Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 18fed Ebrill, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bernadette Dolan 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Madge, E. Morgan a B.A.L. Roberts yn ogystal â chan Mrs. Linda Williams (Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Sirol dros Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda).

 

Dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i’r Cynghorydd B.A.L. Roberts yn dilyn ei llawdriniaeth ddiweddar.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Eitem(au) yn y Cofnodion

Natur y Buddiant

 

Cynghorydd H.I. Jones

 

Eitem 6

 

Mae ei ferch yng nghyfraith yn gweithio yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i’w hystyried yn ei gyfarfod nesaf a oedd wedi’i amserlennu ar gyfer 16 Mai 2016. 

6.

CYDWEITHREDFA IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU: Y WYBODAETH DDIWEDDARAF pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yng nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. 

 

Yn dilyn cais mewn cyfarfod blaenorol yn 2015, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar weithgareddau a chanlyniadau gwaith Cydweithredfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac fe’i hysbyswyd ynghylch y trefniadau partneriaeth rhanbarthol newydd sydd bellach wedi’u sefydlu i ateb gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nododd yr Aelodau mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer y Gydweithredfa, a’i fod yn lletya uned gydgysylltu fechan ac yn rheoli grantiau rhanbarthol.

 

Hysbyswyd yr Aelodau hefyd fod Rhan 9 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2016, yn ei gwneud yn ofynnol creu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) er mwyn symud trefniadau gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio yn eu blaen. Byddai gofyn sefydlu trefniadau ar wahân ar gyfer ardal pob bwrdd iechyd, a oedd yn golygu y byddai BPRh ar gyfer Gorllewin Cymru yn cael ei sefydlu ar ôl troed Bwrdd Iechyd Hywel Dda a bod rhanbarth presennol Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei ddiddymu. Roedd trefniadau cysgodol wedi’u sefydlu er na ddigwyddodd cyfarfod agoriadol BPRh Gorllewin Cymru ar 15 Ebrill 2016, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a gofynnwyd sut y byddai ei gofynion, ynghyd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, oll yn cydblethu â’i gilydd. Roedd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol yn cydnabod y byddai cysoni polisïau a gofynion y Llywodraeth yn her ond dywedodd y byddai cryfhau’r cysylltiadau rhwng y BPRh newydd a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newydd yn hanfodol i gyflawni hyn. Ychwanegodd ei bod yn amlwg bod gwasanaethau presennol yn anghynaliadwy yn y tymor hir a bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer parhau i ailgyflunio gwasanaethau. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw broses bontio, byddai strategaethau presennol a newydd yn cydfodoli am gyfnod o amser a byddai rheoli hyn yn her ychwanegol. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig mai ysgogydd arall ar gyfer y gwaith hwn oedd creu cydnerthedd cymunedol a hunanofal ochr yn ochr ag ymyriadau wedi’u targedu er mwyn osgoi derbyniadau diangen i wasanaethau iechyd.

 

Mynegwyd pryder hefyd y gallai materion sy’n ymwneud â chynllunio neu ailddatblygu danseilio’r cynlluniau a’r strategaethau sy’n cael eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y fframwaith yn Sir Gaerfyrddin yn darparu ar gyfer trafodaeth gydweithredol ynghylch pwysau a meysydd twf sy’n ymwneud â datblygiadau o ran y seilwaith, a allai roi pwysau ar wasanaethau eraill megis addysg ac iechyd. Ychwanegodd fod ei swydd ar y cyd yn gyfle i gyfrannu i drafodaethau strategol o fewn y Bwrdd Iechyd ac o fewn yr Awdurdod Lleol. Roedd hi hefyd yn cwrdd ag Arweinwyr Meddygon Teulu yn rheolaidd.

 

Gofynnwyd sut y byddai’r BPRh yn rheoli’r broses o hyrwyddo a sefydlu cronfeydd cyfun  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

SAFONAU MAETHOL AR GYFER POBL HYN pdf eicon PDF 376 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar safonau maeth ar gyfer pobl h?n, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar gartrefi gofal a chanolfannau dydd yr Awdurdod Lleol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg ar y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Arlwyo (Yr Adran Addysg a Phlant) i gefnogi’r Adran Cymunedau yn ogystal ag atebion i’r pedwar cwestiwn penodol, a godwyd yn flaenorol gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gwmpas yr adroddiad, fe wnaeth yr Uwch-reolwr Arlwyo atgoffa’r Pwyllgor bod hyn yn ymwneud â chartrefi gofal yr Awdurdod Lleol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod safonau maeth / arlwyo mewn cartrefi gofal annibynnol yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) er bod Tîm Comisiynu’r Awdurdod yn gweithio gyda darparwyr yn y sector annibynnol hefyd i sicrhau bod y safonau gofynnol yn cael eu cyrraedd. 

 

Mynegwyd pryder ynghylch rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yng ngweithgarwch y Gwasanaeth Arlwyo i gaffael cyflenwadau bwyd. Cyfeiriwyd at amheuon y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau ynghylch diben y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a’i lwyddiant o ran sicrhau arbedion i’r Awdurdod Lleol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Strategol ei fod yn cydnabod pryderon y Pwyllgor a bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar ei hôl hi o ran sefydlu fframweithiau sy’n gysylltiedig â bwyd. Roedd yr oedi hwn wedi arwain yn ddiweddar at sefyllfa lle’r oedd contract bwyd pwysig wedi dod i ben a’r Gwasanaeth Arlwyo wedi cael ei orfodi i geisio estyniad ar y contract blaenorol. Fodd bynnag, gan fod y Cyngor Sir wedi ymrwymo i ddefnyddio’r gwasanaeth cenedlaethol, byddai’n rhaid i swyddogion weithio o fewn y canllawiau gofynnol a chydymffurfio â hwy.

 

Mynegwyd pryderon hefyd ei bod yn bosibl na fyddai’r Awdurdod Lleol yn gallu caffael bwyd gan gyflenwyr lleol ac y byddai gorfod defnyddio cyflenwyr pellach i ffwrdd yn cynyddu symudiad traffig o fewn y sir ac yn cynyddu llygredd aer. Nododd y Rheolwr Datblygu Strategol na fyddai caffael cyflenwadau trwy’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol o anghenraid yn golygu bod cyflenwyr lleol yn cael eu cau allan. Er enghraifft, roedd gan yr Awdurdod nifer o wahanol gontractau gyda chyflenwyr bara ac yn aml iawn roedd contractau ar gyfer rhai nwyddau’n ddibynnol ar y farchnad cyflenwyr.

 

Yng ngoleuni’r drafodaeth ynghylch y gwasanaeth caffael, cynigiodd y Cadeirydd fod pryderon y Pwyllgor yn cael eu hanfon ymlaen at yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am y System NUTMEG, cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Arlwyo fod y system yn cael ei phwysoli yn ôl oedran i sicrhau bod pobl h?n yn cael y lefel gywir o faethiad. Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Integredig atgoffa’r Pwyllgor bod yr adroddiad hwn yn ategu’r Safonau Maeth Cymunedol ar gyfer Gwasanaethau Integredig Sir Gaerfyrddin (a gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 16 Medi 2015). Ychwanegodd ei bod yn aml yn wir nad 3 phryd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

GWERTHUSO PROSIECT CRONFA GOFAL CANOLRADDOL pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg, gwerthusiad a diweddariad mewn perthynas â gwasanaethau a ariennir gan y Gronfa Gofal Canolradd, yn enwedig mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Trosglwyddo Gofal (TOCALS) a’r gwasanaeth Gofal Cartref Ymateb Cyflym.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Gronfa Gofal Canolradd wedi’i ddyfarnu i ddechrau yn 2014/15 i ddarparu cyfle i roi cymorth i ddatblygu a phrofi modelau newydd i ddarparu gwasanaethau integredig cynaliadwy. Un o’r meini prawf ar gyfer parhad y cyllid yn 2015/16 oedd bod y prosiectau’n dangos eu heffaith a’u canlyniadau mewn perthynas â’r amcanion cychwynnol.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd sut yr oedd y model eiddilwch ‘blaen t?’ yn gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor bod yr Uned Mân Anafiadau a’r Uned Derbyniadau Meddygol Acíwt yn yr ysbyty’n ceisio osgoi derbyniadau trwy gynnal proses ‘sgrinio o safbwynt eiddilwch’ pan fo defnyddwyr gwasanaethau’n dod i’w sylw, er mwyn ysgogi asesiad geriatrig manwl a chynhwysfawr. Hyd yma, roedd y dull yn gweithio’n dda ac yn perfformio’n well na’r rhagfynegiadau cychwynnol. Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch staffio yn Ysbyty Glangwili, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wybod i’r Pwyllgor bod 3 Geriatregydd yn y ddau ysbyty er bod un swydd wag yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd yn bwysig bod yr holl glinigwyr yn sefydlu ‘dull eiddilwch’ ym mhob maes yn hytrach na dim ond atgyfeirio cleifion at y geriatregwyr.

 

Gofynnwyd a oedd digwyddiadau sy’n ymwneud â chwympiadau’n fwy cyffredin ar rai diwrnodau o’r wythnos. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig nad oedd unrhyw ddiwrnod penodol pan oedd y rhain yn digwydd ac, yn nodweddiadol, bod 20 o gwympiadau’n dod i sylw pob uned Damweiniau ac Achosion Brys bob dydd. Roedd hyn yn dangos pa mor bwysig oedd gwaith ataliol yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau’n newid o’r model traddodiadol a oedd yn golygu bod gwasanaethau’n cael eu darparu o 9-5 rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Roedd bod â gwasanaethau ffisiotherapi a therapi galwedigaethol blaen t? yn ddatblygiad allweddol hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am niferoedd y therapyddion galwedigaethol, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan y gwasanaeth nifer lawn o therapyddion, ond bod angen am fwy a bod cais am fwy o adnoddau o’r Gronfa Gofal Canolradd wrthi’n cael ei baratoi i gael mwy o gymorth ffisiotherapi a therapi galwedigaethol yn y dyfodol. Roedd cyllid clwstwr meddygon teulu’n opsiwn arall hefyd i sicrhau therapyddion ychwanegol ac roedd un therapydd galwedigaethol wedi cael ei gyflogi yn ardal Taf/Teifi/Tywi a hwnnw’n gweithio o feddygfa deulu. Roedd yr ymyriad hwn wedi arwain at ostyngiad mewn amseroedd aros i weld therapydd galwedigaethol, o 3-4 wythnos. 

 

Roedd y newidiadau i’r trefniadau derbyn a rhyddhau yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn cael eu croesawu ond awgrymwyd fod newidiadau eraill i wasanaethau yn yr ysbyty wedi arwain at sefyllfa lle’r oedd niferoedd cynyddol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhesymau dros beidio â chyflwyno’r adroddiadau. 

 

10.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN CHWEFROR, 2016 pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29ain o Chwefror 2016 fel cofnod cywir.