Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwydymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies, D.J.R. Llewellyn ac E.G. Thomas.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod David Eldred, Cyfrifydd y Gr?p, yn ymddeol ac mai dyma fyddai ei gyfarfod olaf o’r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei holl waith a dymuno’n dda iddo i’r dyfodol ar ran y Pwyllgor.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Lesley Roberts, y Rheolwr Ardal ar gyfer Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a oedd yn sylwedydd yn y cyfarfod.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Cynghorydd

Rhif(au) Cofnodion

Natur y buddiant

 

Cynghorydd K. Madge

 

 

Cofnodion rhifau 6, 7, 8 a 9

 

Merch yn gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman

 

 

Cynghorydd E. Morgan

 

 

Cofnodion rhifau 6, 7, 8 a 9

 

 

Merch yn nyrs staff

 

 

Cynghorydd B.A.L. Roberts

 

 

Cofnodion rhifau 6, 7, 8 a 9

 

Merch yn ymwelydd iechyd

 

Cynghorydd J. Williams

 

Cofnodion rhifau 6, 7, 8 a 9

 

Mae’n ofalwr di-dâl am ei g?r

 

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a fyddai’n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 25ain Ionawr 2017.

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Ymgynghoriad ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017/18 hyd 2019/20 a’r cynigion ar gyfer darparu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd gwasanaeth sydd yng nghwmpas y Pwyllgor a’r crynhoad o daliadau. Nodwyd y cynhaliwyd seminarau i’r Aelodau ar brif gynigion y gyllideb.

 

Esboniodd y swyddogion y gofynnwyd i’r adrannau ddarparu arbedion a fyddai’n cael effaith sylweddol ar wasanaethau. Esboniwyd y bu’r setliad dros dro a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref yn fwy cadarnhaol na’r disgwyl, ac y bu’n niwtral o ran arian parod. Er hyn, byddai’n dal i gael effaith yn sgil pwysau chwyddiant, newidiadau demograffig a’r galw am wasanaethau. Rhoddwyd amlinelliad i’r Pwyllgor o’r cynigion penodol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a chydnabuwyd bod y mwyafrif o’r pwysau cynyddol yn dueddol o fod yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nododd y Pwyllgor mai dyhead yw cynigion y gyllideb a gallai fod yn anodd i rai meysydd gwasanaeth aros oddi mewn i gyfyngiadau’r gyllideb. Pwysleisiwyd bod mwy o bwysau yn cael ei roi ar Wasanaethau Cymdeithasol a theimlwyd nad oedd hyn yn cael ei gydnabod gan y llywodraeth genedlaethol.

 

Holoddyr aelodau yngl?n â Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a’r hyn oedd i’w ddisgwyl gan y Cyngor o ran gwneud penderfyniadau. Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai’r bwriad oedd i’r Cyngor geisio sicrhau na fyddai ei benderfyniadau yn cael effaith andwyol ar y dyfodol. Ehangodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ar hyn a phwysleisio nad oedd modd ei ystyried ar wahân i Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2016, a ddarparai’r fframwaith ar gyfer newidiadau tymor byr a allai helpu i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y tymor hwy.

 

Mynegwydpryderon yngl?n â’r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd i leihau’r pecynnau gofal ymdriniaeth ddwbl presennol a sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch staff a defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu hateb. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig bod cyfran y pecynnau cymorth ymdriniaeth ddwbl yn uchel yn Sir Gaerfyrddin ac yr ymgymerir yn ddiogel â’r mentrau a gynigir. Roedd y cynigion wedi’u llunio ar sail tystiolaeth ac ni chawsant eu herio gan ddefnyddwyr gwasanaethau.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor y cynnig ar gyfer gofal cartref a lleihau nifer y pecynnau gofal o lai na 5 awr, a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am sut y câi hyn ei gyflawni. Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y cynigion yn seiliedig ar archwiliad a gynhaliwyd ar becynnau gofal. Esboniwyd bod y gwasanaeth eisiau sicrhau bod pecynnau yn caniatáu ailalluogi a byddai’r swyddogion yn herio partneriaid, felly roedd opsiynau arloesol ar gael. Rhoddwyd tawelwch meddwl i’r Pwyllgor wrth ddweud bod pecynnau yn cael eu hystyried fesul achos ac na châi’r defnyddwyr gwasanaethau eu peryglu. Cytunwyd y câi gwybodaeth yr archwiliad ei chyflwyno i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Holoddyr aelodau yngl?n â’r arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas ag Anableddau Dysgu a llety â chymorth a mynegwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2017/18 - 2021/22 pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Gyfalaf Pum Mlynedd 2017/18 – 21/22 fel rhan o’r ymgynghoriad ar y gyllideb gan ystyried y prosiectau sy’n ymwneud â’i feysydd gwasanaeth. Nodwyd y byddai adborth o’r broses ymgynghori yn cyfarwyddo’r adroddiad terfynol ar y gyllideb sydd i’w gyflwyno i’r Aelodau ym mis Chwefror 2017.

 

Pwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai un o’r prif brosiectau oedd Adolygiad Ardal Llanelli a bod £7m yn dal i fod wedi’i glustnodi ar gyfer y prosiect hwn. Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am gynnydd ar y prosiect hwn ac yn benodol pryd y câi’r cartref gofal newydd ei adeiladu. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig nad oedd unrhyw gynigion pendant wedi’u cytuno a bod cais am ragor o wybodaeth ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor fel rhan o ddiweddariad prosiect ARCH.

 

Mynegwyd pryder yngl?n â chartrefi preswyl presennol yn ardal Llanelli a oedd yn dirywio a bod angen buddsoddiad i’w moderneiddio. Gofynnwyd a fyddid yn mynd i’r afael â hyn. Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod £3m wedi’i ddyrannu i gronfa flaenoriaeth a bod cynnal a chadw yn rhan o gwmpas y gronfa hon. Er hyn, nid oedd y Cyngor eisiau dyblygu gwaith a fyddai’n rhan o brosiect ARCH a châi blaenoriaethau eu pennu gan y cynigion sydd i ddod. Hysbyswyd y Pwyllgor hefyd gan yr Aelod Gweithredol o’r Bwrdd dos Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod adolygiad ar y gweill o gartrefi preswyl i nodi ba fuddsoddiad sydd ei angen a byddai adroddiad ar yr adolygiad yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnig arian ar gyfer Canolfan Hamdden Llanelli ac esboniodd y swyddogion fod hyn hefyd yn ddibynnol ar fwrw ymlaen ag Adolygiad Ardal Llanelli. Rhoddwyd eglurhad hefyd yngl?n â datblygu safle newydd i Ysgol Dewi Sant a hysbyswyd y Pwyllgor bod ymgynghoriad ar y gweill yngl?n â dewis safle.

 

Holodd yr Aelodau a allai rhai sy’n derbyn Grant Cyfleusterau i’r Anabl, yn arbennig rhai mewn ardaloedd gwledig, ddefnyddio eu hadeiladwyr eu hunain i ymgymryd â’r gwaith yn hytrach na bod y Cyngor yn penodi adeiladwr. Cytunwyd y câi’r cwestiwn ei gyfeirio i’r Adran Dai.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn unfrydol.

8.

CRYNODEB O GYNLLUN BUSNES YR ADRAN CYMUNEDAU pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Grynodeb o Gynllun Busnes Adrannol Cymunedau 2017-20 a’r diweddaraf ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a osodwyd yng nghynllun busnes y llynedd. Nodwyd y câi’r cynllun busnes llawn ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ebrill 2017.

 

Nododd y Pwyllgor fod holiaduron arolwg bodlonrwydd Defnyddwyr Gwasanaethau wedi’i oedi hyd y gellir ei ragweld a gofynnwyd pam felly. Esboniodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau fod y wybodaeth hon yn anghywir a bod arolwg wedi’i gynnal fel rhan o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Câi’r canlyniadau eu hadrodd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am elfen Cynhwysiant Cymunedol y Cynllun ac am ddatblygu model i ddisodli Cyfleoedd Go Iawn i gydweddu â datblygiadau lleol eraill, gan gynnwys rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a datblygiadau’r Gwasanaeth Ieuenctid. Nodwyd y teimlai’r Aelodau nad oedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn targedu pobl ifanc yn ddigon ifanc. Pwysleisiodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau bod arian ychwanegol a ddeilliai o brosiect Cynnydd a fyddai’n cynorthwyo i dargedu pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yn gynharach.

 

Holwyd beth oedd diben cynyddu cydweithfeydd dan gyfarwyddyd y dinesydd yn hytrach na defnyddio partneriaid eraill. Esboniodd Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu bod hyn yn gysylltiedig â’r newidiadau i’r modd y caiff Grant Byw’n Annibynnol Cymru ei ddarparu a chyfleoedd i ddefnyddio’r grant mewn ffyrdd gwahanol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn unfrydol.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH DIOGELU OEDOLION (2015-16) pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion (2015-16), a oedd yn berthnasol i’r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac a roddai grynodeb o’r cyd-destun polisi cenedlaethol a goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyflwynwyd yr Uwch Reolwr Diogelu newydd gan Bennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, a diolchodd i Uwch Reolwr Gwasanaethau Iechyd ac Anableddau Dysgu am ymgymryd â’r rôl dros dro.

 

Cafodd y materion allweddol yn yr adroddiad eu pwysleisio wrth yr Aelodau ac esboniwyd mai dyma’r adroddiad diwethaf gan Fwrdd Diogelu Oedolion Sir Gaerfyrddin, gan y bu i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sefydlu Bwrdd Rhanbarthol. Nodwyd bod y Bwrdd Rhanbarthol ar hyn o bryd wedi’i gadeirio gan Gyfarwyddwr Cyngor Sir Powys ac mai Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r partner arweiniol ar gyfer Diogelu Oedolion. Bu blwyddyn ariannol 2015/16 yn flwyddyn bontio ar gyfer gweithredu’r Ddeddf newydd ac awgrymwyd cynnal Seminar i’r Aelodau oll i ystyried y Ddeddf ymhen blwyddyn a pha gynnydd a wnaed. Cytunai’r Pwyllgor y byddai hyn yn fuddiol ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai 2017 fel bod modd i’r Aelodau newydd dderbyn y wybodaeth hon hefyd a gofynnwyd iddo gael ei gynnal ym mis Mehefin 2017.

 

Pwysleisiodd Uwch Reolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu y prif feysydd ar gyfer diogelu grwpiau penodol, fel pobl h?n mewn cartrefi gofal. Hysbyswyd y Pwyllgor o Adroddiad Flynn, “Chwilio am Atebolrwydd” yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog i Operation Jasmine (ymchwiliad i achosion honedig o gam-drin pobl h?n mewn cartrefi gofal). O ganlyniad i hyn, roedd gofyn i’r Bwrdd Rhanbarthol ddatblygu datganiad sefyllfa a chynllun gweithredu a chynnydd yn erbyn y Cynllun.

 

Darparwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor am drefniadau gweithredol ac astudiaethau achos yngl?n â sut mae’r Tîm Diogelu yn ymdrin ag atgyfeiriadau. Roedd y wybodaeth am berfformiad yn dangos mai’r prif gategori o gleientiaid o ran atgyfeiriadau diogelu oedolion oedd pobl dros 65 oed a’r lle mwyaf tebygol i achosion honedig o gam-drin ddigwydd oedd mewn cartrefi gofal. O ran y math o gamdriniaeth, esgeulustod oedd y prif gategori. Nodwyd mai haws oedd nodi materion mewn cartrefi gofal na phan fo pobl yn eu cartrefi eu hunain, gan fod gweithwyr proffesiynol a theuluoedd yn ymweld. Pwysleisiwyd bod 152 o atgyfeiriadau wedi arwain at ymchwiliadau yn 2015/16 a bod y nifer yn tueddu i gynyddu’n flynyddol. Roedd y duedd hon, a’r ffaith bod y trothwy ar gyfer diogelu oedolion wedi gostwng, yn golygu bod y Tîm yn derbyn rhagor o atgyfeiriadau. Mynegodd y Pwyllgor bryderon mai tîm diogelu bach sydd i ymdrin ag atgyfeiriadau a gofynnwyd a fyddai’r tîm hwn yn cael ei gynyddu. Cadarnhaodd y swyddogion eu bod wedi herio’r Cyngor i ystyried cynyddu’r garfan o swyddogion ymchwilio a phwysleisiwyd bod diogelu o bwys i bawb. Nododd y Pwyllgor y dylid sicrhau bod arian ychwanegol ar gael gan y Llywodraeth Genedlaethol i weithredu’r ddeddfwriaeth newydd.

 

Holodd y Pwyllgor yngl?n â chanlyniadau Sir Gaerfyrddin a ph’un a fu unrhyw erlyniadau yn ystod 2015/16 yn dilyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau