Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans-Thomas  01267 224070

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. McPherson, E. Morgan ac E. Shiavone.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Math o Fuddiant

Y Cynghorydd G. Thomas

Rhif y Cofnod 6 - Ceir Cefn Gwlad

Mae ei g?r yn gyrru ar gyfer Ceir Cefn Gwlad.

 

Ni chafwyd dim datganiad ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

TREFN Y MATERION

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn unol â Rheol 2(3) o Weithdrefn y Cyngor, ei bod yn mynd i newid trefn y materion ar yr agenda er mwyn i'r cyflwyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol gael ei ystyried yn ddiweddarach yn y cyfarfod.

5.

YMAGWEDD SIR GAERFYRDDIN AT ATAL ER MWYN CEFNOGI IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar ymagwedd y gwasanaethau integredig o ran darparu gwasanaethau atal effeithiol. Roedd yr adroddiad a'r cyflwyniad yn crynhoi'r dull a ddefnyddir.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol ar ôl y cyflwyniad ar yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch yr henoed yn byw mewn amodau oer gan eu bod yn pryderu am gynnau'r gwres a gofynnwyd i'r swyddogion beth y gellid ei wneud i gyfleu'r neges bod yn rhaid iddynt gadw'n gynnes i gadw'n iach. Dywedwyd wrth y Pwyllgor ei bod yn anodd i bobl newid arferion ffordd o fyw os ydynt bob amser wedi bod yn ofalus neu'n gynnil. Mae swyddogion yn gweithio ar ymagwedd fwy rhagweithiol yn hyn o beth;

·         Gofynnwyd beth y gellid ei wneud i helpu teuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio i dalu am offer a dillad chwaraeon ar gyfer eu plant. Dywedwyd nad oes ateb pendant ond cydnabyddir bod gweithgareddau corfforol yn bwysig ar gyfer atal a llesiant cyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd hyn;

·         Cyfeiriwyd at DEWIS a sut mae'r adnodd hwn yn cael ei ddiweddaru. Dywedwyd bod gweithwyr cymunedol yn annog sefydliadau'r trydydd sector i ddiweddaru eu manylion. Sefydlwyd gweithgor i wneud cynnydd o ran y mater hwn hefyd;

·         Gofynnwyd sut y mae gwasanaethau atal yn cael eu hyrwyddo a'u cefnogi mewn ardaloedd gwledig lle efallai nad oes darpariaeth o ran y rhyngrwyd. Dywedwyd y cysylltwyd â Chynghorau Tref a Chymuned fodd bynnag, ni fynegwyd llawer o ddiddordeb. Os hoffai unrhyw Gynghorau Tref a Chymuned drefnu i swyddogion ymweld â hwy a rhoi cyflwyniad ar Atal, gallent gysylltu â Julia Wilkinson neu anfon e-bost at CommunityResilience@sirgar.gov.uk.

·         Teimlwyd er mwyn helpu i ledaenu'r neges ynghylch y gwasanaethau atal a ddarperir gan yr Awdurdod, dylid gwahodd swyddogion i roi'r cyflwyniad hwn yng nghyfarfod y Cyngor Llawn. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod trefniadau yn cael eu gwneud i'r Cyngor gael cyflwyniad ar Ddementia a chyflwyniad arall ar 'Mae Sir Gaerfyrddin yn garedig', CUSP ac ati;

·         Gofynnwyd a ymgysylltwyd â'r sectorau crefyddol yn Sir Gaerfyrddin gan fod yr eglwysi a'r capeli yn bwysig i'r ardaloedd gwledig. Dywedwyd mai dim ond un Cydgysylltydd Cydnerthu Cymunedol sy'n gweithredu ledled Sir Gaerfyrddin yn sgil salwch tymor hir ac felly cyfathrebu yw un o'r heriau mwyaf. Cydnabyddir bod angen trosglwyddo'r neges.

·         Gofynnwyd a yw neges 'Mae Sir Gaerfyrddin yn garedig' hefyd yn cynnwys neges ynghylch mynd i'r afael â bwlio. Dywedwyd yr oedd hwn yn un o'r negeseuon a oedd yn cael ei hyrwyddo.

 

Diolchodd y Pwyllgor i Julia am ei chyflwyniad a chytunodd y byddai'n fuddiol pe gellid lledaenu'r neges i gynulleidfa ehangach.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'r cyflwyniad.

6.

