Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 16eg Medi, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorydd D.J.R. Llewellyn a’r Cynghorydd J.S. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd H.I. Jones

 

Eitemau 5–10

 

Bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Y Cynghorydd K.Madge

 

 

Eitemau 5–10

 

Bod ei wraig yn Brif Weinyddes Nyrsio yn Ysbyty Dyffryn Aman a bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

 

Y Cynghorydd E.Morgan

 

Eitem 7

 

Bod ei ferch yn nyrs seiciatrig gyflogedig.

 

Y Cynghorydd J.Williams

 

Eitemau 7–10

 

Ei bod yn ofalwr di-dâl.

 

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 211 KB

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu wedi gofyn am i drafod Eitemau ar gyfer y Dyfodol gael ei symud i frig agendâu'r  Pwyllgorau Craffu er mwyn rhoi ystyriaeth briodol i'r adroddiadau oedd i'w cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r rhestr Eitemau ar gyfer y Dyfodol i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 19eg Tachwedd, 2015.

5.

CYFLWYNO POLISI DIOGELU CORFFORAETHOL SY'N YMDRIN Â HOLL FEYSYDD GWASANAETH Y CYNGOR pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I.Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y fersiwn drafft o'r Polisi Diogelu Corfforaethol oedd wedi'i ddatblygu i ymdrin â holl feysydd gwasanaeth y Cyngor ac i sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau cadarn ar waith i ddiogelu plant ac oedolion.  Roedd y ddogfen ddrafft yn cynnwys manylion:

 

·         Amcanion ac egwyddorion y Polisi a'r Canllawiau

·         Y fframwaith cyfreithiol

·         Cyfrifoldebau a dyletswyddau staff ac aelodau etholedig

·         Y fframwaith llywodraethu ar gyfer diogelu

·         Y broses adrodd, monitro ac adolygu

·         Y broses atgyfeirio

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y fersiwn drafft o'r strategaeth:

 

Croesawodd y Cadeirydd y strategaeth ac wrth gyfeirio at yr hyfforddiant y byddid yn ei ddarparu i gynorthwyo Aelodau Etholedig i ymgymryd â'u cyfrifoldebau a'u dyletswyddau diogelu, aeth ati i annog yr holl Aelodau i wneud pob ymdrech i ddod i'r cyfryw sesiynau hyfforddi. Gwnaed awgrym pellach fod dewis o ddyddiadau sesiynau hyfforddi'n cael ei gynnig i Aelodau Etholedig, er mwyn darparu ar gyfer y rhai a oedd yn gweithio. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y rheoleiddwyr yn disgwyl y rhoddid hyfforddiant i'r holl Aelodau Etholedig i'w cynorthwyo yn eu rôl o fewn eu cymunedau a byddai'r sesiynau hyfforddi'n gyfle delfrydol i'r Aelodau gael y wybodaeth sylfaenol yr oedd arnynt ei hangen. Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Plant y sylwadau a nododd er na threfnwyd dyddiadau hyd yn hyn, y gellid trefnu sesiynau gwahanol. Nododd hefyd y byddai croeso i Aelodau Etholedig gwrdd â rheolwyr achosion yn ogystal â dod i'r sesiynau hyfforddiant arfaethedig, er mwyn gweld y gwaith a wneid gan y gwasanaethau perthnasol a gweld astudiaethau achos gwirioneddol.

 

Awgrymwyd pan ystyrid eitemau megis y rhain y dylid gwahodd holl Aelodau'r Panel Rhianta Corfforaethol i fod yn bresennol gan nad oedd pob aelod o'r Panel yn aelodau o'r Pwyllgorau Craffu perthnasol. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y gellid trefnu hyn pan gyflwynid adroddiadau gweithgareddau'r Panel Rhianta Corfforaethol i'r Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Diogelu Corfforaethol i'r Bwrdd Gweithredol ei ystyried.

6.

Y FFRAMWAITH RHEOLI PERFFORMIAD pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K.Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol Fframwaith Perfformiad newydd a oedd wedi'i ddatblygu gan yr Adran Cymunedau a gofynnodd am sylwadau'r Pwyllgor ar sut y gellid defnyddio'r Fframwaith i hysbysu'r Aelodau am berfformiad y gwasanaethau perthnasol. Roedd y fframwaith newydd wedi'i ddatblygu'n fewnol er mwyn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf yn yr Adran yn fodd o fonitro'r llwyddiant neu beidio o ran cyflawni amcanion.

 

Rhoddwyd cyflwyniad byw o'r system newydd gan alluogi'r Pwyllgor i weld y data byw a gipiwyd bellach a'r math o wybodaeth y gellid ei chyflwyno mewn adroddiadau monitro perfformiad yn y dyfodol. Aeth y Cyfarwyddwr ati i atgoffa'r Pwyllgor mai dyddiau cynnar oedd hi o ran y fframwaith a oedd yn cael ei gaboli ymhellach yn ystod cyfarfodydd rheolaidd i fonitro perfformiad.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y fframwaith newydd:

 

Cyfeiriwyd at waith ataliol a gofynnwyd a allai'r system newydd roi rhybudd cynnar i swyddogion ynghylch lle y gallai fod anawsterau i wasanaethau penodol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y byddai'r data'n ddefnyddiol iawn wrth fynd i'r afael â phroblemau neu rwystrau yn y system a bod y data'n agwedd allweddol ar y cyfarfodydd rheoli perfformiad adrannol misol. Roedd yr adroddiadau electronig oedd ar gael yn fodd o gwestiynu perfformiad a'i herio a chan mai data byw ydoedd, gellid rheoli gwasanaethau'n fwy effeithiol yn hytrach na thrwy adroddiadau ôl-weithredol a oedd yn y gorffennol wedi golygu bod gwybodaeth wedi dyddio 2–3 mis. Ychwanegodd y Rheolwr Ardal Leol Cynorthwyol fod y system yn golygu y gallai'r rheolwyr ardal leol ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon o ddydd i ddydd, gan alluogi ymateb cynt i anawsterau ar draws y gwahanol ardaloedd lleol.

 

Gofynnwyd a allai system mor fanwl beri i rai staff atal gwybodaeth neu ei chamystumio er mwyn iddi ymddangos nad oedd eu tîm/maes gwasanaeth yn methu/gorwario. Cydnabu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod perygl bob amser y byddai 'diwylliant targedau' yn rhoi bod i ganlyniadau gwael. Fodd bynnag roedd swyddogion yn ceisio creu diwylliant dealltwriaeth ymysg y staff ynghylch y mesurau newydd a sut y bwriedid i'r mesurau hybu dealltwriaeth o'r busnes a sicrhau y clustnodid adnoddau'n briodol. Y gobaith oedd y byddai hyn yn atal timau rhag camystumio'r ffigurau i wneud i'w gwaith ymddangos yn well. Roedd yn fater o gydbwyso cyfrifoldebau gofalu ag arfer gofal cyllidol.

 

Gofynnwyd a allai'r system ddarparu gwybodaeth fanwl ar sail ward, megis nifer yr unigolion oedd yn dioddef o gyflyrau penodol neu mewn perygl o ddioddef ohonynt. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei bod yn bosibl chwilio ar sail côd post i ymchwilio i'r galw ar sail ardal. Fodd bynnag yr her o ddefnyddio'r dull hwn oedd bod llawer o bobl yn derbyn triniaeth mewn man (e.e. tref fawr) y tu allan i'r ardal lle roeddent  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CANOLFAN CYNHWYSIAD ECONOMAIDD COLESHILL - ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 474 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd E.Morgan wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch yn nyrs seiciatrig gyflogedig.

 

Roedd y Cynghorydd J.Williams wedi datgan buddiant personol sef ei bod yn ofalwr di-dâl.

 

Cafodd adroddiad cynnydd ynghylch Canolfan Cynhwysiad Economaidd Coleshill ei roi gerbron y Pwyllgor iddo ei ystyried. Cyflwynwyd yr adroddiad cynhwysfawr yn dilyn cais gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2015. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion ynghylch modelau darparu gwasanaethau yn y Ganolfan yn y dyfodol.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mynegwydgwerthfawrogiad o'r gwaith a wnâi'r Ganolfan, yn enwedig y cyfleoedd a roddai i amrywiaeth eang o unigolion. Awgrymwyd bod angen ymgymryd â mwy o waith marchnata i hyrwyddo ei gweithgareddau. Cyfeiriwyd hefyd at y swm sylweddol o gyllid Ewropeaidd a oedd bellach wedi dod i ben. Gofynnwyd am ragor o fanylion ynghylch costau staffio/adeiladau yn gysylltiedig â'r incwm a grëwyd. Dywedodd yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) fod sawl prosiect o dan fantell Coleshill a bod pob ystafell wedi'i gosod ar hyn o bryd. Roedd fframwaith gweinyddu hefyd ar waith a gefnogai brosiectau eraill gan ddod ag incwm ychwanegol. Aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ati i atgoffa'r Pwyllgor fod angen cyfri'r 'costau cudd' a oedd yn gysylltiedig â'r math hwn o wasanaeth yn hytrach na dim ond ystyried y costau a'r incwm sylfaenol. Roedd yn bwysig cofio y byddai'r unigolion hynny a gyflogid gan yr Awdurdod Lleol yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith rywle arall oherwydd y cymorth ychwanegol yr oedd arnynt ei angen.

 

Gofynnwyd a allai'r gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd yr oedd y Ganolfan yn ei gynnig gael gwaith gan gynghorau tref a chynghorau cymuned, yn enwedig gan fod llawer o gyfleusterau bellach yn cael eu trosglwyddo o'r Awdurdod Lleol i'r cynghorau hynny. Dywedodd yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) y bwriedid cynnal cyfarfod â defnyddwyr posibl y gwasanaeth a bod trafodaethau wedi'u cynnal eisoes â Chyngor Tref yn y sir. Roedd y Gwasanaeth eisoes yn cynnal a chadw'r tiroedd yn stadiwm Parc y Scarlets ac o'i gwmpas. Yn wir roedd y cyllid blaenorol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop wedi atal y Gwasanaeth hwn rhag cystadlu yn y farchnad agored ond gan fod y cyllid wedi dod i ben bellach, roedd y Gwasanaeth yn gallu cynnig am waith.

 

Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn nifer y gweithwyr a gyflogid yng Nghaffi SA31 yn Neuadd y Sir ac awgrymwyd hefyd nad oedd y caffi hwn yn gwireddu ei botensial o'i gymharu â'r ddwy ffreutur a arferai fodoli yn y ddau brif adeilad gweinyddol yng Nghaerfyrddin. Aeth yr Uwch-reolwr (Cynhwysiad Cymunedol) ati i hysbysu’r Pwyllgor fod y gostyngiad yn nifer y staff yng Nghaffi SA31 wedi cyd-ddigwydd â diweddu prosiect  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFLWYNO TÂL NEWYDD AM DDEFNYDDIO GWELYAU HYBLYG MEWN CARTREFI GOFAL pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd H.I. Jones wedi datgan buddiant personol sef bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant personol sef bod ei wraig yn Brif Weinyddes Nyrsio yn Ysbyty Dyffryn Aman a bod ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd y Cynghorydd J.Williams wedi datgan buddiant personol sef ei bod yn ofalwr di-dâl.

 

Cafodd y cynnig ynghylch cyflwyno tâl newydd am leoliad Gwely Hyblyg mewn cartref gofal ei roi gerbron y Pwyllgor iddo ei ystyried. Nododd yr Aelodau fod y mater wedi'i gyfeirio at y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gan y Cyngor Sir, yn dilyn cyfarfod y Cyngor ar 8fed Gorffennaf 2015.

 

Mynegodd y Cadeirydd ac aelodau o'r Pwyllgor eu siom nad oedd y mater hwn wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Mehefin 2015. Cydnabu Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol sylwadau'r Pwyllgor ond atgoffodd yr aelodau fod y cynnig wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 24ain Chwefror 2015 fel rhan o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2015/16 – 2017/18. Gan fod y penderfyniad wedi'i wneud gan y Cyngor Sir, roedd swyddogion wedi mynd rhagddo â'r cynnig.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Holwyd am y gwahaniaeth rhwng gwely cyfnod gwella a gwely hyblyg gan ei bod yn ymddangos nad oedd fawr ddim o wahaniaeth rhyngddynt.  Aeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Uwch-reolwr Cymorth Busnes (Gofal Cymdeithasol) ati i hysbysu'r Pwyllgor y darperid gwelyau cyfnod gwella er mwyn i bobl h?n barhau'n annibynnol, magu hyder, ac adfer eu hiechyd ymhellach er mwyn paratoi i ddychwelyd adref neu i drefniadau gofal tymor hir eraill. Ar y llaw arall diben gwelyau hyblyg oedd cynorthwyo i hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac atal derbyn cleifion i'r ysbyty, yn enwedig wrth aros am ddechrau/ailddechrau pecynnau gofal cartref neu wrth aros am fân addasiadau i gartref megis gosod canllawiau.  Cydnabu'r Cyfarwyddwr y byddai'n ymddangos, o safbwynt y cyhoedd, fod y ddau wasanaeth hyn yn gorgyffwrdd ac y gallai fod yn amser priodol i adolygu cynaliadwyedd hirdymor y cynllun, yn enwedig o ystyried y gwelyau cyfnod gwella oedd ar gael ar draws y sir. Fodd bynnag, roedd hon yn dasg ar wahân i'r penderfyniad ynghylch codi tâl ai peidio. Cytunodd y Pwyllgor â'r awgrym hwn.  

 

Awgrymwyd ei bod yn annheg cosbi unigolion yn ariannol mewn achosion lle roedd bai ar yr Awdurdod Lleol eu bod efallai’n gorfod defnyddio gwely hyblyg yn y lle cyntaf (e.e. unigolion yn aros am ganllaw neu gymhorthion eraill i gael eu gosod yn eu cartref). Hefyd roedd yr Aelodau o'r farn fod hyn yn amlygu diffyg cyfathrebu rhwng gwasanaethau'r Awdurdod a bod angen i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a'r Gwasanaethau Tai gydweithio'n llawer agosach i sicrhau y gallai unigolion ddychwelyd adref yn syth.

 

Awgrymwyd bod y Bwrdd Iechyd yn cymryd mantais ar yr Awdurdod Lleol gan y gallai'r Bwrdd ryddhau cleifion o'r ysbyty i gyrraedd ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH MAETH CYMUNEDOL AR GYFER GWASANAETHAU INTEGREDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Councillor H.I. Jones declared a personal interest in that his daughter-in-law works for Social Care Services. 

 

Councillor K. Madge declared a personal interest in that his daughter works in Social Care Services.

 

Councillor J. Williams declared a personal interest in that she is an un-paid carer.

 

The Committee UNANIMOUSLY RESOLVED to suspend standing orders during consideration of this item so that the remaining agenda items could be considered.

 

The Committee considered the draft Community Nutritional Strategy for Carmarthenshire and noted that it had been developed in response to recommendations made by Welsh Government in its ‘Health Promotion Action Plan for Older People’. The report outlined the main barriers to good nutrition for this group in the community and proposed that the Council implement a holistic community nutritional strategy with a focus on five priority areas and consider available options to support good nutrition for older people.

 

The following issues were discussed during consideration of the report:

 

It was acknowledged that there had been a decline in the numbers receiving meals on wheels and that there was a need for a new approach, especially as individuals’ lifestyles and tastes were different now to what they had been and that changes to assessment criteria meant that many were no longer eligible. The Assistant Locality Manager suggested that whilst meals on wheels might have appeared to be meeting individuals’ needs, they had never been monitored or the appropriateness for certain individuals questioned. It wasn’t clear whether individuals would actually eat the meal and in turn, this was not meeting their nutritional needs. The Executive Board Member also noted that the proposals outlined within the strategy had come about through concerns about social isolation and that very often, individuals needed more than just a delivery of a meal but also social interaction and assistance with other matters such as dealing with their mail.   

 

It was asked whether the meals on wheels service was statutory or non-statutory. The Assistant Locality Manager clarified that if it was an assessed need, then providing a meal would be a statutory responsibility, however, with new and emerging legislation, it was unclear as to what the requirements would be in the future.

 

UNANIMOUSLY RESOLVED to endorse the Community Nutritional Strategy for consideration by the Executive Board.

10.

ADRODDIAD MONITRO'R CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Councillor H.I. Jones declared a personal interest in that his daughter-in-law works for Social Care Services. 

 

Councillor K. Madge declared a personal interest in that his daughter works in Social Care Services.

 

Councillor J. Williams declared a personal interest in that she is an un-paid carer.

 

The Committee considered the Revenue & Capital Budget Monitoring Reports relating to the Social Care & Health Service for the period up to 30th June 2015. The Service was projecting an over spend of £679,000 on the Revenue Budget at the year end and a net variance of -£228,000 against the 2015/16 approved Capital Budget.  

 

UNANIMOUSLY RESOLVED to receive the report.

11.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

RESOLVED that the explanations for the non-submission of the Safeguarding Adults from Abuse Annual Report 2014/15 and the Intermediate Care Fund Projects Evaluation, be noted.      

 

12.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 3YDD GORFFENNAF 2015 pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

RESOLVED that the minutes of the meeting held on Friday 3rd July 2015, be signed as a correct record.

13.

DERBYN A LLOFNODI COFNODION CYD-GYFARFOD Y PWYLLGORAU CRAFFU CYMUNEDAU A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD, A GYNHALIWYD AR YR 23AIN GORFFENNAF 2015 pdf eicon PDF 311 KB

Cofnodion:

RESOLVED that the minutes of the joint-meeting with the Community Scrutiny Committee held on Friday 22nd May 2015, be signed as a correct record.