Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Matthew Hughes  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau'r Cynghorwyr T.T. Defis, W.T. Evans, H.I. Jones, E. Morgan a J. Williams.

 

Nododd y Cadeirydd fod y Cynghorydd J. Williams wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar ond ei bod gartref bellaf ac ar ran y Pwyllgor dymunodd wellhad buan iddi.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd K. Madge

 

 

Eitemau 6–10

 

Ei wraig yn Brif Weinyddes Nyrsio yn Ysbyty Dyffryn Aman a'i ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd B.A.L. Roberts 

 

Eitem 6

 

Ei merch yn berchen ar siop mewn ysbyty lleol.

 

Y Cynghorydd G. Thomas

 

Eitem 8

 

Ei g?r yn un o yrwyr Ceir cefn gwlad.

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

Yn ateb i gwestiwn yn gofyn a oedd cwestiwn gan y cyhoedd yn cael ei ddarllen ar goedd os nad oedd yr holwr yn bresennol, awgrymodd y Cadeirydd y disgwylir, fel yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir, i'r unigolyn sy'n gofyn y cwestiwn ddod i'r cyfarfod i ofyn ei gwestiwn/chwestiwn, ond byddai'n ceisio eglurhad ynghylch hyn. 

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 327 KB

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r rhestr Eitemau ar gyfer y Dyfodol i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 14eg Rhagfyr, 2015. 

6.

RHAGLEN ‘FOUNDATIONS 4 CHANGE’ SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei wraig yn brif weinyddes nyrsio yn Ysbyty Dyffryn Aman.

 

Roedd y Cynghorydd B.A.L. Roberts wedi datgan buddiant personol sef bod ei merch yn berchen ar siop mewn ysbyty lleol.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mrs. Linda Williams, Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac i Dr. Michael Thomas, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r cyfarfod. 

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar Sylfeini Newid Sir Gaerfyrddin, sef model sicrhau ansawdd o Loegr oedd yn cael ei dreialu yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried y cyflwyniad:

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr (lefel Efydd) ar gyfer practisiau Meddygon Teulu, cadarnhaodd Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin fod pob practis Meddygon Teulu yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni'r lefel hon ond bod gwaith yn dal i fynd rhagddo i sicrhau bod pob practis yn cyflawni'r lefel Arian erbyn Ebrill 2016.   

 

Gofynnwyd pam y defnyddiwyd model o Loegr yn hytrach nag ateb cynhenid o Gymru i ateb gofynion unigryw y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a sut y gellid cyflawni ei amcanion o ystyried bod rhai rhannau o'r gwasanaeth wedi 'torri' a bod cryn anhawster denu gweithwyr allweddol i Orllewin Cymru. Nododd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin, ni waeth o ble roedd y model yn tarddu, bod amcanion allweddol y model yn ddyheadau y byddai pawb yn dymuno eu derbyn a cheisio eu hefelychu. Roedd Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sir Gaerfyrddin yn cydnabod ei bod yn anodd recriwtio gweithwyr i ranbarth Hywel Dda a bod hwn yn fater allweddol roedd y Bwrdd yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Er hynny, pwysleisiodd fod Sir Gaerfyrddin mewn gwell sefyllfa na siroedd eraill yn y rhanbarth, yn enwedig oherwydd yr ysbytai athrofaol a'r cydweithio ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch disgwyliad oes yn Sir Gaerfyrddin a'r cynnydd yn nifer y bobl h?n, cadarnhaodd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd mai'r nod oedd cynyddu disgwyliad oes 3 blynedd ar draws pob gr?p oedran yn ogystal ag yn yr ardaloedd lle roedd disgwyliad oes ar ei isaf. Yn dilyn cwestiwn ychwanegol ynghylch ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir Gaerfyrddin o ran anghydraddoldebau iechyd, roedd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod y byddai disgwyliad oes yr ardaloedd hynny'n is ond bod gwasanaethau iechyd yn cael eu targedu i'r ardaloedd hynny er mwyn mynd i'r afael â'r problemau (e.e. rhoi'r gorau i ysmygu, Iechyd Da).

 

Mynegwyd pryder bod pobl ifanc yn parhau i yfed llawer mwy o alcohol na chenedlaethau'r gorffennol a gofynnwyd beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Rhoddodd Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd wybod i'r Pwyllgor fod llawer o waith yn cael ei gyflawni mewn sefydliadau addysg (e.e. Cynllun Ysgolion Iach a Rhaglen Ieuenctid Iechyd Da yn Sir Gaerfyrddin) a bod unigolion a oedd yn cael eu derbyn i Unedau Damweiniau ac Achosion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH DIOGELU OEDOLION 2014/15 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Diogelu Oedolion am y flwyddyn ariannol 2014/15. Hefyd cafodd y Pwyllgor gyflwyniad byr a roddai olwg gyffredinol ar bwrpas a chyd-destun yr adroddiad blynyddol. Roedd yr Adroddiad yn egluro'r cyd-destun o ran y polisi cenedlaethol yn ymwneud â diogelu oedolion   gan gynnwys goblygiadau tebygol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Er bod y datblygiadau a'r gweithgareddau cadarnhaol niferus y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad i'w croesawu, mynegwyd pryder am yr hyn a oedd yn ymddangos fel diffyg erlyniadau yn erbyn unigolion yr honnwyd eu bod yn gyfrifol am gam-drin. Roedd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu yn cydnabod bod y swyddogion yn rhannu'r un pryderon a rhwystredigaethau â'r aelodau ond bod achosion o gam-drin yn aml yn rhai cymhleth lle roedd yn anodd cael y dystiolaeth angenrheidiol i fynd ag unigolion i'r llys, yn enwedig mewn achosion yn ymwneud ag oedolion nad oeddynt â'r gallu i ddeall y sefyllfa, neu oedd yn anfodlon mynd i'r llys o gwbl.   Ychwanegodd nad oedd y ddeddfwriaeth gyfredol yn helpu swyddogion yn y gwaith hwn ond roedd yn gobeithio y byddai Adroddiad Flynn (Chwilio am Atebolrwydd) a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef adolygiad o esgeuluso pobl h?n sy'n byw mewn cartrefi gofal a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn arwain at newid mewn deddfwriaeth ac yn cau'r bwlch hwn.  

 Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, wrth bennu trothwyon ar gyfer erlyniadau, nad oedd bob amser er budd gorau'r unigolion dan sylw i erlyn. Fodd bynnag, ychwanegodd os oedd tystiolaeth glir o fwriadu achosi niwed neu gam-drin, y gallai'r aelodau fod yn dawel eu meddwl y byddai'r Awdurdod yn dadlau o blaid erlyn er bod hyn yn fater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.    

 

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd wybod i'r Pwyllgor am brosiect ymchwil oedd yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth. Nod yr ymchwil oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith unigolion sydd mewn gofal neu sy'n derbyn gofal am yr opsiynau sydd ar gael iddynt os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd. Nod arall yr ymchwil oedd archwilio'r rhesymau pam nad oedd unigolion yn dymuno bwrw ymlaen ag erlyniad a rôl bosibl 'brocer' i gyfryngu rhwng y gwahanol bartïon er mwyn cael canlyniad derbyniol. 

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a gafwyd yn 2014/15 a gofynnwyd a oedd hyn yn ddigwyddiad unwaith yn unig neu a ydoedd o ganlyniad i'r gwelliant yng ngweithdrefnau'r Awdurdod. Nododd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu ei bod yn anodd dweud beth oedd yr union reswm am y cynnydd ond roedd yn ddigon posib bod y cynnydd yn y sylw a'r cyhoeddusrwydd a roddwyd i bob math o gam-drin  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

HENEIDDIO’N DDA YNG NGHYMRU – CYNLLUNIAU LLEOL HENEIDDIO’N DDA pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd G. Thomas wedi datgan buddiant personol sef bod ei g?r yn un o yrwyr Ceir cefn gwlad.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y fersiwn drafft o Gynllun Lleol Heneiddio'n Dda, Sir Gaerfyrddin sef cynllun a ddatblygwyd i fodloni dau sbardun strategol allweddol; rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru ac iddi bum thema, a'r Strategaeth ar gyfer Pobl H?n yng Nghymru.Roedd y Cynllun yn gysylltiedig â'r Weledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cynaliadwy i Bobl H?n, yr oedd yr Adran Cymunedau wrthi'n ei datblygu. Roedd hefyd yn ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, drwy gyfrannu at gymunedau cynaliadwy a oedd yn galluogi pobl i heneiddio 'gan aros lle roeddent'.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at oblygiadau ariannol yr adroddiad oedd yn dangos y byddai'r Cynllun yn gost-niwtral a gofynnwyd am eglurhad ynghylch hyn gan y swyddogion. Rhoddodd y Swyddog Polisi, Ymgynghori ac Ymgysylltu a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wybod i'r Pwyllgor fod y Cynllun yn gost-niwtral yn yr ystyr nad oedd unrhyw ran benodol o'r ddogfen yn gofyn am gyllid a'i fod yn gyfle i ddwyn ynghyd gwahanol agendâu a chynlluniau'r Awdurdod drwy ddefnyddio'r gwasanaethau oedd yn bod eisoes.

 

Awgrymodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai (a Hyrwyddwr Pobl H?n / 50+) o ystyried y nifer cynyddol o bobl h?n yn y Sir, bod y Cynllun yn gyfle i fuddsoddi er mwyn arbed drwy roi gwybodaeth berthnasol i drigolion h?n mewn modd amserol a rhoi arweiniad i gymunedau ynghylch y modd y gallent hwy gyfrannu i'r agenda hwn.Ychwanegodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd (a Hyrwyddwr Pobl H?n / 50+) fod y Cynllun drafft yn strategaeth holistaidd ac nad oedd a wnelo'n unig â chreu cymunedau oedd yn cefnogi pobl â dementia neu'n atal codymau ond yn hytrach gymunedau oedd yn gefnogol a chryf mewn modd hollgynhwysol. 

 

Hefyd gofynnwyd a oedd cyllid penodol ar gael ar gyfer gofal cysylltiedig â dementia. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, er nad oedd cyllideb gyfunol benodol ar gyfer dementia, bod ffrydiau cyllido gwahanol y gallai'r Awdurdod dynnu cyllid ohonynt i ymgymryd â gweithgareddau hyrwyddo neu ledaenu gwybodaeth.  Atgoffodd y Pwyllgor nad oedd hawl gan yr Awdurdod Lleol ddefnyddio'i gyllid i dalu am ofal iechyd gan fod gwahanol ofynion cyfreithiol yn llywodraethu gweithgareddau'r GIG ac awdurdodau lleol mewn perthynas â chodi tâl am wasanaethau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adroddiad drafft i'w ystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd am y cyfnod hyd at 31ain Awst 2015. Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn rhagweld y byddai wedi gorwario £679,000 erbyn diwedd y flwyddyn o ran y Gyllideb Refeniw a gymeradwywyd ac y byddai -£228,000 o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer 2015/16.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Yn ateb i gwestiwn am y swyddi gwag yn y Gwasanaeth Galluogi, nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, oherwydd natur y gwasanaeth hwn a nifer y staff, fod trosiant uchel yn y maes hwn yn draddodiadol.

 

Cyfeiriwyd at amseroldeb yr adroddiad oedd am y cyfnod hyd at ddiwedd Awst 2015. Atgoffwyd y Pwyllgor gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a Chyfrifydd y Gr?p fod hon yn gyllideb gymhleth iawn ond gan fod y gyllideb yn cael ei monitro bob deufis ni fyddai'r diweddariad diweddaraf (ar gyfer diwedd Hydref) wedi bod yn barod i fodloni'r dyddiad cau ar gyfer agenda cyfarfod mis Tachwedd. Fodd bynnag, ar gyfer prosiectau/gwasanaethau mawr neu arwyddocaol, roedd y swyddogion perthnasol yn cynnal ymarferion monitro cyllidebau yn fwy rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Pwyllgor fod y rheolau sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro tra trafodid yr eitem hon er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.

10.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD – 1AF O EBRILL HYD AT 30AIN O FEDI 2015 pdf eicon PDF 360 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Councillor K. Madge declared a personal interest in that his daughter works in Social Care Services.

 

The Director of Community Services suggested that in light of the time, the Committee consider deferring this item to its next scheduled meeting as this would afford members the time to discuss the report in more detail.

 

The Committee UNANIMOUSLY RESOLVED that the report be deferred for consideration at its next meeting on the 14th December 2015.

11.

ATGYFEIRIAD I’R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 322 KB

Cofnodion:

The Committee considered a referral from the Policy & Resources Scrutiny Committee. The Assistant Consultant explained the background for the referral and updated the Committee on the proposals for a new format for the performance monitoring reports received by scrutiny committees which would be shared with elected members at a briefing session on the 14th January 2016 (2:00pm).

 

RESOLVED that the report be received.

12.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

The Chair reminded the Committee of the Joint-Meeting with the Education & Children Scrutiny Committee on Monday 23rd November 2015 which had been arranged specifically for consideration of the Care & Social Services Inspectorate Wales’ (CSSIW) Inspection, Valuation and Review of Local Authority Social Services 2014/15 report. She requested that if possible, all members make an effort to attend.

 

RESOLVED that the explanation for the non-submission of the CSSIW’s Inspection, Valuation and Review of Local Authority Social Services 2014/15 report, be noted.

13.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU’R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Committee considered an update detailing progress in relation to actions, requests or referrals emerging from previous scrutiny meetings.

 

RESOLVED that the update be received. 

14.

DERBYN A LLOFNODI COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 16EG o FEDI 2015 pdf eicon PDF 263 KB

Cofnodion:

RESOLVED that the minutes of the meeting held on Wednesday 16th September 2015, be signed as a correct record.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau