Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 23ain Ionawr, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. Roberts.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd K. Lloyd

Cofnod Rhif 4 - Diweddariad ynghylch Gweithio Rhanbarthol a Gweithio mewn Partneriaeth.

Mae ei nith yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol - gofal seibiant.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL - DIWEDDARIAD . pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder:  Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a'r datblygiadau cenedlaethol cysylltiedig gan gynnwys Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. 

 

Yn ogystal â'r adroddiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd adborth wedi dod i law hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru o ran cais am gyllid o'r Gronfa Drawsnewid Genedlaethol a sefydlwyd er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni 'Cymru Iachach'. Disgwylir i hynny ddod i law yn y man. Os byddai'n llwyddiannus, byddai cyfyngiad amser ar y cyllid, a byddai dod â'r mentrau i'r prif ffrwd ac arallgyfeirio'r adnoddau ar ôl i gyfnod y cyllid ddod i ben yn her allweddol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd at ba gyfnod yr oedd y 'Gweithgareddau dros y 6 mis diwethaf' yn yr adroddiad yn cyfeirio.

 

Dywedwyd bod y 6 mis yn grynodeb o'r gweithgareddau a wnaed ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

 

·         Yn dilyn datganiad a wnaed gan y Comisiynydd a gododd bryderon ynghylch ansawdd y gwasanaeth eiriolaeth yng Nghymru, gofynnwyd beth oedd rôl y Bartneriaeth o ran datblygu'r gwasanaeth a rennir.

 

Dywedwyd bod hwn yn faes blaenoriaeth allweddol i'r Bartneriaeth ac y byddai datganiad sefyllfa'n cael ei gyhoeddi cyn hir mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd.  Ar ôl cael ei gyhoeddi byddai'r datganiad yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor.  Mae Ceredigion yn arwain o ran y broses gaffael ac mae'r Bartneriaeth wedi bod yn gweithio ar y model gwasanaeth ar y cyd â darparwyr y gwasanaeth ers dros 18 mis.  Disgwylir i'r broses gaffael ddod i ben ym mis Medi 2019.  

 

·         Gofynnwyd pa ddull fyddai ar waith er mwyn monitro perfformiad darparwyr y gwasanaeth eiriolaeth.

 

Dywedwyd bod fframwaith perfformiad yn cael ei lunio ar y cyd a fyddai'n mesur perfformiad. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud gyda'r darparwyr a'r gofalwyr ynghylch ymddangosiad y gwasanaeth. Yn ogystal, byddai data ansoddol a data meintiol yn cael eu casglu a'u dadansoddi er mwyn sicrhau bod darparwyr y gwasanaeth yn darparu'r gwasanaeth yn unol â'r contract.

 

·         Gofynnwyd pa waith sydd wedi'i wneud o ran unedau byw â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl. 

 

Dywedwyd bod cais yn cael ei gyflwyno am gyllid cyfalaf drwy'r Gronfa Gofal Integredig er mwyn gwella'r ddarpariaeth ledled y rhanbarth. Byddai'r cynigion yn cael eu llywio ar sail y ddarpariaeth bresennol a'r dyhead strategol ar gyfer llety byw â chymorth gwell er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a gwella canlyniadau. Mae asesiad cynhwysfawr o anghenion wedi'i gynnal ar ran y Bartneriaeth, gan ystyried y gofynion deddfwriaethol a'r ddemograffeg.  Byddai cyllid cyfalaf yn galluogi buddsoddi mewn unedau presennol yn ogystal â datblygu unedau newydd.  Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

·         Cafodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei feirniadu'n ddiweddar gan yr Archwilydd Cyffredinol yn sgil ei wariant uchel ar staff asiantaeth.  Gofynnwyd beth sy'n cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £889k o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai yna +£2 o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.  Bydd yr amrywiant yn cael ei gynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd sydd i ddod.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Codwyd pryderon ynghylch yr amrywiant o -£140k y manylir arno yn Atodiad B - Pobl H?n - Gofal Cartref yr ALl. Mae'r atodiad yn nodi bod yr arbedion yn sgil swyddi gwag a chodwyd pryderon ynghylch y pwysau y mae hynny'n ei roi ar y staff presennol.

 

Dywedwyd bod hyn wedi digwydd oherwydd oedi ac effaith y cyllid grantiau ar recriwtio. Mae recriwtio'n cael ei wneud ar gyfer gofal cartref mewnol. Fodd bynnag, mae recriwtio staff arbenigol yn broblem ond dylai'r cynllun datblygu'r gweithlu fynd i'r afael â hyn. 

 

·         Gofynnwyd pam mae amrywiant a ragwelir o £889k yn Atodiad C ar gyfer mis Hydref 2018 er mai'r ffigwr hwn oedd £746 ar gyfer mis Awst 2018.

 

Dywedwyd bod hyn oherwydd nad yw 'hysbysiadau yn ystod y flwyddyn' o gyllid wedi'u cynnwys yn y ffigurau eto.

 

·         Gofynnwyd pa system sydd ar waith i wneud llwybr gyrfa ym maes iechyd yn fwy deniadol i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol.

 

Dywedwyd mai un o amcanion cynllun datblygu'r gweithlu yw gwneud y sector yn fwy deniadol i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol. Awgrymwyd y byddai Rebecca Jones yn gallu adrodd wrth y Pwyllgor am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Bartneriaeth.

 

·         Gofynnwyd beth oedd wedi achosi'r amrywiant rhwng y symiau a ragwelwyd ar gyfer mis Hydref 2018 o £120k a £21k ar gyfer mis Awst 2018 ym maes Iechyd Meddwl - Tai Gr?p/Llety Byw â Chymorth (Atodiad B).

 

Dywedwyd bod hyn wedi digwydd oherwydd amrywiadau o ran anghenion y gr?p cleientiaid sy'n anodd eu rhagweld. Un maes sydd wedi cyfrannu at hyn yw byw â chymorth.  Cytunodd Cyfrifydd y Gr?p i drafod y mater hwn â Phennaeth y Gwasanaeth a fyddai'n dwyn y pryderon at sylw'r Pwyllgor.

 

·         Gofynnwyd am y swyddi gwag parhaus (Atodiad D) yn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a sut yr ymdrinnir â hyn.  Dywedwyd bod angen dull mwy syml ar y gwasanaeth. Er enghraifft, os yw claf yn yr ysbyty am 2 wythnos neu fwy bydd y pecyn therapi galwedigaethol yn cael ei golli a bydd angen gwneud cais amdano eto.  Gofynnwyd bod Pennaeth y Gwasanaeth yn annerch y Pwyllgor ynghylch y mater hwn.

 

Cydnabuwyd bod problemau o hyd ond roedd gwaith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hwy. Cytunodd Cyfrifydd y Gr?p i drafod y mater hwn â Phennaeth y Gwasanaeth a fyddai'n sôn am y pryderon yng nghyfarfod nesaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17EG RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 gan eu bod yn gywir.