Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Iau, 14eg Gorffennaf, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  E-bost: democraticservices@carmarthenshire.gov.uk Tel 01267 224028

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A.G. Morgan.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF pdf eicon PDF 158 KB

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ddydd Mercher 5 Hydref 2016.

 

6.

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16 A CHYNLLUN BUSNES 2016/17 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd, yn ogystal â'i Gynllun Busnes ar gyfer 2016/17. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y rhaglen wedi cael ei lansio yn 2012 mewn ymateb i'r heriau ariannol sylweddol a oedd yn wynebu'r Awdurdod Lleol a hyd yn hyn, roedd gwaith TIC wedi cynorthwyo i nodi, neu wedi helpu i sicrhau tua £6.4m o arbedion effeithlonrwydd. Cafodd y Pwyllgor hefyd gyflwyniad yn amlinellu'r prosiectau a oedd yn ymwneud â phrosesau cefn swyddfa a oedd wedi arwain at arbedion sylweddol o ran amser ac arian, yn ogystal ag arwain at ddulliau mwy effeithiol o weithio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad a'r cyflwyniad:

 

Gofynnwyd faint o'r gwelliannau oedd ar waith ymhlith y swyddogaethau cefn swyddfa a oedd yn arbedion mewn gwirionedd, yn hytrach na gwahanol wasanaethau yn mabwysiadu gwelliannau mewn technoleg. Dywedodd y Swyddog TIC fod y dechnoleg wedi galluogi gwireddu'r arbedion, gan leihau'r gwaith o ddilyn prosesau a oedd yn cymryd llawer o amser. Roedd mabwysiadu dulliau technolegol nid yn unig wedi gwella prosesau yn fewnol, ond bellach roedd yr Awdurdod yn gallu rhyngweithio â sefydliadau a chyflenwyr allanol mewn modd llawer mwy effeithlon.

 

Croesawyd y datblygiadau a amlinellwyd yn y cyflwyniad a'r defnydd o dechnoleg newydd, ond gofynnwyd sut yr oedd yr awydd i arloesi a chroesawu dulliau mwy effeithlon o weithio yn cael eu gosod yn rhan annatod o ddull gweithio rheolwyr llinell, ac a ddylid disgwyl i reolwyr weithredu yn y modd hwn. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen TIC wrth y Pwyllgor mai'r strategaeth hirdymor oedd gosod y fethodoleg yn rhan annatod o'r gwaith o fewn gwasanaethau. Roedd Tîm TIC wedi defnyddio dull 'Vanguard' er mwyn galluogi adrannau i weld a deall eu gwasanaethau o safbwynt y cwsmer. Mae'r adrannau erbyn hyn, yn dilyn defnyddio'r model hwn, yn fwy hyderus o gynnal adolygiadau pellach o'u gwasanaethau gan ddefnyddio'r dull hwn, yn hytrach na dibynnu ar Dîm TIC i hwyluso adolygiadau pellach. Eglurodd y Rheolwr Rhaglen TIC ymhellach wrth ymgymryd ag adolygiad yn defnyddio dull Vanguard, roedd croestoriad o'r gwasanaeth perthnasol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, gan gynnwys penaethiaid gwasanaethau, uwch-reolwyr yn ogystal â staff rheng flaen. Roedd sesiynau rhagflas ar gyfer Rheolwyr Trydedd Haen wedi cael eu cynllunio ar gyfer yr hydref a fyddai'n cynnwys amrywiaeth o aelodau staff yn cyflwyno eu canfyddiadau yn y sesiynau hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn o ran capasiti'r rheolwyr a oedd yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod i ymgymryd ag adolygiadau o'r fath, dywedodd y Rheolwr Rhaglen TIC oherwydd natur drawsbynciol llawer o adolygiadau TIC, fel arfer byddai nifer o reolwyr gwahanol yn cymryd rhan. Hyd yn hyn, roedd y rheolwyr a ofynnwyd i gynorthwyo â'r adolygiadau wedi dangos ymrwymiad a brwdfrydedd. Nid oedd diffyg cyfranogiad erioed wedi bod yn broblem. Pwysleisiodd hefyd fod cryn dipyn o waith yn parhau o fewn adrannau, a oedd gwbl ar wahân i'r prif brosiectau oedd o dan ofal TIC.

