Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 25ain Ionawr, 2017 10.30 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Owen.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

 Rhifau Cofnod 6, 7 ac 8

 

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae ei wraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman.

 

 

Y Cynghorydd E. Morgan

 

 

Rhifau Cofnod  6, 7 ac 8

 

 

Mae ei ferch yn nyrs staff.

 

 

Y Cynghorydd B.A.L. Roberts

 

 

Rhifau Cofnod  6, 7 ac 8

 

Mae ei merch yn ymwelydd iechyd.

 

Y Cynghorydd G. Thomas

 

 

Rhif Cofnod 6

 

Mae ei g?r yn gyrru i Geir Cefn Gwlad.

 

 

Y Cynghorydd J. Williams

 

Rhifau Cofnod  6, 7 ac 8

 

Mae'n ofalwr di-dâl i'w g?r.

 

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 6 Mawrth, 2017.

6.

CYNLLUN HENEIDDIO'N DDA SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Cynllun Heneiddio'n Dda Sir Gaerfyrddin. Eglurwyd bod y Cyngor, fel un o lofnodwyr Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed, wedi ymrwymo yn 2014 i lunio Cynllun Heneiddio'n Dda a bod ar y Comisiwn ar gyfer Pobl H?n angen Adroddiad Blynyddol.  Y nod cyffredinol oedd manteisio i'r eithaf ar allu cymunedau i helpu pobl h?n i fyw'n annibynnol.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi, Ymgynghori ac Ymgysylltu fod yr Adroddiad Blynyddol yn dangos perfformiad y Cyngor o ran y pum prif flaenoriaeth: Cymunedau sy'n Ystyriol o Bobl H?n, Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia, Atal Codymau, Cyfleoedd am Waith a Sgiliau Newydd, ac Unigedd ac Unigrwydd. Nodwyd ei bod yn bwysig fod y Cyngor yn newid y ffordd roedd gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu er mwyn sicrhau y gallai pobl, wrth i nifer y bobl h?n yn Sir Gaerfyrddin barhau i gynyddu, fwynhau iechyd da a bod yn rhan o fywyd eu teuluoedd a'u cymunedau i'r graddau mwyaf posibl. Eglurwyd bod ystod ehangach o fesurau yn cael eu hystyried yr oedd angen ymyriadau ar lefel is ar eu cyfer i sicrhau cynaliadwyedd.

 

Dywedwyd bod llawer o waith wedi ei wneud i ddatblygu cymunedau sy'n cefnogi pobl â dementia ac roedd y ffaith mai marchnad Llanelli oedd yr un gyntaf yng Nghymru i gefnogi pobl â dementia yn enghraifft dda o hyn. Hefyd roedd cryn waith wedi ei wneud o ran atal codymau ac enghraifft o hyn oedd Cynllun SAVE ar draws partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a oedd yn fenter gwneud i bob cysylltiad gyfrif. Roedd y Cynllun yn darparu hyfforddiant i bartneriaid fel y gallent glustnodi ble y gallai gwasanaethau atal fod yn ofynnol pan oeddent mewn cysylltiad â thrigolion. Dywedwyd bod unigedd ac unigrwydd yn 'lladdwr tawel' ac roedd gweithgareddau a oedd o fudd i drigolion a chymunedau wedi cael eu cyflwyno.  Er enghraifft, annog ffyrdd o fyw egnïol, gwirfoddoli a chonsesiynau theatr.

 

Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch diffyg trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd mewn ardaloedd gwledig a chost defnyddio dulliau eraill o drafnidiaeth er mwyn mynd i ysbytai a chyfleusterau eraill, yn enwedig os oedd pobl wedi cael eu hatgyfeirio yno. Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig a oedd problemau ynghylch mynediad i ofal sylfaenol wedi cael eu codi gyda'r Cyngor Iechyd Cymuned. Cynigiwyd a chytunwyd gan y Pwyllgor fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn cael gwahoddiad i gyfarfod yn y dyfodol i drafod materion o'r fath.

