Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, K. Broom a T.A.J. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

4.

PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI pdf eicon PDF 474 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 6 yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu datganiad sefyllfa ynghylch Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli.Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y gwariant presennol;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi eu cymryd o ran Achos Busnes y Fargen Ddinesig;

·         manylion ynghylch terfynu'r Cytundeb Cydweithio;

·         canfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol a oedd wedi asesu cadernid a chydymffurfiaeth mewn perthynas â'r prosesau caffael a llywodraethu;

·         canfyddiadau Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd wedi asesu'r ffordd yr oedd yr Awdurdod wedi rheoli'r broses, risg a llywodraethu ac o ran diogelu arian cyhoeddus;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad y Cyd-bwyllgor a'r Cyd-adolygiad Llywodraeth ynghylch y Fargen Ddinesig;

·         y cynnydd o ran datblygu'r dyluniad cysyniadol ar gyfer cam un a'r camau nesaf.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ymateb y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi dod i law ers dosbarthu'r papurau ar gyfer y cyfarfod, ynghyd ag Adroddiad Mawrth 2019 yr Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried yn fanwl gan y Bwrdd Gweithredol a Chyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac wedyn byddent yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·         roedd yr Aelodau'n croesawu canfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol ac Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru;

·         mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y costau ar gyfer gwaith paratoi'r pridd a wnaed yn Llynnoedd Delta yn 2017 wedi cael eu cynnwys yng nghynllun gwreiddiol y Cyd-fenter er mwyn hwyluso datblygiad nad oedd wedi cael ei nodi yn y dyfodol;

·         o ran rôl y Pwyllgor i graffu ar y Fargen Ddinesig, ystyriwyd bod angen eglurhad er mwyn osgoi dyblygu gwaith Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe yr oedd y Cadeirydd yn gwasanaethu arno;

·         mynegwyd pryder ei bod yn ymddangos bod camsyniad cyhoeddus bod y Pentref Llesiant yn brosiect gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn unig er ei fod yn cynnwys cyrff sector cyhoeddus eraill;

·         mynegodd y swyddogion a'r Aelodau siom a phryder fod Adroddiad yr Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cael sylw gan y wasg cyn i'r Cyd-bwyllgor gael cyfle i'w ystyried;

·         mynegwyd pryderon ynghylch faint o amser y mae swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei roi i'r Fargen Ddinesig yn ei chyfanrwydd a'r pwysau ar adain gyfathrebu yr Awdurdod o ran gorfod gwneud iawn am adroddiadau anghywir gan y wasg ac ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y cyfryngau.

Diolchwyd i'r swyddogion am y diweddariad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

4.2 bod trefniadau'n cael eu gwneud i gynnal sesiwn briffio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am y Fargen Ddinesig gan roi pwyslais ar brosiect y Pentref Llesiant;

4.3 bod diweddariad arall yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf.

 

 

5.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2018 I RHAGFYR 31AIN 2018 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Rhagfyr 2018 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018-2019 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.

 

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac i adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2018 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i ymholiad, i ddosbarthu manylion yr arbedion rheoli sydd wedi cael eu rhoi ar waith ym mhob rhan o'r Awdurdod;

·         Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod cyllid ychwanegol ar gyfer pensiynau athrawon bellach wedi dod i law gan y Llywodraeth ganolog;

·         Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd yn ymddangos bod unrhyw gysylltiad rhwng swyddi gwag ac absenoldeb salwch yn ei adran. Fodd bynnag, roedd heriau recriwtio mewn rhai meysydd; 

·         Awgrymwyd y dylid cyfeirio'r ffaith na ellid cynyddu'r ffïoedd cynllunio i wrthsefyll y diffyg yn yr incwm gan eu bod yn cael eu pennu ar lefel genedlaethol, at y Pwyllgor Craffu priodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-2023 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 dyddiedig 31 Rhagfyr 2018 ac a oedd wedi'u dadansoddi gan y Pwyllgor Craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD ADRANNOL CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-2023 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin 2018.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Dywedwyd wrth yr Aelodau, mewn perthynas â'r nod o gwblhau Hyfforddiant Craffu erbyn gwanwyn 2019, fod sesiwn Hyfforddiant Craffu i'r Holl Aelodau gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 29 Mawrth 2019. Roedd gwaith ar y gweill hefyd i adolygu meysydd gorchwyl y Pwyllgorau Craffu;

·         Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol na fyddai eiddo gwag y Cyngor yn cael ei waredu oni bai bod y cynigion yn realistig;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod tîm TIC yn ceisio meithrin ei sgiliau a'i gapasiti ei hun fel bod llai o angen i ddibynnu ar ymgynghorwyr allanol;

·         Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i gael gwybod i ba raddau yr oedd cwmnïau lleol yn cael eu hannog i wneud cais am gontractau adeiladu a gwastraff;

·         Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau fod y rhaglen gweithio ystwyth yn mynd rhagddo'n dda a bod yr adborth gan staff wedi bod yn gadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 26 Ebrill 2019 yn cael eu derbyn yn amodol ar gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y Pentref Llesiant.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 6ED CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2019 yn gofnod cywir.