Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Iau, 20fed Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.T. Evans, B.A.L. Roberts a J.Williams.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith na fyddai’r Cynghorwyr T.T. Defis, D.J.R. Llewellyn, J. Williams a J.S. Williams yn dychwelyd ar ôl yr etholiad. Diolchodd iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Cofnod Rhif 5 – Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2017-20

 

 

Mae ei ferch yn gweithio ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol a'i wraig yn gweithio gyda'r GIG.

 

 

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRAN CYMUNEDAU: GYNLLUN BUSNES YR ADRAN AM 2017-2020 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  NODER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd blaenoriaethau’r adran o ran yr elfennau gofal cymdeithasol ac iechyd sy’n rhan o Gynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2017-20

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr anawsterau a oedd yn wynebu staff wrth i’r gyllideb barhau i ostwng ac wrth i’r galw barhau i gynyddu, mynegwyd diolch a llongyfarchiadau i’r swyddogion am yr holl waith yr oeddent yn ei wneud i bobl Sir Gaerfyrddin;

·         Gofynnwyd beth oedd yr heriau mwyaf a oedd yn wynebu’r adran o ran gofal cymdeithasol ac iechyd. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd mai un o’r heriau oedd y galw a’r newidiadau yn y galw hwnnw, fodd bynnag, un o’r heriau mwyaf yw’r gweithlu. Cyfeiriodd at y ffaith fod 900 o ofalwyr â thâl yn gadael y sector gofal bob dydd, ac felly roedd yn hanfodol sicrhau bod ganddynt weithlu profiadol sydd wedi’i hyfforddi ac yn barod ar gyfer y gwaith. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o sicrhau bod gofal yn cael ei ystyried yn broffesiwn gwerthfawr a gwerth chweil;

·         Cyfeiriwyd at nifer y gwobrau yr oedd staff gofal cymdeithasol yr Awdurdod wedi’u hennill yn ystod Gwobrau Cymru Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain ym mis Hydref, a rhoddwyd llongyfarchiadau i’r staff am eu llwyddiannau a diolchwyd iddynt am eu hymroddiad a’u hymrwymiad.

 

PENDERFYNWYD  YN UNFRYDOL bod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2017-20 yn cael ei dderbyn.

 

 

6.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar y cynnydd a oedd wedi cael ei wneud o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu

 

PENDERFYNWYD  derbyn yr adroddiad.

 

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a fanylai ar y rhesymau dros beidio â chyflwyno dau adroddiad i'r pwyllgor craffu:-

 

-  Cynllun Gweithredu Lleol mewn ymateb i Adroddiad Jasmine (gan gynnwys Gweithdrefnau Pryderon Cynyddol Llywodraeth Cymru)

-  Yr Iaith Gymraeg mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl h?n

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

 

 

8.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD 6ED MAWRTH 2017 pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2017, gan eu bod yn gywir.