CEIR CEFN GWLAD

Cofnodion:

[Noder: Roedd y Cynghorydd G Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Sarah Powell (Swyddog Cyllid & Systemau – Adran yr Amgylchedd) a Karyn Morris (Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau a Gomisiynir - y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol)

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a roddai drosolwg ar y gwasanaeth a ddarperir gan Geir Cefn Gwlad.

 

Nodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

·         Lluniwyd cynllun Ceir Cefn Gwlad yn gynllun wrth gefn, sy'n darparu cysylltiadau â bysiau a threnau, neu drafnidiaeth o ddrws i ddrws pan fo angen;

·         Ni all Ceir Cefn Gwlad gystadlu â darparwyr cludiant eraill megis bysiau lleol, trenau a thacsis;

·         Mae terfyn o 20 milltir fesul taith a dim ond un daith yr wythnos, ac mae'n rhaid iddi fod yn Sir Gaerfyrddin;

·         Mae'r gwasanaeth ar gyfer teithiau hanfodol yn unig, ac ar gyfer defnydd unigol ac achlysurol. Mae'r gwasanaeth ar gyfer teithiau hanfodol yn unig, pan nad oes gennych unrhyw fodd rhesymol arall o wneud y daith;

·         Mae'r gwasanaeth yn cynnwys 12 o gynlluniau annibynnol gan ei fod yn haws rheoli cronfa o yrwyr gwirfoddol lleol;

·         Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol wedi'i gontractio gan y Cyngor i recriwtio gyrwyr a gweithredu'r cynllun. Mae hyn yn cynnwys recriwtio, darparu hyfforddiant gorfodol, diogelu, diogelu data, cyflawni gwiriadau DBS a chynnal a chefnogi cronfa o yrwyr gwirfoddol;

·         Caiff contract y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ei adnewyddu bob blwyddyn;

·         Mae'r cyllid a dderbynnir gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn talu am 10% o amser y rheolwr;

·         Mae'r gwasanaeth yn derbyn mwy o geisiadau am drafnidiaeth na'r hyn y gallant eu darparu.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol:-

 

·         Gofynnwyd pa dreuliau y mae'r gwirfoddolwyr yn eu derbyn. Dywedwyd bod Sir Gaerfyrddin yn talu treuliau gwirfoddolwyr ar yr un gyfradd fel y diffinnir gan CThEM (45c y filltir). Byddai goblygiadau o ran treth os oedd y taliad yn uwch. Ad-delir hefyd gostau galwadau ffôn ac unrhyw dreuliau perthnasol eraill;

·         Gofynnwyd am y gost i'r defnyddiwr gwasanaeth. Dywedwyd bod y gost ychydig yn uwch na'r gost o ddefnyddio'r bws fel rheol. Mae hefyd consesiwn o 50% ar gyfer plant 5 i 15 oed a'r rhai sydd â thocyn bws presennol;

·         Gofynnwyd pa wiriadau diogelwch, os o gwbl, a wnaed ar ddefnyddwyr y gwasanaeth. Dywedwyd bod gwiriadau yn cael eu gwneud ar yrwyr gwirfoddol yn unig;

·         Gofynnwyd sut y caiff y gwasanaeth ei ddarparu. Dywedwyd nad yw'r gwasanaeth ar wefan DEWIS ond ei fod yn cael ei hysbysebu ar bosteri mewn meddygfeydd a phob adeiladau sydd ag agwedd gymdeithasol h.y. Swyddfeydd Post, llyfrgelloedd ac ati. Mae ymgyrch recriwtio parhaus yn cael ei chynnal drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thaflenni, posteri, sgyrsiau ac ar lafar. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan y Cyngor. Awgrymwyd y gallai Ceir Cefn Gwlad gysylltu â Radio Sir Gâr i hysbysebu am ddim.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Sarah a Karyn am ddod i'r cyfarfod ac am eu cyflwyniad ac estynnodd ei gwerthfawrogiad am y gwasanaeth.

7.

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer 01/04/18 – 30/09/18. Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o gwynion a'r maes gwasanaeth perthnasol.
 

Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd a oedd yr holl staff priodol wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol. Cynghorwyd y Pwyllgor fod yr hyfforddiant wedi'i osod yn y lle cyntaf ar gyfer rheolwyr a'r swyddogion hynny sy'n ymdrin â chwynion. Fodd bynnag, caiff y wybodaeth ei ddosbarthu i'r holl staff sy'n ymdrin â defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r adran yn ymdrechu i sicrhau bod pob aelod o staff yn parhau i ymdrin â chwsmeriaid i safon uchel. Cyflawnir yr hyfforddiant bob 18 mis er mwyn sicrhau bod y neges yn cael ei hailadrodd yn barhaus a'i lledaenu drwy'r adran.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

8.

ADRODDIAD GWERTHUSO CWSMERIAID Y GWASANAETH PRYD AR GLUD pdf eicon PDF 169 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn gwerthuso lefelau boddhad defnyddwyr y gwasanaeth yn dilyn penderfyniad y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol i ddod â'r gwasanaeth pryd ar glud a ddarperir ganddo ar ran yr Awdurdod Lleol i ben.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Gofynnwyd pa fesurau sydd ar waith er mwyn sicrhau nad yw pobl h?n yn marw oherwydd diffyg maeth. Esboniodd y Rheolwr Ardal fod swyddogion yn gweithio ar gynyddu ymwybyddiaeth o ddiffyg maeth. Mae gwaith yn cael ei gyflawni ar nifer o fentrau ynghylch hyn gan gynnwys y posibilrwydd o gomisiynu CUSP a gweithio gyda Rhagnodwyr Cymdeithasol. Ychwanegodd fod hyn yn bryder cenedlaethol a chydnabyddir bod angen gwneud gwaith yn y maes hwn;
  • Cyfeiriwyd at y ffaith yr oedd y diweddariad diwethaf a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn nodi nad oedd anghenion 17 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi'u diwallu a gofynnwyd i'r swyddogion os yr ymdriniwyd â hyn. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor y rhoddwyd sylw i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn a'u bod bellach wedi symud ymlaen i drefniadau amgen ar gyfer darpariaeth prydau bwyd.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £746k o ran y gyllideb refeniw a byddai -£2k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

 

Codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnodd beth oedd y tanwariant o £22k (Atodiad A). Dywedwyd fod hyn o ganlyniad i staffio;

·         Mynegwyd pryderon ynghylch swyddi gwag yn y timau rheoli gofal. Dywedwyd mai pwysau o ran y gweithlu yw un o'r prif broblemau y mae'r sector yn ei wynebu. Bu peth trosiant staff / staff yn ymddeol. Gwnaed ymdrech pendant eleni i sicrhau bod y Timau Adnoddau Cymunedol yn parhau'n gyflawn. Mae recriwtio yn straen ond mae'n cael sylw. Mae staff sydd wedi ymddeol wedi dychwelyd i roi cymorth wrth recriwtio;

·         Gofynnwyd faint o'r £20 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans AC yr oedd yr awdurdod wedi derbyn. Dywedwyd bod hyn fel arfer yn seiliedig ar fformiwla ac mae'r Awdurdod yn cael 6% o gyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar fformiwla poblogaeth oedolion. Dywedwyd bod yr £20m y cyfeiriwyd ato yn gyllid a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r pwysau ar y gweithlu;

·         Gofynnwyd pam y mae cymaint yn cael ei wario ar staff asiantaeth. Dywedwyd bod llawer o waith wedi'i wneud i leihau dibyniaeth ar staff asiantaeth gan gynnwys rotâu mwy effeithiol a lleihau'r lefelau salwch. Gobeithir gweld canlyniadau mwy effeithiol dros y 6-12 mis nesaf;

·         Mynegwyd pryder ynghylch materion staffio yn enwedig gan fod lefelau uchel o ddiweithdra. Dywedwyd ei fod yn haws recriwtio yn yr ardaloedd mwy gwledig ond ei fod yn anodd cystadlu â siopau yn y trefi. Drwy'r cymhwyster NVQ mae llwybr gyrfa ond mae angen ei wneud yn yrfa fwy deniadol mewn ysgolion;

·         Cyfeiriwyd at y cyhoeddiad gan NHS England fod £3.5 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a gofynnwyd i swyddogion a fyddai Cymru'n debygol o dderbyn cyllid tebyg. Disgwylir cyhoeddiad ynghylch setliad y Grant Cynnal ddiwedd Rhagfyr;

·         Gofynnwyd am y swyddi gwag parhaus sydd o fewn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a sut yr ymdrinnir â hyn. Dywedwyd y bu problemau o ran recriwtio, fodd bynnag, mae'r rhain wedi'u datrys ac mae'r staff a oedd wedi symud i ardaloedd eraill bellach wedi dychwelyd i Sir Gaerfyrddin. Bu llawer o recriwtio a bellach mae gennym Wasanaeth Therapi Galwedigaethol cryf iawn;

·         Gofynnwyd beth fydd effaith y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch Allied Healthcare yn dod i ben ar yr Awdurdod. Dywedwyd bod cynllun wrth gefn ar waith oherwydd roedd y cwmni wedi rhybuddio ei fod mewn trafferthion ariannol. Dywedwyd bod trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal i sicrhau na fyddai'n effeithio ar y gwasanaeth a byddai staff (tua 80) yn cael eu trosglwyddo i gyflogaeth yr Awdurdod.

·         Gofynnwyd pa mor hir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYFLWYNIAD - TRAWSNEWID GWASANAETHAU CLINIGOL - ÔL YMGYNGHORIAD A'R CAMAU NESAF

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Mrs Bernardine Rees (Cadeirydd), Mr Steve Moore (Prif Weithredwr), Helen Annandale (Pennaeth Ffisiotherapi ac Arweinydd Therapïau Sir Gaerfyrddin), Bethan Lewis (Pennaeth Nyrsio Ysbyty Glangwili) a Lisa Davies (Prif Reolwr y Prosiect). Fe'u gwahoddwyd i'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar Drawsnewid Gwasanaethau Clinigol - Ôl Ymgynghoriad a'r Camau Nesaf.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Adroddiad Terfynol Ynghylch Ymgynghori- Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfuno'r gwaith a gyflawnwyd fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 19 Ebrill a 12 Gorffennaf, 2018. Roedd y canlynol ymhlith yr eitemau allweddol a gyflwynwyd:-

 

·         Cefndir y rhaglen

·         Crynodeb o'r Canfyddiadau

·         Y Prif Themâu

·         Ystyriaeth gydwybodol

·         Argymhellion i'r Bwrdd

·         Y Camau Nesaf

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb lle codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol:

 

·         Gofynnwyd beth fyddai'r gost a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer darparu'r cyfleuster newydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ymdeimlad o frys o ran darparu'r cyfleuster newydd gan fod pryderon ynghylch y system bresennol, fodd bynnag, ar yr adeg hon, ni ellir rhoi cadarnhad o ran y costau a'r amserlenni. Efallai y bydd yr achos busnes llawn yn cymryd ychydig flynyddoedd i'w cwblhau a hyd nes bod hwn wedi'i gwblhau, ni ellir sicrhau'r cyllid;

·         Gofynnwyd a oedd yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer integreiddio a thrawsnewid. Dywedwyd bod yr Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd yng ngham olaf y cynnig a'i bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau Gofal Cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector. Ailgadarnhaodd yr Ymddiriedolaeth ei hymrwymiad i weithio ar draws gwasanaethau amrywiol y sector cyhoeddus a bydd yn canolbwyntio ar yr angen i fod yn 'sefydliad gofal'. Mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg a sicrhaodd y byddai'r trafodaethau yn ystyried budd pennaf cleifion;

·         Gofynnwyd a fyddai'n ymarferol ystyried cael ysgol feddygol sydd ynghlwm wrth unrhyw ysbyty newydd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod llawer o hyfforddiant eisoes yn cael ei gyflawni yn y cyfleusterau presennol. Bydd y cyfleoedd a gynigir yn y Pentref Llesiant yn gwella dewisiadau o ran hyn yn sylweddol;

·         Gofynnwyd am leoliad y cyfleuster newydd a sut y gellir cyfiawnhau hyn i'r boblogaeth. Dywedwyd gan fod y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar draws nifer o safleoedd ar hyn o bryd, mae arbenigedd hefyd yn cael ei wasgaru ac yn achosi problemau o ran staffio a rotâu. Drwy ddod â’r holl wasanaethau at ei gilydd mewn un lleoliad dylai wella cydbwysedd bywyd a gwaith y staff a bydd hefyd yn gwneud pethau'n haws i gleifion gyrraedd gwasanaethau arbenigol megis niwroleg. Cydnabyddir yr angen am well seilwaith er mwyn sicrhau bod y cyfleuster newydd ar gael i bawb ac mae'n her y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hi;

·         Gofynnwyd pa gynlluniau sydd ar waith i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf. Dywedwyd y bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod cynlluniau a sicrhau ei fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18 PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2017/18. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2017/18.

12.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol a oedd i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod heddiw :-

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am weithio mewn partneriaeth a gweithio'n rhanbarthol

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

13.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Rhagfyr 2018.

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25AIN MEDI, 2018 pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018, gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau