Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan  tel: 01267 224030 email:  badolan@sirgar.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr T. Bowen,   G. Davies, A.G. Morgan a J. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

            Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd                  A.W. Jones

Eitem 7

Ei fod yn Geidwad Tir a brydlesir i'r Awdurdod ar gyfer lleoedd parcio a'i fod yn derbyn incwm gan ei fod yn un o  Ymddiriedolwyr Cymdeithas Les Glowyr Rhydaman

Y Cynghorydd                K. Madge

Eitem 8

Bod ei ferch yn gweithio i'r gwasanaethau cymdeithasol

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oes cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 403 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd rhestr i'r Pwyllgor o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ddydd Mercher, 25ain Tachwedd 2015.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r  eitemau ar gyfer agenda'r cyfarfod nesaf.

6.

ASESIAD SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU O RHAGLEN TRAWSNEWID, ARLOESI A NEWID CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Jeremy Evans, Rheolwr Archwilio Perfformiad (Swyddfa Archwilio Cymru) i'r cyfarfod. Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad ynghylch adolygiad o raglen TIC y Cyngor a oedd wedi'i gynnal yn ystod 2014/15 ac wedi'i gyhoeddi ym mis Mai 2015. Roedd yr adroddiad yn rhoi asesiad cadarnhaol o raglen TIC o ran ei threfniadau llywodraethu, ei hamcanion a'i chyfraniad ond roedd yn cynnwys 3 chynnig gwella. Dywedodd Rheolwr Rhaglen TIC fod y cynigion wedi'u gweithredu eisoes, gydag achosion busnes cryfach o ran risg a rhag-weld canlyniadau.

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y term "dis-benefit" a ddefnyddid yn yr adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Archwilio Perfformiad (Swyddfa Archwilio Cymru) ei fod yn disgrifio effeithiau negyddol posibl nas rhagwelid o ran newidiadau y bwriedid iddynt ddod â budd mewn man arall.

Gofynnwyd beth a wnaed i sicrhau y câi ffyrdd newydd o weithio eu cynnal a'u rhoi ar waith mewn modd cyson. Dywedodd Rheolwr Rhaglen TIC fod sicrhau bod newidiadau'n gynaliadwy ac yn cael eu cyflwyno ar draws y meysydd gwasanaeth perthnasol yn nodwedd allweddol.  Hefyd roedd gan TIC ddull o edrych eto ar brosiectau ymhen blwyddyn i wirio bod timau'n glynu wrth yr egwyddorion gweithredu newydd a'r prosesau a bod y rhain yn dal yn gweithio er budd y cyhoedd. Yn ogystal, cyflwynid adroddiadau parhaus i'r Bwrdd Prosiectau ynghylch y prosiectau.

Gwnaed sylwadau y dylai rheolwyr, yn hytrach na thîm TIC, fod yn gyfrifol am yrru'r arloesi yn ei flaen. Hefyd byddai wedi bod yn braf cael astudiaethau achos yn yr adroddiad.  Ymatebodd y Rheolwr Archwilio Perfformiad (Swyddfa Archwilio Cymru) fod gweithgarwch TIC yn gwneud newid diwylliannol yn rhan annatod o'r sefydliad a hynny mewn modd cynaliadwy, gyda'r rheolwyr yn ymrwymo i gysyniadau TIC ac yn meddwl mewn ffordd wahanol. Roedd yr enghreifftiau'n cynnwys gwella perfformiad o ran yr amserau'n ymwneud â thai gwag. Roedd hefyd yn ymwybodol o'r adroddiad TIC blynyddol i'r Pwyllgor hwn.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen TIC y'i gwnaed yn glir bob amser mai'r gwasanaethau, ac nid y tîm TIC, oedd yn perchenogi unrhyw brosiect. Roedd y tîm TIC yno i roi'r modd i reolwyr a staff gamu'r tu allan i'w hamgylchedd gwaith er mwyn iddynt allu clustnodi'r angen am newid. Y rheolwyr oedd yn arwain o ran rhoi'r newid ar waith, a hynny gyda chymorth y tîm TIC, a oedd yn camu'n ôl yn unig pan oedd wedi'i fodloni bod y newid yn gynaliadwy. Roedd cwrs gwella parhaus wedi'i ddatblygu hefyd gan Academi ac roedd yn cael ei dreialu gan             15 rheolwr er mwyn creu'r modd i newid. Y gobaith oedd cyflwyno hyn yn raddol i reolwyr eraill ar draws y sefydliad maes o law.

Gofynnwyd faint yr oedd y fenter TIC wedi'i chostio o'i gymharu â'r £2,000,000 o arbedion y cyfeirid atynt yn yr adroddiad. Eglurodd Rheolwr Rhaglen TIC mai tîm wedi'i secondio ydoedd yn wreiddiol ond ei fod bellach yn dîm parhaol er mis Tachwedd diwethaf. Roedd £4.5 miliwn o arbedion wedi'u clustnodi bellach. 

Gofynnwyd pam nad oedd yr achosion busnes wedi bod yn ddigon manwl i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 353 KB

Gofynnwyd pam nad oedd yr achosion busnes wedi bod yn ddigon manwl i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

HENEIDDIO’N DDA YNG NGHYMRU – CYNLLUN LLEOL HENEIDDIO’N DDA pdf eicon PDF 355 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd K.Madge ddatgan buddiant sef bod ei ferch yn gweithio i'r gwasanaethau cymdeithasol.

Croesawodd y Pwyllgor y fersiwn drafft o Gynllun Lleol Heneiddio'n Dda,               Sir Gaerfyrddin sef cynllun a ddatblygwyd i fodloni dau sbardun strategol allweddol; rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru ac iddi bum thema, a'r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru. Roedd y Cynllun yn gysylltiedig â'r Weledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cynaliadwy i Bobl H?n, yr oedd yr adran Cymunedau wrthi'n ei datblygu. Roedd hefyd yn ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, drwy gyfrannu at gymunedau cynaliadwy a oedd yn galluogi pobl i heneiddio 'gan aros lle roeddent’.

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

Pwysleisiwyd pwysigrwydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i bobl â dementia, o gofio bod llawer o ddioddefwyr yn colli eu hail iaith.

Gwnaed sylwadau'n ategu'r prif themâu oedd yn y Cynllun. Y farn oedd bod problemau wedi'u clustnodi ond gofynnwyd sut y gellid datrys y rhain.  Gofynnwyd hefyd pa mor ymarferol ydoedd o ran ei gyflawni o gofio'r materion cyllido. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth nad oedd adnoddau ychwanegol wedi'u clustnodi a'r nod oedd defnyddio'r adnoddau presennol yn well ac mewn ffyrdd gwahanol. Clustnodi'r angen a theilwra gwasanaethau i'w diwallu. Ychwanegodd y Swyddog Polisi, Ymgynghori ac Ymgysylltu y byddid yn datblygu'r Cynllun ymhellach. Roedd goblygiadau o ran adnoddau yn sgil cymdeithas yn heneiddio. Fodd bynnag, y bwriad oedd mai hwyluso a galluogi cymunedau er mwyn iddynt hwy allu cynorthwyo eu pobl h?n fyddai rôl y Cyngor a'r Aelodau Etholedig.

Yn ogystal trafodwyd y ffaith fod llai o gyswllt cymdeithasol yn achos llawer o bobl h?n yn arwain at unigrwydd, unigedd, iselder a dementia, a bod y cwtogi o ran darparu pryd ar glud a gwasanaethau'r dyn llaeth yn gwaethygu hyn. Nodwyd hefyd fod y diffiniad o gymuned a natur cymunedau yn prysur newid.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun drafft i'r Bwrdd Gweithredol.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 148 KB

Cofnodion:

Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd adroddiadau, sef Adroddiad Blynyddol 2014/15 ynghylch Caffael, yr Adolygiad gan TIC o Wariant ar Wasanaethau Sector Preifat, a'r Diweddariad gan TIC ynghylch y Gwariant ar Wasanaethau Trydydd Sector, a’r adroddiad ynghylch y Gwariant ar Arbenigedd Allanol, gan gynnwys y gwasanaethau cyfreithiol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhesymau.

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 24AIN GORFFENNAF, 2015. pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 24ain Gorffennaf 2015, er mwyn nodi eu bod yn gofnod cywir.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau