Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 14eg Rhagfyr, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr H.I. Jones, D.J.R. Llewellyn, E.G. Thomas a J. Williams, yn ogystal â’r Cynghorydd J. Tremlett (yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd).

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fudd personol.

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd dim cwestiynau wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Pwyllgor gadarnhau’r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Ionawr 2016. 

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2016/2017 TAN 2018/19 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth Cyllideb Refeniw 2016/17 hyd 2018/19 (Atodiad A) a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol i ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd 2015. Dywedwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad dros dro yn gynharach yr wythnos honno (9 Rhagfyr) ac y byddai Sir Gaerfyrddin yn gweld gostyngiad o 1% yn y gyllideb yn hytrach na’r 3.3% yr oedd y Strategaeth yn seiliedig arno. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwarchod cyllidebau ysgolion er nad oedd sicrwydd eto i ba raddau y byddai hynny’n digwydd. Roedd y Strategaeth yn seiliedig ar y dybiaeth na fyddai cyllidebau ysgolion yn cael eu gwarchod. I grynhoi, mae’n bosibl na fyddai angen y diffyg mewn arbedion effeithlonrwydd a bennwyd ar gyfer 2016/16; fodd bynnag, roedd cyflawni’r arbedion o £13.6m a nodwyd yn hanfodol. Byddai’r Dreth Gyngor yn codi 5% yn y Strategaeth ac roedd symudiad o 1% yn cyfateb i £760,000. Cafwyd trosolwg byr hefyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol o faes y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol.

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd sut yr oedd yr Awdurdod yn rhoi sylw i ysgolion â diffyg yn eu cyllideb. Dywedodd Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Ariannol wrth y Pwyllgor y byddai’n rhaid i ysgol mewn amgylchiadau o’r fath gynhyrchu cynllun i ddangos sut yr oedd yn bwriadu rhoi sylw i’r diffyg. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod cyllidebau ysgolion yn aml yn cael eu heffeithio gan ostyngiad yng nghymarebau disgyblion a’i bod yn hanfodol bod gan ysgolion drefniadau ariannol effeithiol a phriodol ar waith. Roedd gan yr Awdurdod bwerau i ymyrryd mewn rhai sefyllfaoedd. Mewn ymateb i gwestiwn ychwanegol ar yr ansicrwydd yngl?n â gwarchod cyllidebau ysgolion, dywedodd Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Ariannol fod Llywodraeth Cymru fel arfer yn weddol bendant yngl?n â sut yr oedd yn dymuno i gyllidebau gael eu gwarchod ac yn y blaen. Fodd bynnag, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar, ni chafwyd canllaw pellach ar y mater. Roedd cyfarfod rhwng uwch swyddogion yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru wedi cael ei gynnal ac roedd trafodaethau pellach yn yr arfaeth er mwyn cael cytundeb ac eglurder ar y mater.

 

Gofynnwyd am eglurhad am y gostyngiad mewn grantiau i fudiadau gwirfoddol yn achos Gwasanaethau Pobl H?n ac Anableddau Corfforol ac Anableddau Dysgu. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y gostyngiad yn ganlyniad i’r ffordd yr oedd yr Awdurdod yn awr yn prynu darpariaeth gan y mudiadau hyn. Roedd yr Awdurdod yn awr yn symud tuag at gontractau yn y fan a’r lle, a oedd yn golygu talu am y gwasanaethau roedd wedi’u defnyddio’n hytrach na thrwy gontractau bloc ac roedd hynny’n ffordd llawer mwy effeithlon o gaffael gwasanaethau. Mewn ymateb i awgrym y gellid ymestyn y gostyngiadau dros gyfnod o dair blynedd, dywedodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y gellid ystyried hynny ond dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhai o’r gostyngiadau wedi bod yn yr arfaeth ers peth amser; ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD HANNER BLWYDDYN AR REOLI PERFFORMIAD – 1AF O EBRILL HYD AT 30AIN O FEDI 2015 pdf eicon PDF 362 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiadau Rheoli Perfformiad Chwe-misol i’w hystyried sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd am y cyfnod 1 Ebrill hyd 30 Medi 2014. Atgoffwyd yr aelodau gan y Cadeirydd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ohirio o’r cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Trosolwg Perfformiad Penaethiaid Gwasanaeth

·         Y Dull o Fesur Perfformiad – Pobl H?n a Phobl ag Anabledd Corfforol

·         Gwasanaethau ac Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Iechyd Meddwl

·         Monitro’r Cynllun Gwella – Camau Gweithredu a Mesurau Perfformiad

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r defnydd o gyllid clystyrau Meddygon Teulu, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, yn unol â Chynllun Gofal Sylfaenol Cymru Llywodraeth Cymru, fod pob Clwstwr (ardal) yn Sir Gaerfyrddin wedi defnyddio’r cyllid a oedd ar gael i helpu datblygiad y gwasanaeth mewn ardaloedd penodedig. Fodd bynnag, er bod perygl y gallai Meddygon Teulu edrych ar hwn fel cyfle i ariannu gwaith eu practis, roedd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru yn bendant y dylai’r arian gael ei ddefnyddio i helpu gofal sylfaenol a’r clwstwr yn ei gyfanrwydd.

 

Cafwyd cyfeiriad at ad-drefnu’r gwasanaeth Llinell Gofal a gofynnwyd a fyddai angen mwy o staff ar gyfer hyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor pan ddaethpwyd â’r gwasanaeth i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol, roedd swyddogion yn ymwybodol bod angen ei ailddatblygu ond roedd cyflwyno’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2016, yn awr yn gosod gofynion ychwanegol ar y gwasanaeth, sef y byddai rhai sy’n cymryd galwadau’n gweithio i fanyleb swydd uwch nag y maent ar hyn o bryd. Roedd yn cydnabod y gallai hyn effeithio ar niferoedd staff ac y byddai’n rhaid i’r ad-drefnu ddigwydd o fewn cyfyngiadau cyllidebol mwy llym byth. Roedd yr opsiynau a oedd yn cael eu hystyried yn cynnwys defnyddio staff â’r sgiliau perthnasol o feysydd gwasanaeth eraill.

 

Gofynnwyd ai rhan o rôl Broceriaid y Trydydd Sector oedd canfod gwasanaethau a oedd yn cael eu dyblygu yn y sector gwirfoddol yn ogystal â chanfod bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor yn dilyn parhad rolau’r broceriaid o fewn y Timau Adnoddau Cymunedol, y byddant yn awr yn cael eu hadnabod fel ‘Gweithwyr Cydnerthedd Cymunedol’. Ychwanegodd y dylai’r swyddogion hyn fod yn monitro i ganfod unrhyw ddyblygiad a bod gwaith yn parhau ar lefel gorfforaethol i ganfod gwariant y sector gwirfoddol.  Hysbysodd y Pwyllgor hefyd am grant Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn rhan o’r Rhaglen Cydnerthu Cymunedol a defnyddiodd hyn fel enghraifft i ddangos ei bod yn hanfodol bod unrhyw arian grant newydd yn cael ei wario ar brosiectau newydd yn hytrach na dyblygu cynlluniau a gweithgarwch presennol.

 

Gofynnwyd am eglurder ar y ffigurau poblogaeth sy’n gysylltiedig â chynllunio gwasanaethau ar lefel gymunedol, yn unol â Chynllun Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor pan oedd gwasanaethau’n cael eu cynllunio ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y rheswm am beidio â chyflwyno adroddiad Pennu Cyllideb y Rhaglen Gyfalaf 2016/17 – 2020/21, yn cael ei nodi.