Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Davies, A. McPherson, L. Roberts, E. Schiavone ac E.G. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

Y Cynghorydd G. Thomas

 

 

Cofnod 6 – Fersiwn Ddrafft o Strategaeth Anableddau Dysgu 2018-23

 

Mae ei g?r yn gyrru ar gyfer Ceir Cefn Gwlad.

 

 

 

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

GOFALWYR DI-DÂL - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF. pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Alison Harris, sef Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth i Ofalwyr, Croesffyrdd Sir Gâr, a oedd wedi cael ei gwahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn ystyried y mater hwn.

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad oedd yn rhoi trosolwg o'r gweithgareddau a'r mentrau a gafodd eu rhoi ar waith i roi cymorth i'r 48,000 o ofalwyr di-dâl yn y rhanbarth a'r 24,000 o ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd, ers i'r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mehefin 2016, ac roedd yn rhoi manylion ynghylch datblygiad yn y rhanbarth a thrwy'r wlad, ynghyd â'r modd rydym yn mynd ati i weithredu'r agenda.

 

Roedd datblygiadau rhanbarthol yn cynnwys gwaith gan y Gr?p Gofalwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru a'r modd y mae'r gwaith o ran y Mesur ar gyfer Gofalwyr wedi mynd rhagddo ers iddo gael ei ddiddymu a'i wneud yn rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhoddwyd manylion hefyd ynghylch Cynllun Cyflawni Gofalwyr Gorllewin Cymru 2018/19 a'r adroddiad gwerthuso ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2017.

 

Dangosodd yr adroddiad y lefelau uchel o gydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer Gofalwyr ar draws rhanbarth gorllewin Cymru ac yn Sir Gaerfyrddin yn enwedig. Cydymffurfir â deddfwriaeth ac ymrwymiad o ran adnoddau gan y sefydliad ar gyfer cymorth i Ofalwyr a chydnabuwyd hyn gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae cydweithio â chydweithwyr iechyd, cydweithwyr mewn awdurdodau lleol cyfagos a'r trydydd sector yn bwysig ac mae'n tynnu sylw at yr ymagwedd gadarnhaol tuag at gydweithio sydd gan Ofalwyr sydd wedi datblygu yn y rhanbarth er mwyn bod yn gyson â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Gellir dangos y cymorth uniongyrchol i Ofalwyr yn ôl maint y gofal amgen rydym yn ei ddarparu sy'n rhoi seibiant i Ofalwyr rhag y gwaith gofalu neu'n rhoi cyfle iddynt wneud pethau eraill sy'n bwysig iddynt. Un dangosydd sy'n adlewyrchu hyn yw mai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Sir Gâr, sef darparwr trydydd sector, yw'r gangen fwyaf o ran trosiant a gweithwyr, o'r sefydliadau yng Nghymru. Mae Sir Gaerfyrddin yn greadigol yn y modd rydym yn ymdrin â heriau a bydd cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr a'r Gwobrau Bòs Gofalgar, sy'n cael eu cydnabod yn arferion da gan Lywodraeth Cymru a Gofalwyr Cymru, yn cael eu hefelychu.

 

Mae'r Awdurdod wedi ymateb i'r hyn y mae Gofalwyr wedi'i ddweud wrtho, fel y gwelwyd yn y gwasanaeth allgymorth llwyddiannus tu hwnt a gomisiynwyd ar ôl ymgynghori â Gofalwyr ar gyfer y Mesur Gofalwyr, ac mae'n parhau i fuddsoddi mewn Fforwm Gofalwyr sy'n cynnig lle i ofalwyr fynegi eu problemau a'u dyheadau mewn amgylchedd cyfforddus sy'n darparu cyswllt gwybodaeth i drefnwyr gwasanaeth. Bydd gwaith yr Awdurdod yn y dyfodol yn adeiladu ar yr elfennau cadarnhaol hyn drwy fodel cydweithredu a chydgynhyrchu â Gofalwyr wrth inni fynd ati i gwrdd â thair blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder nad yw nifer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

FERSIWN DRAFFT O STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU 2018-2023. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:  Roedd y Cynghorydd G. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diwygio ac yn integreiddio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol ac yn rhoi pwyslais ar wella canlyniadau llesiant i bobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr.  Mae'n cyflwyno cyfres gyffredin o brosesau i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, yn cryfhau cydweithredu ac integreiddio gwasanaethau, ac yn rhoi ffocws cynyddol ar atal ac ymyrraeth gynnar. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi trefniadau cadarn ar waith sy'n annog ac yn hyrwyddo cyfranogiad dilys gan bobl, sy'n symud ffocws darparu gwasanaethau i ganlyniadau unigol er mwyn i wasanaethau gael eu cynllunio a'u harwain gan y rhai sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen gofal a chymorth.

