Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R.E. Evans a B.A.L. Roberts.

 

Ar ran y Pwyllgor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r Cyng. Roberts a'i theulu ar farwolaeth ei g?r.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ken Lloyd

4. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22

5. Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 (1 Ebrill tan 30 Mehefin 2021)

6. Effaith Covid-19 ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i

 Oedolion Sir Gaerfyrddin

7. Gweithlu Gofal Cartref, Gwaith Cymdeithasol a

Phwysau ar y Farchnad

Mae aelod o'r teulu yn ofalwr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.

Kevin Madge

4. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22

5. Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 (1 Ebrill tan 30 Mehefin 2021)

6. Effaith Covid-19 ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i

Oedolion Sir Gaerfyrddin

7. Gweithlu Gofal Cartref, Gwaith Cymdeithasol a

Phwysau ar y Farchnad

Mae ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn rhagweld gorwariant o £492K o ran y gyllideb refeniw ac amrywiant net o £97K yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2021/22.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Atodiad A

·         Mynegwyd pryder ynghylch y gorwariant sylweddol a ragwelwyd, er bod rhannau helaeth o'r gwasanaeth heb eu darparu oherwydd Covid. Gofynnwyd hefyd a fyddai unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru nad oedd wedi'i gynnwys yn y ffigurau.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod arian grant wedi dod i law o fewn yr wythnosau diwethaf, a hefyd rhywfaint o gyllid adfer Gofal Cymdeithasol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y ffordd orau o wario'r cyllid ond byddai'n cael ei fuddsoddi mewn darparu gwasanaethau ac ymyriadau.

Atodiad B

·         Mewn perthynas ag Anabledd Dysgu – Gwasanaeth Dydd Preifat, gofynnwyd beth oedd y gwasanaeth 'amgen' a ddarparwyd.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei fod yn gyfuniad o rai gwasanaethau'n dod yn ôl yn fewnol a chymorth un i un yn cael ei ddarparu gartref pan fo hynny'n briodol.

·         Mynegwyd pryder ynghylch oedi cyn ailagor y canolfannau dydd.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod trafodaethau yngl?n â'r cynlluniau i ailagor y gwasanaeth ar waith ers tro a bod yr Awdurdod yn glir iawn y byddai'r gwasanaeth yn cael ei ailagor. Roedd tri maes allweddol wedi bod yn cael eu hasesu - llunio asesiadau risg, trafnidiaeth a staffio er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chanllawiau'r Llywodraeth. I ddechrau, byddai'r ailagor yn digwydd ar raddfa lai i sicrhau bod y staff a'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel.

·         Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am Gwm Aur a chyflawni arbedion yn rhannol.  Dywedwyd bod costau heb gynyddu a bod arbedion posibl wedi'u nodi adeg llunio'r contract ond nad oeddent wedi'u cyflawni. Dywedwyd wrth y pwyllgor y byddai disgrifiad llawnach yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf.

·         Gofynnwyd pam roedd taliadau uniongyrchol ar gyfer iechyd meddwl ac anabledd corfforol wedi cynyddu pan oedd taliadau uniongyrchol i bobl h?n wedi gostwng.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod rhai heriau'n perthyn i reoli taliadau uniongyrchol. Yn gyffredinol, roedd gan bobl h?n lai o allu i reoli taliadau uniongyrchol ac roedd cael y Cyngor i gomisiynu ar eu rhan yn gwaredu'r straen. Ar y cyfan, roedd pobl iau am reoli eu gwasanaethau eu hunain ac yn aml roeddent yn cael eu cefnogi gan y teulu.

Atodiad E

·         Gofynnwyd am eglurder pellach yngl?n â'r gyllideb Gyfalaf y nodwyd ei bod yn aros am ddyfarniadau 2022/23 a pha flwyddyn ariannol y byddai'r dyfarniadau'n cael eu derbyn.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai ymateb yn cael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod.

Atodiad F  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEHEFIN 2021) pdf eicon PDF 590 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd mewn perthynas â'r maes sy'n dod o dan ei phortffolio hi a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.

 

 Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd i swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth am 'Rita' mewn cartrefi gofal.  Dywedwyd mai technoleg gynorthwyol oedd Rita a oedd yn cael ei defnyddio gyda chleifion oedd yn dioddef problemau gwybyddol fel dementia. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai Rita helpu i dawelu pryderon cleifion gofidus drwy chwarae cerddoriaeth ac edrych ar luniau er enghraifft.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Dementia Navigators. Dywedodd swyddogion fod y Dementia Navigators yn cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd o fewn y tîm Pobl H?n ac yn darparu cymorth lefel is i ddioddefwyr dementia.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut roedd llefydd gwag mewn Cartrefi Gofal yn cael eu defnyddio mor effeithlon â phosibl. Dywedodd swyddogion fod llefydd gwag yn cael eu defnyddio ar gyfer gofal seibiant brys a lleoliadau dros dro i bobl oedd yn aros am becynnau gofal. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod nifer y llefydd gwag wedi gostwng a bod yr Awdurdod yn bwriadu cynyddu nifer y lleoliadau.

·         Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen fuddsoddi ar gyfer Cartrefi Gofal.

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr Awdurdod yn buddsoddi'n sylweddol mewn cartrefi gofal. Roedd yn cael ei gydnabod bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu, ond roedd angen gwella'r amgylchedd ffisegol.

·         Gofynnwyd pryd y byddai Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 'cymdeithas sy'n heneiddio: Cymru o blaid pobl h?n' yn cael ei chwblhau.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod grant wedi'i roi i'w ddefnyddio erbyn diwedd y flwyddyn ariannol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau i fod yn sir sydd o blaid pobl h?n. Cwmni allanol oedd wedi paratoi'r cynllun a byddai'r cyllid hwnnw hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi datganiad sefyllfa ynghylch sut roedd gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn cael eu cynnal ac yn tynnu sylw at y galw a'r pwysau oedd yn dod i'r amlwg o ganlyniad i'r pandemig.

 

Disgrifiodd yr adroddiad sut roedd ymateb yr Awdurdod bellach yn fusnes fel arfer, a sut roedd yr Awdurdod yn ymateb i'r galw a'r pwysau hyn, yn enwedig mewn perthynas ag asesu a galw am ofal cartref.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, gan fod adferiad Covid bellach yn fater o drefn, ni fyddai diweddariadau Covid pwrpasol yn cael eu darparu mwyach.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

 

·         Gofynnwyd a gafwyd trafodaethau gyda'r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ynghylch newidiadau posibl i'r canllawiau cenedlaethol o gau am 20 diwrnod ar gyfer derbyniadau/ymwelwyr newydd.

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod trafodaethau wedi bod yn parhau.

·         Gofynnwyd beth oedd angen ei wneud yn awr i atal y rhwystredigaeth o ran recriwtio a chadw staff.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai angen ffynhonnell gynaliadwy hirdymor o gyllid.  Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar lefel genedlaethol.  Golygai'r lefel bresennol o gyllid gan Lywodraeth Cymru na allai'r Awdurdod gynyddu cyfradd y cyflog gan y byddai angen £5-6M o gyllid ychwanegol. Roedd pob trywydd yn cael ei ddilyn gan gynnwys strwythurau gyrfa, cynnydd a llwybrau hyfforddeion.

·         Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd yr Awdurdod yn cynnig rhaglen brentisiaethau ac a oedd disgyblion ysgol yn cael eu targedu.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan yr Awdurdod gysylltiadau â cholegau a phrifysgolion ac y gellid ymchwilio ymhellach i opsiwn yr ysgol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod trafodaethau wedi bod yn digwydd ynghylch sesiynau rhagflas posibl gyda disgyblion chweched dosbarth.

·         Gofynnwyd a fyddai'r Awdurdod yn recriwtio rhywun i ymgysylltu â'r ysgolion.

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau wrth y Pwyllgor fod ymgyrch farchnata recriwtio enfawr wedi'i chynnal ac y byddai cyllid yn cael ei ddefnyddio i recriwtio swyddog prosiect.  Rhan o rôl y swyddog prosiect fyddai mynd i mewn i ysgolion a cholegau i ysgogi recriwtio a chadw staff. 

·         Gofynnwyd am eglurhad pellach ynghylch lefel salwch y gwasanaeth mewnol o 16% a dadansoddiad manwl o beth oedd natur yr absenoldeb oherwydd salwch.

·         Cadarnhaodd swyddogion fod lefel uchel o absenoldebau o achos covid a chyswllt covid wedi bod, a bod y lefelau'n uchel o ran covid yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned. Byddai dadansoddiad o'r mathau o salwch yn cael ei roi i'r Pwyllgor yn ddiweddarach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

GOFAL CARTREF, GWEITHLU GWAITH CYMDEITHASOL A PHWYSAU'R FARCHNAD pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a roddai drosolwg o'r heriau cynyddol o ran gweithlu yn y farchnad gofal cartref ar gyfer y sector mewnol a'r sector comisiynu.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar bwysau cyfredol yn y farchnad yn y sector gofal cartref a'r effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd hefyd yn manylu ar bwysau o ran y gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol a oedd yn effeithio ar y gallu i ateb y galw gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn cael effaith ar berfformiad yr adran o ran ei gallu i ddiwallu anghenion pobl agored i niwed mewn modd amserol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar gamau gweithredu i leihau risgiau i sicrhau y bodlonir gofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Hefyd, roedd nifer o argymhellion ar gyfer camau gweithredu sydyn yn yr adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd i swyddogion ymhelaethu ar yr effaith roedd y swyddog yn gobeithio y byddai datblygu micro farchnadoedd yn ei chael ar ardaloedd gwledig.

Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod gwaith wedi dechrau ar fanteisio ar atebion hyperleol iawn. Roedd y gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Penfro ar y cyd â phartneriaid amrywiol megis Catalyddion Cymunedol, Cyngor Gwirfoddol Cymunedol Sir Benfro a Phlaned. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Covid wedi bod yn gatalydd i fentrau bach.  Roedd llawer o ryngweithio cymunedol wedi bod a oedd yn darparu cymorth lefel isel o ddydd i ddydd nad oedd wedi'i gyfyngu i iechyd a gofal cymdeithasol yn unig.

·         Mynegwyd pryder pe bai'r Bwrdd Iechyd yn rhoi'r gorau i recriwtio, byddai'n arwain at roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau'r Cyngor. Gofynnwyd a oedd trafodaethau'n cael eu cynnal ynghylch cynlluniau pontio ar gyfer gofal cymunedol.

Dywed Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod yn gweithio'n agos a bod cytundeb ar waith i beidio ag ansefydlogi gweddill y gweithlu.

·         Mynegwyd pryder bod 5 darparwr fframwaith gofal cartref wedi profi heriau yn y gweithlu a bod un darparwr wedi rhoi 10 pecyn gofal yn ôl.

Rhoddodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal ac roedd wedi dod o hyd i gyflenwyr eraill

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion C1(Hydref) a C3(Mawrth)

·         Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2021/22 – 23/24

·         Monitro Cyllideb Diwedd y Flwyddyn 2020/21 - Adroddiad Alldro

·         Adroddiad Blynyddol Diogelu

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 29 Tachwedd 2021.

 

Nodwyd gan fod adferiad Covid bellach yn fater o drefn, ni fyddai diweddariadau Covid ar wahân yn cael eu darparu mwyach.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 29 Tachwedd 2021.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7FED GORFFENAF, 2021 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 7 Gorffennaf 2021 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau