1AF O EBRILL HYD AT Y 30AIN O FEDI 2015 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad, oedd yn rhoi trosolwg cyffredinol ar berfformiad yr Awdurdod. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau (Adroddiad A); Monitro'r Grant Cytundeb Canlyniadau (Adroddiad B); Absenoldeb Salwch (Adroddiad C) a Chanmoliaeth / Cwynion (Adroddiad D).

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y rhesymau am absenoldeb salwch, a nodwyd mai problemau cyhyr-ysgerbydol, cefn a gwddf oedd yr achos amlycaf, ar ôl straen, iechyd meddwl a blinder.  Dywedodd Rheolwr Iechyd a Gwaith fod y rhain wedi gwella ers y llynedd yn sgil rhaglen o hyfforddiant a chyrsiau gloywi ym maes codi a chario a sicrhau bod asesiadau risg yn eu lle.

 

Nodwyd arolygon CIPD ar absenoldeb salwch. Dywedodd Rheolwr Iechyd a Gwaith fod y rhain yn cwmpasu holl sectorau'r Deyrnas Unedig. Dangosai'r ffigurau fod perfformiad y Cyngor yn ffafriol o'i gymharu â sectorau tebyg yn y sector preifat. Ychwanegodd y Pen-swyddog Adnoddau Dynol fod canlyniadau'r arolwg wedi cael eu cyhoeddi ym mis Medi a mis Hydref, a'u bod yn ddefnyddiol ar gyfer cymharu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad monitro.

8.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN ADRANNOL AR REOLI PERFFORMIAD - Y 1AF O EBRILL HYD AT Y 30AIN O FEDI 2015 pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cynghorydd A.G. Morgan yn datgan budd oherwydd bod ganddo uned ddiwydiannol ar brydles yn Llynnoedd Delta, Llanelli. 

           

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad rheoli perfformiad a roddai olwg gyffredinol ar berfformiad  Adran y Prif Weithredwr a'r Adran Adnoddau y llynedd. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·       Golwg Gyffredinol ar Berfformiad gan Benaethiaid y Gwasanaethau (Adroddiad A)

·       Monitro'r Cynllun Gwella – Adroddiad Cyfun ar y Camau Gweithredu a'r Mesurau (Adroddiad B)

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am y newyddion diweddaraf ynghylch yr Hwb yn Llanelli, peilot Skype a'r defnydd o D? Elwyn yn y dyfodol. Dywedodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi fod ymwelwyr â'r Hwb wedi bod yn rhan o arolwg, a bod y mwyafrif yn ei ffafrio'n lleoliad ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid. Y gobaith oedd efelychu'r model yn Rhydaman a Chaerfyrddin. Cafwyd rhai problemau gyda pheilot Skype o ran cysylltedd mewn rhai ardaloedd gwledig, a hefyd rai cwynion ynghylch diffyg preifatrwydd. Y gobaith oedd sicrhau cyllid i ehangu'r cynllun ar draws ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Eglurodd Pennaeth Eiddo Corfforaethol fod y gwaith i adnewyddu llawr gwaelod T? Elwyn i gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, gan greu derbynfa fechan a swyddfeydd. Byddai T? Elwyn hefyd yn lleoliad sengl ar gyfer Timau'r Gwasanaethau Plant. Byddai cyfle hefyd i sicrhau bod presenoldeb gan yr heddlu yn yr adeilad. Ar hyn o bryd roedd yr arianwyr yn dal yn Coleshill, ond bydden nhw'n symud i'r Hwb pan fyddai'n barod.

 

Cyfeiriwyd at yr Astudiaeth o Dlodi Gwledig, oedd yn edrych ar faterion sy'n effeithio ar gymunedau gwledig. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi y byddai'r astudiaeth yn cael ei defnyddio i sicrhau bod y cyllid yn mynd i'r ardaloedd cywir. Cytunodd i ddosbarthu'r astudiaeth i'r Pwyllgor.

 

Holwyd a oedd gan yr adain Archwilio ddigon o adnoddau neu beidio. Dywedodd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael fod y tîm ar hyn o bryd yn cynnwys 9.4 CALl, ac na fyddai am weld llai o adnoddau na hynny. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol eu bod mewn gwirionedd yn edrych ar gynyddu'r adnodd yng ngoleuni materion oedd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Cyfeiriwyd at y Prawf Ffitrwydd Caffael, a holwyd pa faterion oedd yn dal heb eu datrys, yn ogystal ag ynghylch y cyfeiriad cyffredinol. Dywedodd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael y byddai gr?p ffocws o aelodau Pwyllgor yn cwrdd yn fuan i edrych yn fanwl ar y sefyllfa bresennol ym maes Caffael. Roedd un o'r prif faterion oedd yn dal heb ei ddatrys yn ymwneud â rheoli categorïau, sef y model a ddefnyddid gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS), nad oedd yn ddichonadwy gyda thîm o 6 CALl yn yr Uned Caffael Corfforaethol. Hefyd roedd gan Lywodraeth Cymru 1 swyddog ar gyfer pob £10 miliwn o wariant. Roedd y Prif Weithredwr yn edrych ar gyfleoedd i gydweithio â Sir Benfro o ran rheoli categorïau. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol, cytunodd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL (DRAFFT) CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016-2020 pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2016-2020, a oedd wedi cael ei baratoi i amlinellu sut bydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Croesawodd y Pwyllgor y Cynllun, a oedd wedi'i ysgrifennu'n gryno ac yn eglur. Gofynnwyd sut byddai modd mesur llwyddiant. Eglurodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi y byddai cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu ym mis Chwefror 2016 a fyddai'n cynnwys asesu cynnydd yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion y Cynllun. Byddai adroddiadau blynyddol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Holwyd a ddylai'r Cynllun gynnwys cyfeiriadau at Gyflog Byw neu beidio. Dywedodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi nad oedd y mater hwn wedi cael ei gynnwys, gan na fyddai o reidrwydd yn cael ei ystyried yn fater cydraddoldeb, a'i fod o fewn cylch gorchwyl Polisi Taliadau'r Cyngor. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cysylltiadau â'r gyllideb hefyd bellach, ac atgoffodd y Pwyllgor fod 2 Gyflog Byw erbyn hyn, yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor ynghylch Cyflog Byw Cenedlaethol. Byddai dewisiadau anodd i'w hwynebu ynghylch gwneud hyn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

10.

GWARIANT AR YMGYNGHORWYR ALLANOL 14/15 pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru blynyddolyr oedd wedi gofyn amdano ynghylch y gwariant ar ymgynghorwyr allanol ac arbenigedd cyfreithiol.

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Holwyd pa drefniadau llywodraethu a dadansoddi rheolaeth oedd ar waith ynghylch gwariant. Nododd Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael mai yn Adran yr Amgylchedd yr oedd y prif wariant, a bod cryn her yng nghyswllt yr £1.7 miliwn a wariwyd yn 2014/15. Roedd Rheolwr Dylunio Eiddo a Phrosiectau yn paratoi adroddiad ar gyfer y Tîm Rheoli Corfforaethol ynghylch yr adnoddau oedd yn ofynnol i gynyddu'r capasiti mewnol, ac adolygu'r trefniadau presennol o ran y Porth a'r fframwaith dylunio. Ychwanegodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi fod cynlluniau busnes, gwerthusiadau ac astudiaethau dichonoldeb yn ofynnol gan lawer o'r rhaglenni a ariannid gan yr UE, a bod angen gwerthuso annibynnol mewn rhai achosion, ac felly bod rhaid defnyddio ymgynghorwyr allanol. Roedd hi'n cytuno i bob cais am arbenigedd allanol.

 

Nodwyd mai'r diffyg capasiti mewnol oedd yn aml yn gyfrifol am y gwariant ar arbenigedd cyfreithiol allanol. Gofynnwyd a oedd unrhyw beth yn cael ei wneud i ymdrin â hyn. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod 2 gyfreithiwr eiddo ychwanegol yn cael eu recriwtio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

11.

CYNLLUN YR IAITH GYMRAEG - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2014/15 pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cynllun yr Iaith Gymraeg, a luniwyd er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y dangosyddion statudol a lleol a ddefnyddiwyd i fesur cydymffurfiaeth â'r Cynllun. Eglurwyd y byddai'r Safonau'n disodli'r system gyfredol o gynlluniau ar gyfer yr Iaith Gymraeg. Rhoddodd Comisiynydd y Gymraeg hysbysiad cydymffurfio i Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rheoliadau Safonau'r Iaith Gymraeg ar 30 Medi 2015, gan ofyn bod y Cyngor yn cydymffurfio â mwyafrif y safonau erbyn 30 Mawrth 2016.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Nodwyd bod yr arolwg ieithyddol diwethaf o'r staff wedi cael ei gynnal yn ystod 2011 a bod y gyfradd ymateb, yn enwedig ym maes Addysg a Gwasanaethau Plant, yn siomedig. Gofynnwyd a oedd bwriad i gynnal arolwg pellach. Dywedodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau fod hynny'n un o ofynion y Safonau newydd. Roedd yn haws cynnal arolwg o staff oedd â mynediad at gyfrifiaduron, ac roedd trafodaethau'n parhau ynghylch sut mae cynnal arolwg o'r rhai sydd heb fynediad at gyfrifiadur. Roedd rhaid i'r arolwg gael ei gynnal cyn diwedd Mawrth 2016.

 

Gwnaed sylwadau ynghylch yr angen i bobl deimlo'n rhydd i siarad yn eu dewis iaith. Eglurodd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi fod angen annog hyder personol i siarad Cymraeg ar unrhyw lefel, a bod gan bawb rôl i'w chyflawni yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

 

12.

STRATEGAETH SGILIAU IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 355 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi datblygu ei Strategaeth Sgiliau Iaith gyntaf yn 2008, er mwyn sicrhau bod sgiliau digonol ar gael yn y gweithle (trwy ddysgu a datblygiad a recriwtio) i ymateb i ofynion Cynllun yr Iaith Gymraeg. Gan ddilyn yr ymchwil a'r argymhellion a wnaed gan Weithgor y Cyfrifiad, roedd y Strategaeth wedi cael ei hadolygu er mwyn rheoli a chynllunio sgiliau iaith y staff. Nod y Strategaeth oedd sicrhau hefyd fod y Cyngor yn gweithredu gofynion Safonau'r Iaith Gymraeg, yn benodol y Safon Weithredol.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd pwy oedd yn penderfynu ar lefel sgiliau ieithyddol swyddi newydd. Eglurodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau fod lefelau newydd o dan y fframwaith ALTE yn cael eu cyflwyno o fewn y Strategaeth newydd, gan gynnwys proses ar gyfer cynnal asesiadau o'r gofynion ar gyfer pob swydd newydd. Roedd hyn yng ngofal uwch reolwyr, ac mewn rhai achosion gan ddilyn cyngor gan y  Tîm Polisi Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Strategaeth.

 

13.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN YNGHYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH (Y 1AF O EBRILL I'R 30AIN O FEDI 2015) pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2015-2016, a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 24ain Chwefror 2015.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad.

 

14.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch pam nad oedd adroddiadau wedi'u cyflwyno ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y Strategaeth TGCh, a'r Gwariant Cyfun ar Wasanaethau Sector Preifat a Thrydydd Sector.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r esboniadau.

15.

Y DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r cyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

16.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 5ed O HYDREF 2015 pdf eicon PDF 479 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 5ed Hydref 2015, er mwyn nodi eu bod yn gofnod cywir.