Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S. Allen a D.C. Evans.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
|||||||
DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU CYHOEDDUS Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18 PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2017/18 ynghyd ag adroddiadau manwl ynghylch yr Amcanion Llesiant perthnasol sydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor, sef:
· Amcan Llesiant 5 - Mynd i'r afael â thlodi; · Amcan Llesiant 14 - Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru; · Amcan Llesiant 15 - Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.
Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Mynegwyd pryder bod tystiolaeth yn dangos bod Credyd Cynhwysol, yn hytrach na lleihau tlodi, yn cael effaith i'r gwrthwyneb mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin; · Canmolwyd cynnydd Sir Gaerfyrddin o ran mynd i'r afael â thlodi ond y farn oedd bod angen rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru; · Cydnabuwyd bod diffyg mynediad i wasanaethau yn ffactor sy'n cyfrannu at dlodi mewn rhai ardaloedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin, ac er mwyn mynd i'r afael â hynny byddai llyfrgelloedd teithiol yn cael eu haddasu'n 'hybiau' teithiol. · Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r rhaglen LEADER yn dod i ben yn 2022, ond bod Llywodraeth y DU am sefydlu Rhaglen Ffyniant Economaidd; · Cyfeiriwyd at y gwaith a wneir er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd drwy alluogi cymorth ac osgoi diwylliant o ddibynnu; · Cytunodd y Rheolwr Datblygu Economaidd i ganfod faint o brentisiaid, graddedigion ac ati sydd wedi cael swydd o dan Brosiect Barod am Waith; · Cytunodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel i roi manylion am y clybiau tanwydd; · Cytunodd y swyddogion i ystyried y posibilrwydd o drefnu seminar i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol a Chynllun Gweithredu'r Awdurdod; · Cytunodd y swyddogion i ystyried ffyrdd o sicrhau nad oedd gwasanaeth Hamperi Nadolig yr Awdurdod yn cael ei lethu oherwydd angen cynyddol; · Cyfeiriwyd at y wybodaeth fanwl sydd ar wefan y Cyngor am y manteision o fod yn ddwyieithog; · Nodwyd mai Sir Gaerfyrddin oedd un o'r nifer fach o awdurdodau yng Nghymru i adrodd canfyddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i roi manylion y meysydd lle cafwyd gostyngiadau o £54m i'r gyllideb dros y 5 mlynedd diwethaf; · Pwysleisiwyd pryder eto o ran cysylltiadau posibl rhwng swyddi gwag, straen a chyfraddau salwch a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai adroddiad arall ynghylch rheoli salwch yn cael ei gyflwyno maes o law; · Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor na fyddai modd creu proffil cyfannol mewn un man ar gyfer pob preswylydd Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol agos, gan y byddai angen rhannu'r data a gedwir ar wahanol systemau a ddefnyddir gan sefydliadau partner eraill megis y Bwrdd Iechyd. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymchwilio i'r mater hwn. Roedd cyfleuster 'Fy Nghyfrif' ar wefan y Cyngor yn galluogi'r Awdurdod i lunio proffil cyfyngedig ond defnyddiol ar gyfer unrhyw unigolyn a gofrestrodd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2017/18.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2017-18 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at Gofnod 9 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2015, ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2017-18 a oedd yn manylu ar sut roedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2017-18 PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016, ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2016-17. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2017-18.
|
|||||||
Y STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018 PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer 2018 yn unol â'r ymrwymiad a roddir yn Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-2020 [gweler Cofnod 9 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Mai 2017]. Roedd gan y Strategaeth bedwar maes Blaenoriaeth Allweddol:
· Gwasanaethau Cwsmeriaid Digidol · Gweithlu Digidol · Cymunedau a Busnesau Digidol · Cydweithio Digidol
Ym mhob un o'r meysydd hyn, roedd nifer o brosiectau a chanlyniadau allweddol wedi'u cymeradwyo, a rhoddwyd manylion am y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf yn yr Adroddiad Blynyddol. Roedd cyflawniad y prosiectau hyn yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan y Gr?p Llywio Trawsnewid Digidol ac roedd trosolwg ar y cynnydd yn cael ei roi i Fwrdd y Rhaglen TIC. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynllun i gael cebl tanddwr trawsatlantig a fyddai'n dod i'r lan yn Oxwich, Penrhyn G?yr, a gafodd ei grybwyll fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, dywedwyd y byddai hyn bellach yn rhan o Gytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer 2018.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2017-2018 PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod 2017-2018 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017-2018 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 22 Chwefror 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.
Roedd y canlynol ymysg y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y cynigion effeithlonrwydd o £580k yn Adran y Prif Weithredwr yn debygol o gael eu cyflawni yn 2018/19. Cafwyd ail drafodaeth ynghylch y gyfradd aros galwad ac roedd yn debygol y bydd gostyngiad yn nifer y galwadau. · Ymatebodd y swyddogion i ymholiadau ynghylch swyddi heb gyllid a thargedau anghyraeddadwy o ran incwm.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref 2018.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 61 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|||||||
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 14EG MEHEFIN 2018 PDF 162 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.
|