 

Cyfeiriwyd at yr adolygiad o Gyllid y Trydydd Sector  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN GWEITHREDU TRECHU TLODI pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch dull yr Awdurdod o drechu tlodi a gweithgareddau'n ymwneud â hyn. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gr?p Ffocws trawsbleidiol, Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi'r Cyngor a Sefydlu Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi i gefnogi aelod y Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am yr agenda. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd am eglurhad o ran y dulliau a ddefnyddiwyd yn ystod yr astudiaeth tlodi gwledig ac a oedd y diffiniad 'gwledig' yn gamarweiniol oherwydd bod yr ardal yn cynnwys rhannau o drefi'r Sir. Dywedodd y Swyddog Perfformiad, Llywodraethu a Pholisi wrth y Pwyllgor fod y Tîm Polisi Corfforaethol wedi cynnal astudiaeth ac yn dilyn ymarfer bwrdd gwaith cychwynnol, anfonwyd cyfanswm o 5,000 o holiaduron i dai ledled ardal y Cynllun Datblygu Gwledig. Anfonwyd holiaduron hefyd i gynghorau tref a chymuned, busnesau ac ysgolion. Cafwyd cyfanswm o 1,099 o ymatebion. Cyflwynwyd y canfyddiadau i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau a byddant yn cael eu defnyddio i gyfarwyddo prosiectau yn yr ardal yn y dyfodol. Ychwanegodd y gellid cylchredeg yr adroddiad i'r Pwyllgor er gwybodaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor fod y diffiniad o'r ardal wledig wedi bod yr un peth ers y 12 mlynedd diwethaf, a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n gweinyddu amrywiol ffynonellau grantiau a chyllid.

 

Cyfeiriwyd at gynorthwyo unigolion o ran hyfforddiant a gwirfoddoli a gofynnwyd sut yr oedd llwyddiant, neu beidio, y gweithgareddau hyn yn cael eu monitro. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor os oedd ail raglen ar waith yn gweithio ochr yn ochr â mentrau o'r fath er mwyn helpu unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, roedd yn bosibl monitro llwyddiant y mentrau hynny. Fodd bynnag, y tu hwnt i hyn, roedd yn anodd iawn monitro a dilyn unigolion, yn enwedig os oeddent yn gadael y Sir yn gyfan gwbl. Roedd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi), mewn ymateb i awgrymiad arall wedi cydnabod y gellid defnyddio technoleg (e.e. e-bost, cyfryngau cymdeithasol) i fonitro unigolion a oedd wedi cael cymorth er mwyn dilyn eu cynnydd. Cytunodd y byddai'n rhannu'r awgrymiad hwn â swyddogion yn y tîm perthnasol o fewn ei his-adran.

 

Gofynnwyd faint o swyddi mewn gwirionedd a oedd wedi cael eu creu drwy fentrau o'r fath megis Cymunedau yn Gyntaf. Roedd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wedi cydnabod nad oedd mentrau o'r fath, ar y cychwyn, wedi arwain at lawer o swyddi ond ers cyflwyno mesurau i sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o gyllid, roedd hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y rheini a oedd bellach yn dod o hyd i gyflogaeth.

 

Cyfeiriwyd at nifer o gamau gweithredu o ran Gwasanaethau Plant nad oedd yn cyrraedd y targed, ac awgrymwyd nad oedd y dull ymwelydd iechyd yn gweithio, yn enwedig gan fod y rhain wedi cael eu dwyn yn fewnol o'r Trydydd Sector a'r Bwrdd Iechyd. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi)  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa ariannol fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o ran y gwariant refeniw a chyfalaf o oedd yn rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am y flwyddyn ariannol 2015/16. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr Awdurdod yn adrodd am danwariant o £418,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol. Yr oedd y ffigyrau alldro terfynol yn dangos bod gorwariant ar lefel adrannol o £33,000 am y flwyddyn ariannol, a bod hynny wedi ei wrthbwyso gan danwariant o £1,399,000 ar daliadau cyfalaf. Roedd yr alldro a ddeilliodd o hynny'n golygu bod yr Awdurdod wedi trosglwyddo £280,000 o'i gronfeydd cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y lleoliadau ychwanegol a'r gost ychwanegol o ffioedd uwch (gwerth £391,000) a dalwyd i ddarparwyr gan yr Adran Cymunedau, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod hwn yn gysylltiedig â chwyddiant a chost gyffredinol y gwasanaeth.

 

Awgrymwyd yn sgil y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol, ei fod yn ddigon posibl bod darpariaeth y sector preifat o fewn y sector gofal cymdeithasol yr un mor gostus, os nad yn fwy costus, na'r hyn a ddarperir gan y sector cyhoeddus. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi cydnabod y byddai'r newidiadau i'r isafswm cyflog yn creu pwysau ariannol ychwanegol ac atgoffodd y pwyllgor fod hwn wedi cael ei nodi fel pwysau cyllidebol posibl yn Adroddiad Cyllideb 2016/17 a gyflwynwyd i'r Cyngor Sir ym mis Chwefror. Fodd bynnag, er bod y bwlch yn cau rhwng darparwyr preifat a chyhoeddus, nid oeddent yr un peth ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd am sicrwydd oherwydd yr ansicrwydd economaidd presennol, na fyddai'r Cyngor Sir yn rhuthro i fenthyg arian ar gyfer prosiectau diangen a bod angen blaen gynllunio gofalus. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol bod angen cynllunio ymlaen llaw yn fanwl er bod cynllunio o'r fath yn anodd gan nad oedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn darparu unrhyw ganllawiau clir nac arwyddion o ran cyllid y dyfodol.

 

Gofynnwyd a oedd y gyllideb weithredol ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus yn cynnwys y costau gweithredu ar gyfer toiledau math Danfo. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol fod hyn yn gywir. Mewn ymateb i ymholiad pellach am y cyfleusterau cyhoeddus a oedd bellach yn cael eu cynnal gan yr Awdurdod Lleol, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y gellid cylchredeg y wybodaeth yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y prosiectau a oedd yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Adfywio Canol Tref Rhydaman, gwerth £466,000. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) wrth y Pwyllgor fod yr aelodau etholedig lleol wedi cytuno ar y prosiectau blaenoriaeth hyn ac er nad oedd ganddi fanylion penodol wrth law, byddai modd anfon y wybodaeth ymlaen yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD CORFFORAETHOL DIWEDD BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD - 1AF O EBRILL 2015 HYD AT 31AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a roddai olwg gyffredinol diwedd blwyddyn ar berfformiad yr Awdurdod. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·        Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau

·        Absenoldeb salwch

·        Canmoliaeth / Cwynion

 

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor hefyd o ran absenoldeb salwch yr Awdurdod a oedd wedi cynyddu i 10.1 diwrnod, cynnydd o 1 diwrnod cyflawn cyfwerth ag amser llawn o ganlyniadau'r llynedd. Mynegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) siom, er bod polisïau da a chlir ar waith ac enghreifftiau o welliant sylweddol mewn llawer o isadrannau, roedd y ffigur cyffredinol wedi cynyddu. Mynegodd bryder penodol am y cynnydd o ran absenoldeb salwch mewn ysgolion cynradd a chyfeiriodd at y gwaith parhaus i gynorthwyo ysgolion, yn enwedig o ran costau yswiriant absenoldeb salwch ac athrawon cyflenwi.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor wahodd penaethiaid gwasanaethau i gyfarfodydd yn y dyfodol i drafod eu dulliau o fynd i'r afael ag absenoldebau salwch. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig ond awgrymodd aelodau eraill y dylai’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd gydgysylltu â'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) i drefnu hyn, a bod y cynnig ar gael i'r holl wasanaethau, nid y rheini a oedd yn achos pryder yn unig. 

