Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 6ed Rhagfyr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, D.C. Evans,

K. Howell a D. Nicholas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau personol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac i adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2017 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad oedd y canlynol:

 

·         Mewn ymateb i bryder ynghylch y posibilrwydd o orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn pe bai'n aeaf arbennig o galed dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y bydd adrannau eisoes wedi ystyried problemau a allai godi yn sgil tywydd garw yn eu cyllidebau;

·         Nodwyd bod trafodaethau rhyngadrannol yn parhau o ran y swydd Diogelu a Gwaith Gwrthderfysgaeth sydd heb ei chyllido;

·         cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ddosbarthu manylion pellach mewn perthynas â'r costau ychwanegol o ran llunio datganiad (£280k) yn yr Is-adran Anghenion Addysgol Arbennig;

·         wrth ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y cynigion ar gyfer ysgolion newydd yn Rhydaman yn dal wedi'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD CANOL BLWYDDYN YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2017 I MEDI 30AIN 2017 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1Ebrill 2017 a 30 Medi 2017 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2017-2018 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 22 Chwefror, 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.

 

7.

Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL A'R STRATEGAETH SWYDDFEYDD pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 6 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2016, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y cynnydd mewn perthynas â'r camau gweithredu a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2016-2019 a'r Strategaeth Swyddfeydd. Yn ogystal roedd yr adroddiad yn darparu amlinelliad o'r canlyniadau a ragwelwyd drwy weithio ystwyth a fyddai'n nodwedd sylweddol o'r Strategaeth Swyddfeydd yn y blynyddoedd i ddod.

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Cynllun:

·         Sicrhawyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Eiddo na fyddai hybu gweithio ystwyth, sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Swyddfeydd, yn arwain at golli swyddi ond yn hytrach newid swyddfa i rai aelodau o staff. Ystyriwyd y gallai'r cynigion wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at reoli absenoldeb staff a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith drwy roi cyfle i weithwyr leihau amser teithio rhwng y cartref a'r gwaith ynghyd â manteision eraill. Ychwanegodd fod y strategaeth gweithio ystwyth wedi'i datblygu o ganlyniad i adborth gan staff ac ymgynghori â staff. Yn ogystal cafwyd trafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r undebau;

·         Wrth ymateb i ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Eiddo wybod fod trafodaethau'n cael eu cynnal ynghylch defnyddio T? Nant, Trostre yn y dyfodol;

·         Mynegwyd pryder am y swm arfaethedig o £8 miliwn ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi ac awgrymwyd mai'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd fyddai'r pwyllgor priodol i graffu ar y gwariant hwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd bwriad i ddyrannu unrhyw arian pellach ar gyfer y llwybr beicio yn y rhaglen gyfalaf ac y byddai arian yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru;

·         Mewn ymateb i bryder ynghylch y cynnydd araf tybiedig o ran sicrhau swyddfeydd a rennir gyda sefydliadau sy'n bartneriaid, rhoddodd y Pennaeth Eiddo wybod fod trafodaethau'n mynd rhagddynt drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ond dywedodd yn aml fod gan wahanol gyrff eu blaenoriaethau eu hunain. Fodd bynnag, cafwyd arbedion yn y sector gofal cymdeithasol ac iechyd a bellach roedd swyddfeydd yn cael eu rhannu yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman;

·         Cyfeiriwyd at yr angen am ddiogelu hen lwybrau rheilffordd mewn ardaloedd gwledig ar gyfer prosiectau strategol y dyfodol oherwydd ystyrir bod y mynediad gwael i wasanaethau yn elfen sy'n cyfrannu'n sylweddol at y diffyg economaidd yn yr ardaloedd hyn;

·         Cafodd y Pwyllgor wybod bod cynnydd da yn cael ei wneud o ran Trosglwyddo Asedau Cymunedol. O ran Parc Howard, Llanelli nad oedd ar y rhestr trosglwyddo asedau, dywedodd y Pennaeth Eiddo fod trafodaethau'n parhau a'i fod i gwrdd â'r Cyngor Tref y diwrnod canlynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 nodi'r adroddiad;

 

7.2 gofyn i'r Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd graffu ar wariant o ran Llwybr Beicio arfaethedig Dyffryn Tywi.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17 - GWEITHREDU O RAN Y GYMRAEG pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 7 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016, ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a chyflwyno'r Safonau yn ystod 2016-17. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn ymateb i sylw, dywedwyd y gellid darparu hyfforddiant Iaith Gymraeg ar gyfer Cynghorwyr ac y byddai dolen i gwrs ar-lein yn cael ei hanfon at yr holl Aelodau. Fodd bynnag, roedd Cynghorau Tref a Chymuned yn gyfrifol am eu trefniadau eu hunain mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg. Nodwyd hefyd nad oedd y safonau'n berthnasol i gyrff llywodraethu ysgolion. Codwyd y mater ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i gael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg a chreu Comisiwn Iaith Gymraeg yn lle hynny ond nodwyd bod yr effaith ar y gofynion cyfredol ar gyfer y Cyngor mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn annhebygol o newid, beth bynnag yw'r trefniadau rheoleiddio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad blynyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg a chyflwyno'r safonau yn ystod

2016-17.

 

9.

CYNLLUN LLESIANT SIR GÂR DRAFFT: Y SIR GÂR A GAREM pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor 'Gynllun Llesiant Drafft Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem' a gafodd ei ddatblygu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'r bwriad o'i gyhoeddi erbyn mis Mai 2018, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd yr amcanion a'r camau gweithredu a nodwyd fel rhan o'r Cynllun yn canolbwyntio ar feysydd gweithredu ar y cyd y gallai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddylanwadu arnynt drwy gydweithio ac felly nid oeddent yn copïo'r hyn a ystyriwyd yn fusnes craidd y cyrff unigol a oedd yn aelodau o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oni bai bod gwerth ychwanegol i'w gael wrth i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gydweithio.

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Cynllun:

·         Nodwyd y dylai'r Cynllun roi mwy o bwyslais ar ddiwylliant a'r Gymraeg fel y cyfeiriwyd ato yn y llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a ddosbarthwyd hefyd ac a oedd yn darparu cyngor ynghylch y camau sydd i'w cymryd wrth ddrafftio amcanion llesiant;

·         Mewn ymateb i sylw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai un o feysydd ffocws y Cynllun fyddai galluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau o ran gwaith ac ati;

·         Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y byddai'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn craffu ar y broses o gyflawni'r Cynllun a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o'i faes gorchwyl ond mynegodd bryder ynghylch nifer amrywiol amcanion llesiant 4 aelod statudol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel y nodwyd yn Atodiad 1 y Cynllun Drafft – yn benodol, gofynnodd pam roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â 4 amcan yn unig o gymharu â'r 14 sydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mewn ymateb, dywedwyd mai cyfrifoldeb pob corff cyhoeddus unigol yw penderfynu ar nifer eu hamcanion llesiant a bod pob sefydliad yn dal i ddysgu o ran cyflwyno a gweithredu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd yn debygol y byddai pob un o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn adolygu eu hamcanion unigol yn flynyddol. Roedd gweithdy gyda phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fod i gael ei gynnal gyda golwg ar ddatblygu cyfres o weithgareddau a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r amcanion a'r camau gweithredu a nodwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i'w gweithredu fel rhan o'i Gynllun Llesiant cyntaf ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2016-17 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2015, ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-17 a oedd yn manylu ar sut roedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - MEDI 2017 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ymddangos mai Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth yr Awdurdod oedd yn gyfrifol am nifer o'r camau gweithredu a oedd yn deillio o'r cofnodion o gymharu â swyddogion o sefydliadau sy'n bartneriaid.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth mai'r Awdurdod oedd yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac er bod y 'camau gweithredu' yn rhan o faes gorchwyl ei rôl Polisi a Phartneriaeth, mae'n bosibl nad hi'n uniongyrchol fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith angenrheidiol. Ychwanegodd, fel gair o rybudd, y byddai terfyn ar yr hyn y gellid ei gyflawni heb gael mwy o adnoddau gan bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd i wahodd aelodau'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau i un o gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

11.1 derbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017;

11.2 gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ofyn i bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wneud cyfraniad ariannol mwy tuag at waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus;

11.3 derbyn gwahoddiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fynychu cyfarfod yn y dyfodol.

 

12.

MATER WEDI EI GYFEIRIO GAN Y PWYLLGOR CRAFFU - CYMUNEDAU, YNGHYLCH LEFELAU ABSENOLDEB STAFF pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, yn ei gyfarfod ar 5 Hydref 2017, yn dilyn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2016/17, wedi penderfynu "gofyn i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ystyried y cynnydd o ran lefelau absenoldeb salwch staff yn yr Awdurdod, o bosibl, drwy ailedrych ar waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen blaenorol ar y mater.”

Atgoffwyd yr Aelodau fod yr un pryderon wedi cael eu codi yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017 [gweler cofnod 8] wrth iddo ystyried 'Adroddiad Monitro Perfformiad Adrannol - Amcanion Llesiant a Llywodraethu ac Adnoddau 2017/18'. Penderfynwyd ar ôl hynny gyflwyno 'adroddiad ar absenoldeb salwch yn y cyfarfod nesaf’. Cyfeirir at yr adroddiad yng nghofnod 13 isod.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gwybod i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau fod y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau wedi ystyried adroddiad ynghylch rheoli presenoldeb gan gynnwys rheoli salwch.

 

 

13.

ADRODDIAD MONITRO RHEOLI PRESENOLDEB EBRILL 2017 - MEDI 2017 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 8 [penderfyniad 8.2] y cyfarfod diwethaf, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Berfformiad Rheoli Presenoldeb ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2017 a Medi 2017 a oedd yn cynnwys manylion am ffigurau absenoldeb salwch yr Adrannau ar gyfer chwarter 2 (Ebrill tan fis Medi) ynghyd â thablau meincnodi a safleoedd perfformiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys dadansoddiad o brif achosion absenoldeb er mwyn galluogi'r Pwyllgor i graffu ar berfformiad y Cyngor mewn perthynas â rheoli presenoldeb. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod data yn cael ei gyflwyno i adrannau'n rheolaidd a'u bod yn cael eu herio i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n peri pryder.

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am drefnu ymweliad anffurfiol diweddar aelodau'r Pwyllgor â'r uned iechyd galwedigaethol.  Cafwyd adborth gwych yn dilyn yr ymweliad.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

  • Nodwyd bod gwelliannau mewn ffigurau absenoldeb salwch i'w gweld yn y rhan fwyaf o adrannau a bod y rhain yn debygol o gael eu hadlewyrchu yn y data ar gyfer chwarter 3. Un o'r ffactorau pwysig o ran lleihau diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch oedd sicrhau bod ymyriadau priodol yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Ystyriwyd bod cynnydd mewn gweithio hyblyg yn ffactor sy'n cyfrannu at leihau lefelau absenoldeb staff. Roedd y Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr a gafodd ei ail-lansio yn ddiweddar yn gallu cynnig ystod o therapïau i gefnogi gweithwyr;
  • Nodwyd bod pob aelod newydd o staff wedi cael gwybod am y polisi salwch, sy'n cynnig cefnogaeth, a hynny fel rhan o'i sesiwn sefydlu a bod gan bob rheolwr gyfrifoldeb dros fonitro absenoldeb. Roedd yr Awdurdod hefyd mewn cyswllt â chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o ran darparu brechiad rhag y ffliw ar gyfer gweithwyr a oedd yn ofalwyr neu'n gweithio yn y sector gofal;
  • Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod sesiwn hanner diwrnod wedi cael ei chynnal gyda phenaethiaid yn ddiweddar yn canolbwyntio ar absenoldeb salwch ac yn dilyn hynny cafwyd nifer o ymholiadau ynghylch straen ac ystyriwyd bod natur agored dulliau gweithredu o'r fath yn rhywbeth i'w groesawu fel y gellid cynnig ymyriad a chymorth perthnasol;
  • Er y croesawyd yr adroddiad, ystyriwyd y byddai data mwy manwl yn galluogi'r Pwyllgor i graffu'n well ar absenoldeb salwch ac, er enghraifft, canfod goblygiadau anariannol megis effaith bosibl cyflogi athro cyflenwi yn sgil salwch staff ar addysg plentyn. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod data mwy manwl ar gael y gellid ei ddarparu;
  • Roedd ysgolion wedi derbyn gwybodaeth feincnodi a dosbarthwyd llythyr newyddion adnoddau dynol chwarterol. Yn ogystal, lansiwyd cynllun absenoldeb staff ysgolion.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

13.1 derbyn yr adroddiad;

13.2 gwneud trefniadau ar gyfer sesiwn datblygu i aelodau'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau gan ganolbwyntio ar y materion a godwyd uchod gyda golwg ar alluogi Aelodau i gael gwell dealltwriaeth o reoli salwch o fewn yr awdurdod ac mewn ysgolion a chytuno ar y math o ddata y mae'n dymuno ei weld mewn adroddiadau yn y dyfodol.

14.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

 

15.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 12 Ionawr 2018.

 

16.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 11EG HYDREF 2017 pdf eicon PDF 189 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017 gan eu bod yn gywir.