Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 11eg Hydref, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Chamber, County Hall, Carmarthen

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.C. Evans a D. Nicholas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd A. Davies

 

Cofnod rhif 6 - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin 2016/17;

Cofnod rhif 8 – Amcanion Llesiant ac Adroddiad Monitro Perfformiad Adrannol Adnoddau a Llywodraethu 2017/18;

 

Mae ei chwaer yng nghyfraith yn Bennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

 

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU 2016/17 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am flwyddyn y Cyngor 2016/17 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith y Pwyllgor gan gynnwys:-

·         Golwg gyffredinol ar y Rhaglenni Gwaith Craffu

·         Y materion allweddol a ystyriwyd

·         Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu Eraill neu ganddynt

·         Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2016/17 - DRAFFT pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn cynnwys adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17 a'r Adroddiad Blynyddol llawn.

 

Pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20 cytunwyd y byddai adroddiad cynnydd blynyddol yn cael ei gynhyrchu a fyddai'n pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu cynnydd yr Awdurdod yn eu herbyn.  Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu ar gyfer 2018/19 gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi mynnu bod yr Amcanion Llesiant yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol.

 

Er y cyfunwyd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwella yn yr un ddogfen yn y blynyddoedd blaenorol, cafodd y dogfennau hyn eu gwahanu eleni oherwydd roedd yn ofynnol i'r Awdurdod, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyhoeddi Amcanion Llesiant yr Awdurdod erbyn 31 Mawrth ac felly roedd yn gwneud synnwyr cyhoeddi'r Cynllun Gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ar y cyd â nhw. Ni fyddai wedi bod yn bosibl llunio'r Adroddiad Blynyddol cyn diwedd y flwyddyn.

 

Nodwyd ei fod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i sylw, cydnabuwyd y gallai 'lefelau absenoldeb salwch staff' gael eu cynnwys yn y 'Canlyniad' 'Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau' yn hytrach nag 'Adeiladu Gwell Cyngor';

·         Nodwyd bod digwyddiadau sylweddol ar waith ar draws yr Awdurdod er mwyn mynd i'r afael â lefelau boddhad y cyhoedd, a oedd yn tueddu i amrywio o flwyddyn i flwyddyn;

·         O ran y pryderon ynghylch y cynnydd mewn lefelau absenoldeb salwch staff, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y mater wedi codi yn y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn ddiweddar hefyd a chytunodd y Pwyllgor hwnnw i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i'r mater. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Penaethiaid Gwasanaeth yn cael eu galw i gyfrif am lefelau absenoldeb salwch yn eu his-adrannau penodol;

·         Soniwyd am y gwell mynediad digidol y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, ond mynegwyd pryder ynghylch signal ffonau symudol gwan iawn mewn rhai mannau o'r Sir, a oedd yr un mor bwysig â mynediad i'r rhyngrwyd i fusnesau, ysgolion a thrigolion. Mewn ymateb i hyn, nodwyd bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - y Dirprwy Arweinydd, wedi tynnu sylw at y broblem mewn llythyr at bennaeth BT a'i bod yn aros am ymateb. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau bod hyn yn flaenoriaeth uchel i'r Awdurdod.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Blynyddol drafft, yn cynnwys Adroddiad Cynnydd yr Ail Flwyddyn ar y Strategaeth Gorfforaethol, yn cael ei dderbyn.

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CORFFORAETHOL AMCANION LLESIANT 2017/18 A LLYWODRAETHU AC ADNODDAU CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2017 pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu a mesurau 2017/18 ym mhob un o'r 14 Amcan Llesiant ynghyd â chynlluniau cyflawni Llywodraethu ac Adnoddau, fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2017 ac a ddadansoddwyd gan y Pwyllgor Craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD ADRANNOL AMCANION LLESIANT 2017/18 A LLYWODRAETHU AC ADNODDAU CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2017 pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2017.

 

Codwyd y materion/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y camau sy'n cael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb salwch, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn dilyn pryderon gan Aelodau. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Fforwm Her Salwch newydd a oedd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i Benaethiaid Gwasanaeth, fel rhan o'u dyletswyddau, dros absenoldeb salwch yn eu his-adrannau. Pwysleisiwyd y cafodd y polisi presennol sy'n ymwneud ag absenoldeb salwch ei arwain gan Aelodau yn dilyn adolygiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen 2009/10 y Pwyllgor o absenoldeb salwch a gyflwynodd 40 o argymhellion. Mewn ymateb i sylw dywedwyd y barnwyd bod rôl a chost yr uned iechyd galwedigaethol yn rhoi gwerth yr arian o ran cefnogi staff a gwahoddwyd y Pwyllgor i ymweld â'r uned. Fodd bynnag, oherwydd y gallai straen gael ei achosi gan amgylchiadau yn y cartref yn hytrach na'r gwaith, roedd angen cymorth a hyfforddiant ar Reolwyr i nodi'r achos sylfaenol. Awgrymwyd y gallai fod yn briodol i'r Pwyllgor weld adroddiadau chwarterol am absenoldebau salwch.

·         O ran mynediad i'r rhyngrwyd yn Sir Gaerfyrddin, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr Awdurdod yn rhoi pwysau ar BT yn barhaus er mwyn sicrhau gwell signal band eang a ffonau symudol ar draws y sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 derbyn yr adroddiad;

 

8.2 cyflwyno adroddiad ynghylch absenoldeb salwch i'r cyfarfod nesaf;

 

8.3 trefnu bod aelodau'r Pwyllgor yn ymweld â'r uned iechyd galwedigaethol cyn cael sesiwn anffurfiol ynghylch Adnoddau Dynol.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2016-2017 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod 2016-2017 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016-2017 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2017 I MEHEFIN 30AIN 2017 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth am y cyfnod 1 Ebrill 2017 - 30 Mehefin 2017 a oedd yn nodi gweithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017-2018 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 22 Chwefror 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

11.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro a amlinellai'r sefyllfa gyllidebol ynghylch blwyddyn ariannol 2017/18 fel yr oedd ar 30 Mehefin 2017. Roedd yr adroddiad  yn cynnwys:

 

·      Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod (Atodiad A);

·      Cyllideb Refeniw Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol (Atodiad B);

·      Monitro Rhaglen Gyfalaf Gorfforaethol 2017/18 (Atodiad C);

·      Monitro Rhaglen Gyfalaf Gorfforaethol 2016/17 – y prif amrywiannau (Atodiad D);

·      Cynlluniau Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol 2016/17 – y prif amrywiannau (Atodiad E).

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i sylw dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod 'cynigion effeithlonrwydd' yn cael eu monitro'n gyson gan y cydnabyddir na fyddai modd cyflawni'r cyfan;

·         Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod swyddogion i fod i gyfarfod â chynrychiolwyr yr undebau i drafod y gyfradd aros, sydd ar hyn o bryd yn un o'r uchaf yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

12.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2017/18 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau'r Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, yn amodol ar y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad peidio â chyflwyno [gweler cofnod 13 isod] ac ar gynnwys adroddiad am absenoldeb salwch [gweler cofnod 8 uchod].

 

13.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

14.

COFNODION pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 28 Ebrill 2017 yn gywir.