 

Gofynnwyd a oedd y rhesymau dros absenoldeb salwch mewn ysgolion yn wahanol i'r rheini ar gyfer gweithlu'r awdurdod lleol ei hun. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wrth y Pwyllgor nad oedd dim gwahaniaeth a bod yr un themâu yn amlwg, â straen oedd yr achos mwyaf cyffredin. Rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod adnoddau wedi cael eu rhoi i ysgolion i'w cynorthwyo gan fod penaethiaid wedi nodi mai absenoldeb salwch oedd un o'u problemau mwyaf.

 

Gan mai straen oedd yr achos mwyaf o absenoldeb salwch, gofynnwyd beth oedd yr Awdurdod yn ei wneud o'i le wrth effeithio ar y gweithlu yn y fath fodd.  Gofynnwyd a oedd gweithwyr yn dioddef blinder neu ormod o waith, wrth i ragor o gyfrifoldebau a disgwyliadau gael eu trosglwyddo i lai o weithwyr.  Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) mai rheolaeth dda ac addas oedd y ffactor allweddol yn y pen draw o ran absenoldeb salwch, ac os mai straen oedd y rheswm dros yr absenoldeb, yna roedd yn ofynnol i'r gweithiwr lenwi holiadur straen. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) fod straen yn faes anodd ei ddiffinio oherwydd gallai gael ei ddehongli yn wahanol o un unigolyn i'r llall. Mae'n bosibl y byddai un newid bach yn y gweithle yn cael ei ystyried yn broblem fawr i un unigolyn, ond yr hyn sy'n allweddol yw'r modd y byddai newid o'r fath yn cael ei gyfathrebu a'i reoli gan y rheolwr perthnasol. Mynegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) hefyd bryder fod straen bellach yn ymddangos fel y 'syndrom cefn gwael' newydd, ac yn aml nid oedd hyn yn ymwneud â'r gwaith ond yn hytrach yn gysylltiedig â materion ym mywyd personol yr unigolyn. Roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD ADRANNOL DIWEDD BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD - 1AF O EBRILL 2015 HYD AT 31AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Rheoli Perfformiad ar gyfer y gwasanaethau oedd yn ei gylch gwaith am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·        Golwg Gyffredinol ar y Perfformiad gan Benaethiaid y Gwasanaethau

·        Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad

·        Monitro Cwynion a Chanmoliaeth

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y cymorth cyfreithiol ar gyfer Panel Heddlu Dyfed-Powys, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith bod aelodaeth y Panel hwn yn cynnwys cynghorwyr sir o'r awdurdodau lleol perthnasol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu cyngor cyfreithiol annibynnol i'r Panel hwn.

 

Cyfeiriwyd at yr £20m a gafodd ei fenthyg yn ystod 2015/16 er mwyn cefnogi'r rhaglen gyfalaf, a gofynnwyd pam cafodd y ffigur hwn ei fenthyg er bod aelodau etholedig wedi cael gwybod yn y gorffennol bod y cyfanswm hwn ar gael o fewn y cronfeydd presennol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod hwn yn gysylltiedig â llif arian, a byddai'n gallu darparu esboniad manwl yn ystod ystyried Eitem 11. 

