Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Llun, 18fed Rhagfyr, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. Evans, A. McPherson a B.A.L. Roberts.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 - 2020/21 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/2019, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/2020 a 2020/2021. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017.

 

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p er bod y setliad dros dro o -0.5% a gyhoeddwyd yn llawer gwell na'r hyn a ragwelwyd, sef -2%, roedd yn dal i olygu bod yn rhaid i'r Awdurdod nodi arbedion effeithlonrwydd o £8.544m ar gyfer 2018/19 o gymharu â'r swm cychwynnol o £12.527m a byddai'n dal i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £25.6 miliwn o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.12% ar gyfer 2018/19 a symudiad o 1% yn lefelau'r Dreth Gyngor a oedd yn cyfateb i +/-£820k.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at y swm o £1.75m o gynigion twf a roddwyd i'r Adran Cymunedau yn y Strategaeth a gofynnwyd am eglurhad ynghylch faint o'r dyraniad hwnnw fyddai'n cael ei wario yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p er mai £1.75m oedd dyraniad dangosol yr Adran Cymunedau fod hynny mewn cymhariaeth â chyfanswm cynnig adrannol o £3.779m. Gan fod y dyraniad dangosol 50% yn llai na chyfanswm y cynnig twf, byddai angen i'r Adran archwilio ei chynigion a blaenoriaethu ble y dylid cyfeirio'r dyraniad ychwanegol.

·        Cyfeiriwyd at y gostyngiad yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor sydd wedi'u clustnodi, yn ystod Cyfnod y Strategaeth, o £74.132m ym Mawrth 2017 i £17.233m ym Mawrth 2020. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a allai'r gostyngiad effeithio ar hyfywedd cynlluniau yn y rhaglen gyfalaf.

 

Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p fod y rhan fwyaf o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi wedi cael eu neilltuo i ariannu prosiectau cyfalaf, ac y byddai pob un ohonynt yn cael eu defnyddio.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod yr Awdurdod yn archwilio sut mae'n defnyddio cronfeydd wrth gefn, gan roi pwyslais ar gynnal cronfa wrth gefn gyffredinol o 3%.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effaith y Prosiect Rhyddhau Amser i Ofalu ar gyfer Pecynnau Gofal Cartref, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod hynny'n ymwneud  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2018/19-2021. pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2018/19 – 2021 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gofal a Chymorth, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Diogelu, Gwasanaethau Integredig, Gwasanaethau Comisiynu, Cymorth Busnes a Dadansoddi Perfformiad a Systemau. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu. Hefyd, roedd adborth gan grwpiau o staff hyd yn hyn wedi nodi y byddai mwy o bwyslais ar gamau gweithredu integredig o ran llesiant drwy gynlluniau is-adrannol yn cael ei groesawu ynghyd â sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau drwy ddulliau gwahanol yn wyneb y galw cynyddol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Gofynnwyd am eglurhad ynghylch lefel y risg a nodwyd yn yr adroddiad o ran bod yn rhaid i'r Awdurdod (fel partner allweddol) ad-dalu symiau sylweddol o arian grant i'r Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau heb unrhyw obaith o adennill y symiau hynny gan drydydd partïon.

 

Nododd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod y gwasanaeth yn cael cyllid drwy grant gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael ei ddefnyddio wedyn i gomisiynu gwasanaethau gan Drug Aid. Barnwyd bod y risg bosibl o unrhyw ad-daliad yn isel, a'r unig adeg pryd y rhagwelwyd y byddai hynny'n digwydd fyddai pe bai gwasanaeth a gomisiynwyd yn mynd yn fethdalwr. Gan fod angen i ddarparwyr y gwasanaethau hynny gyflwyno adroddiadau perfformiad chwarterol, byddai'n anarferol iddynt fynd yn fethdalwyr heb fod yr Awdurdod yn ymwybodol o unrhyw anawsterau.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch monitro'n ansoddol ddarparwyr gwasanaeth camddefnyddio sylweddau a gomisiynir, cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu eu bod yn destun adolygiadau chwarterol. Byddai'r Adran hefyd yn cynnal gweithdy yn y Flwyddyn Newydd ynghylch gwasanaethau a gomisiynir i archwilio canlyniadau ansoddol. Gellid hefyd drefnu i'r Pwyllgor gael adroddiad ynghylch camddefnyddio sylweddau yn y Flwyddyn Newydd.

 

Gofynnodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu os oes gan aelodau unrhyw bryderon ynghylch lefel gwasanaeth darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor eu bod yn tynnu ei sylw at y pryderon hyn.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch monitro bwriad yr Adran i staff gael 'llwythi gwaith y gellir eu rheoli, prosesau a systemau effeithiol ac ymatebol' cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gan yr Awdurdod, fel cyflogwr, ddyletswydd gofal i sicrhau bod gan staff lwythi gwaith y gellir eu rheoli. Er bod y galw am wasanaethau integredig yn cynyddu, roedd yn hyderus bod y llwyth gwaith yn cael ei reoli yn ei gwasanaeth.  Roedd staff hefyd yn gallu codi unrhyw bryderon o ran llwyth gwaith drwy arfarniadau rheolaidd a chyfarfodydd 'un i un’.

 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu mewn perthynas â'i gwasanaeth, fod dadansoddiad yn cael ei wneud ynghylch effaith y galw cynyddol am y gwasanaeth ar lwyth gwaith, yn enwedig mewn perthynas â darpariaethau'r Ddeddf Iechyd a Llesiant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau ar gyfer 2018/19 - 2021 yn cael ei dderbyn.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FENTRAU SAFONAU MASNACH - DIOGELU DINASYDDION OEDRANNUS AC AGORED I NIWED YN SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad PowerPoint ynghylch mentrau'r is-adran Safonau Masnach sy'n ceisio gwella ansawdd bywyd dinasyddion yn y cartref a gwella cydnerthu cymunedol drwy leihau camfanteisio'n ariannol ar oedolion agored i niwed. Nododd y Pwyllgor fod yr is-adran, mewn ymateb i rwymedigaethau statudol mewn perthynas â cham-drin ariannol a newidiadau polisi a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, wedi sefydlu'r Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol yn 2014, sef menter amlasiantaeth gyda'r nod o ganfod ac atal cam-drin pobl agored i niwed yn ariannol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiwn/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y gallai pobl agored i niwed gael eu cam-drin yn ariannol gan deulu a ffrindiau sydd wedi cael Atwrneiaeth i reoli eu materion ariannol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa gamau, os oes rhai, y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r gamdriniaeth honno.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod nifer o opsiynau ar gael a oedd yn cynnwys cynllun sydd ar waith ers 2014 ar y cyd â Banc Barclays a Banc Halifax (ac yn ddiweddar Banc Santander) ynghylch rhoi gwybod am unrhyw weithgaredd banc anarferol o ran cyfrif unigolyn sy'n agored i niwed. Wedyn gallai hynny arwain at gychwyn ymateb amlddisgyblaeth i ddiogelu'r unigolyn agored i niwed ac erlyn troseddwyr gan gorff gorfodi perthnasol.

 

Yn deillio o'r uchod cyfeiriwyd at yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth y rheiny sydd wedi cael Atwrneiaeth o'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth hynny.

·        Cyfeiriwyd at y cam-drin ariannol a allai ddigwydd drwy alwadau ffôn diofyn a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr is-adran wedi prynu 220 o ddyfeisiau atal galwadau ffôn i'w gosod mewn cartrefi pobl sy'n agored i niwed i helpu i'w hamddiffyn rhag galwadau o'r fath. Roedd y dyfeisiau hynny, yn ogystal â mynnu bod galwyr yn rhoi gwybod pwy ydynt, hefyd yn nodi bod y galwadau'n cael eu monitro gan y gwasanaeth Safonau Masnach. Hyd yn hyn, roedd dros 41,000 o alwadau niwsans wedi cael eu hatal a 67 o breswylwyr agored i niwed wedi cael eu hamddiffyn rhag galwadau sbam niwsans.

 

Roedd dewisiadau eraill sydd ar gael i amddiffyn pobl agored i niwed rhag galwadau ffôn niwsans yn cynnwys y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn a gwasanaethau atal galwadau tebyg a gynigir gan gwmnïau telathrebu lle mae'r galwyr yn gorfod rhoi gwybod pwy ydynt cyn i'r ffôn gael ei ateb. Mantais y systemau hynny oedd eu bod yn atal galwadau wedi'u hawtomeiddio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut y gellid cyfeirio pobl agored i niwed at yr adran i gael dyfais atal galwadau, dywedwyd y gellid gwneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys cael atgyfeiriad drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, y banciau ac ar sail gwybodaeth. Roedd yr adran hefyd yn cynnal sesiynau gwib mewn banciau ac yn llunio datganiadau i'r wasg i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o dwyll dros y ffôn.

·        Cydnabuwyd yn ogystal â galwadau ffôn niwsans y gallai pobl agored i niwed gael eu targedu trwy bost sbam. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mewn ymateb i weithgareddau o'r fath  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 46 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar y rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-

 

-        Trawsnewid Iechyd Meddwl

-        Asesiad Gofalwyr

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi pam nad oedd yr adroddiadau wedi eu cyflwyno.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher 24 Ionawr 2018.