Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 15fed Mehefin, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Caiach, T.T. Defis a D.J.R. Llewellyn.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso'n ôl i'r Siambr i'r Cynghorydd B.A.L. Roberts a J. Williams ar ôl iddynt dreulio cyfnod yn yr ysbyty.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd H.I. Jones

 

Eitem 6 - Gofalwyr di-dâl

 

Mae ei wyres yn gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip.  Mae ei ferch-yng-nghyfraith yn ofalwr maeth yn y Gwasanaethau Plant.

Y Cynghorydd K. Madge

 

Eitem 6 - Gofalwyr di-dâl

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Mae ei wraig yn gweithio yn Ysbyty Dyffryn Aman.

Y Cynghorydd E. Morgan

 

Eitem 6 - Gofalwyr di-dâl

Mae ei ferch yn nyrs staff.

 

Y Cynghorydd J. Williams

Eitem 6 - Gofalwyr di-dâl

Mae hi'n ofalwr di-dâl am ei g?r.

 

 

 

 

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Mawrth, 20fed Medi, 2016.

 

6.

GOFALWYR DI-DÂL pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Yr oedd y Cynghorwyr H.I. Jones, K. Madge, E. Morgan a J. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ac yn cael cyflwyniad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith oedd yn cael ei wneud yn y sir i estyn cefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

 

Eglurwyd bod 24,000 o ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, a bod bron 10,000 ohonynt yn gwneud gwaith gofalu am hyd at 50 o oriau'r wythnos, a hyd yn oed fwy na hynny.  Dywedwyd bod y cyfraniad at yr economi leol yn y rhanbarth yn sylweddol.

 

Eglurwyd bod ffrwd waith ranbarthol, a oedd wedi'i datblygu o dan y Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori ar gyfer Gofalwyr (y cyfeirir ati'n gyffredinol fel y Mesur ar gyfer Gofalwyr), wedi bod yn weithredol ers tair blynedd, a bod y strategaeth yn cyrraedd ei chyfnod olaf yn 2016.  Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid er mwyn helpu i drosglwyddo'r mentrau strategol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd am ddwy flynedd arall ar gyfradd ychydig yn llai (5% yn llai bob blwyddyn).  Byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i gynnal gwaith y Rhaglen Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.

 

Yn unol â'r gofynion i lunio adroddiad blynyddol ynghylch y cynnydd yn y rhanbarth ac ynghylch gweithredu'r Mesur ar gyfer Gofalwyr, gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r fersiwn drafft o'r Adroddiad Blynyddol ynghylch y Mesur ar gyfer Gofalwyr er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yr oedd Cynllun Gweithredu Gofalwyr Sir Gaerfyrddin wedi ei lansio ar ddiwedd 2014 gan dargedu camau gweithredu o ran y Strategaeth Gofalwyr Genedlaethol.  Ymhlith y themâu yr oedd Iechyd a Lles Gofalwyr, Gofalwyr a Chyflogaeth, Bywyd y Tu Hwnt i Ofalu, Gofalwyr ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc, a bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad monitro ynghylch pob ffrwd gweithgarwch.

 

Hefyd bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Strategol Sir Gaerfyrddin ynghylch Gofalwyr 2015/16. 

 

Nodwyd y gallai peidio â chydnabod neu gefnogi gofalwyr di-dâl roi bod i'r canlyniadau canlynol:-

 

- lleihad o ran nifer y gofalwyr/perthnasau sy'n fodlon ymgymryd â rôl ofalu;

 

- canlyniadau gwael o ran iechyd pobl sy'n ymgymryd â rôl ofalu:

 

- mynd yn groes i Hawliau Dynol a'r Ddeddf Cydraddoldeb.

 

Gallai'r canlyniadau hyn beri bod costau cynyddol i'r cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

-   mynegwyd pryder gan ddweud bod angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod yn rhaid i'r cyllid barhau, ac awgrymwyd y gellid cysylltu â'r Aelodau Cynulliad yn rhanbarth Dyfed-Powys er mwyn rhoi sylw i'r pryderon hyn;

 

-   gan ymateb i gwestiwn ynghylch y taliadau oedd ar gael i ofalwyr di-dâl, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor taw'r Lwfans Anabledd oedd y prif fudd-dâl; fodd bynnag nid oedd y budd-dâl hwnnw'n cael ei dalu ar ôl cyrraedd oedran ymddeol sef, yn anffodus, pryd mae'r gofalu'n cychwyn yn achos rhai pobl.  Yr oedd mater taliadau i bobl ifanc yn un anodd iawn gan na allwch, yn ôl y gyfraith, ddechrau gweithio hyd nes eich bod yn 16.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a oedd yn manylu ar sefyllfa ariannol 'derfynol bron' blwyddyn ariannol 2015/16. 

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi tanwario £115,000 o ran y Gyllideb Refeniw erbyn diwedd y flwyddyn ac y byddai -£231,000 o amrywiant net mewn perthynas â Chyllideb Gyfalaf gymeradwy 2015/16. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL (2015/16) A CHYNLLUN GWELLA (2016/17) - DRAFFT pdf eicon PDF 427 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurwyd ei bod yn ofynnol gan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) fod yr Awdurdod yn cyhoeddi Cynllun Gwella cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol ac yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei berfformiad blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Yr oedd yr Awdurdod yn cyfuno'r ddwy ddogfen hyn gan olygu bod modd gwerthuso canlyniadau'r flwyddyn ddiwethaf a chytuno ar y deilliannau yn y dyfodol. Barn y rheoleiddwyr oedd bod cyfuno'r ddau beth yn yr un ddogfen yn arfer da.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn cynnwys darnau oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

-  yr oedd hi'n braf gweld bod lleihad wedi bod o ran y ffigurau oedi cyn trosglwyddo gofal, a mynegwyd pryder ynghylch y gallai prinder gofalwyr fod yn ffactor o ran yr oedi cyn trosglwyddo gofal.  Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod materion eraill i'w hystyried ac nid dim ond y ffigyrau ynghylch yr oedi cyn trosglwyddo gofal, e.e. yr oedd posibilrwydd fod gan rai pobl oedrannus/eiddil lawer o broblemau yr oedd angen llawer o sylw arnynt i sicrhau eu bod mewn sefyllfa "ddiogel".  Ychwanegodd ei bod hi’n atebol i Brif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Iechyd Lleol o ran lleihau'r lefel hon;

- mynegwyd pryder ynghylch bod angen rhoi sylw i fater oedi cyn trosglwyddo gofal yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf gan y byddai'r gaeaf yn prysur agosáu wedyn. Awgrymwyd y dylid anfon llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon er mwyn mynegi pryder y Pwyllgor ynghylch nad oedd system y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio yn ei ffurf bresennol, yn enwedig o ran cleifion eiddil/oedrannus ac o ran sicrhau eu bod yn sefydlog unwaith eto yn weithredol.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1     bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

8.2     gofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon er mwyn mynegi pryder y Pwyllgor ynghylch nad oedd system y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio yn ei ffurf bresennol, yn enwedig o ran cleifion eiddil/oedrannus ac o ran sicrhau eu bod yn sefydlog unwaith eto yn weithredol.   

 

</AI8>

 

9.

ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD - 1AF O EBRILL 2015 HYD AT 31AIN O FAWRTH 2016 pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Rheoli Perfformiad, a oedd yn amlinellu'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn o ran monitro perfformiad y gwasanaethau yn ei faes gorchwyl am flwyddyn ariannol 2015/16.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

- bu i'r Pwyllgor longyfarch tîm y Gwasanaeth Cynghori a Chydgysylltu ynghylch Trosglwyddo Gofal ar ennill nifer o wobrau'n ddiweddar;

- gofynnwyd a oedd unrhyw gynnydd o ran y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Rhoddwyd gwybod y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor yng nghyfarfod mis Medi.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1     derbyn yr adroddiad;

 

9.2     anfon llythyr at dîm y Gwasanaeth Cynghori a Chydgysylltu ynghylch Trosglwyddo Gofal i'w longyfarch ar lwyddo i ennill nifer o wobrau'n ddiweddar.

 

10.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.