 

Mae'r Ddeddf wedi newid yn sylfaenol y modd y mae gwasanaethau gofal a gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu yng Nghymru, ac mae'n seiliedig ar nifer o egwyddorion:-

 

·       Llais a rheolaeth – sicrhau bod yr unigolion a'u hanghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddynt dros gyrraedd y canlyniadau sy'n eu helpu i sicrhau eu llesiant;

·       Atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaeth atal gyda'r gymuned i leihau'r angen am ofal a reolir yn barhaus.

·       Llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth;

·       Cyd-gynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran wrth lunio a darparu gwasanaethau.

 

Mae'r fersiwn ddrafft o Strategaeth Anableddau Dysgu ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn croesawu egwyddorion y Ddeddf ac yn ymgorffori'r ymgysylltu blaenorol a wnaed gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr/rhieni ac eraill. Ymgynghorir yn ffurfiol hefyd ynghylch fersiwn ddrafft o'r strategaeth.

 

Mae Bwrdd y Rhaglen Anableddau Dysgu Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn yr Asesiad Poblogaeth, ynghyd â chwrdd â'r gofynion cenedlaethol a amlinellir uchod ac arwain y gwaith newid o ran y gwasanaeth anableddau dysgu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwaith y Bwrdd yn seiliedig ar weledigaeth ar y cyd i ddatblygu model gofalu integredig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr ar draws y rhanbarth. Mae'n defnyddio modelau sy'n cael eu gweithredu drwy'r strategaethau Anableddau Dysgu lleol ym mhob ardal yn y sir. 

 

Bydd Strategaeth Sir Gaerfyrddin yn sicrhau, o fewn cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol, fod llais y bobl leol sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac sydd ei angen yn cael ei nodi a bod cynllun y gwasanaethau lleol yn cael eu datblygu i adlewyrchu hyn.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith yn yr adroddiad fod trafnidiaeth yn parhau i fod yn her, a hynny oherwydd natur wledig Sir Gaerfyrddin, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd Ceir Cefn Gwlad a gwasanaethau Ceir Ambiwlans Cymru yn cael eu defnyddio. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer o fentrau trafnidiaeth yn y rhanbarth. Mae angen inni ganolbwyntio ein rhwymedigaethau statudol ar y rhieny sydd â'r angen mwyaf. Cynigir cymorth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23. pdf eicon PDF 260 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adrannau drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Bydd drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol yn cymryd lle'r un presennol a gyhoeddwyd yn 2015 a bydd yn cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

-  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

-  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol

   2009;

- Yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r

   Dyfodol (Cymru) 2015;  

-  Prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin

   a Rhaglenni am y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn “Symud Ymlaen yn Sir

   Gaerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf”.

 

Nodwyd nad oes angen inni newid ein Hamcanion Llesiant bob blwyddyn, na gorfod eu rhoi ar waith o fewn blwyddyn, a bod nodi amcanion sy'n parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at Amcan 2 a’r ffaith byddai’n ddefnyddiol cael ffigyrau ochr yn ochr â chanrannau o dan yr adran ‘Pam y dylai hyn ein pryderi’ a hefyd darddiad y ffigyrau.  Cadarnhaodd swyddogion byddai hyn yn cael sylw;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith y bydd y gwasanaeth pryd ar glud sy'n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn dod i ben ym mis Hydref, a sgil-effaith hynny ar y rheiny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth.  Rhoddodd Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig wybod i'r Pwyllgor fod y gwasanaeth yn cysylltu â phob person sy'n cael pryd ar glud er mwyn asesu eu hanghenion unigol. Ychwanegodd fod swyddogion yn chwilio am opsiynau gwahanol, er enghraifft clybiau cinio, canolfannau cymunedol ac ati.

 

PENDERFYNWYD

         

7.1     Awgrymu i'r Bwrdd Gweithredol fod drafft newydd Strategaeth           Gorfforaethol 2018-23 yn cael ei chymeradwyo;

         

7.2     Bod y Pwyllgor yn cael adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth           ddiweddaraf ynghylch y ddarpariaeth pryd ar glud yn y sir.

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 - CWARTER 3. pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 46 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno’r adroddiadau canlynol:-

 

– Adroddiad Blynyddol – Diogelu

– Adroddiad Diwedd y Flwyddyn ynghylch Canmoliaeth a Chwynion 2017/18

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfodydd nesaf ar 21 Mai, 2018.

 

11.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED MAWRTH, 2018. pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2018, gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau