Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Gwener, 26ain Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S.M. Allen, K.Madge a J. Prosser.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 DIWEDDARIAD DRAFFT MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 5 o gyfarfod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2018, bu'r Aelodau'n ystyried y cynlluniau cyflawni canlynol o ran yr Amcanion Llesiant a oedd yn rhan o Ddiweddariad Drafft mis Mehefin o Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor:

·         Amcan Llesiant 5. Trechu tlodi;

·       Amcan Llesiant 14. Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a diwylliant;

·       Amcan Llesiant 15. Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Nododd swyddogion gais am fap wedi'i ddiweddaru yn nodi cryfder y seilwaith digidol yn Sir Gaerfyrddin, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny heb fawr neu ddim cysylltedd o gwbl, gan fod hyn yn cyfrannu'n anuniongyrchol at dlodi gwledig.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod swyddog yn cael ei recriwtio i gynorthwyo cymunedau yn eu hymdrechion i wella'r seilwaith digidol; 

 

Amcan Llesiant 14

·         Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth i ganfod beth ellid ei wneud i sicrhau nad oedd enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg sy'n adlewyrchu diwylliant a hanes lleol yn cael eu colli neu'n cael eu disodli gan gyfieithiadau Saesneg;

·         Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth i ddarparu manylion am yr ardaloedd yn y Sir sy'n cael eu targedu'n benodol er mwyn hybu'r Gymraeg;

Amcan Llesiant 15

·         Nodwyd nad oedd cytundeb ffurfiol ar waith eto gyda Chyngor Sir Penfro mewn perthynas â sicrhau gwasanaeth caffael ar y cyd er bod proses gaffael yr Awdurdod ei hun yn parhau i fod yn gadarn;

·         O ran mesurau llwyddiant ystyriwyd ei bod yn anodd cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru oherwydd strwythurau sefydliadol gwahanol, ffaith a gydnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a'r hyn yr oedd ei angen oedd data cyffelyb o flwyddyn i flwyddyn;

·         Er y nodwyd bod yr Awdurdod yn cynyddu ei ddibyniaeth ar systemau TG 'cwmwl ' i ddarparu ei wasanaethau, mynegwyd pryderon unwaith eto ynghylch y ddarpariaeth ddigidol wael mewn rhai rhannau o'r sir, er y cydnabuwyd bod hyn yn fater i gwmnïau TG cenedlaethol fynd i'r afael ag ef. Nodwyd hefyd, lle nad oedd gan breswylwyr, yn enwedig yr henoed, unrhyw gyfrifiaduron neu fynediad ar-lein roedd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar aelodau lleol i bontio'r bwlch gyda'r Awdurdod.                                                                                                                                                                                                                                                                                                               

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol bod y fersiwn ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23 yn cael ei chymeradwyo.

 

5.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR IONAWR 2019 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 14  Ionawr 2019.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch y cofnodion:

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth o dlodi yn Sir Gaerfyrddin ar gyrff megis y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

·       Hefyd roedd yn ymddangos bod llawer o'r cymorth staff a ddarparwyd i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei ddarparu gan y Cyngor yn hytrach na phartneriaid eraill, gofynnwyd y cwestiwn a oedd gan swyddogion ddigon o gapasiti i wneud y gwaith hwn. Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn un o ofynion y Ddeddf bod staff y Cyngor yn cefnogi gwaith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;

·       Nodwyd bod y cyfeiriad at y ffaith mai dim ond 3% o ffrwythau a llysiau sy'n cael eu tyfu yng Nghymru ar hyn o bryd yn hynod siomedig a bod angen i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fynd i'r afael â hyn;

·       Cyfeiriwyd at y ddibyniaeth sylweddol ar wirfoddolwyr mewn rhai meysydd gwaith ac awgrymwyd efallai y gellid rhoi ystyriaeth i system 'wobrwyo' fel cydnabyddiaeth. Nodwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn edrych ar ddatblygu strategaeth wirfoddoli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14  Ionawr 2019.

 

6.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2019/20 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo blaenraglen waith y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau 2019/20 mewn egwyddor, yn amodol ar ystyriaeth bellach mewn cyfarfod anffurfiol o aelodau'r pwyllgor. 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 13 Mehefin 2019.

 

8.

COFNODION - 20 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 20 Mawrth 2019 gan eu bod yn gywir.