Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mawrth, 25ain Medi, 2018 9.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU A MATERION ERAILL

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd R. Evans.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Karen Davies i'w chyfarfod cyntaf a chydymdeimlodd, ar ran y Pwyllgor, â'r Cynghorydd Davies yn sgil y newyddion trist am farwolaeth ei g?r, y Cynghorydd Alun Davies, sy'n gyn-aelod o'r Pwyllgor.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. 

 

4.

ADRODDIAD MONITRO'R CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £881k o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai £2k o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch prinder staff a phroblemau o ran recriwtio staff a gofynnwyd i'r swyddogion beth yw'r problemau penodol ac a yw'r prinder staff yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir.  Esboniodd Cyfrifydd y Gr?p fod ffigurau'r adroddiad yn ymwneud â staff asiantaeth.  Mae dros 100 o aelodau staff yn y Tîm Adnoddau Cymunedol ac mae'r trosiant staff yn eithaf uchel.  Mae camau adferol wedi'u cymryd eleni i leddfu'r sefyllfa.  Os credir y bydd swydd wag yn cael effaith fawr, yna bydd staff y pwll yn cael eu defnyddio.  Ychwanegodd fod recriwtio a chadw staff yn y Tîm Adnoddau Cymunedol wedi bod yn arbennig o dda eleni.  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wrth y Pwyllgor fod defnyddio staff asiantaeth mewn Cartrefi Gofal yn broblem benodol a bod camau'n cael eu cymryd i leihau faint rydym yn dibynnu arnynt.  Mae ymgyrch recriwtio hefyd yn cael ei chynnal i wneud swyddi yn y sector gofal yn fwy deniadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

5.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 1 - 1AF EBRILL HYD 30AIN MEHEFIN 2018. pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2018 (Chwarter 1), a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-23 i ddarparu'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, dyddiedig 30 Mehefin, 2018.

 

Cyflwynwyd y sylw canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai o'r dyddiadau targed yn 2019 ond bod rhai yn 2021.  Esboniodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau fod rhai ohonynt yn dargedau tair blynedd.  Ychwanegodd fod y Cynllun Busnes yn cynnwys cyfnod o dair blynedd a bod targedau'n cael eu dilysu bob blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

6.

CYNLLUNIO A DATBLYGU'R GWEITHLU: DULL GWEITHREDU RHANBARTHOL. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y gwaith ar y cyd sy'n cael ei wneud yng ngorllewin Cymru mewn perthynas â chynllunio a datblygu'r gweithlu. 

 

Yn bennaf, mae tri Awdurdod Lleol gorllewin Cymru wedi bod yn gwneud y gwaith hwn, ond ystyrir bod y GIG yn bartner allweddol a fydd yn cyflawni rôl fwy wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.  Mae trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar waith i sicrhau ymagwedd gydweithredol ar draws yr holl asiantaethau partner.

 

Yng ngorllewin Cymru mae cynlluniau i ddatblygu'r gweithlu wedi'u mabwysiadu fel un o wyth blaenoriaeth strategol gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol.  Mae'r Cynllun Ardal Rhanbarthol "Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd" yn blaenoriaethu'r gwaith o ddenu pobl i yrfaoedd yn y sector gofal a'u galluogi i ddatblygu sgiliau newydd.  Er mwyn cyflawni hyn:-

 

- mae Gr?p Strategaeth Gweithlu Rhanbarthol Integredig wedi'i sefydlu;

- penodwyd Rheolwr y Rhaglen Ranbarthol ar gyfer y Gweithlu ym mis Gorffennaf 2017;

- mae ymarfer cwmpasu cychwynnol wedi'i gwblhau ar ran y Bartneriaeth gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus, sydd wedi nodi nifer o feysydd posibl ar gyfer cydweithio mewn perthynas â chynllunio'r gweithlu;

 

 

- mae meithrin perthynas effeithiol a chydweithio wedi caniatáu i nifer o brosiectau eraill ddatblygu, gan gynnwys:-

 

    - Maeth a Hydradiad yn y Gymuned;

    - Gweithiwr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Integredig;

 

Yn ogystal â'r datblygiadau uchod, mae Rheolwr y Rhaglen Ranbarthol wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro i gyflawni'r gwaith canlynol:-

 

- y cyflwyniad rhanbarthol cyntaf am gyllid drwy Raglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru;

 

- datblygu a darparu rhaglen ranbarthol a ariennir gan Ofal Cymdeithasol Cymru drwy ei Grant Hwyluso.

 

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch parhau i ddefnyddio ffynonellau allanol i recriwtio staff gofal cartref, sut y mae'r telerau a'r amodau, safonau'r hyfforddiant ac ati yn cael eu gwirio.  Cyfaddefodd Rheolwr y Rhaglen Gweithlu Rhanbarthol fod hyn yn broblem a bod camau'n cael eu cymryd i sefydlu gweithlu cwbl integredig.  Yn rhanbarthol, mae rheolwyr yn ystyried gofynion ac anghenion hyfforddiant y gweithwyr gyda'r nod o sicrhau y bydd yr holl weithwyr yn cael yr hyfforddiant iawn;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion sut y gallwn sicrhau bod y sector preifat wedi ymrwymo i roi hyfforddiant.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor fod gan yr Awdurdod drefniadau comisiynu helaeth â'i bartneriaid.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno rheolau eithaf llym ynghylch rheoleiddio'r gweithlu yn y sector gofal.  Mae'n hanfodol bod gennym weithlu cadarn a bod mesurau cymorth ar waith gan y bydd sicrhau ein bod yn buddsoddi yn ein gweithlu o fudd i ni;

·       Pan ofynnwyd pa mor anodd yw mesur gwaith atal, esboniodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol fod yr ymagwedd ranbarthol yn ymwneud â sut i drosglwyddo adnoddau o wasanaethau acíwt i'r gwasanaethau atal.  Ychwanegodd fod swyddogion yn gweithio i fesur yr effaith y mae hyn yn ei chael.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

 

7.

POLISI TALIADAU UNIONGYRCHOL. pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi Taliadau Uniongyrchol yr Awdurdod sydd wedi'i ddiweddaru yn unol â newidiadau i'r ddeddfwriaeth.

 

Mae taliadau uniongyrchol yn golygu bod unigolion sydd ag anghenion cymwys o ran gofal a chymorth yn gallu prynu eu gwasanaethau eu hunain i ddiwallu'r anghenion hynny.  Yn y bôn, mae'r Awdurdod Lleol yn rhoi swm o arian i'r unigolyn sy'n derbyn y taliad uniongyrchol, sy'n cyfateb i amcangyfrif o gost resymol y gwasanaeth a fyddai wedi cael ei ddarparu iddo.  Mae taliadau uniongyrchol yn ffordd arall o gael gwasanaethau wedi'u trefnu neu'u darparu gan yr Awdurdod Lleol.  Nod y taliadau uniongyrchol yw rhoi mwy o reolaeth a dewis i'r rhai sy'n eu derbyn, o ran sut y mae eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu.  Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr Awdurdod Lleol i gynnig taliadau uniongyrchol i unrhyw un sydd ag anghenion cymwys o ran gofal a chymorth.

 

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016, yn ogystal â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015.  O ganlyniad, mae'r Awdurdod wedi adolygu ei bolisi blaenorol ynghylch taliadau uniongyrchol (a oedd yn bolisi tair sir rhwng Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion) a'i ddiwygio er mwyn adlewyrchu'r newidiadau yn sgil y ddeddfwriaeth uchod.  Mae'r Awdurdod wedi penderfynu cynnig bod y polisi newydd yn berthnasol i Daliadau Uniongyrchol Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig i ddechrau.  Fodd bynnag, mae cynnwys y polisi newydd wedi cael ei rannu gyda Chyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd i'r swyddogion faint o amser y byddai'n ei gymryd i'r taliad uniongyrchol ddechrau, o ran rhywun sy'n symud i sir arall.  Esboniodd Rheolwr Gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y Côd Ymarfer i'r Ddeddf yn nodi y dylai unigolyn sy'n gwneud cais am symud i sir arall roi gwybod i'w sir, ac yna dylai gael asesiad cyn iddo symud er mwyn osgoi unrhyw oedi.  Mae rhai pobl yn anghofio rhoi gwybod i'w Hawdurdod Lleol eu bod yn symud, ac os bydd hyn yn digwydd, bydd swyddogion yn gweithio gyda'r Awdurdod i osgoi unrhyw oedi;

·       Mynegwyd pryder y byddai unigolyn yn blocio gwely os caiff ei ryddhau o'r ysbyty a bod yna oedi o ran ei daliad uniongyrchol.  Esboniodd Rheolwr Gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y dylai'r protocol o ran cynllunio i ryddhau osgoi unrhyw oedi o'r fath.  Ychwanegodd y gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau i osgoi oedi wrth ryddhau;

·       Wrth gydnabod bod taliadau uniongyrchol yn rhoi annibyniaeth, mynegwyd pryder y gallai fod yn bosibl camfanteisio ar y bobl.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod dulliau diogelu a threfniadau craffu trylwyr ar waith, gan gynnwys yr angen i gyflwyno amserlenni sy'n dangos yr arian sy'n cael ei wario.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Taliadau Uniongyrchol diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

8.

Y DDARPARIAETH PRYD AR GLUD. pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun a ddatblygwyd gan yr Adran Cymunedau ynghylch y newidiadau i'r Gwasanaeth Pryd ar Glud.

 

Ar ôl i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol benderfynu tynnu'n ôl o ddarparu'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2018, roedd angen i'r adran adolygu'r 214 o ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn asesu anghenion pob unigolyn a chynnig dewisiadau eraill.  Roedd hefyd yn gyfle i hybu mwy o annibyniaeth a chyfleoedd cymdeithasu ar gyfer yr unigolion, gan ddatblygu, lle bo modd, fentrau yn y gymuned i gefnogi'r unigolion a'u cymunedau lleol.  Dechreuodd y broses adolygu ym mis Mai ac mae bellach wedi'i chwblhau.

 

Mae'r adolygiad wedi bod yn broses person-ganolog sydd wedi nodi, ar y cyd â'r defnyddiwr gwasanaeth a'i deulu, y dewisiadau sydd fwyaf priodol i'r unigolyn.  Mae'r adran yn fodlon bod trefniadau amgen wedi'u gwneud i bob un o'r defnyddwyr gwasanaeth a adolygir, a bod y trefniadau hyn yn ddiogel ac yn addas i'r unigolion.  Er gwaethaf rhai anawsterau cychwynnol wrth adolygu'r unigolion yng ngogledd-orllewin y sir, ychydig iawn o bryderon a godwyd ac mae canlyniadau'r adolygiad wedi darparu trefniadau newydd a chadarnhaol ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth. Mae enghreifftiau'n cynnwys pobl yn defnyddio caffis lleol sy'n cynnig dewis gwell o brydau am gost debyg, a phobl yn dewis Wiltshire Farm Foods, sef gwasanaeth sy'n dosbarthu prydau wedi'u rhewi ledled y sir.

 

Ar sail canlyniadau'r adolygiad, mae'r rhan fwyaf o'r unigolion a oedd yn defnyddio'r Gwasanaeth Pryd ar Glud naill ai wedi dewis ymdopi ar eu pen eu hunain, maent wedi cael gafael ar fusnesau lleol i'w cynorthwyo o ran darparu pryd twym, neu maent yn defnyddio Wiltshire Farm Foods. 

 

Ychydig iawn ohonynt oedd angen cael rhagor o gymorth gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, ac mae'r adran yn cynnal trafodaethau â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a sefydliadau'r trydydd sector i ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion parhaus y 17 unigolyn sydd ar ôl gan gynnwys y rheiny y mae angen cymorth arnynt i dwymo eu prydau a mwynhau cael cwmni.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder na fydd y mentrau newydd yn bodloni'r gofynion o ran pobl unig a phobl agored i niwed yn yr un ffordd â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor fod yna argraff ledled Cymru nad oedd y Gwasanaeth Pryd ar Glud yn diwallu anghenion pobl a'u bod am gael rhywbeth gwahanol.  Y gred gyffredinol oedd bod yna ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion pobl.  Ychwanegodd fod swyddogion yn archwilio ystod o fentrau i ymgysylltu â phobl;

·       Gofynnwyd am sicrwydd bod y system newydd yn gynhwysfawr ac y bydd monitro'n cael ei wneud.  Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod seminar yn cael ei gynnal ar gyfer y Pwyllgor ynghylch y Strategaeth Ddarparu er mwyn lleddfu pryderon yr aelodau;

·       Cyfeiriwyd at yr adroddiad diweddaraf gan Age UK sy'n dangos bod bron 1:10 o bobl dros 65 oed mewn perygl o fod â diffyg maeth a bod 50% o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 22 Tachwedd 2018.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD GORFFENNAF, 2018. pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2018 gan eu bod yn gywir.