Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, R. Evans ac E.G. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID. pdf eicon PDF 299 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a gyflwynwyd yn Lloegr ac yng Nghymru yn Ebrill 2009 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaethau Deddf Gallu Meddyliol 2005. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyfraith achosion diweddar yn y Goruchaf Lys ym Mawrth 2014 a'r camau oedd yn cael eu cymryd gan yr Adran Cymunedau i liniaru'r risgiau oedd yn gysylltiedig â hynny, gan gynnwys trefniadau staffio, hyfforddi Gweithwyr Cymdeithasol a Doctoriaid Adran 12 yn Aseswyr Budd Pennaf a chynyddu nifer y staff sy'n gallu awdurdodi'r Asesiadau yn unol â'r amserlen angenrheidiol.

 

Nodwyd bod adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r system Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid wedi ei disgrifio yn "anghynaliadwy ac nad oedd yn addas i'r diben”. Er bod yr adolygiad, ynghyd â'i argymhellion, wedi cael eu hanfon at y Llywodraeth Genedlaethol, nid oedd disgwyl iddo gael ei weithredu am gryn amser. O ganlyniad, byddai'r system bresennol, ynghyd â'i heriau a'i risgiau, yn parhau hyd nes y byddai unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth yn cael eu cyflwyno.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at gyhoeddiad beirniadol diweddar Comisiynydd Pobl H?n Cymru o'r enw "Lle i'w Alw'n Gartref: Effaith a Dadansoddiad" ynghylch ansawdd y gofal mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Mynegwyd barn ynghylch pa mor bwysig ydyw bod y Cyngor yn darparu digon o staff ac adnoddau i gyflawni ei rwymedigaethau i ymgymryd â phroses asesu'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid mor effeithiol ac mor gyflym â phosibl i sicrhau bod pobl agored i newid sy'n derbyn gofal yn cael eu diogelu.

 

Wrth ymateb, amlinellwyd proses asesu'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid gan yr Uwch-reolwr Diogelu. Roedd yn ofynnol bod 6 o Asesiadau'n cael eu gwneud ym mhob cais cyn eu cymeradwyo, sef 3 gan Weithwyr Cymdeithasol a 3 gan Ddoctoriaid Adran 12 cymeradwy. Gofynnwyd hefyd i bob person oedd yn rhan o'r asesiad, neu eu cynrychiolydd/eiriolwr, lenwi ffurflen adborth ynghylch eu teimladau am y modd roedd y cartref gofal yn gweithredu.

 

Er mwyn i'r Awdurdod gyflawni ei ofynion o ran gwneud yr asesiadau o fewn yr amserlen briodol, cafodd 22 o weithwyr cymdeithasol hyfforddiant gan Aseswyr Budd Pennaf a hyfforddwyd saith aelod o staff yn llofnodwyr awdurdodedig, yn ogystal â'r Pennaeth Gwasanaeth a'r Uwch-reolwr Diogelu. Er mwyn cynnal y broses asesu/awdurdodi, roedd yr is-adran wedi sefydlu uned cynnal busnes oedd yn cynnwys dau aelod o staff amser llawn ac un rhan-amser. Roedd yr Arferion Gorau hefyd yn cael eu harchwilio ledled Lloegr a Chymru ynghylch beth sy'n gwneud tîm da ar gyfer Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, gyda golwg ar ddatblygu'r model gorau ar gyfer Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod adnoddau digonol yn eu lle i gefnogi pob cam o'r broses.

 

O ganlyniad i fuddsoddi mewn hyfforddiant, yn Sir Gaerfyrddin roedd dros 95% o'r ceisiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid oedd wedi dod i law ers canol mis Medi 2017, wedi cael eu pennu a'u hasesu o fewn y terfyn amser 7 neu 21 diwrnod. Nid oedd y 5% oedd yn weddill  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION 01/04/17 TO 30/09/17. pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill hyd at 30 Medi, 2017 yn crynhoi'r nifer a'r math o gwynion a chanmoliaethau oedd wedi dod i law ynghyd â'r maes gwasanaeth yr oeddynt yn perthyn iddynt.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Dywedodd y Swyddog Adolygu Perfformiad wrth y Pwyllgor am y ddau gam yn y broses gwynion, mewn ymateb i gwestiwn am yr amserlen o ran prosesu ac ystyried cwyn. Roedd hynny'n cynnwys anfon llythyr cydnabod at yr achwynydd cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl i'r g?yn ddod i law, yna bod swyddog ymchwilio yn cael ei apwyntio a fyddai'n cael 10 niwrnod gwaith i archwilio a cheisio datrys y g?yn. Os na ellid datrys y g?yn o fewn yr amserlen honno, gellid rhoi caniatâd i gael estyniad mewn amgylchiadau eithriadol, yn amodol ar gael caniatâd yr achwynydd. Yn dilyn y datrysiad yn y cam cyntaf, os nad oedd yr achwynydd yn fodlon ar y canlyniad, gallai'r g?yn wedyn symud i'r ail gam.

·         Cyfeiriwyd at lefel gymharol isel y cwynion a oedd wedi dod i law'r Adran, a mynegwyd y farn, am amrywiaeth o resymau, efallai fod llawer sy'n cael gofal cymdeithasol eu hunain, neu eu teuluoedd, yn amharod i gyflwyno cwyn ffurfiol. Gofynnwyd a oedd y term 'cwyn' ynghyd â'r diffiniad presennol a'r broses yn briodol o ran annog a chrynhoi'r holl bryderon a/neu anfodlonrwydd ynghylch lefel y gofal a ddarperir.

·         Cyfeiriwyd hefyd at bwysigrwydd crynhoi'r holl gwynion a chanmoliaethau er mwyn llywio'r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd a datblygu polisïau yn y dyfodol. I'r perwyl hwnnw, mynegwyd pryder nad oedd yr adroddiad, fel y'i cyflwynwyd, yn rhoi darlun trosfwaol a chynhwysfawr o'r holl faterion sy'n ymwneud â chwynion a hynny oherwydd ei fod wedi nodi cwynion/canmoliaethau a wnaed am y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a ddarparwyd gan yr awdurdod yn unig, yn hytrach na chynnwys cwynion o fewn yr adran, a hynny drwy gyfrwng prosesau gwasanaethau eraill a ddarperir yn uniongyrchol gan gartrefi gofal preifat a darparwyr gofal cartref. Felly awgrymwyd y dylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys data am gwynion/canmoliaethau yn y sector cyfan. 

·         Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth o ran pecynnau gofal a gofynnwyd a ellid gofyn i bobl gwblhau ffurflen adborth tua 6 wythnos ar ôl i'r ddarpariaeth ddechrau er mwyn cael cipolwg ar brofiad cychwynnol pobl o'r gofal a ddarperir.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y wybodaeth ar hyn o bryd yn cael ei chasglu gan ddarparwyr gofal yn unol â gofynion AGGCC a hefyd gan y Tîm Comisiynu yn y Cyngor yn rhan o'i rôl monitro contractau. Felly gellid cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol. Yn rhan o'r datganiad i Lywodraeth Cymru, roedd yr awdurdod hefyd mewn cyswllt â defnyddwyr gwasanaeth a byddai'n gwneud arolwg ychwanegol yn rhan o'r datganiad. Cadarnhawyd y gallai'r Bwrdd Arferion a Phrosesau drafod y cwestiwn ynghylch rhoi ffurflenni adborth ynghylch pob pecyn gofal.

·         Mewn ymateb i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU RHANBARTHOL, INTEGREIDDIO GWASANAETHAU A CHRONFEYDD AR Y CYD. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch y gwaith a wneir o dan fantell Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 am Integreiddio Gwasanaethau, Cronfeydd ar y Cyd a Threfniadau Llywodraethu rhanbarthol. Nodwyd o dan y Ddeddf ei bod yn ofynnol i'r holl awdurdodau lleol sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd ynghylch:

 

-       arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal (erbyn 6 Ebrill 2018)

-       arfer eu swyddogaethau o ran cymorth i deuluoedd

-       Swyddogaethau penodedig a arferir ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau o'r Boblogaeth, lle roedd trefniadau o'r fath yn cael eu hystyried yn briodol.

 

Yn unol â'r gofynion uchod nodwyd bod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, a sefydlwyd o dan Ran 9 o'r Ddeddf, wedi rhoi blaenoriaeth i sefydlu trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd i gartrefi gofal pobl h?n erbyn y terfyn amser statudol, ac roedd y dull hwnnw'n gyson mewn llefydd eraill yng Nghymru.

 

Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd ar ôl i'r adroddiad gael ei baratoi a bod angen hysbysu'r Pwyllgor amdanynt. Yn gyntaf, byddai'r gronfa ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal yn gweithredu mewn modd rhithwir i ddechrau oherwydd bod pryderon wedi codi ynghylch nifer o broblemau yn cynnwys traws-gymorthdaliadau, costau gweinyddol ar drafodion, goblygiadau archwilio ac olrhain cyllid pecynnau gofal ledled y tair sir. Yn ail, roedd trefniadau cyfochrog yn cael eu gwneud ar gyfer sefydlu Tîm Cymorth Gofal Teulu Integredig rhanbarthol i atal plant rhag mynd i ofal. Yn drydydd, gan fod gan bob awdurdod yn y bartneriaeth storfeydd offer integredig, ystyrid a fyddai cael dull rhanbarthol o ran eu darpariaeth o fantais ai peidio.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sefydlu cronfa gyfun rithwir, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y materion a nodwyd. Er bod rhai rhanbarthau wedi penderfynu gweithredu cyllidebau ar y cyd yn rhanbarthol drwy benodi rhanbarth cynnal lle y byddai cronfeydd ar y cyd yn cael eu talu ac yna'n cael eu dychwelyd i'r cyrff sy'n cyfrannu, roedd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn ystyried bod hynny'n 'ymarfer ar bapur' ac roeddynt yn hytrach wedi penderfynu gweithredu cronfa rithwir. Byddai'r dull hwnnw'n galluogi'r bartneriaeth i werthuso a deall data a gynhyrchwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu ar lefel a dyraniad y cyllid sydd ar gael a grymoedd y farchnad. Trwy hynny byddai'n llywio'r broses gwneud penderfyniadau a chael y gwerth gorau i dalwyr y Dreth Gyngor gan hefyd archwilio gwerth yr hyn roedd y Ddeddf yn galluogi partneriaethau i'w wneud. Byddai hefyd yn galluogi trafodaethau gyda Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch y pryderon am gronfeydd ar y cyd.

 

Cadarnhaodd hefyd pe bai gorwariant yn digwydd yn y gyllideb ar y cyd, yr awdurdod unigol oedd wedi gorwario fyddai'n rhaid talu ac nid y rhanbarth.

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cael trefniadau ar y cyd ar gyfer arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. pdf eicon PDF 41 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Llun, 5 Mawrth 2018.

 

11.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

12.

23AIN TACHWEDD, 2017; pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 23 Tachwedd, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

13.

18EG RHAGFYR, 2017. pdf eicon PDF 243 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 18 Rhagfyr, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau