Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 16eg Mai, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.A.L. Roberts, E.G. Thomas a J. Williams a gan y Cynghorydd L.D. Evans, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Eitemau 5 a 6

 

Bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd E.Morgan

 

 

Eitemau 5 a 6

 

Bod ei ferch yn nyrs seiciatrig y gymuned.

 

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.</AI4>

 

5.

LAW YN LLAW AT IECHYD MEDDWL: ADRODDIAD BLYNYDDOL AM Y CYFNOD 2014/15 pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorwyr K. Madge ac E. Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2012 wedi lansio Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sef strategaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Iechyd Meddwl Lleol yn seiliedig ar ôl troed Byrddau Iechyd ac mae pob ardal leol yn cynhyrchu ei hadroddiad blynyddol ei hun, sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn adolygu'r cynnydd a wnaed yn 2014/15 wrth gymharu â 6 blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer rhanbarth Hywel Dda:-

 

·       Sicrhau bod pobl o bob oed yn cael gwell gwybodaeth am iechyd meddwl a salwch iechyd meddwl;

·       Sicrhau bod gwasanaethau'n seiliedig ar ddull adferiad ac ail-alluogi;

·       Gwella iechyd meddwl a lles teuluoedd / cymunedau;

·       Lleihau ymhellach lefelau hunanladdiad a hunan-niweidio;

·       Sicrhau bod ymdrechion pendant ar waith i leihau'r stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu;

·       Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cymryd rhan yn natblygiad y gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryderon bod yr amgylchiadau sy'n cyfrannu at iselder e.e. toriadau mewn budd-daliadau, diweithdra yn mynd yn waeth;

·       O ran y bobl hynny sy'n cael problemau camddefnyddio sylweddau, mynegwyd pryderon nad oes cyfleusterau dadwenwyno ar gael yn y sir. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod cymorth dadwenwyno bellach yn digwydd yng nghartref yr unigolyn lle mae modd iddo gael cymorth gan ei deulu a'r gymuned;

·       Mewn ymateb i gwestiwn o ran beth ddylai'r Cyngor ei wneud ynghylch hyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod angen i'r Cyngor ddatblygu'r gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu darparu, a phwysleisiwyd eto'r pwysigrwydd o ymyrraeth gynnar;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y mater o hunan-niweidio a'r cysylltiad â phwysau arholiadau, a dywedwyd wrth y Pwyllgor  bod llawer o waith yn cael ei wneud mewn ysgolion ynghylch y mater hwn gan gynnwys cysylltu â nyrsys ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

6.

GWYTNWCH CYMUNEDOL YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorwyr K. Madge ac E. Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ar wytnwch cymunedol a pham y mae'n bwysig o ran cefnogi iechyd a lles trigolion Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer gweithgareddau gwytnwch cymunedol, y gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi'r agenda hwn a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

 

Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr henoed sy'n methu â chynnal a chadw eu gerddi ac sy'n aml yn cael eu twyllo gan alwyr diegwyddor sy'n codi crocbris am wneud y gwaith. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Is-adran Safonau Masnach yr Awdurdod wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn o ran atal twyll ac amddiffyn y rhai agored i niwed.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

6.2       bod y Pwyllgor yn cael adroddiad yn ystod cyfarfod yn y dyfodol yngl?n â mentrau'r Is-adran Safonau Masnach i amddiffyn yr henoed a phobl agored i niwed.

 

7.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD AR GYFER 2016/17 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith 2016/17, a oedd wedi cael ei datblygu yn dilyn cynnal sesiwn cynllunio anffurfiol y Pwyllgor ym mis Ebrill 2016.

 

Mae’n ofynnol yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried yn ystod blwyddyn y Cyngor.

 

Nododd y Pwyllgor fod dyddiad cyfarfod mis Rhagfyr wedi newid o'r 15fed i'r 12fed.

 

PENDERFYNWYD bod y Flaenraglen Waith am 2016/7 yn cael ei chadarnhau

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno adroddiad ynghylch Y Gymraeg mewn Cartrefi Gofal Preswyl.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.