Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Gwener, 21ain Mai, 2021 10.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.T. Evans, A.L Fox a B.A.L. Roberts.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Kevin Madge

4. Adroddiad Diweddaru Iechyd Meddwl

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD DIWEDDARU IECHYD MEDDWL pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi datganiad sefyllfa ynghylch effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant ac yn tynnu sylw at flaenoriaethau'r gwasanaeth a datblygiadau ar gyfer y dyfodol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn buddsoddi mewn Iechyd Meddwl a'i fod wedi cynyddu capasiti staff gan ddefnyddio'r cyllid a gymeradwywyd gan y Cyngor. Nodwyd bod gwaith cydweithredol yn cael ei wneud gyda'r trydydd sector a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu Un Pwynt Cyswllt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Yn ogystal, roedd y gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth Noddfa Min Nos yn parhau ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru.

 

Nodwyd bod Covid yn parhau i effeithio ar iechyd meddwl a llesiant ac y byddai llawer yn teimlo'r effeithiau parhaol. Cydnabuwyd nad oeddem eto wedi cyrraedd brig yr argyfwng iechyd meddwl a bod blaenoriaethu iechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad: -

 

·         Gofynnwyd sut y byddai'r Awdurdod yn ymdopi â'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai staff ychwanegol, mentrau newydd a chydweithio yn helpu'r Awdurdod i reoli'r galw cynyddol ac y byddai'r pwyslais ar gydweithio i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael.

 

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd o 136% wedi bod yn yr achosion o gysylltu â'r tîm iechyd meddwl a bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau gwaethaf ar gyfer nifer yr hunanladdiadau.

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr agwedd wledig yn cael effaith ar ddynion a bod hyn yn flaenoriaeth i'r rhanbarth. Dywedwyd hefyd ei bod yn ffodus bod sefydliadau megis DPJ Foundation a Thir Dewi hefyd yn darparu cymorth.

 

·         Gofynnwyd faint o gydweithio sy'n digwydd rhwng y gwahanol sefydliadau megis Awdurdod yr Heddlu a'r Bwrdd Iechyd ynghylch iechyd meddwl.

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y gwahanol sefydliadau yn cydweithio. Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud ynghylch gwasanaeth ymateb i argyfwng 24/7 a fyddai'n golygu gwasanaeth y tu allan i oriau a allai gael ei gydleoli i ymateb i'r rhai mewn argyfwng.

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod tua 325 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn yn marw o hunanladdiad. Gofynnwyd beth oedd y duedd yn Sir Gaerfyrddin ac yn benodol gofynnwyd am y gymuned ffermio.

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Sir Gaerfyrddin yn 3ydd yn y tabl o ran cyfradd hunanladdiad a dywedodd mai un o flaenoriaethau'r gr?p ymgynghori cenedlaethol oedd edrych ar y data amser real. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, er bod yr Alban yn dal yn uwch, bod y ffigurau'n gostwng a'u bod hefyd yn gostwng yn Lloegr, ond roedd yn destun pryder nad oedd hyn yn wir am Gymru. Rhoddwyd sicrwydd bod yna gynlluniau i wella mynediad i wasanaethau ymyriadau cynnar a byddai gwasanaethau argyfwng yn cynnwys strategaethau i ymateb i hunanladdiad a hunan-niweidio yn Sir Gaerfyrddin.

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â'r materion sy'n ymwneud â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn y cymunedau.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y bu cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2021/22 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaethau dydd yn y sesiwn ddatblygu ar 7 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2021/22.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 7 Gorffennaf 2021.

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20FED EBRILL, 2021 pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 20fed Ebrill, 2021 gan eu bod yn gywir.