Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Prosser.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at Gofnod 4 yng nghofnodion y cyfarfod ar 20 Mawrth 2019 bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu datganiad sefyllfa ynghylch Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am y canlynol: · Cynllunio a datblygu dylunio; · Cyllido; · Ymrwymiad Partneriaid; · Brandio.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ailfrandio'r prosiect, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr ymarfer ailfrandio wedi'i gwblhau ac y byddai cyhoeddiad ffurfiol yn cael ei wneud yn fuan; · Cafodd y Pwyllgor wybod fod cynnydd helaeth yn cael ei wneud o ran trafodaethau â phartner academaidd posibl a bod y dialog gyda Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol; · Croesawodd yr Aelodau ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i'r prosiect; · Rhagwelid y byddai'r gwaith ymarferol yn dechrau ar y safle ddiwedd yr haf 2020, wedi i'r achos busnes gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a phan fyddai'r partner academaidd wedi'i gadarnhau; · Mynegwyd y gobaith y byddai dyluniad y pentref yn gydnaws â'i leoliad yn Llanelli a Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - HANNER BLWYDDYN CHWARTER 2 2019/20 PDF 33 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o gamau gweithredu i gefnogi lleihau lefel yr absenoldeb salwch. Roedd y canlyniadau cronnol yn dangos gostyngiad o gymharu â Chwarter 2 2017/18. Roedd yr Is-adran Rheoli Pobl yn parhau i gefnogi a chynghori Timau Rheoli Adrannol, rheolwyr pobl a gweithwyr mewn perthynas â'r Polisi Absenoldeb Salwch a gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig i sicrhau bod absenoldeb yn cael ei reoli mewn modd amserol, cyson a rhagweithiol. Roedd data meincnodi cymharol Cymru Gyfan ar gyfer 2018/19, a oedd wedi'i gyhoeddi ym mis Medi 2019, yn nodi bod Sir Gaerfyrddin, o'i chymharu â holl awdurdodau eraill Cymru, yn y 7fed safle o blith y 22ain. Roedd hwn yn welliant nodedig o gymharu â blynyddoedd blaenorol lle roedd yr Awdurdod yn y 10fed safle yn 2017/18 ac yn y 15fed safle yn 2016/17. Roedd yr Awdurdod bellach ym mhen uchaf yr ail chwartel ond roedd wedi bod yn agos i'r canolrif yn 2017/18 ac yn y 3ydd chwartel yn 2016/17. Fodd bynnag, nid oedd yr un o bum adran yr Awdurdod wedi cyrraedd eu targedau perfformiad yn Chwarter 2 2019/20, ac roedd pob Pennaeth Gwasanaeth wedi bod yn y Fforwm Presenoldeb Herio ac Adolygu i drafod cynnydd is-adrannol i sicrhau bod yr holl wasanaethau'n cyfrannu tuag at leihau lefel yr absenoldeb. Roedd Penaethiaid Eiddo a Gwasanaethau Integredig, sef dau o'r is-adrannau a oedd yn perfformio waethaf o ran absenoldeb salwch [roedd Proffiliau Crynhoi Data wedi eu dosbarthu ar eu cyfer], wedi'u gwahodd i'r cyfarfod ac amlygodd y ddau'r camau oedd yn cael eu cymryd i reoli a mynd i'r afael ag absenoldeb salwch. Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Mewn ymateb i bryder nad oedd unrhyw reolwyr yn yr is-adrannau Eiddo a Gwasanaethau Integredig, yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, wedi cwblhau'r hyfforddiant Rheoli Straen a gâi ei ddarparu gan yr Awdurdod, rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau fod sylw'n cael ei roi i hyn. Dywedodd y Pennaeth Eiddo fod nifer o staff wedi bod ar gyrsiau drwy ddarparwyr allanol; · Cydnabuwyd bod y cynnydd yn yr oedran ymddeol wedi ychwanegu at yr her o reoli absenoldeb salwch, ac roedd pob ymdrech yn cael ei gwneud i wneud e-ddysgu yn fwy hwylus ac i gefnogi staff. Derbyniwyd hefyd y gallai lleihau nifer y staff er mwyn gwneud arbedion arwain at straen ymhlith y staff sy'n weddill oherwydd llwyth gwaith cynyddol, er bod y posibilrwydd hwn yn cael ei ystyried yn ofalus ym mhob achos cyn caniatáu cwtogi staff; · Nodwyd bod gan Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol fynediad i'r holl ddata absenoldeb oherwydd salwch a'u bod yn cysylltu'n rheolaidd â'r is-adrannau o fewn eu cylch gwaith, gan amlygu'r gwahaniaethau mewn perfformiad rhwng is-adrannau; · Soniwyd wrth yr aelodau am y cymorth a roddir i'r ysgolion i reoli absenoldeb salwch, a oedd yn cynnwys cymorth drwy'r Panel Ymgynghorol ynghylch Ymyrraeth Gorfforaethol. CYTUNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn yr adroddiad ac i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19 PDF 384 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) ar gyfer 2018/19, a oedd yn manylu ar waith rhaglen TIC dros y flwyddyn ddiwethaf gan roi bod i arbedion ariannol o fwy na £4.7m. Ers ei sefydlu yn 2012, roedd y rhaglen TIC wedi helpu i nodi bron £20m o arbedion gros. Hefyd gwnaed cyflwyniad gan swyddogion a amlinellai ffordd ymlaen ar gyfer rhaglen TIC yn dilyn adolygiad diweddar, gyda golwg ar alluogi'r rhaglen i fod o gymorth o ran cefnogi prif bolisïau corfforaethol. Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau fod yr holl adolygiadau TIC wedi'u cynnal gyda golwg ar leihau'r effaith ar swyddi gymaint â phosibl, ond gan sicrhau bod unrhyw welliannau'n gynaliadwy; · Ail-bwysleisiwyd bod y rhan fwyaf o'r arbedion a wnaed o ganlyniad i adolygiadau TIC yn aros o fewn yr Adrannau er mwyn helpu i gyrraedd targedau Cyllidebu ar Sail Blaenoriaethau a helpu i reoli heriau cyllidebol eraill; · Mewn ymateb i ymholiad dywedwyd y byddai'r arbedion a ragwelid drwy weithio ystwyth, a oedd yn unol â'r targed, yn cael eu cyflawni'n bennaf drwy leihad mewn costau argraffu a theithio a thrwy werthu neu brydlesu adeiladau. Cadarnhawyd hefyd fod y prosiect yn rhoi bod i fanteision ehangach megis cynnydd mewn cynhyrchiant, er bod y rhain yn anos eu mesur; · Roedd rhai gwasanaethau yn ystyried defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, a allai sicrhau arbedion sylweddol; · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y byddai Seminar Seilwaith Digidol ar gyfer yr holl aelodau yn cael ei gynnal yn Yr Egin, Caerfyrddin, ar 18 Rhagfyr 2019. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) am 2018/19 yn cael ei dderbyn.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 PDF 297 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2019 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn cynnwys manylion Monitro Arbedion 2019-20. Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth yr aelodau fod cyfarfodydd wedi'u cynnal ag ysgolion i drafod gorwariant a llunio cynlluniau adfer lle bo'r angen; · Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i ganfod a oedd gan gartrefi preswyl yr awdurdod lleol y capasiti i dderbyn rhagor o bobl; · Rhagwelid y byddai galw sylweddol am ddarpariaeth cartrefi gofal erbyn canol y 2020au, a hynny ar gyfer y genhedlaeth a aned wedi'r ail ryfel byd, a oedd yn byw'n hirach; · O blith 110 o ysgolion yr Awdurdod, roedd swyddogion yn gorfod cydlynu â 30 i fynd i'r afael â'u diffygion o ran y gyllideb; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i gyfleu'r pryderon a ailfynegwyd ynghylch rheolaeth marchnad anifeiliaid byw Nant-y-ci i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 30 Medi 2019 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 20 Chwefror, 2019. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.
|
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU PDF 269 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wybod i'r Pwyllgor am yr arbedion rheolaethol am 2018-19, a byddai manylion am y rhain yn cael eu hanfon at yr Aelodau. PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 108 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y rheswm dros beidio â chyflwyno'r adroddiad. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 10 Ionawr 2020.
|
|
COFNODION - 10 HYDREF, 2019 PDF 339 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2019 yn gofnod cywir.
|