 

Dywedwyd nad oedd cynlluniau trafnidiaeth, megis Ceir Cefn Gwlad, ar gael ym mhob rhan o'r sir. Nododd y Pwyllgor y dylai Ceir Cefn Gwlad gael ei hysbysebu'n fwy er mwyn recriwtio rhagor o yrwyr gwirfoddol ac annog pobl i ddefnyddio'r cynllun er mwyn iddo ehangu. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai'n rhaid sicrhau bod capasiti i ateb cynnydd yn y galw cyn hysbysebu rhagor ar y cynllun. Awgrymwyd, pan fyddai'r gwasanaeth mewn sefyllfa i gynyddu hysbysebu, y byddai'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn blatfform delfrydol ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

GWELLA CYMORTH DEMENTIA YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 380 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad cynnydd ynghylch Gwella'r Gwasanaethau Cymorth Dementia yn Sir Gaerfyrddin. Soniwyd wrth yr aelodau am yr argymhellion cenedlaethol roedd y Comisiynydd Pobl H?n wedi eu cyhoeddi ynghylch gwelliannau roedd angen eu gwneud i'r gwasanaethau dementia, y gr?p llywio rhanbarthol oedd wedi ei sefydlu i roi'r gwelliannau hyn ar waith, a'r cynnydd a'r camau a gymerwyd ar lefel leol i ymateb i'r argymhellion hyn. 

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y cyhoeddiad cenedlaethol diweddar gan Gomisiynydd Pobl H?n Cymru o'r enw 'Mwy na dim ond colli'r cof', a oedd yn nodi'r hyn oedd yn bwysig i bobl oedd yn byw â dementia a'u gofalwyr o bob cwr o Gymru.  Roedd yr adroddiad yn nodi bod angen cymorth cyson ar bobl, a oedd yn cynnwys cymorth emosiynol yn ogystal â chorfforol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am ddatblygiad Bwrdd Gweithredu Dementia Sir Gaerfyrddin a rhoddwyd amlinelliad bras iddo o'r gwaith oedd wedi cael ei wneud yn lleol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia a gefnogai'r mudiad cenedlaethol ac a anelai at wella ymateb cymdeithas i bobl sydd â dementia. Dywedwyd mai Pontyberem oedd y gymuned ddementia swyddogol gyntaf yn Sir Gaerfyrddin, ac mai marchnad Llanelli oedd y farchnad gyntaf yng Nghymru i gefnogi dementia.

 

Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda'r sector gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau dementia cyfannol. Soniodd swyddogion fod clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth yn parhau i gyllido'r gwasanaeth cof cymunedol, a oedd wedi'i gydnabod yn genedlaethol yn arfer da.  Nodwyd bod Meddygon Teulu yn Llanelli, gyda chefnogaeth y Tîm Cymunedol, yn diagnosio dementia yn y meddygfeydd, a oedd yn atal yr angen am atgyfeirio cleifion i ysbytai ac yn arwain at ddiagnosis mwy amserol. Hefyd roedd cynnydd wedi ei wneud o ran gwaith ar Gomisiynu er mwyn ymchwilio i gyfleoedd i ddatblygu model gofal a chymorth pwrpasol ar gyfer y rheiny oedd yn byw â dementia a nam gwybyddol. Byddai'r model yn ymagwedd fwy hyblyg na'r model gofal cartref traddodiadol ac yn diwallu'n well anghenion yr unigol yn ogystal ag arbed arian ac adnoddau.

 

Dywedodd yr aelodau fod peth o'r gwaith oedd yn cael ei wneud o ran gwasanaethau dementia wedi bod yn rhagorol. Yn benodol, crybwyllwyd cyfleuster iechyd a llesiant T? Golau a dywedwyd ei bod yn gadarnhaol gweld Meddygon Teulu yn cefnogi mentrau buddiol o'r fath.
 

Nododd y Pwyllgor fod y cyfraddau diagnosio dementia yn isel ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gofynnwyd a oedd hyn oherwydd bod gan lai o bobl yn yr ardal ddementia neu oherwydd bod y Bwrdd Iechyd ddim yn perfformio cystal ag ardaloedd eraill o ran ei ddiagnosio.  Eglurodd swyddogion mai ffigurau Cymdeithas Alzheimer's oedd y rhain a'u bod wedi eu seilio ar wybodaeth am boblogaeth. Fodd bynnag, nid oedd yn wyddor fanwl. Roedd canfyddiadau Cymdeithas Alzheimer's a dadansoddiad y Bwrdd Iechyd ei hun yn awgrymu efallai fod tanberfformio o ran diagnosisau ffurfiol. Yn ogystal â'r cyfraddau isel, eglurwyd bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

GWASANAETH GWYBODAETH, CYNGOR A CHYMORTH pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru am y Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sy'n cael eu darparu gan y Cyngor ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â'r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am y datganiad sefyllfa presennol o ran y cynnydd ynghylch datblygu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Sir Gaerfyrddin. Yn benodol, darparu un pwynt mynediad i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a'r Gwasanaethau Tai. Dywedodd swyddogion fod amryw bwyntiau mynediad i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod ystyriaeth wedi'i rhoi i'r ffordd orau o'u tynnu oll ynghyd i greu un pwynt mynediad. Dywedwyd y byddai hyn yn helpu â'r agenda ymyrraeth gynnar.

