Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Gadd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Cafwydymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.A.L. Roberts ac E.G. Thomas.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelod newydd o’r Pwyllgor, y Cynghorydd Jeff Owen, a’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd newydd, Catherine Gadd, i’w cyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Councillor

Minute No(s)

Nature of Interest

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Cofnodion 7, 8, 9 a 10

 

Mae ei ferch yn gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae ei wraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman

 

 

Y Cynghorydd E. Morgan

 

 

Cofnodion 7, 8, 9 a 10

 

 

Mae ei ferch yn nyrs staff

 

 

Y Cynghorydd J. Williams

 

Cofnodion 7, 8, 9  a 10

 

 

Mae hi’n ofalwr di-dâl am ei g?r

 

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a fyddai’n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf oedd i’w gynnal ar ddydd Llun 12 Rhagfyr 2016.

6.

MENTRAU'R ADAIN SAFONAU MASNACHU I DDIOGELU DINASYDDION OEDRANNUS AC AGORED I NIWED pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a chyflwyniad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd a datblygiad menter a oedd wedi’i bwriadu i gynnal a gwella ansawdd bywyd dinasyddion gartref a gwella gwydnwch cymunedau trwy leihau achosion o gamfanteisio ariannol ar oedolion agored i niwed.

 

Cafodd y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol ei greu fel cynllun amlasiantaeth a’i ddatblygu gan Adain Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin. Fe ymrwymodd sefydliadau/adrannau i’r cynllun cyfranogiad gwirfoddol dwyochrog hwn i gydweithio i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau diogelu ac atgyfeirio dioddefwyr camfanteisio ariannol. Nodwyd fod y cynllun yn cael ei gyllido ag arian a oedd wedi cael ei atafaelu oddi ar droseddwyr a’i fod wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am y gwaith a wnaed. Mae’r cynllun yn tanategu ac yn dwyn ynghyd bortffolio presennol Adain Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin o fesurau diogelu ymarferol, a amlinellwyd i’r Pwyllgor. Hefyd, darparwyd astudiaethau achos a oedd yn amlygu gwaith y cynllun. 

 

Gofynnwyd a fu llwyddiant o ran dod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol am redeg sgamiau ac a oeddent wedi cael eu herlyn. Eglurodd y Swyddog Arweiniol Safonau Masnach ei bod yn aml yn anodd dod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol, ond bod achosion yn cael eu llunio er mwyn eu herlyn lle bynnag yr oedd yn bosibl.

 

Nododd y Pwyllgor mai Barclays a Halifax oedd yr unig fanciau a oedd wedi ymrwymo’n swyddogol i’r Fenter Dyled ac Iechyd Meddwl a gofynnwyd pam nad oedd banciau eraill wedi gwneud. Rhoddodd y Swyddog wybod i’r Pwyllgor bod gan ganghennau lleol o fanciau eraill ddiddordeb a’u bod yn rhoi gwybodaeth iddynt yn anffurfiol am bryderon, ond bod yn rhaid i’r cytundeb swyddogol gael ei lofnodi gan bencadlysoedd a bod y rhain i’w gweld yn gyndyn.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y cynnydd mewn gwerthu ar drothwy’r drws a’r ffaith bod pobl h?n yn arbennig o agored i niwed oherwydd hyn. Gofynnwyd sut y gallai tasgmyn a garddwyr gofrestru i fod ar y rhestr gofrestredig a sut y gallai preswylwyr gael copi o’r rhestr. Cafodd y prosesau cofrestru eu hamlinellu, ac roeddent yn cynnwys gorfod cytuno i weithredu’n deg a chael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Roedd y Swyddog yn cydnabod bod angen hyrwyddo’r cynllun yn fwy ac eglurwyd y gallai pobl lawrlwytho’r rhestr o wefan y Cyngor neu ffonio’r ganolfan gyswllt er mwyn i gopi gael ei anfon atynt. Byddai gan y bobl gofrestredig gerdyn hefyd i dystio eu bod yn rhan o’r cynllun. Cadarnhawyd fod y Gwasanaeth yn rhan o gynllun tebyg a oedd yn cael ei gynnal gan y gwasanaeth Gofal a Thrwsio. Roedd y Pwyllgor yn cytuno y dylid gwneud gwaith pellach i roi cyhoeddusrwydd i’r Cynllun Tasgmyn a Garddwyr Cofrestredig a’i hyrwyddo yn ystod 2017. Roedd enghreifftiau o’r modd y gellid hyrwyddo’r cynllun yn cynnwys hysbysebu mewn papurau newydd lleol a chyda grwpiau 50 a throsodd.

 

Fe wnaeth Pennaeth Y Gwasanaethau Integredig amlygu’r fenter Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif a oedd yn bodoli. Roedd y fenter yn canolbwyntio ar bobl h?n a chamau gan wasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

GWASANAETHAU POBL HYN - GOFAL YCHWANEGOL pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a J. Williams oll wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad ar Ofal Ychwanegol gan y Gwasanaethau Pobl H?n, a oedd yn rhoi diweddariad ar y ddarpariaeth yn y Sir. Roedd pedwar cynllun yn y Sir ar hyn o bryd: Cartref Cynnes (Tref Ioan), T? Dyffryn (Rhydaman), Plas Y Môr (Porth Tywyn) a Chwm Aur (Llanybydder). Nodwyd mai mantais Gofal Ychwanegol oedd ei fod yn rhoi “cartref am oes” gan alluogi pobl h?n i barhau i fyw’n annibynnol ac atal yr angen i symud i fathau eraill o ofal pe bai asesiad yn dangos bod eu hanghenion wedi newid yn y dyfodol. Amlygwyd fod Cynlluniau Gofal Ychwanegol yn rhoi opsiwn arall i bobl a’u bod yn profi’n ddewis poblogaidd. Mae’r cynlluniau’n darparu cymunedau ffyniannus gan fod cymysgedd o bobl sy’n byw yn y lleoliadau. Nodwyd fod y cyfraddau meddiannaeth yn uchel ar gyfer tri o’r cynlluniau; fodd bynnag, yng Nghwm Aur yn Llanybydder cafwyd mwy o anhawster llenwi’r fflatiau.

 

Fe amlygodd y Pwyllgor mai 50 a throsodd oedd yr oedran ar gyfer cael mynediad at y cynllun a gofynnodd a oedd yr oedran hwn yn rhy ifanc. Eglurodd swyddogion fod y preswylwyr a oedd yn dewis yr opsiwn hwn yn yr ystod oedran honno’n tueddu i fod ag anableddau ac nad oeddent yn dymuno atal y gr?p yma rhag cael mynediad at y cynlluniau.

 

Roedd y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynllun a’r manteision cadarnhaol a oedd yn deillio ohono. Nodwyd nad oedd cynllun yn ardal Llanelli, sef yr ardal fwyaf yn y Sir. Nodwyd fod cynigion ar gyfer cynllun yn yr ardal; fodd bynnag, roedd wedi cymryd peth amser i’w ddatblygu a gofynnwyd am fwy o fanylion. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ei fod yn rhan o’r rhaglen ARCH ac y byddai trafodaethau cynnar yn digwydd gyda rhanddeiliaid lleol ynghylch datblygu cynllun yn Llanelli. Awgrymwyd fod y Rheolwr Rhaglen ar gyfer Prosiect ARCH yn cyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys graddfeydd amser, i gyfarfod y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr fel rhan o’r diweddariad ar y rhaglen ARCH. Amlygwyd fod y £7m a oedd wedi’i ddyrannu i’r Cynllun yn dal i fod wedi’i ddyrannu i’r prosiect.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch un o’r enwau a oedd yn cael eu hawgrymu, y niwrobentref, ar gyfer y cynllun yn ardal Llanelli. Cawsant eu sicrhau nad oedd yr enw’n opsiwn mwyach. Mynegwyd pryder hefyd fod safle Llynnoedd Delta a oedd yn cael ei awgrymu ar gyfer y cynllun hwn yn rhy ynysig. Nodwyd y byddai rhagor o wybodaeth ynghylch y safle arfaethedig a sut y byddai’n cael ei ddatblygu’n cael ei chynnwys yn y cyflwyniad yng nghyfarfod mis Ionawr.

 

Amlygwyd fod cynigion wedi bod am bwll hydrotherapi yn Llanelli a gofynnwyd pa gynnydd oedd wedi cael ei wneud gyda hyn. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod hwn yn dal yn opsiwn a bod trafodaethau cynnar wedi bod ynghylch y lleoliad gorau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

FFRAMWAITH COMISIYNU GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a J. Williams oll wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am drefniadau comisiynu’r Awdurdod ar gyfer gofal cartref a oedd yn nodi canfyddiadau adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o ofal cartref yng Nghymru (Hydref 2016). Roedd yr Awdurdod yn fodlon ar y modd yr oedd y contract a’r fanyleb gwasanaeth newydd yn cael eu gweithredu. Cyflwynwyd chwe elfen ac roedd llawer o’r rhain wedi cael eu hadnabod yn yr Adolygiad Cenedlaethol fel gwelliannau a awgrymir. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd yn rhan o’r ffordd newydd o weithio a chymeradwyaeth gan AGGCC yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i’r dull comisiynu a ddefnyddiwyd.

 

Roedd y Pwyllgor yn blês gyda’r adroddiad arolygu cadarnhaol a’r ffaith bod y Cyngor eisoes yn gweithredu’r gwelliannau a awgrymwyd yn yr adolygiad cenedlaethol. Gofynnwyd pa feysydd oedd wedi cael eu hadnabod ar gyfer y Cyngor fel y rhai yr oedd angen eu gwella a sut yr oedd y Cyngor yn ymdrin â’r rhain. Eglurodd swyddogion nad oeddent yn feysydd mawr i’w gwella a bod cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â hwy. Cytunwyd y byddai’r cynllun gweithredu’n cael ei gylchredeg i’r Pwyllgor er gwybodaeth.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Gwasanaeth wedi paratoi ar gyfer pwysau cynyddol dros gyfnod y gaeaf, er enghraifft sicrhau bod lefelau staffio digonol. Cadarnhawyd fod paratoadau wedi cael eu gwneud gyda chodiadau yn y cyllid ar gyfer gofal canolradd a bod cyfraddau blocio gwelyau wedi cael eu lleihau’n sylweddol. Hefyd, roedd y Gwasanaeth yn ystyried comisiynu gwelyau ychwanegol ar gyfer achosion camu i lawr a chamu i fyny. O ran staff ychwanegol eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig a’r Swyddog Contractau fod recriwtio’n her ar lefel genedlaethol a bod cadw staff bron â bod yn fwy o bryder. Roedd y Gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid ar strategaethau i ddatblygu llwybrau gyrfa fel cynllun hirdymor. Roeddent yn gweithio gyda cholegau ac ysgolion i hyrwyddo’r sector gofal fel gyrfa a nodwyd fod Prifysgol Abertawe yn ystyried rhedeg diploma mewn gofal iechyd. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi mentrau i gadw staff gofal gan fod parhad yn bwysig i bobl sy’n cael gofal.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gwelliannau wedi cael eu gwneud i gynorthwyo gofalwyr yn ei rolau. Eglurwyd fod mwy o hyblygrwydd bellach a bod gwelliannau wedi cael eu gwneud i waith amser a thasgau fel nad oedd staff wedi’u cyfyngu i amser a bod gan y defnyddiwr gwasanaethau fwy o reolaeth dros y math o gymorth y mae’n ei gael. Roedd amser teithio wedi cael ei ystyried hefyd. Nodwyd fod newid sylweddol wedi bod ac y byddai’n cymryd amser i ymwreiddio.

 

Gofynnwyd beth oedd ystyr y frawddeg “hold the ring across social Services, procurement and Finance departmants”. Eglurodd y Pennaeth Gofal Integredig ei fod yn golygu arwain y gwasanaethau hynny a gofynnwyd am newid y geiriad fel ei fod yn fwy dealladwy.

 

PENDERFYNWYD  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH IAITH GYMRAEG GOFAL CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a J. Williams oll wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd o ran gweithredu Fframwaith Strategol “Mwy Na Geiriau” Llywodraeth Cymru a gwybodaeth am y sefyllfa o ran casglu data ynghylch sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu gofal cymdeithasol.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig mai papur dros dro ydoedd gan fod data allweddol yn cael ei gasglu ac y byddai adroddiad manylach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2017. Byddai’r data a oedd wedi cael ei gasglu’n ddefnyddiol yn yr ymarfer mapio a byddai’n rhoi darlun ehangach o sgiliau iaith y gweithlu. Nodwyd fod y gwasanaeth Llinell Ofal newydd yn cynnwys 85% o siaradwyr Cymraeg a’i fod yn bwynt cyswllt cyntaf.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ei bod yn anodd recriwtio uwch swyddogion â sgiliau iaith Gymraeg a’r arbenigedd cywir. Amlygwyd fod y cynllun gweithredu’n seiliedig i raddau helaeth ar dargedau i ymgyrraedd atynt a gofynnwyd am fwy o wybodaeth yn yr adroddiad manylach, pan fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor, i ddynodi pa un a oedd y camau gweithredu’n rhai y gellid eu cyflawni ai peidio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.

10.

GWASANAETHAU POBL HYN - Y GALW A'R GYLLIDEB pdf eicon PDF 360 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a J. Williams oll wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar y modd yr oedd yr Adain Pobl H?n ac Anableddau Corfforol yn rheoli’r lefel uchel o alw am wasanaethau. Roedd yn darparu nifer o gynigion i leihau costau a chynyddu incwm er mwyn rheoli’r galw o fewn cyllideb y gwasanaeth. Amlygwyd y byddai’r boblogaeth a oedd yn mynd yn h?n ac yn h?n yn creu heriau o ran ateb y galw am wasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol ac roedd cynnydd o tua 3% yn y galw bob blwyddyn. Cafodd y camau gweithredu penodol o ran y gyllideb eu hamlinellu wrth y Pwyllgor a nod y Gwasanaeth oedd cynorthwyo pobl i barhau i fod yn annibynnol am gyhyd â phosibl.

 

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr angen i leihau cyllidebau a mynegodd bryderon y gallai rhai o’r camau gweithredu gael effaith anffafriol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a staff. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig sicrwydd y byddai unrhyw newidiadau’n gymesur ac yn ddiogel ac y byddai anghenion unigol yn cael sylw. Amlygwyd fod ffocws amlddisgyblaethol wedi bod o gymorth i fynd i’r afael â’r galw a bod gwahanol ddulliau asesu wedi galluogi pobl i barhau i fod yn annibynnol am yn hwy.

 

Nodwyd fod y gair “reduce” ar goll o’r frawddeg ar dudalen 55 – d): “Re-aligning service resources to demand for night care in the community and extra care, saving £200k over the next 2 years”.

 

Gofynnwyd sut yr oedd disgwyl cael incwm ychwanegol o £50K dros ddwy flynedd o welyau ychwanegol yng nghartrefi gofal yr awdurdod lleol fel a oedd wedi’i nodi dan y camau gweithredu penodol o ran y gyllideb. Nid oedd swyddogion yn sicr ynghylch manylion y cynigion ac roeddent yn mynd i ganfod yr wybodaeth hon a’i chylchredeg i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.

 

11.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN CWYNION A CHANMOLIAETH pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar y sefyllfa hanner blwyddyn o ran cwynion a chanmoliaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/71. Amlygwyd fod yr adrannau ar gyfer Diogelu Oedolion a Gwella, Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chymdeithasol ac Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn arbennig o berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor ei fod yn adroddiad cadarnhaol ac wedi’i gyflwyno mewn fformat gwell. Nodwyd nad oedd y cyfanswm o ran y ganran o’r cwynion yr ymchwiliwyd iddynt ac yr ymatebwyd iddynt o fewn ac ar ôl yr amser penodedig rhwng mis Ebrill 2016 a mis Medi 2016 yn 100%. Byddai hyn yn cael ei fwydo’n ôl i’r swyddogion perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL derbyn yr adroddiad.

12.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro’r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn nodi’r sefyllfa ar 31 Awst 2016, mewn perthynas â 2016-17. Amlygwyd fod y Gwasanaethau’n rhagweld gorwariant o £688k a chafodd y prif amrywiannau a’r amrywiannau manwl eu hamlinellu.

 

Gofynnwyd a oedd swyddi gwag yn mynd i gael eu llenwi. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod anawsterau gyda recriwtio a chadw, a oedd yn cael sylw trwy’r strategaeth gweithlu. Fodd bynnag, y bwriad oedd llenwi swyddi gwag.

 

Gofynnwyd pam y bu gostyngiad yn y grant sy’n gysylltiedig â’r rhaglen Dewis Gwaith. Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod y Cyngor yn gweithredu fel asiant ar ran Ymddiriedolaeth Shaw ac y bu gostyngiad yn y grant am fod yr elfen drosiannol o’r grant wedi cael ei dileu.

 

Cafodd cyllideb y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016/17 ei hamlinellu wrth y Pwyllgor. Nodwyd fod tanwariant rhagamcanol, a oedd i’w briodoli’n bennaf i’r Datblygiadau o ran Adeiladau Anableddau Dysgu.

 

Gofynnwyd a fu newidiadau i’r gyllideb ar gyfer y cynllun Gofal Ychwanegol a oedd yn yr arfaeth ar gyfer Llanelli. Nododd Cyfrifydd y Gr?p y byddai’r £7 miliwn a oedd wedi cael ei ddyrannu’n cael ei gario ymlaen, fel yr eglurwyd yn flaenorol wrth y Pwyllgor. Nodwyd fod arian wrth gefn o’r tanwariant ar gyfer y cynlluniau Gofal Ychwanegol wedi cael ei ailddyrannu fel a gytunwyd gan y Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

13.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 50 KB

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pwyllgor nodi’r rhesymau dros beidio â chyflwyno pedwar adroddiad, a fyddai’n cael eu cyflwyno i gyfarfodydd yn y dyfodol. Nodwyd fod eitemau wedi cael eu gohirio oherwydd maint yr agenda. Byddai rhai o’r adroddiadau’n cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf ac roedd angen ailddyrannu eraill i gyfarfodydd. Fel y trafodwyd gofynnodd y Pwyllgor am y diweddariad ar y Prosiect ARCH yng nghyfarfod mis Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD nodi’r eglurhad am beidio â chyflwyno adroddiadau.

14.

COFNODION - 20 MEDI 2016 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2016 fel cofnod cywir.

15.

COFNODION - CYDGYFARFOD Y PWYLLGORAU CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD A GYNHALIWYD AR 26 MEDI 2016 pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion Cydgyfarfod Pwyllgorau Craffu Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau