Lleoliad: Chamber, County Hall, Carmarthen
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd T.A.J. Davies.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU CYHOEDDUS Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2018 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:
· Mynegwyd pryder bod 'swyddi gwag' yn cael eu defnyddio i fantoli cyllidebau. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i roi manylion ynghylch pa mor hir oedd y swyddi gwag a nodwyd yn yr adroddiad wedi aros yn wag, yn enwedig oherwydd y gallai fod effaith ar wasanaethau rheng flaen ac aelodau eraill o staff y bydd yn rhaid iddynt ddarparu gwasanaeth cyflenwi o bosib; · Mynegwyd pryder am y targed incwm anghyraeddadwy a bennwyd mewn perthynas â meysydd parcio; · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pryd y byddai'r Targed Arbedion Corfforaethol yn Adran y Prif Weithredwr yn cael ei gyflawni, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod trafodaethau'n parhau i gael eu cynnal gyda'r undeb ynghylch Aros Galwad. Cytunodd i ymchwilio ymhellach i'r mater o ran Iechyd a Diogelwch; · Soniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor am waith ailstrwythuro'r tîm Archwilio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu a mesurau 2017/18 ym mhob un o'r 14 Amcan Llesiant ynghyd â chynlluniau cyflawni Llywodraethu ac Adnoddau, fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2017 ac a ddadansoddwyd gan y Pwyllgor Craffu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017. Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Mynegwyd pryder am y camau adferol a oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â nifer y diwrnodau gwaith sy'n cael eu colli yn sgil absenoldeb salwch fesul gweithiwr gan fod y statws perfformio heb gyrraedd y targed. Awgrymwyd bod adroddiad ynghylch absenoldeb salwch yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf; · Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y dylai Cynllun Strategol y Gweithlu fod ar waith erbyn mis Gorffennaf 2018; · Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol fod y trosiant uchel o ran staff yn effeithio'n rhannol ar yr amser a gymerir, ar gyfartaledd, i brosesu hawliadau budd-daliadau tai/y dreth gyngor ac y gellid priodoli'r trosiant uchel hwnnw i natur y gwaith a'r ffaith bod aelodau o staff yn chwilio am gyfleoedd rhywle arall.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
7.2 cyflwyno adroddiad ynghylch absenoldeb salwch yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||
POLISI GORFODI CORFFORAETHOL PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 6 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 26 Mehefin 2017, ystyriodd y Pwyllgor ddogfen Polisi Gorfodi Corfforaethol ddiwygiedig, a oedd yn cynnwys newidiadau i adlewyrchu'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori. Roedd y newidiadau wedi eu cymeradwyo drwy'r Gr?p Gorfodi Amlddisgyblaethol Corfforaethol, a, phe byddent yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth 2018, byddai'r Polisi Gorfodi Corfforaethol diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Polisi diwygiedig: · Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, mewn ymateb i gwestiynau, fod materion megis diogelu staff ac achwynwyr rheolaidd wedi'u cynnwys o dan weithdrefnau a pholisïau ar wahân; · Nodwyd bod pob aelod o staff gorfodi yn cario prawf adnabod angenrheidiol; · Mynegwyd pryder nad yw'r cosbau ynddynt eu hunain yn ddigon uchel i atal pobl rhag troseddu. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd ei bod yn gallu rhoi manylion am nifer y dirwyon a roddwyd. Hefyd cytunodd i ystyried awgrym y dylai'r swyddogion gorfodi fod yn llai gweladwy a gwisgo dillad plaen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y Polisi Gorfodi Corfforaethol diwygiedig yn cael ei fabwysiadu o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
|
|||||||
STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION 2018-2021 PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth gyntaf oll ar gyfer Ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, sy'n nodi gweledigaeth yr Awdurdod, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd o ran blaenoriaethau allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion. Nodwyd y rhoddwyd gwybod i'r holl Benaethiaid fod angen rheoli eu cyllidebau o ran darparu, cynnal a chadw ac adnewyddu offer TG. Roedd gwaith parhaus i sicrhau cysylltedd ym mhob ysgol yn cael ei wneud.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018-2021.
|
|||||||
STRATEGAETH DIGIDOL TECHNOLEGOL 2018-2021 PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018-2021 arfaethedig sy'n cyflwyno blaenoriaethau a dyheadau'r Awdurdod o ran technoleg ddigidol yn ystod y 3 blynedd nesaf. Pwrpas y strategaeth oedd nodi'r technolegau a'r mentrau allweddol a fyddai'n hwyluso ac yn ategu gweledigaeth Strategaeth Trawsnewid Digidol bresennol a chyffredinol y sefydliad a'r modd y caiff ei rhoi ar waith. Byddai'r Awdurdod yn defnyddio technolegau presennol a datblygol priodol i hwyluso ac ategu'r gwaith o drawsnewid a gwella gwasanaethau a gwneud arbedion effeithlonrwydd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018-2021.
|
|||||||
POLISI AR DDEFNYDD CYFRIFIADURON I'R CYHOEDD PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor bolisi arfaethedig i reoli sut y mae'r Cyngor yn darparu ei gyfrifiaduron sydd â mynediad i'r rhyngrwyd i aelodau'r cyhoedd. Nododd y polisi fod yn rhaid derbyn y telerau a'r amodau a dangos prawf adnabod cyn cael caniatâd i ddefnyddio cyfrifiadur cyhoeddus. Roedd hyn yn sicrhau y gellid olrhain y defnyddiwr pe byddai'r Heddlu'n anfon cais gwrthrych am wybodaeth neu pe byddai'r telerau a'r amodau yn cael eu torri.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r polisi defnydd ar gyfer cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus.
|
|||||||
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - 18FED IONAWR 2018 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018.
|
|||||||
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 27 Ebrill 2018 yn amodol ar nodi y byddai Cofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu gohirio i'r cyfarfod a fyddai'n cael ei gynnal ar 14 Mehefin 2018.
|
|||||||
COFNODION - 7 CHWEFROR 2018 PDF 188 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2018 yn gofnod cywir.
|