Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Gwener, 27ain Ebrill, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Madge.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23 pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adrannau drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau. Byddai drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol yn cymryd lle'r un presennol a gyhoeddwyd yn 2015 a byddai'n cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

- Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

- yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol

 2009;

- Yr Amcanion Llesiant yn ôl gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - nid oedd angen i'r rhain newid bob blwyddyn, ac nid oedd angen eu rhoi ar waith o fewn blwyddyn, a bod nodi amcanion sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon;

- Prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf”

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Er y gellir diffinio 33% o aelwydydd fel rhai sy'n byw mewn tlodi, mynegwyd pryder ei bod yn ymddangos bod mentrau megis y rhai sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi eu hanelu at ardaloedd trefol yn hytrach nag ardaloedd gwledig. Mewn ymateb i hyn, dywedwyd wrth yr aelodau fod y Fargen yn cynnwys prosiectau megis 'Ardal Forol Doc Penfro', 'Yr Egin' a 'Seilwaith Digidol', sef buddsoddiadau sylweddol a fyddai o fudd i ardaloedd gwledig;

·         Awgrymwyd nad oedd yr ystadegyn sy'n dweud bod 33% o aelwydydd yn byw mewn tlodi yn ystyried unigolion sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth [HMOs] ac felly roeddent yn parhau'n 'gudd'. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion o Gymunedau yn Gyntaf a thîm y Pentref Llesiant yn Ward Ty-isa Llanelli, lle'r oedd nifer o dai amlfeddiannaeth, yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod integreiddio rhwng y 'Pentref ', a bod pobl leol yn elwa;

·         Awgrymwyd y dylai ysgolion gynnwys llythrennedd ariannol yn y cwricwlwm fel rhan o ddatblygu sgiliau bywyd neu efallai y gallai'r Cyngor ddosbarthu pecynnau i ysgolion;

·         O ran Amcan Llesiant 14 cyf. B4 a thargedu ardaloedd penodol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, nodwyd bod gwaith ymchwil sy'n seiliedig ar Gyfrifiad 2011 yn nodi ardaloedd lle bu dirywiad yn y defnydd o'r Gymraeg a bod adnoddau yn cael eu cyfeirio yn unol â hynny. CytunoddSwyddog Datblygu'r Gymraeg i ddosbarthu rhagor o wybodaeth am hyn.

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i fynd ar drywydd ymholiad ynghylch pa mor llwyddiannus yw'r Awdurdod yn cyrraedd ei darged ar gyfer talu anfonebau i fusnesau bach;

·         Gan ymateb i ymholiad ynghylch sut y mae'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth caffael ar y cyd â Chyngor Sir Penfro yn mynd rhagddo, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod tîm ar y cyd wedi'i sefydlu, sy'n gweithio'n dda ond y byddai'n cael ei fonitro;

·         Dywedodd y swyddogion yn seiliedig ar sylwadau aelodau, y byddai nifer o'r 'Camau Gweithredu a Mesurau' yn cael eu cryfhau cyn eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Gorfforaethol newydd 2018/23 yn cael ei chymeradwyo.

 

6.

STRATEGAETH CAFFAEL 2018-2022 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn ddrafft o Strategaeth Caffael Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-22, oedd â'r nod o gael fframwaith ar waith er mwyn sicrhau bod gan benderfyniadau comisiynu a chaffael rôl allweddol o ran cefnogi'r gwaith o gyflawni nodau Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor a Chynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i sylw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd â Chyngor Sir Penfro yn cael ei fonitro gan Fwrdd TIC a'i fod yn atebol iddo. Nodwyd bod Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru bellach yn cael ei gefnogi gan y trefniant, er y byddai llawer o'r cyfarpar yr oedd angen ei gaffael yn unigryw i'r gwasanaeth hwnnw;

·         O ran Bargen Ddinesig Bae Abertawe, nodwyd bod Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddai pob awdurdod partner â'r hawl i gadw 50% o'r ardrethi busnes a gynhyrchir gan brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn eu hardaloedd;

·         Er bod yr awdurdod wedi gweithio'n agos, o fewn cyfyngiadau cyfreithiol, gyda busnesau lleol bach a chanolig a allai ddarparu gwasanaethau penodol, pwysleisiodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol bwysigrwydd sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran gwerth yr arian a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth caffael;

·         Roedd yn rhaid i'r amheuon ynghylch y posibilrwydd o ddyfarnu contract ychwanegol i gwmni a oedd eisoes yn destun pryder gael eu cefnogi gan dystiolaeth, megis a roddwyd cyfle i'r cwmni fynd i'r afael â'r pryderon hynny ac anogwyd adrannau i roi systemau cadarn ar waith i gofnodi'r dystiolaeth hyn;

·         Byddai cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn cael ei fonitro drwy ddull Rheoli Categori a byddai unrhyw arbedion ariannol yn cael eu trosglwyddo i adrannau yn unol â hynny. Cytunwyd y gellid rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau am unrhyw arbedion a mesurau effeithlonrwydd a nodwyd;

·         Gan ymateb i sylw ynghylch a ellid symleiddio dogfennau tendro ar gyfer tendrau llai yn enwedig, dywedwyd wrth yr aelodau fod pecynnau tendro bellach yn briodol i'r maes gwariant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 gymeradwyo'r fersiwn ddrafft o'r Strategaeth;

6.2 rhoi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw arbedion a mesurau effeithlonrwydd a nodwyd;

6.3 gofyn i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ddosbarthu manylion am y sefyllfa ddiweddaraf o ran llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

7.

CÔD YMARFER LLWYODRAETH CYMRU - CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cynnig i gydymffurfio â Chôd Ymarfer Llywodraeth Cymru - Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyn Cyflenwi. Wrth gytuno â'r Cod, byddai'r Cyngor Sir yn cytuno i gydymffurfio â 12 ymrwymiad sydd wedi'u cynllunio i gael gwared â chaethwasiaeth fodern a chefnogi arferion cyflogaeth foesegol. Anogir sefydliadau eraill o unrhyw sector sy'n gweithredu yng Nghymru i fabwysiadu'r Côd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain Fframwaith Adeiladu Peirianneg Sifil Rhanbarthol (a fydd yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion a Sir Benfro) a fyddai'n cael ei dendro ar gyfer mis Medi. Hwn fyddai'r tendr cyntaf, a'r 'peilot ', y rhoddir ystyriaeth i'r Côd Ymarfer ynghylch Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a, lle bo'n briodol, byddai gofynion caffael moesegol a chynaliadwy perthnasol yn cael eu gosod yn rhan o'r fanyleb.

 

Croesawodd yr Aelodau'r egwyddorion sydd wrth wraidd y Côd ond cydnabuwyd y byddai anawsterau ymarferol o ran ei orfodi, er enghraifft sicrhau bod cwmnïau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â'r Côd. Mewn ymateb dywedwyd bod yr Awdurdod yn y broses o adolygu telerau ac amodau'r contractau i gynnwys cymalau mwy cadarn, ond bod y cyfrifoldeb ar y prif gontractwyr ar hyn o bryd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd fod asiantaethau gorfodi eraill hefyd â chyfrifoldeb i fynd i'r afael â materion gwrth-gaethwasiaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1 gymeradwyo'r cynnig i gydymffurfio â'r Côd;

7.2 cyflwyno canlyniad y 'peilot' i'r Pwyllgor.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DDYFODOL pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 14 Mehefin 2018.

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

10.

COFNODION - 21 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 21 Mawrth 2018 gan eu bod yn gywir.