Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a B.A.L. Roberts.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

4 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 - 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2021/22 (1 EBRILL I 30 FEDI 2021) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN. pdf eicon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Chwarter 2. Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig  â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant fel roedd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2021/22.

 

Nododd y Pwyllgor mai 2021/2022 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Awdurdod yn hunanarfarnu ac yn adrodd ar hynny, o dan delerau Deddf newydd Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 o'r Ddeddf ar Berfformiad a Llywodraethu.

 

Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylw'r pwyllgor at y ddau amcan nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed.

·         Amcan Llesiant 13 – Gwell Llywodraethu a Defnyddio Adnoddau yn well – roedd oedi wrth gyflwyno system eclipse hyd at fis Mawrth wedi effeithio ar y gwaith hwn.

·         Amcan Llesiant 07 – Helpu pobl i fyw bywydau iach – roedd cyfyngiadau covid wedi cael effaith ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), ond roedd y sefyllfa wedi gwella ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·         Mynegwyd pryder cymaint o ordewdra oedd yn bodoli ymhlith plant a sut roedd yr ymyriadau a'r cynlluniau atgyfeirio fel pe baent yn methu.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Cynllun Cenedlaethol i Wneud Ymarfer Corff yn rhad ac am ddim i bawb oedd yn rhan ohono. Roedd y cynllun ar gael i oedolion yn dilyn atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol fel meddyg teulu.  Roedd y cynllun wedi'i dargedu at yr unigolion h?n a mwy bregus.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod gan ysgolion fentrau amrywiol megis rhaglenni bwyta'n iach, clybiau brecwast a cherdded milltir bob dydd i helpu i leihau gordewdra ymhlith plant.

·         Gofynnwyd a oedd ffigurau a/neu dystiolaeth anecdotaidd ar gael ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas ag Amcan Llesiant 8 - Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch.

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd ganddo'r ffigurau uniongyrchol, ond byddai'r rhain yn cael eu darparu i'r pwyllgor yn ddiweddarach.  Cadarnhawyd bod ceisiadau gwasanaeth o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu ers llacio cyfyngiadau covid.  Nodwyd nad oedd unrhyw broblemau o sylwedd yn Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag, roedd y Tîm Cydlyniant Cymunedol yn monitro'r sefyllfa'n ddyddiol.

·         Mewn perthynas ag Amcan Llesiant 9 Cefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny, gofynnwyd a oedd dulliau ar waith i fonitro a oedd pobl yn hawlio'r budd-daliadau roedd ganddynt hawl iddynt.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod Llesiant Delta yn gweithio gydag unigolion ac yn eu cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol i gael cyngor ar fudd-daliadau.

·         Mynegwyd pryder ynghylch adennill dyledion sy'n weddill a'r effaith byddai hyn yn ei chael ar unigolion a oedd eisoes yn dioddef caledi ariannol.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn destun prawf modd er mwyn penderfynu faint y gallai unigolyn fforddio ei dalu.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd y tâl a godwyd ar neb tu hwnt i'r paramedrau cenedlaethol, ac ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Diweddariad Iechyd Meddwl

·         Gwasanaethau a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc

 

Mynegwyd pryder ynghylch peidio â chyflwyno'r Diweddariad Iechyd Meddwl ac ynghylch faint o adroddiadau oedd heb eu cyflwyno yn gyffredinol. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2022.

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN TACHWEDD, 2021 pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 29ain Tachwedd, 2021 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau