Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd H.I. Jones

 

 

Cofnod Rhif 6 a Rhif 7

 

 

Mae ei wyres yn gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip.  Mae ei ferch-yng-nghyfraith yn ofalwr maeth yn y Gwasanaethau Plant

 

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Cofnod Rhif 6 a Rhif 7

 

Mae ei ferch yn gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae ei wraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman

 

 

Y Cynghorydd E. Morgan

 

 

Cofnod Rhif 6 a Rhif 7

 

 

Mae ei ferch yn nyrs staff

 

 

Y Cynghorydd B.A.L. Roberts

 

 

Cofnod Rhif 6 a Rhif 7

 

Mae ei merch yn ymwelydd iechyd

 

Y Cynghorydd J. Williams

 

Cofnod Rhif 6 a Rhif 7

 

 

Mae'n ofalwr di-dâl i'w g?r

 

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 17eg Tachwedd 2016.

 

6.

TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID. pdf eicon PDF 431 KB

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorwyr H.I. Jones, K. Madge, E. Morgan, B.A.L. Roberts a J. Williams i gyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r ddeddfwriaeth o ran Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, effaith datblygu cyfraith achosion a'r camau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau cysylltiedig.

 

Mae Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ac fe'u cyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr yn Ebrill 2009.  Fe'u cyflwynwyd i ddarparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer pobl agored i niwed mewn cartrefi gofal ac ysbytai sydd heb alluedd meddyliol. Nod y trefniadau diogelu yw darparu proses gyfreithiol briodol ac amddiffyniad addas yn yr amgylchiadau hynny lle mae'n ymddangos bod colli rhyddid yn anochel, er budd pennaf unigolyn.  Y Tîm Diogelu sy'n gyfrifol am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a chedwir cronfa ddata o'r holl geisiadau ac awdurdodau.  Mae adroddiad ystadegol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. 

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith fod gan yr Awdurdod 483 o atgyfeiriadau yn y categori coch ar hyn o bryd a gofynnwyd am sicrwydd y bydd y ffigur hwn yn gostwng.  Eglurodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod nifer y staff rheng flaen wedi cynyddu a bod mesurau rhagweithiol eraill wedi eu cyflwyno i geisio lleihau'r rhestr aros;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y swm bach o arian a ddyrennir i Awdurdodau Lleol gyflawni gofynion y ddeddfwriaeth newydd hon a gofynnwyd i swyddogion a fyddai modd i Awdurdodau Lleol ddod ynghyd i lobïo Llywodraeth Cymru yn hyn o beth.  Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod Awdurdodau Lleol wedi rhoi adborth i Lywodraeth Cymru.  Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn yr un modd ac mae trafodaethau parhaus rhwng awdurdodau ynghylch gweithredu'r ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

6.2       bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru ynghylch Trefniadau      Diogelu rhag Colli Rhyddid yn y flwyddyn newydd;

 

6.3       gofyn i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac          Iechyd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y         Pwyllgor ynghylch goblygiadau ariannol y ddeddfwriaeth newydd         a'r cyllid annigonol a ddarperir;

 

6.4       gofyn i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fynegi pryderon y Pwyllgor ynghylch goblygiadau ariannol y ddeddfwriaeth newydd a'r cyllid annigonol a ddarperir yng Ngr?p Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMAIAD 2016-17 - CWARTER 1. pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorwyr H.I. Jones, K. Madge, E. Morgan, B.A.L. Roberts a J. Williams i gyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad Cynllun Gwella 2016/17 a oedd yn rhoi manylion am y cynnydd a oedd wedi'i wneud mewn perthynas â'r camau a'r mesurau yn y cynllun a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 30ain Mehefin, 2016 mewn perthynas â Chwarter 1.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder mai diffyg gofalwyr oedd yn gyfrifol am y problemau o ran blocio gwelyau.  Dywedodd Arweinydd Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol wrth y Pwyllgor fod llawer o waith yn cael ei wneud gyda'n darparwyr i ystyried y materion hyn o ran capasiti.  Ychwanegodd fod heriau ond bod y sefyllfa'n gwella yn sgil rhoi'r fframwaith newydd ar waith.  Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod cynllun ar waith i roi sylw i recriwtio gofalwyr a chytunodd i ddosbarthu hwn i'r Pwyllgor er gwybodaeth;

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a yw'r gwasanaeth yn barod am dymor y gaeaf sy'n agosáu, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y pwysau dros y gaeaf eisoes yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd wythnosol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. 

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO'R CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW. pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30ain Mehefin 2016, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £845,000 o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai -£2,360 o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2016/17. 

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant amcanol a mynegwyd pryder nad oedd y pwysau dros y gaeaf wedi eu hystyried eto.  Gofynnwyd i'r swyddogion pa mor hyderus oeddent o ran gallu lleihau'r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn.  Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod gwaith yn mynd yn ei flaen o ran ceisio lleihau'r gorwariant.  Mewn perthynas â'r pwysau dros y gaeaf cydnabu ei bod yn anodd iawn mesur y galw;

·         Mynegwyd pryder bod y tanwariant o £230,000 yn sgil Cynllun Gofal Ychwanegol Rhydaman wedi cael ei ddefnyddio i brynu'r Neuadd Sirol yng Nghaerfyrddin a'r farn oedd, gan fod yr arian hwn wedi'i ddyrannu i ardal Rhydaman, y dylai unrhyw lithriant fod wedi cael ei wario ar ofal cymdeithasol yn ardal Rhydaman.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor nid oedd yr arian yma yn dyraniad cyffredinol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn ardal Rhydaman ond dyraniad penodol ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol T? Dyffryn yn Rhydaman o dan rhaglen gyfalaf yr Awdrudod.  Roedd y cynllun wedi'i gwblhau o fewn y gyllideb.  Mae trefniadau wrth gefn yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau o'r fath ar gyfer unrhyw gostau annisgwyl a defnyddiwyd yr arian o'r gronfa wrth gefn;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod Cynlluniau Gofal Ychwanegol wedi eu cwblhau yng Nghaerfyrddin a Rhydaman a gofynnwyd i'r swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynllun yn Llanelli. 

 

PENDERFYNWYD

 

8.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

8.2       gwneud trefniadau i'r Pwyllgor ymweld â'r Cynlluniau Gofal        Ychwanegol yn Rhydaman;

 

8.3   bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect       ARCH yn y cyfarfod nesaf.

 

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno pedwar adroddiad a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r cyfarfod nesaf yn lle hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

 

10.

PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16. pdf eicon PDF 369 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2015/16.  Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd gan gynnwys y materion hynny a gyfeiriwyd i/gan y Bwrdd Gweithredol a Phwyllgorau Craffu eraill.  Yn ogystal roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at dudalen 66 a'r ymadrodd "in-place" a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r Cynlluniau Lleol Heneiddio'n Dda a'r farn oedd y byddai'r ymadrodd "at home and within their community" yn fwy priodol.  Cytunodd y swyddogion i newid y geiriad yn unol â hynny;

·         Mynegwyd pryder am y problemau a geid yng Nghartref Preswyl Cwm Aur yn Llanybydder.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cyfarfodydd rheolaidd ynghylch Cwm Aur yn cael eu cynnal rhwng yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, yr Aelod Lleol a swyddogion ac y byddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn y man.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2015/16.

 

11.

DERBYN COFNODION PWYLLGOR CRAFFU AR Y CYD ADDYSG A PHLANT A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD A GYNHALIWYD AR Y 23AIN MAI, 2016. pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y cyd rhwng y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant a'r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 23ain Mai 2016.

 

12.

16EG MAI, 2016; pdf eicon PDF 321 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16eg Mai, 2016 gan eu bod yn gywir.

 

13.

15EG MEHEFIN, 2016. pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 15fed Mehefin, 2016, gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau