Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 7fed Chwefror, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Nicholas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2018-19 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi a Strategaeth arfaethedig Rheoli'r Trysorlys 2018/19 [a gafodd ei ystyried, hefyd, gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2018] ac atgoffwyd yr aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Gan ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, fel rhan o £1.3 biliwn y Fargen Ddinesig, fod £240 miliwn o gyllid eisoes wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 11 prosiectyn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin (yr Awdurdod Arweiniol) a Sir Benfro dros y 15 mlynedd nesaf. Roedd trafodaethau rhwng y pedwar awdurdod lleol yn parhau ond rhagwelwyd y byddai cytundeb cydweithio yn cael ei lofnodi cyn hir. Ni ragwelwyd y byddai Brexit yn effeithio ar y Fargen Ddinesig;

·         Nodwyd y byddai seilwaith yn rhan allweddol o unrhyw becyn ar gyfer prosiect Bargen Ddinesig

·         Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ddosbarthu proffil o'r benthyciadau a fenthycwyd;

·         Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod ymgysylltiad yr Ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys wedi'i dendro;

·         Nodwyd bod 5 darparwr gwasanaethau allanol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i gefnogi gweithgareddau'r Awdurdod o ran rheoli'r trysorlys.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 a'r atodiadau cysylltiedig.

 

6.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2017 I RHAGFYR 31AIN 2017 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2017 - 31 Rhagfyr 2017, i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn unol â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017-2018 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 22 Chwefror 2017.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Wrth ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol o ran yr hawliadau a gyflwynwyd i'r Gweinyddwyr sy'n gweithredu ynghylch banc blaenorol Gwlad yr Iâ, Kaupthing Singer & Freidlander, fod yr Awdurdod yn gredydwr anffafriol. Ychwanegodd nad oedd yn bosibl gwybod faint o ddifidend y gellid ei gael yn y pen draw;

·         Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ganfod beth yw'r cynnydd ynghylch addasu'r goleuadau stryd traddodiadol yn oleuadau LED, dan gyllid di-log 'Buddsoddi i Arbed'.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.

 

7.

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17 A CHYNLLUN BUSNES 2017/18 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o 'Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) 2016/17 a Chynllun Busnes 2017/18' wedi cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor, a chafodd y pwyllgor gyflwyniad a oedd yn cynnwys astudiaeth achos ynghylch prosiect presennol TIC. Ystyriwyd bod manteision dull TIC yn cael eu gwireddu gan fod llawer o'r prosiectau wedi dechrau sicrhau gwelliannau sylweddol o ran ansawdd gwasanaeth, profiad y cwsmer ac arbedion ariannol.  Hyd yn hyn, roedd gwaith TIC wedi cynorthwyo i nodi, neu wedi helpu i sicrhau tua £11.5 o arbedion effeithlonrwydd.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ar ôl y cyflwyniad:

·         Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau fod mecanwaith cadarn ar waith i sicrhau bod y gwelliannau i'r gwasanaeth ar ôl adolygiadau'r TIC yn parhau. Nodwyd bod Bwrdd y Rhaglen TIC yn cyfarfod bob deufis ac yn monitro cynydd;

·         Nodwyd nad oedd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi codi'n uniongyrchol o'r Rhaglen TIC, er bod nifer o staff wedi manteisio ar y cyfle i adael yn wirfoddol;

·         Cytunodd Rheolwr Rhaglen TIC i ddarparu esiamplau o brosiectau a oedd wedi'u cyflawni, nad oedd wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd;

·         Awgrymwyd y dylai'r tablau yn yr adroddiad, a gyfeiriai at yr arbedion a gyflawnwyd, gynnwys unrhyw gostau a daeth i law er mwyn cyflawni'r arbedion hynny; 

·         Pwysleisiwyd cyfraniad aelodau etholedig yn yr adolygiadau a nodwyd bod yr Adolygiad 'Cefn Swyddfa' wedi'i ysgogi ar eu cais nhw;

·         Ystyriwyd bod angen gwneud mwy i ddatblygu cronfeydd data unffurf gyda'r sefydliadau y mae'r Awdurdod yn cydweithio â hwy, megis Byrddau Iechyd;

·         Cadarnhawyd bod rhai prosiectau h?n yn cael eu hailystyried o bryd i'w gilydd, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion y rhaglen TIC.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) 2016/17 a Chynllun Busnes 2017/18 yn cael eu derbyn.

 

8.

CYNLLUN LLESIANT SIR GÂR: Y SIR GÂR A GAREM pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas â chofnod 9 y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2017, roedd y Pwyllgor wedi trafod 'Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2023' a gafodd ei ddatblygu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'r bwriad o'i gyhoeddi erbyn mis Mai 2018, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2023.

 

Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2018, ystyriodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus adborth yr ymgynghoriad ynghyd â'r gwaith datblygu ychwanegol a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, a chytunwyd ar newidiadau i'r Cynllun yn unol â hynny. Cafodd newidiadau allweddol y Cynllun eu cynnwys ar dudalennau 14-18, a chafodd mwy o wybodaeth ei chynnwys am bob un o'r camau gweithredu er mwyn nodi 'Sut y byddwn yn gwneud hyn...' a 'Phwy fydd yn gwneud hyn...'. Byddai hyn yn sylfaen ar gyfer cyfres o Grwpiau Cyflawni y byddai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bellach yn ystyried eu sefydlu, er mwyn gwneud cynnydd o ran yr amcanion a'r camau a nodwyd. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus felly yn cyflwyno ei Gynllun terfynol i'r pedwar aelod statudol ei ystyried a'i gymeradwyo, ac yna byddai'r Cynllun yn cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ei gyflwyno o fis Mai 2018 ymlaen.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y Cynllun:

 

·         Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y Bwrdd yn fodlon â chyfraniad pob un o'r pedwar aelod statudol er gwaethaf y pryderon a fynegwyd gan aelodau etholedig ynghylch y nifer isel o amcanion llesiant a osodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda;

·         Cydnabuwyd y byddai iechyd meddwl yn ganolog i'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y dyfodol;

·         Cydnabuwyd bod angen i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried ffyrdd o ryngweithio â chymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo 'Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin - Y Sir Gâr a Garem - 2018-2023'.

 

9.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - TACHWEDD 2017. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2017.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau’r Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod fod cyfarfod y Bwrdd a drefnwyd ar gyfer 8 Mawrth 2018 am 2.00 p.m. wedi newid i Ystafelloedd Caer, ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Caerfyrddin, er mwyn galluogi pob aelod o'r Pwyllgor Craffu i fod yn bresennol fel arsylwyr os yn bosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2017 yn cael eu derbyn.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Mawrth 2018.

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

12.

COFNODION - 12FED IONAWR 2018 pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 yn gofnod cywir.