Agenda a Chofnodion

., Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. Evans ac E. Morgan.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGAN CHWIP WAHARDDEDIG.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd na dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

5.

CYFLWYNIAD GAN ROS JERVIS, CYFARWYDDWR IECHYD CYHOEDDU, BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA - TROSOLWG CYFFREDINOL O RÔL Y CYFARWYDDWR.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr ei phrif gyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithio gydag Awdurdodau Lleol i arwain yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac arwain ar asesu angen, cyfraniadau i Gynlluniau Llesiant a chynllunio strategol ar gyfer y Bwrdd Iechyd Prifysgol.

 

Roedd ei rôl hefyd yn cynnwys y cyfrifoldebau canlynol:-

 

·       Bod yn arweinydd gweithredol iechyd cyhoeddus ar gyfer Awdurdodau Lleol;

·       Pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau arbenigol a chenedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru;

·       Gweithio’n agos gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau lefelau uchel o gydnerthedd lleol;

·       Cynnig arweiniad ar oblygiadau iechyd cyhoeddus ad-drefnu gwasanaethau a chefnogi’r agenda gwella ansawdd a diogelwch cleifion.

 

Yna aeth y Cyfarwyddwr ati i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf:-

 

·       Arweinyddiaeth gref a gweladwy;

·       Brechu ac imiwneiddio;

·       Cynnwys iechyd y boblogaeth mewn cynllunio strategol;

·       Datblygu partneriaethau effeithiol;

·       Gweithredu amcanion strategol y Bwrdd Iechyd Prifysgol:

·       Ymddygiad cymryd risg

·       Gordewdra

·       Atal canser a chanfod cynnar

·       Cynnal trefniadau cynllunio brys a diogelu iechyd effeithiol;

·       Cefnogi’r agenda ansawdd a diogelwch;

·       Rhagnodi cymdeithasol/cydnerthedd cymunedol;

·       Arwain y Tîm Nyrsio Iechyd Cyhoeddus i Blant

 

Cyfeiriodd at y gorgyffwrdd wrth ddarparu rhai gwasanaethau a phwysleisiodd bwysigrwydd gwaith partneriaeth.

 

Yn dilyn y cyflwyniad cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb pan ofynnwyd y cwestiynau canlynol:-

 

·       Pan ofynnwyd beth oedd ystyr ymddygiad cymryd risg, esboniodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn cynnwys mathau o ymddygiad allai niweidio unigolyn e.e. ysmygu, cymryd cyffuriau, camddefnyddio alcohol a’r nod oedd targedu’r unigolion hynny a’u cefnogi;

·       Pan ofynnwyd sut allai’r Bwrdd Iechyd  a’r Awdurdod Lleol weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo’r fenter uchod, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor ei bod yn ei swydd flaenorol wedi meithrin perthynas waith dda iawn gyda Phwyllgor Trwyddedu’r Awdurdod Lleol ar faterion fel Polisïau Camddefnyddio Alcohol a’i bod yn gobeithio gwneud hynny eto yn y swydd hon. Ychwanegodd ei bod yn bwysig cydweithio er mwyn cael y cyfathrebu’n iawn a chyflwyno’r neges yn y ffordd iawn;

·       Cyfeiriwyd at iechyd meddwl ac at sefyllfa drasig person ifanc yn diweddu eu bywyd eu hunain a phwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig cydweithio er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion dan sylw.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y Bwrdd Iechyd wrthi’n trawsnewid ei wasanaethau iechyd meddwl. Ychwanegodd mai’r allwedd i lesiant meddyliol yw sicrhau bod y gefnogaeth ar gael a bod yn rhagweithiol yn hytrach nac adweithiol;

·       Pan ofynnwyd sut roedd yn bwriadu mynd i’r afael â mater gordewdra esboniodd y Cyfarwyddwr na allwch ddarparu gwasanaeth yn unswydd i ddelio â pherson sy’n rhy drwm. Dywedodd fod rhaid edrych ar sawl ffactor, a bod angen agwedd llawer mwy holistaidd, gan gynnwys cefnogaeth a gwaith ataliol e.e. hyrwyddo ffyrdd gweithgar o fyw, ac i’r perwyl hwn roedd yn bwysig gweithio gydag ysgolion a chynnwys plant ysgol a phobl ifanc. Roedd yn bwysig hefyd gweithio gyda manwerthwyr ar fater lleoli cynhyrchion.  Dywedodd ei bod yn bwriadu cydweithio gyda’r Awdurdod Lleol, y trydydd sector a’r sector preifat ar y mater hwn gan fod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYFLWYNIAD GAN ESTELLE HITCHON, CYFARWYDDWR PARTNERIAETH AC YMGYSYLLTU A ROB JEFFERY, PENNAETH GWEITHREDIADAU, YMDDIRIEDOLIAETH GIG GWASANAETHAU AMBIWLANS CYMRU - TROSOLWYG O'R GWASANAETH

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaeth ac Ymgysylltu a Rob Jeffery, Rheolwr Gweithrediadau Ambiwlans gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a wahoddwyd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y gwasanaeth.

 

Yna cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a roddodd drosolwg o’r gwasanaeth.

 

Roedd y data allweddol ar gyfer 2016/17 yn cynnwys y canlynol:-

 

·       Gwnaeth y Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt Yn Rhai Brys 797,410 o deithiau yn ystod y flwyddyn;

·       Deliodd y gwasanaeth â 463,018 o ddigwyddiadau wedi’u dilysu, sef 1.9% yn uwch na ffigwr y flwyddyn gynt;

·       Deliodd gwasanaeth Galw Iechyd Cymru â 301,640 o alwadau;

·       Cyfanswm y costau gweithredol yn 2016/17 oedd £174m;

·       Cymerodd y gwasanaeth canfod llwybr 111 fwy na 60,000 o alwadau;

·       Roedd y fflyd cerbydau’n cynnwys 709 o gerbydau;

·       Roedd y gwasanaeth yn cyflogi 2,985 staff ledled Cymru;

·       Y gwasanaeth a gomisiynwyd gan Fyrddau Iechyd ledled Cymru a’r targed a osodwyd ganddynt yw bod rhaid ymateb i 65% o’r holl alwadau o fewn 8 munud.

 

Mae’r gwasanaeth yn parhau i hyrwyddo ymddygiadau, ynghyd â’i ddatganiad gweledigaeth a phwrpas a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chydweithwyr yn 2015/16.  Yr ymddygiadau a hyrwyddir yw:-

 

- Byddaf yn garedig, gofalgar a thosturiol

- Byddaf yn gofyn a gwrando

- Byddaf yn onest ac agored gyda fi fy hun ac eraill

- Byddaf yn perchnogi fy mhenderfyniadau

 

Cyflwynodd y gwasanaeth Fodel Ymateb Clinigol newydd ac mae manteision y model newydd yn cynnwys y canlynol:-

 

- Mae’n blaenoriaethu’r “claf mwyaf tost yn gyntaf”

- Yr ymateb clinigol mwyaf addas i ddigwyddiadau

- Y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig

- Mwy o wrando a thrin

- Yr ymateb iawn, ar yr adeg iawn, bob tro

 

Mae’r Gwasanaethau Ambiwlans yn dibynnu ar raglen wirfoddol Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol sy’n wasanaeth hanfodol i’r gymuned gan nad yw’n bosib cyrraedd rhai lleoedd o fewn 8 munud oherwydd yr heriau daearyddol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae menter Cymunedau Cryf hefyd yn ddefnyddiol iawn mewn ardaloedd mwy gwledig gan ei fod yn datblygu sgiliau’r gymuned trwy alluogi’r cyhoedd i ddefnyddio diffibrilwyr, dysgu sgiliau CPR i blant ysgol cynradd ac uwchradd a hyfforddi plant ysgolion uwchradd i ddefnyddio diffibrilwyr. 

 

Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn â phartneriaid a chyda gwasanaethau brys eraill fel yr heddlu e.e. lleolir clinigwyr yng nghanolfannau rheoli’r heddlu gan y gallant roi cyngor uniongyrchol i swyddogion heddlu sydd wedi cyrraedd damwain o ran a oes angen ambiwlans ai peidio. Dywedwyd fod lefelau cludo cleifion mewn ambiwlans ychydig yn uwch yn Sir Gaerfyrddin nac mewn ardaloedd eraill a bod angen rheoli hynny.

 

Yn dilyn y cyflwyniad cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb pan ofynnwyd y cwestiynau canlynol:-

 

·       O ran y Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt Yn Rhai Brys (NEPT), gofynnwyd i’r swyddogion a ydynt yn hapus â’r system gyfathrebu rhwng y clinig, yr ysbyty a’r cartref gan y clywir weithiau am ambiwlans yn cyrraedd 2-3 awr yn gynnar ac weithiau yn hwyr. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn ceisio lleihau faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

VARIATION OF BUSINESS

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor, yn dilyn gwahoddiad y Cadeirydd yn unol â Rheol Gweithdrefn 2(3) y Cyngor, i newid trefn gweddill y busnes ar yr agenda.

8.

STRATEGAETH YR IAITH GYMRAEG YM MAES GOFAL CYMDEITHASOL "MWY NA GEIRIAU". pdf eicon PDF 477 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad oedd yn rhoi diweddariad ar y gwasanaethau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes gofal cymdeithasol i oedolion.

 

Mae 40% o ddefnyddwyr gwasanaethau yn derbyn y gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae gan rai defnyddwyr anghenion cymhleth, ac o’r herwydd roedd yn bwysig sicrhau eu bod yn cael y lefel angenrheidiol o ofal yn ogystal â’u bod yn cael y gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Cafwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol yn dilyn y cyflwyniad:-

 

·       Gofynnwyd, wrth gyflogi pobl, a ydynt yn cael gwybod am y sgiliau sydd eu hangen. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig fod yr holl hysbysebion swyddi’n datgan yn glir fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol;

·       Gofynnwyd a yw ysgolion cyfrwng Saesneg yn cael gwybod ei fod yn fantais i blant gael sgiliau yn y Gymraeg; cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig fod cydweithwyr o Dysgu a Datblygu yn gwneud llawer o waith gyda cholegau i sicrhau eu bod yn gwybod fod ein gwasanaethau yn galw am y gallu i siarad a deall y Gymraeg;

·       Lleisiwyd pryder fod yr Awdurdod yn gwahaniaethu’n gadarnhaol yn erbyn y Saesneg trwy ddweud fod y Gymraeg yn hanfodol pan mai 50% o’r boblogaeth yn unig sy’n ei siarad.  Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig fod y Gymraeg yn hanfodol gan mai dyna bolisi’r Cyngor, ond dywedodd fod lefelau gwahanol o angen e.e. lefel 1 yw’r gallu i ddweud cyfarchiad syml. Mae angen inni ofalu fod gennym ddigon o staff sy’n siarad Cymraeg fel y gallwn gynnig y gwasanaeth i’r sawl sydd ei eisiau; 

·       Gofynnwyd i’r swyddogion sut mae cynnydd yn cael ei fesur a beth oedd y problemau mwyaf amlwg a wynebwyd wrth geisio sicrhau bod cynnydd yn digwydd.  Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig mai’r broblem fwyaf a wynebwyd oedd nad oedd cyfatebiaeth rhwng lefel yr angen am y Gymraeg a lefel cymhwysedd ymarferwyr sydd ei hangen. Roedd yn hanfodol felly ein bod yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg;

·       Dywedwyd fod gan y Cyngor ddyletswydd i ddiwallu gofynion y defnyddiwr gwasanaethau;

·       Er yn cytuno fod angen i staff allu siarad Cymraeg, gofynnwyd i’r swyddogion beth sy’n cael ei wneud o ran Pwyleg ac ieithoedd eraill.  Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Integredig mai’r drefn a ddefnyddir os yw rhywun yn cysylltu â ni mewn iaith na allwn ei darparu, yw y gall staff ddefnyddio gwasanaeth cenedlaethol o’r enw Language Line.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi’r wybodaeth.

 

9.

Y GWASANAETH GWYBODAETH, CYNGOR A CHYMORTH A'R GWASANAETHAU ATALIOL. pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, gan fod cysylltiad amlwg rhwng eitemau 9 a 10, y byddai’r eitemau hyn yn cael eu cyflwyno a’u hystyried gyda’i gilydd.

 

10.

MODEL BUSNES YN Y DYFODOL AR GYFER Y LLINELL GOFAL YN SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad oedd yn rhoi diweddariad ar Wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y mae ac y bydd yr Awdurdod yn ei gynnig, ynghyd â gwasanaethau ataliol yng nghyd-destun dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

 

Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o fodel busnes arfaethedig ar gyfer y Llinell Gofal yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys cefndir a chyd-destun manwl o ran y rhesymau dros ystyried model busnes newydd a throsolwg o’r cyfleoedd mae hyn yn eu cyflwyno i’r Awdurdod yn y dyfodol.

 

Mae’r Llinell Gofal yn derbyn rhwng 600k-700k o alwadau bob blwyddyn ac mae ganddo gorff enfawr o gwsmeriaid.  Daw ymhell dros 80% o’i incwm o’r tu allan i’r sir, ac mae cwsmeriaid yn cynnwys Awdurdodau Lleol eraill a Pharciau Cenedlaethol.

 

Roedd model busnes newydd yn cael ei awgrymu i wella cyfleoedd incwm gan fod angen i’r gwasanaeth fod yn hunanddigonol.  Un o’r dewisiadau sy’n cael eu harchwilio yw datblygu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol y byddai’r Awdurdod Lleol yn llwyr berchennog arno.  Cafodd cynllun busnes manwl ei baratoi, ac mae’n mynd trwy broses ymgynghori ar hyn o bryd.

 

Cafwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol yn dilyn y cyflwyniad:-

 

·       Pan ofynnwyd pa adborth a gafwyd gan staff o ran symud o weithio i Awdurdod Lleol i’r hyn sydd i bob pwrpas yn gwmni preifat, esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddai Cwmni Masnachu (LATC) Awdurdod Lleol yn eiddo’n llwyr i’r Awdurdod Lleol ac mai mater iddyn nhw fyddai pennu’r amodau a thelerau. Dywedwyd y cynhaliwyd digwyddiad yn ddiweddar ar gyfer holl staff a chynrychiolwyr o’r Undebau ac Adnoddau Dynol pan esboniwyd yn glir iawn nad oedd y model busnes newydd yn gyfrwng ar gyfer newid yr amodau a thelerau mewn unrhyw ffordd.  Nodwyd fod holiaduron ar gael i staff wneud unrhyw sylwadau am y broses yn ddienw;

·       Lleisiwyd pryder fod Cwmni Masnachu yn breifateiddio o dan enw arall.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddai gan y LATC Fwrdd Rheoli fyddai’n gorfod adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd Gweithredol.  Bydd y Bwrdd Gweithredol yn sicrhau bod yr holl ragofalon yn eu lle.  Mae cefnogaeth yr Awdurdod Lleol yn arbennig o bwysig.  Nid preifateiddio yw hyn, ac os llwyddwn i sefydlu LATC byddwn yn elwa’n fawr a gallai’r arian y bydd yn ei gynhyrchu gael ei ail-fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol;

·       Os yw’r LATC yn eiddo’n llwyr i’r Awdurdod Lleol, gofynnwyd i’r swyddogion pam na ellid ei adael fel y mae.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth nad oes gan Awdurdodau Lleol hawl i wneud elw gan eu bod yn gaeth i ddeddfwriaeth, ond y gwir yw bod angen inni wneud elw a gall Cwmni Masnachu ddefnyddio difidendau;

·       Pan ofynnwyd a fyddai gan y Cwmni Masnachu ei swyddogion Adnoddau Dynol a Chyflogres ac ati ei hun, esboniodd Rheolwr y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y byddid yn y lle cyntaf yn defnyddio systemau mewnol yr Awdurdod megis Adnoddau Dynol, Cyflogres, TG ac ati er mwyn sicrhau parhad;

·       Nodwyd fod angen cynllun marchnata pendant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU - GOLWG CYFFREDINOL. pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor adroddiad yn nodi’r gofynion yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghylch gwaith partneriaeth wrth ddarparu gofal a chefnogaeth a’r trefniadau sydd ar waith yng ngorllewin Cymru i gyflawni’r gofynion hynny.

 

Sefydlwyd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn gynnar yn 2016 a goruchwylir ei waith gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol statudol sydd wedi dynodi pum blaenoriaeth strategol:-

 

(1)        Comisiynu integredig;

(2)        Integreiddio gwasanaethau a chronfeydd ar y cyd;

(3)        Trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

(4)        Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth/Atal;

(5)        Gweithredu System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru

 

Mae’r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar ddynesiad strategol at ofalwyr, datblygu’r gweithlu ac ymgysylltu â’r cyhoedd. 

 

Mae Adran 14 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynnu fod Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn cynhyrchu asesiadau poblogaeth sy’n nodi’r anghenion gofal a chefnogaeth ar draws nifer o grwpiau poblogaeth gwahanol yn eu hardal, ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny ac i ba raddau nad yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu ar hyn o bryd.  Rhaid i’r asesiadau poblogaeth ystyried hefyd sut fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd Asesiad Poblogaeth cyntaf Gorllewin Cymru ym mis Mawrth 2017 wedi iddo gael ei ystyried a’i gytuno gan bob un o’r partner asiantwyr statudol.

 

Mae Adran 14A y Ddeddf yn mynnu fod rhaid cynhyrchu Cynlluniau Ardal rhanbarthol er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr Asesiadau Poblogaeth. Mae Cynllun Ardal cyntaf Gorllewin Cymru yn cael ei baratoi ar hyn o bryd ac fe’i cyflwynir i bartner asiantwyr i’w gymeradwyo yn gynnar yn 2018 cyn ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2018.

 

Cafwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Pan ofynnwyd sut mae System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn gweithio, esboniodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol ei bod yn system genedlaethol.  Nid oes unrhyw reidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i fabwysiadu’r system, ond mae pob un ond dau wedi gwneud hynny.  Mae’r system yn helpu defnyddwyr i gael gwared â dyblygu a rhannu gwybodaeth cleifion.  Wynebwyd cryn faterion a phroblemau wrth symud o’r systemau rheoli achosion presennol i’r system newydd, ond mae cael cynllun gweithredu rhanbarthol yn helpu lliniaru problemau a heriau;

·       Cyfeiriwyd at un o’r argymhellion cyffredinol yn yr adroddiad fod rhaid inni gydnabod cyfraniad gofalwyr a chynnig cefnogaeth iddynt, a gofynnwyd i’r swyddogion a oedd y gwaith o weithredu’r argymhelliad hwnnw yn unol â’r gofyn.  Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol mai un o’r prif negeseuon a ddaeth allan o’r asesiadau poblogaeth oedd rôl allweddol gofalwyr. Nodwyd fod swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn paratoi cynllun gweithredu y mae ganddynt ddyletswydd ddeddfwriaethol i’w wneud ac a gyflwynir i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2018. Mae’r cynllun gweithredu yn manylu ar yr hyn sy’n cael ei wneud o ran gofalwyr;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn hyrwyddo annibyniaeth, yn cefnogi llesiant unigolion ac yn lleihau’r galw am wasanaethau gofal a chefnogaeth wedi’u rheoli a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol y trefnwyd iddo gael ei ystyried yng nghyfarfod heddiw:-

 

- Diweddariad ar Amddifadu Rhyddid

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi’r esboniad am beidio cyflwyno’r adroddiad.

 

 

13.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

13.1    y dylid nodi’r rhestr o eitemau i’w trafod yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer dydd Llun, 18fed Rhagfyr, 2017;

 

13.2     y dylid nodi Blaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

 

13.3     y dylid nodi Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol.

 

 

 

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 26AIN MEDI, 2017. pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid llofnodi’n gywir gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar y 26ain Medi, 2017.