 

Gofynnwyd a oedd swyddogion yn hyderus y byddent yn sicrhau derbyniadau cyfalaf yn yr hinsawdd ariannol bresennol, wrth ystyried mai 75% yn unig o darged 2015/16 a oedd wedi'i gyrraedd. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau er bod ansicrwydd ar hyn o bryd, nid oedd yr un ymrwymiad cyfreithiol o ran y rhaglen gyfalaf y tu hwnt i flwyddyn ariannol 2016/17. Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Adfywio a Pholisi) er bod y banciau'n parhau i fenthyg i ddatblygwyr, roedd llawer hyd at y cyfnod hwn wedi edrych am gymorth ariannol gan awdurdodau lleol a chyllid gan yr UE. Dywedodd y Pennaeth Eiddo wrth y Pwyllgor, er nad oedd targed y flwyddyn flaenorol wedi'i gyrraedd, ar gyfartaledd dros y blynyddoedd diwethaf roedd lefel y derbyniadau cyfalaf mewn gwirionedd yn uwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cost posibl cynnal hen adeiladau'r Cyngor, dywedodd y Pennaeth Eiddo wrth y Pwyllgor fod cynllunio rheoli asedau yn waith parhaus a byddai'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol newydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Er bod yr Awdurdod yn cadw nifer o adeiladau h?n, roedd rhaglen gynnal a chadw parhaus ar waith i sicrhau bod adeiladwaith a strwythur yr adeiladau hyn yn cael eu cynnal. Roedd gwaith gwelliant, er enghraifft, wedi cael ei gwblhau yn ddiweddar yn Nh? Elwyn, Llanelli ac roedd gwaith ar fin dechrau ar Adeiladau'r Cyngor yn Llandeilo. Roedd y swyddogion hefyd yn monitro defnydd swyddfeydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithlon o gyfleusterau swyddfa ledled y Sir.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fuddion cymunedol a fyddai o bosibl yn cael eu darparu fel rhan o'r ymarferion caffael. Dywedodd y Pennaeth Archwilio, Risg a Chaffael wrth y Pwyllgor fod swyddogion yn ceisio canfod y manylion o ran buddion cymunedol gan y cyflenwr neu'r darparwr fel rhan o'r ymarferion caffael, boed o dan neu dros £1  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2015/16 pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod blwyddyn ariannol 2015-2016 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2015/16 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 24 Chwefror 2015.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at yr £20 miliwn a gafodd ei fenthyg yn ystod blwyddyn ariannol 2015/16 er mwyn cefnogi'r rhaglen gyfalaf. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod amseru'r benthyciad yn gysylltiedig â llif arian a chyfraddau'r farchnad yn hytrach na phryd cafodd yr arian ei wario yn ystod y flwyddyn gan yr Awdurdod. Atgoffodd y Pwyllgor fod yr Awdurdod heb fenthyg yn sylweddol ers nifer o flynyddoedd oherwydd bod cyllid mewnol ar gael fel ffynhonnell gyllid tymor byr. Roedd hyn wedi arbed arian i'r Awdurdod o ran taliadau llog. Y Gofyniad Cyllid Cyfalaf presennol (sef y terfyn benthyca) oedd £454 miliwn. Fodd bynnag, oherwydd y llif arian ac argaeledd cronfeydd yn ystod 2015/16, roedd y benthyg cryn dipyn yn is sef £376 miliwn, ac o ganlyniad ar ddiwedd y flwyddyn, roedd yr Awdurdod yn defnyddio £78 miliwn o fenthyciadau mewnol. Wrth i'r Awdurdod gymhwyso'r cronfeydd wrth gefn i'r rhaglen gyfalaf dros y blynyddoedd i ddod, byddai'r benthyciadau mewnol yn lleihau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor y dylanwadwyd ar y penderfyniadau o ran pryd y byddai'r benthyciadau'n digwydd yn ystod y flwyddyn gan yr angen am lif arian, y gyfradd llog ar yr adeg honno a'r symudiadau o ran cyfraddau a ragwelir yn y dyfodol. Yn ystod 2015/16 penderfynwyd mai'r gyfradd llog a oedd yn berthnasol ar 28 Medi 2015 oedd y gyfradd orau o ran tynnu i lawr yr angen disgwyliedig o fewn y flwyddyn. Tynnwyd i lawr pedwar benthyciad unigol, yn hytrach nag un benthyciad, ar y diwrnod hwnnw er mwyn cynorthwyo i sefydlogi'r proffil aeddfedrwydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

12.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.