 

Nodwyd bod gan Sir Gaerfyrddin wasanaeth Llinell Gofal a oedd wedi'i sefydlu ers tro byd, ac a oedd yn ymdrin â llawer o bobl agored i niwed, 24 awr y dydd a saith niwrnod yr wythnos. Roedd ymgynghori wedi digwydd â staff ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ynghylch sut oedd datblygu'r gwasanaeth Llinell Gofal i fod yn Wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Roedd sicrhau cynaliadwyedd a chyrraedd Safonau'r Gymraeg wedi bod yn bwysig. Dywedwyd bod 85% o'r gweithwyr yn y Gwasanaeth bellach yn siarad Cymraeg (o leiaf lefel 3). Roedd cynllun hyfforddiant mwy strwythuredig wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y Tîm a oedd yn ei alluogi i gymhwyso hyd at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor. Hefyd roedd hyfforddiant un i un a chymorth gan gyfoedion i alluogi staff i uwchsgilio'n gyflym ac roedd ymarferwyr amlddisgyblaeth yn yr ystafell gyda'r tîm i roi cyngor. Bellach roedd dilyniant gyrfa yn bosibl i aelodau'r tîm, ac roedd hwnnw wedi'i groesawu.  Dywedwyd bod y Gwasanaeth wedi cael ei symud i safle newydd ym Mhorth y Dwyrain yn Llanelli, a bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran ei ddatblygu.

 

Roedd y Gwasanaeth wedi cychwyn ar y cam prawf cysyniad i sicrhau y gallai ddiwallu anghenion pobl ac roedd yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd yn y cam hwn i ddarparu pwynt mynediad pendant ar gyfer holl ymholiadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd y byddai'r Gwasanaeth Cymorth, Cyngor a Chefnogaeth yn rhan o'r rhif cyswllt 111 newydd oedd yn cael ei dreialu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.   Soniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd wrth y pwyllgor faint o waith oedd wedi cael ei wneud i ddatblygu'r gwasanaeth hwn.

 

Dywedodd yr aelodau oedd wedi defnyddio'r Gwasanaeth Llinell Gofal o'r blaen ei fod wastad wedi bod yn wasanaeth da ac mai newyddion cadarnhaol oedd ei fod yn cael ei ddatblygu ymhellach. Dywedodd y Pwyllgor mai peth buddiol o bryd i'w gilydd oedd cynnal ymarferiad siopwr cudd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth oedd yn cael ei darparu i ddefnyddwyr gwasanaeth yn gywir a bod llwybrau clir ar gyfer cyrchu'r wybodaeth ofynnol. Rhoddodd y swyddogion ystyriaeth i'r sylwadau hyn a nodi eu bod ar hyn o bryd yn sicrhau bod y Gwasanaeth yn gadarn cyn ei farchnata. Bu i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ddiweddariad arall i'r Pwyllgor am gamau penodol roedd yr Aelodau wedi gwneud cais am hynny'n flaenorol.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod ymweliad â Chynllun Gofal Ychwanegol T? Dyffryn wedi cael ei drefnu ar gyfer 7 Chwefror 2017 a byddai manylion pellach am y trefniadau yn cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno pum adroddiad a fyddai'n cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y dyfodol. Nodwyd y byddai diweddariad am brosiect ARCH yng nghyfarfod y Cyngor oedd wedi'i drefnu ar gyfer y prynhawn hwnnw. Hysbyswyd y Pwyllgor gan Bennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu maes o law.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

11.

COFNODION - 17 TACHWEDD 2016 pdf eicon PDF 289 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 17 Tachwedd, 2016, gan eu bod yn gywir.

12.

COFNODION - 12 RHAGFYR, 2016 pdf eicon PDF 248 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 12 Rhagfyr, 2016, gan eu bod yn gywir.