Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.A.L. Roberts a J. Tremlett (yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd).

 

Ar ran y Pwyllgor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r Cynghorydd J. Tremlett ar farwolaeth ei mab a'i g?r.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Kevin Madge

4. Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (2020/21)

Ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION A THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DOLS) (2020/21) pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod ar Ddiogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a roddai wybodaeth am rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod o ran Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

 

Fel y sefydliad statudol sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol i sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed. Roedd yr Awdurdod yn cyflawni ei rôl mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau statudol ac anstatudol eraill. Yr Awdurdod oedd hefyd y corff goruchwylio ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am rai o'r prosesau, arferion a gweithgareddau perfformio allweddol.

 

Fel y corff goruchwylio ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, sicrhaodd yr Awdurdod Lleol fod rhai o'r dinasyddion mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu'n briodol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y trefniadau DoLS presennol a'r newidiadau sydd i ddod.

 

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2020/21 ac yn crynhoi cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol Diogelu Oedolion ac yn darparu amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys:-

 

·         Y sefyllfa strategol ranbarthol a chenedlaethol

·         Trefniadau gweithredol lleol

·         Archwiliadau ac Arolygiadau

·         Gwybodaeth am berfformiad a gweithgarwch

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

·         Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r sesiynau codi ymwybyddiaeth a gyflwynwyd gan y tîm.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu / Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) fod y tîm wedi cyflwyno sesiynau hyfforddiant / codi ymwybyddiaeth rheolaidd ynghylch diogelu a bod y rhain yn sesiynau â thema i ymarferwyr. Dywedwyd bod y sesiwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi rhoi cyfleoedd i'r tîm ofyn cwestiynau pwysig ynghylch diogelu.

·         Gofynnwyd pa effaith yr oedd Rôl y Swyddog Ymholiadau (Dyletswydd) newydd wedi'i chael ar y tîm craidd.

Dywedodd yr Uwch Reolwr Diogelu / DoLS mai amcan y rôl hon oedd helpu i sicrhau bod achosion yn cael eu datrys o fewn 7 diwrnod ac i atal uwchgyfeirio achosion. Teimlwyd bod y rôl hon wedi lleihau nifer yr achosion a uwchgyfeiriwyd.

·         Cyfeiriwyd at adroddiad Archwilio Cymru a soniodd fod Sir Ddinbych wedi'i chydleoli ag asiantaethau partner. Gofynnwyd a oedd Sir Gaerfyrddin yn ystyried rhoi'r model hwn o weithio ar waith.

Dywedodd swyddogion fod ymchwil wedi dangos nad oedd ateb delfrydol ac nad oedd cydleoli o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau gwell.  Dywedwyd mai'r allwedd i gyflawni canlyniadau cadarnhaol oedd drwy sicrhau bod seilwaith ar waith i hwyluso cyfathrebu ac ymatebion da.

·         Gofynnwyd i swyddogion pam mai anaml iawn y defnyddiwyd y Gorchymyn Cymorth Amddiffyn Oedolion a oedd ar gael ers 2014.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai achosion o dan rai amgylchiadau gael eu datrys o dan ddeddfwriaeth y Ddeddf Iechyd Meddwl neu drwy'r Llys Gwarchod gan olygu nad oedd angen gorchmynion cymorth. 

·         Cyfeiriwyd at y pum argymhelliad a wnaed gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Dywedodd swyddogion mai'r argymhellion oedd rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu strategaethau a chanllawiau.

·         Gofynnwyd a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Cynllun Gweithredu Dementia

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Preswyl

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

 

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Rhagfyr 2021.

 

7.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 5ED HYDREF, 2021 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 5 Hydref, 2021 gan ei bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau