Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, A. McPherson ac E.G. Thomas.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai hwn fyddai cyfarfod olaf Rhian Dawson, Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, am gyfnod gan ei bod wedi'i phenodi i swydd dros dro fel Cyfarwyddwr y Sir gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i helpu i aildrefnu gwasanaethau.  Dymunwyd yn dda i Rhian yn ei swydd newydd.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

TRAWSNEWID GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL - ADRODDIAD TERFYNOL YNGHYLCH YMGYNGHORI. pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Richard Jones, Pennaeth Arloesi a Strategaeth Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a oedd wedi cael gwahoddiad i roi cyflwyniad i'r Cyngor ynghylch Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi llunio adroddiad terfynol gan ymgynghori â'r partneriaid, ar ôl cwblhau'r broses ymgynghori ynghylch trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ar draws cwmpas Hywel Dda. 

 

Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r gwaith a gyflawnwyd fel rhan o ymgysylltu ffurfiol, datblygu dewisiadau ac ymgynghori (cam 1 o'r broses ymgynghori).  Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd ynghylch cydymffurfio â'r Cyfarwyddyd Gweinidogaethol ar gyfer Byrddau Iechyd o ran ymgysylltu ac ymgynghori, gyda phwyslais ar gam 2 o'r broses ymgynghori - yr ymgynghoriad ffurfiol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar y broses a gynhaliwyd i roi ystyriaeth fwriadol i'r adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad ac yn amlinellu'r argymhellion o ran y cynigion diwygiedig, gan gynnwys cynllun gweithredu drafft lefel uchel.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau aruthrol y mae pobl ifanc yn eu harddegau yn y chweched dosbarth yn ei wynebu yn yr ysgol, a phwysleisiwyd pwysigrwydd yr angen i helpu'r gr?p hwn gan ei fod yn aml yn cael ei neilltuo.  Eglurodd Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu o ran y gr?p penodol hwn, fod gr?p cenedlaethol yn gwneud darn o waith ar hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae gan y gr?p cenedlaethol nifer o fforymau rhanbarthol ac mae Sir Gaerfyrddin yn aelod o Fforwm Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd ar fin cyhoeddi strategaeth ar hunanladdiad a hunan-niweidio;

·       Holwyd y swyddogion yngl?n â'r sefyllfa bresennol o ran rhestrau aros a hysbyswyd y Pwyllgor fod amseroedd aros yn parhau i fod yn broblem, fodd bynnag mae'r niferoedd yn lleihau;

·       Gofynnwyd a oes unrhyw waith yn cael ei gyflawni ynghylch y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a digartrefedd, dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod swyddogion o'i his-adran wedi gweithio gyda chydweithwyr yn yr is-adran Dai i sicrhau bod digartrefedd ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn y Strategaeth Dai;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod gan y Prif Gwnstabl gyfrifoldeb dros iechyd meddwl ym mhob rhan o'r heddlu ac mewn seminar ddiweddar dywedodd y Prif Gwnstabl fod yr heddlu yn gwneud llawer o waith o ran iechyd meddwl, ac mai dim ond 20% o'i gwaith sy'n ymwneud â throseddu a'r farn oedd bod hyn yn amlygu'r her sy'n ein hwynebu ni i gyd.  Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod a'r Heddlu yn cwrdd â'i gilydd yn rhan o Fforwm a'u bod yn gweithio gyda'i gilydd mwy a mwy;

·       Gofynnwyd beth sy'n cael ei wneud i wella'r problemau ynghylch trafnidiaeth, a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Gr?p Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru wedi llunio rhai cynigion a all fod o gymorth.  Mae swyddogion yn ystyried amrywiaeth eang o ddewisiadau ar hyn o bryd;

·       Gofynnwyd pa fentrau sy'n cael eu rhoi ar waith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £494k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna -£368k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod swyddi gwag yn dod i gyfanswm o £450k ac os caiff y swyddi gwag hyn eu llenwi, byddai'r gorwariant yn nes at £1 miliwn a holwyd y swyddogion a oedd bwriad i lenwi'r swyddi gwag hyn.  Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod rhai o'r swyddi hyn wedi cael eu dal yn ôl, bod rhai ohonynt wedi'u symud i ddarparwyr mewnol a bod rhai ohonynt yn cael eu cyllido gan grantiau;

·       Mynegwyd pryder y byddai'r nifer sylweddol o swyddi gwag yn arwain at bwysau ychwanegol ar aelodau eraill o staff.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod rhywfaint o broblem wedi bod o ran recriwtio i'r swyddi rheoli gofal, fodd bynnag, rydym mewn sefyllfa lawer gwell nag y buom ers amser maith. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 47 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno’r adroddiadau canlynol:-

 

- Chwarter 3 Adroddiad Rheoli Perfformiad ar gyfer Amcanion Llesiant

  2017/18 y Cyngor

  Wellbeing Objectives

- Adroddiad Blynyddol - Diogelu

- Cynllun Ardal Gorllewin Cymru 2018-2023

- Cytundeb y Gronfa ar y Cyd ar gyfer Cartrefi Gofal

- Cytundeb Llywodraethu Rhanbarthol

- Strategaeth Anableddau Dysgu

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 19 Ebrill 2018.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 24AIN IONAWR, 2018. pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24ain Ionawr, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau