Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 17eg Rhagfyr, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. Evans, G. Jones a D. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Math o Fuddiant

Y Cynghorydd K. Lloyd

Cofnod Rhif 5 - Fersiwn Drafft o Gynllun Busnes yr Adran Cymunedau.

Ei nith yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol - gofal seibiant.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/20 – 2021/22, a oedd wedi cael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 19 Tachwedd, 2018. Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22. Bydd yr effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.

 

·         Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2019/20 - 2021/22

·         Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

·         Cafodd y setliad amodol ei gyhoeddi ddydd Mawrth 9 Hydref 2018. Darparwyd ffigurau dangosol ar gyfer Awdurdodau Lleol unigol am un flwyddyn ariannol yn unig, sef 2019/20, ac nid oedd rhagor o wybodaeth am setliadau'r dyfodol.

·         Mae prif bwyntiau Setliad Dros Dro 2019/2020 ledled Cymru fel a ganlyn:

o   Pennwyd cyllid refeniw Llywodraeth Leol o £4.214 biliwn ar gyfer 2019-20, sef gostyngiad o 0.3% (£12.3 miliwn) o gymharu â 2018-19

o   Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £13.7 miliwn wedi cael ei gynnwys ar gyfer cost dyfarniad Cyflog yr Athrawon mis Medi 2018, fodd bynnag £8.1 miliwn yn unig sydd wedi'i ddarparu.

o   Cyfeiriwyd at y £7 miliwn o gyllid ychwanegol i fodloni costau Awdurdodau Lleol sy'n deillio o ddull Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim. O ran hyn, mae'n amlwg mae £4 miliwn yn unig sydd wedi cael ei ddarparu

·         Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, cafwyd gostyngiad o 0.5% (£1.343 miliwn) yn y setliad dros dro. Mae'r Cyllid Allanol Cyfun felly yn gostwng i £258,831k yn 2019/20.

·         Gan roi sylw i gyfrifoldebau newydd a throsglwyddiadau, y gostyngiad ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw 0.7% (£1.873m).

·         Mae grant gwasanaethau cymdeithasol newydd gwerth £30 miliwn ledled Cymru ond ni wyddys manylion y grant hwn eto.

·         Mae pwysau sylweddol ar fil cyflogau presennol y Cyngor oherwydd dyfarniad cyflog yr athrawon 2018 ac yn sgil rhoi colofn gyflogau y cytunwyd arni'n genedlaethol ar waith. Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn rhoi ystyriaeth i effaith y cynnydd mewn cyfraniadau cyflogwr o ran Pensiwn Athrawon, sef effaith blwyddyn lawn o oddeutu £4.5 miliwn.

·         Mae cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod a glustnodwyd yn dirywio oherwydd y gostyngiad o ran y cymorth ar gyfer y rhaglen gyfalaf a gytunwyd gan y Cyngor.

·         Mae'r Awdurdod yn cynnig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2019/20 - 2022. pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(noder: roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2019/20 – 2022 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:

 

·         Gwasanaethau Gofal a Chymorth

·         Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu

·         Gwasanaethau Integredig

·         Gwasanaethau Comisiynu.

 

Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu. Hefyd, roedd adborth gan grwpiau o staff hyd yn hyn wedi nodi y byddai mwy o bwyslais ar gamau gweithredu integredig o ran llesiant drwy gynlluniau is-adrannol yn cael ei groesawu ynghyd â sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau drwy ddulliau gwahanol yn wyneb y galw cynyddol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam y mae'r broses o drosglwyddo Gwasanaethau Allied Healthcare i'n gofal cartref mewnol wedi'i nodi dan Flaenoriaethau Gwasanaeth gyda'r dyddiad Mawrth 2020. Rhagdybiwyd bod y broses drosglwyddo wedi'i chwblhau.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor na fydd Allied Healthcare yn cael ei integreiddio'n llawn tan fis Ebrill 2019, sef y rheswm dros ei gynnwys yn y Blaenoriaethau Gwasanaeth.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y dyddiadau ar gyfer datblygu'r Pentref Llesiant newydd yn Llanelli. Nodir mis Mawrth 2022 ar hyn o bryd.

 

Gan fod agwedd hamdden yr adroddiad o fewn cylch gwaith y Pennaeth Hamdden, cytunodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu i gyflwyno'r cwestiwn hwn i'r Pennaeth Hamdden gan ofyn iddo roi ymateb i'r Pwyllgor.

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch y prinder cartrefi yn y Sir ar gyfer pobl h?n, ac ymddengys bod y cynllun presennol ar gyfer tai fforddiadwy yn seiliedig ar ddata hanesyddol o arolwg anghenion tai a gynhaliwyd yn 2008.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cynllun Tai Fforddiadwy yn ymdrin â'r angen am gartrefi ar gyfer pobl h?n a'r defnydd o addasiadau a thechnoleg. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu hefyd fod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cynnal archwiliad yn ddiweddar a bydd y data yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau ar gyfer 2019/20 - 2022 yn cael ei dderbyn.

 

6.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A DEDDF (CYMRU) LLES 2014 - POLISI A DIWYGIADAU GWEITHDREFN I GODI TÂL AM WASANAETHAU I OEDOLION. pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Diwygiadau Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Codi Tâl ar Oedolion am Wasanaethau.

 

Mae'r adroddiad yn nodi'r polisi diwygiedig, gan gyfuno'r polisïau blaenorol a'r polisi interim y cytunwyd arno yn 2016.

 

Crynodeb o bwyntiau'r polisi.

·         Mae Lwfans Personol wedi'i ailenwi yn Isafswm Incwm a fydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru. Mae 2018-19 wedi'i bennu yn £28.50 yr wythnos (Diwygir hyn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru)

·         Mae Taliadau Dibreswyl yn berthnasol o ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth.

·         Ni chodir tâl ar bobl ag anghenion gofal a chymorth sydd wedi cael diagnosis o CJD, ar gyfer gwasanaethau cartref neu wasanaethau amhreswyl.

·         Gall yr awdurdod lleol bellach godi llog ar daliadau gohiriedig o ddyddiad y cytundeb.

·         Codir tâl ar breswylwyr tymor byr mewn cartref gofal bellach fel pe baent yn derbyn gwasanaethau amhreswyl.

·         Bydd rheolau o ran dewis o lety yn berthnasol i leoliadau "Dros dro / Parhaol" mewn cartref gofal, ond ni fydd yn berthnasol i leoliadau "Tymor byr".

·         Newidiwyd enw Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i "Gostau Ychwanegol" a bydd yn dal yn berthnasol, ond bydd bellach yn cael eu cyfrifo gan ystyried cost uchaf y 2 gartref sydd ar gael, ac nid y pwynt canol yn unol â Pholisi Interim 2016.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch codi tâl am ofal seibiant.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr Busnes fod trefniadau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn dilyn asesiad gan Weithiwr Cymdeithasol. Pan ystyrir bod angen lleoliad ar berson am lai nag 8 wythnos, bydd y lleoliad hwnnw yn cael ei ystyried dan reolau amhreswyl. Gall person gael seibiannau lluosog o fewn unrhyw gyfnod sy'n cael ei ystyried yn dymor byr ac sydd, gyda'i gilydd, dros 8 wythnos.

 

Mae'r gost fesul noson ar gyfer lleoliadau tymor byr yn seiliedig ar gost lawn y lleoliad.

 

·         Gofynnwyd a yw'r gost ar gyfer gofal seibiant yn seiliedig ar brawf modd.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr Busnes, pan fo person yn cael prawf modd, mae'r swm a godir wedi'i gapio – £80 yr wythnos ar hyn o bryd.

 

·         Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am daliadau gohiriedig.

 

Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Busnes, pan gytunir ar daliad gohiredig, bydd yn galluogi pobl i ohirio talu am rywfwaint neu'r holl gostau gofal er mwyn sicrhau nad oes angen iddynt werthu eu heiddo pan fyddant yn mynd i gartref gofal. Bydd yr Awdurdod yn ceisio cael blaenoriaeth arwystl dros yr eiddo, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau bydd yn ail arwystl. Mae gan yr Awdurdod yr hawl i dynnu'r gwasanaethau yn ôl os nad yw person wedi talu ei ffioedd. Dywedwyd nad yw Caerfyrddin wedi tynnu gwasanaeth eto. Yn hytrach, byddai'r awdurdod yn ceisio cael taliad gan yr ystad.

 

  • Cyfeiriwyd at bwynt 1 ar dudalen 120 lle nodir "Hours Commissioned per Week (No Visits)" yn y Saesneg, a dywedwyd wrth y Pwyllgor y dylai hyn ddarllen (No of Visits) a byddai'n cael ei ddiwygio yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD. pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol a oedd i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod heddiw :-

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am weithio mewn partneriaeth a gweithio'n rhanbarthol

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher 23 Ionawr 2019.

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22AIN O DACHWEDD. pdf eicon PDF 271 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018, gan eu bod yn gywir.