Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 20fed Mai, 2019 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.L. Fox.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

TREFN BUSNES

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn unol â Rheol 2(3) o Weithdrefn y Cyngor, ei bod yn mynd i newid trefn y materion ar yr agenda er mwyn i'r Adroddiad Cwynion a Chanmoliaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion gael ei ystyried yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £760k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£64k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Atodiad C

 

·         Mynegwyd pryder y byddai gorwariant mawr oni bai am swyddi gwag.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai pwysau ychwanegol ar gyllid pe bai'r holl swyddi'n llawn ond y byddai hyn yn wir bob amser oherwydd trosiant staff.

 

·         Gofynnwyd i'r swyddogion a oes proses ar waith ar gyfer recriwtio i swydd y Swyddog Adsefydlu (Comisiynu Pobl H?n) dros gyfnod mamolaeth.

 

Dywedodd y swyddog nad oedd ganddo'r wybodaeth wrth law ond y byddai'n rhoi gwybod i'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yn y Tîm Adnoddau Cymunedol.  Dywedwyd bod y Pwyllgor wedi gofyn y cwestiwn sawl gwaith ond nad oedd wedi cael ymateb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai datganiad ffurfiol o'r sefyllfa yn cael ei ddarparu trwy Bennaeth y Gwasanaeth cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu.

 

Atodiad E

 

·         Gofynnwyd cwestiwn ynghylch pam yr oedd yna oedi o ran prosiectau Datblygu Llety Anableddau Dysgu.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y prosiect wedi'i ohirio gan ei fod yn cael ei gyllido gan y Gronfa Gofal Integredig ac y byddai cyllid yn cael ei gadarnhau yn y dyfodol agos.

 

·         Gofynnwyd i'r swyddogion am y rheswm pam yr oedd Cartref Cynnes yn parhau i gael ei nodi yn Adroddiad Monitro'r Gyllideb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ei bod yn debygol bod hyn yn digwydd oherwydd taliadau cyfalaf sy'n berthnasol.

 

Atodiad F

 

·         Gofynnwyd a oedd yr arbedion y manylir arnynt yn Atodiad F yn gysylltiedig â chanlyniadau'r Adolygiad TIC.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr adroddiad yn dangos y cynnydd yn erbyn yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig sy'n cael eu pennu bob blwyddyn yn ystod y broses gyllidebu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION 1 EBRILL, 2018 - 31 MAWRTH, 2019 pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o g?ynion a'r maes gwasanaeth sy'n ymwneud â chwynion a chanmoliaeth.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor i nodi nifer y sylwadau canmoliaethus a ddaeth i law a soniwyd am Mark Bryan a oedd wedi'i ganmol am wasanaeth rhagorol i gynorthwyo achwynwyr yn ystod y broses gwyno.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:

 

·         Gofynnwyd a oedd cwynion ynghylch cwmnïau preifat wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ac a oedd modd darparu tystiolaeth o batrymau cwynion.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y wybodaeth yn cael ei chasglu ar gyfer yr holl wasanaethau Gofal Cymdeithasol gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau preifat.  Roedd yn bosibl gweld tueddiadau a phatrymau ymysg y cwynion ac roedd y rheiny'n cael eu rheoli'n aml drwy fonitro contractau a phroses ymyrraeth gan y tîm Comisiynu a Chontractau.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cwynion hefyd yn cael eu monitro drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau eraill megis siarad â defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr gofal, arolygon a fforymau.

 

·         Gofynnwyd am eglurdeb ynghylch at beth yr oedd y 60 o g?ynion ychwanegol yn cyfeirio, fel y manylir arnynt yn y crynodeb o'r cwynion.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y rhain yn cynnwys materion a godwyd a'u bod yn cae; eu hailgyfeirio i feysydd mwy priodol a'u bod hefyd yn cynnwys achosion o gyngor.  Dywedwyd y byddai "ymholiadau" yn derm mwy priodol i'w ddefnyddio yn hytrach na chwynion.

 

·         Codwyd cwyn ynghylch yr amser aros am alwad ar gyfer Llesiant Delta.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod data perfformiad yn dangos bod gan Lesiant Delta gyfradd ymateb uchel o ran canrannau ond y byddai'n anfon y g?yn yn ôl i Lesiant Delta.

 

·         Gofynnwyd am eglurdeb ynghylch y diffiniad o g?yn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig mai mynegiant o anfodlonrwydd yw cwyn a bod staff yn cael eu hannog i gofnodi'r holl fynegiannau o anfodlonrwydd.

 

·         Cyfeiriwyd at nifer isel y cwynion a ddaeth i law o gymharu â nifer fawr defnyddwyr y gwasanaeth a'r ffaith ei fod yn bosibl bod hyn yn digwydd oherwydd amharodrwydd i gyflwyno cwynion oherwydd yr effaith bosibl ar y gofal.  

 

Cytunodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod y niferoedd yn isel ac er bod gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy ymatebion i arolygon roedd cyfle i wella'r arolwg ar gyfer casglu cwynion.

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch gofalwyr yn colli ymweliadau a'i fod yn bosibl nad oedd yr Awdurdod yn ymwybodol o ymweliadau a gollwyd.

 

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig sicrwydd i'r Pwyllgor fod goddefiannau a systemau ar waith i fonitro a rheoli ymweliadau a gollwyd, ond maent yn dibynnu ar yr holl bartïon i roi gwybod i'r Awdurdod.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 42 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Adolygiad o Ofal Canolraddol

·         Diweddariad ar Ofal Parhaus / Uwchgynhadledd y GIG.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 3 Gorffennaf 2019.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 EBRILL, 2019 pdf eicon PDF 267 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 17 Ebrill 2019 gan eu bod yn gywir.