Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Y Cynghorwyr I.W. Davies a B.A.L. Roberts.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch, ar ran y Pwyllgor, i'r Cynghorydd Rob Evans am drefnu hyfforddiant diffibriliwr awtomatig ar gyfer yr Aelodau. Nodwyd y byddai diffibrilwyr awtomatig yn cael eu gosod yn Neuadd y Sir a 3 Heol Spilman yn y dyfodol agos.

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

There were no declarations of personal interest.

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 - CWARTER 1. pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 30 Mehefin, 2017.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod gennym lawer mwy o bobl h?n i edrych ar eu holau a gofynnwyd i'r swyddogion sut yr oedd y trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda'r Bwrdd Iechyd ynghylch y Gwasanaeth Gydol y Nos. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Gwasanaeth Gydol y Nos wedi bod yn rhedeg ers 7-8 mlynedd ond bod nifer y bobl sy'n derbyn y gwasanaeth wedi bod yn gostwng. Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaeth cywir a diogel o ystyried y ffaith bod y cymhlethdodau'n cynyddu.  Mae'r bobl sy'n derbyn y gwasanaeth ar hyn o bryd yn cynrychioli achosion cymhleth iawn ac mae'r swyddogion wrthi'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaeth iddynt. Mae'r trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt ac yn cynnwys rhoi ystyriaeth i gefnogi'r defnyddwyr gwasanaeth hyn drwy gynnig gwasanaeth nyrsys cymunedol yn y dyfodol. Rhoddir gwybod am unrhyw gynnydd i'r Pwyllgor;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am ragor o wybodaeth am welyau ar gyfer 'gofal llai dwys'. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig mai'r diffiniad o welyau ar gyfer 'gofal llai dwys' yw bod rhywun yn cael ei ryddhau o'r ysbyty, nid yn unig i unedau ymadfer ond hefyd i welyau gwag mewn cartrefi preswyl a chartrefi gofal. Roedd hefyd yn bwysig ystyried gwelyau ar gyfer 'gofal mwy dwys' ac osgoi eu hanfon i'r ysbyty os yw'n bosibl. Ychwanegodd fod adolygiad wedi'i wneud o'r holl welyau ar gyfer 'gofal mwy dwys' a 'gofal llai dwys' yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau'r defnydd gorau. Mae'r swyddogion yn ymwybodol nad yw'r defnydd cywir yn cael ei wneud o Welyau Cymunedol felly mae'r meini prawf ar gyfer eu defnyddio yn cael eu hadolygu;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod y gyfradd o bobl 75+ oed a gedwir mewn ysbyty tra byddant yn aros am ofal cymdeithasol yn cyd-fynd â'r targed, ond nodwyd bod y data a gasglwyd yn y gorffennol yn cyfeirio at ystod oedran ehangach a mynegwyd pryder bod y mesuriad hwn yn cuddio data ar gyfer y gr?p oedran o dan 74 oed.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig mai 75+ yw'r maen prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru chwe mis yn ôl ar gyfer achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, ond nid yw wedi peri newid mawr i'r ffigurau am nad oedd llawer o dan 75 oed. Ychwanegodd fod llawer o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod cleifion yn mynd yn eu blaen drwy'r gwasanaeth gofal yn y cartref, gan gynnwys edrych ar lefydd gwag mewn tai gwarchod fel y gallwn gynnig llwybr arall i osgoi achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30ain Mehefin 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £950k o ran y Gyllideb Refeniw ac y byddai yna -£6,936k o amrywiant net yn erbyn y Gyllideb Gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd sut mae'r gorwariant a ragwelir yn cymharu â'r flwyddyn flaenorol; dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod yr adroddiad yn dangos y rhagamcan fel yr oedd ym mis Mehefin 2017, sy'n gynnar yn y flwyddyn ariannol.  Dywedodd mai'r patrwm dros y ddwy flynedd flaenorol oedd bod y gorwariant a ragwelid wedi lleihau erbyn diwedd y flwyddyn;

·       Gofynnwyd i Bennaeth y Gwasanaethau Integredig ba mor agos y mae hi'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd ar eu rhagfynegiadau, ac atebodd fod cydweithio'n amhrisiadwy iddi oherwydd mae er ein budd ni i'w helpu i ddeall gwerth gofal cymdeithasol a'r ffaith ein bod ond yn gallu darparu gofal cymdeithasol i'r rheiny sydd ei angen fwyaf oherwydd nid adnodd diddiwedd mohono. Ychwanegodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anawsterau Dysgu fod ei staff yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Hywel Dda gan fod cydweithio'n bwysig wrth adolygu pecynnau ac ymyriadau ac wrth ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg iawn.  Ychwanegodd fod ei thîm hi wedi ennill gwobr yr wythnos hon am gydweithredu;

·       Gofynnwyd i Gyfrifydd y Gr?p pam nad oedd ffigurau yn yr adroddiad wrth ochr y Cynllun Croesffyrdd; dywedodd wrth y Pwyllgor na ddylai fod cofnodion gwag yn Atodiad C ac y byddai hi'n sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei ddiwygio cyn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 2016/17. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2016/17.  Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y materion hynny a gyfeiriwyd at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu eraill, neu a gafwyd ganddynt.   Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y Fframwaith Comisiynu Gofal Cartref a gofynnwyd i'r swyddogion ba warantau a oedd gennym o ran trosiant ac amodau staff, ac ati, oherwydd maent yn delio â'r gr?p mwyaf sensitif o gleientiaid ac mae rhai o'r cleientiaid yn gweld hyd at 15 o wahanol ofalwyr yr wythnos. Eglurodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod ail-gomisiynu'r gwasanaeth wedi rhoi cyfle i edrych ar wahanol bethau megis y cyflog byw cenedlaethol, amserau teithio, costau teithio ac ati. Gwnaed gwaith hefyd ar ddatblygu'r gweithlu a'r broblem o ddenu a chadw staff.  Ychwanegodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol fod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, sy'n cynnwys cynghorau siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion ynghyd â'r Bwrdd Iechyd, yn ymroi i ddatblygu cyd-strategaeth waith. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn denu gweithlu gwydn a chydnerth. Mae adnoddau wedi'u nodi i gyd-fynd â hyfforddiant a datblygiad er mwyn i gomisiynwyr sicrhau bod yr ansawdd gorau yn cael ei ddarparu o ran gofal;

·       Cyfeiriwyd at yr argymhelliad cyntaf, ar dudalen 11 yr adroddiad, lle'r oedd diwedd y frawddeg ar goll yn ôl pob golwg. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hyn yn cael ei gywiro cyn i'r ddogfen gael ei chyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2016/17, yn amodol ar y cywiriad uchod.

 

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 2017/18. pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2017/18 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Ar ôl trafod, cytunwyd y byddai'r eitemau canlynol yn cael eu cynnwys yn y Flaenraglen Waith:-

 

- Y newyddion diweddaraf am y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

- Y newyddion diweddaraf am Gamddefnyddio Sylweddau

- Y newyddion diweddaraf am Safonau Masnach

- Y newyddion diweddaraf am y Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr (gan gynnwys y Strategaeth Gofalwyr,

Asesiadau Gofalwyr a Fforwm y Gofalwyr)

- Y newyddion diweddaraf am y Gwasanaethau Cymraeg i Bobl H?n

- Y newyddion diweddaraf am Safonau'r Gwasanaeth Ambiwlans

 

Cytunwyd hefyd y byddai cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith2016/17 y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, yn amodol ar y newidiadau uchod.

 

9.

INTEGREIDDIO GWASANAETHAU A CHRONFEYDD AR Y CYD. pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y cyd.  O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae'n ofynnol yn statudol ar Gynghorau a Byrddau Iechyd i sefydlu a chynnal cronfeydd ar y cyd mewn perthynas â'r canlynol:

 

- arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal;

- arfer eu swyddogaethau o ran cymorth i deuluoedd;

- swyddogaethau penodedig a arferir ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau o'r Boblogaeth;

 lle ystyrir bod trefniadau o'r fath yn briodol.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y trefniadau rhanbarthol sydd wedi cael eu rhoi ar waith i helpu mudiadau i fodloni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod gennym boblogaeth sy'n heneiddio ac sydd ag anghenion mwy cymhleth ac, er yr hoffem gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, weithiau daw adeg lle nad oes modd ymdopi. Rhoddodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd wybod i'r Pwyllgor fod swyddogion wedi ymgymryd â darn o waith i edrych ar anghenion llety pobl h?n a oedd yn amlygu'r angen am welyau nyrsio, gwelyau nyrsio cymhleth a gwelyau henoed bregus eu meddwl.

 

PENDERFYNWYD

 

9.1       nodi rhwymedigaeth statudol y Cyngor i sefydlu cronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal i oedolion;

9.2       cydnabod y trefniadau rhanbarthol a roddwyd ar waith i fodloni'r rhwymedigaethau o ran cronfeydd ar y cyd.

 

 

 

10.

TREFNIADAU SICRHAU ANSAWDD SIR GAERFYRDDIN GAN GYNNWYS CYNLLUN GWEITHREDU YMGYRCH JASMINE. pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am Drefniadau Sicrhau Ansawdd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Ymgyrch Jasmine. 

 

Mae darparu gofal cymdeithasol i oedolion wedi dod yn fwyfwy cymhleth ac amrywiol ers 1990 pan gyflwynodd Deddf y GIG a Gofal Cymunedol y cysyniad o economi gymysg o ran gofal.  Bu'n rhaid i bob awdurdod lleol ddatblygu trefniadau comisiynu a chontractio, yn enwedig systemau sicrhau ansawdd, i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn derbyn gwasanaethau dibynadwy a diogel.   Ochr yn ochr â'r datblygiad hwn, cyflwynodd Deddf Safonau Gofal 2000 safonau eglur ar gyfer darparwyr gofal a hefyd sefydlodd y corff rheoleiddio, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i reoleiddio ac arolygu darparwyr gofal er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd o ran ansawdd y gofal a ddarperir gan awdurdodau lleol a darparwyr gofal annibynnol.

 

Ers cychwyn comisiynu yn 2002, mae Sir Gaerfyrddin wedi datblygu trefniadau effeithiol o ran rheoli contractau a monitro contractau ac ystyrir bod ein trefniadau comisiynu, gan gynnwys ein systemau sicrhau ansawdd, yn effeithiol ac yn gadarn (AGGCC 2014, 2015 a 2016).

 

Hefyd ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Gweithredu Ymgyrch Jasmine a gafodd ei ddatblygu yn 2016 yn dilyn ymchwiliad i achosion o esgeuluso pobl h?n mewn amryw o gartrefi gofal yng Ngogledd Cymru. Caiff y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gorllewin Cymru (y tri Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) a Phowys ei gyflwyno i Gr?p Gweithredol Lleol (Diogelu Oedolion) pob Awdurdod. At ddibenion atebolrwydd a llywodraethu, caiff y Cynllun Gweithredu ei adolygu a'i ddiweddaru bob chwarter yn y Grwpiau Gweithredol Lleol cyn ei gyflwyno i'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Er mwyn gwella safonau, mae'n bwysig monitro'r Cynllun Gweithredu a gofynnwyd i'r swyddogion pwy sy'n gyfrifol am fonitro'r Cynllun Gweithredu i sicrhau bod datblygiad/gwelliant. Dywedodd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu, os oes gweithred benodol ar gyfer darparwr gofal penodol yna cyfrifoldeb y Comisiynydd yw dilyn trywydd y mater hwnnw;

·       Mewn perthynas ag ymateb i bryderon, gofynnwyd i'r swyddogion faint o amser mae'n ei gymryd cyn bod rhywbeth yn cael ei wneud. Esboniodd y Rheolwr Diogelu a Chomisiynu ei fod yn fater o'r hyn sy'n rhesymol ac yn gymesur.  Pan fo tystiolaeth sy'n awgrymu bod pryderon difrifol, bydd yr Awdurdod yn ystyried ei sefyllfa gontractiol, gan gynnwys ystyried terfynu darpariaethau'r contract.  Ychwanegodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod pryderon mewn perthynas â pha mor gyflym mae swyddogion diogelwch yn ymateb.

 

PENDERFYNWYD

 

10.1     nodi'r adroddiad a threfniadau sicrhau ansawdd yr Awdurdod;

10.2  nodi Cynllun Gweithredu Ymgyrch Jasmine.

 

11.

ADRODDIAD DRAFFT BLYNYDDOL CYGNOR SIR GAERFYRDDIN 2016/17. pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2016/17 a oedd yn cynnwys adroddiad cynnydd yr ail flwyddyn ar Strategaeth Gorfforaethol 2015-20, y Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2016/17 a'r Adroddiad Blynyddol llawn.

 

Pan gyhoeddwyd y Strategaeth Gorfforaethol yn 2015/20 cytunwyd y byddai adroddiad cynnydd blynyddol yn cael ei gynhyrchu a fyddai'n pennu 24 o fesurau canlyniadau er mwyn barnu ein cynnydd yn eu herbyn.  Byddai'r Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei hadolygu ar gyfer 2018/19 gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu bod ein Hamcanion Llesiant yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol roedd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwella wedi cael eu cyfuno yn yr un ddogfen. Fodd bynnag, mae'r dogfennau hyn wedi cael eu gwahanu eleni oherwydd mae'n ofynnol inni, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyhoeddi ein Hamcanion Llesiant erbyn 31ain Mawrth ac felly roedd yn gwneud synnwyr inni gyhoeddi'r Cynllun Gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ar y cyd â nhw. Ni fyddai wedi bod yn bosibl llunio'r Adroddiad Blynyddol cyn diwedd y flwyddyn.

 

Nodwyd ei fod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at absenoldebau staff a'r pwysau gwaith sydd ar y staff.  Mynegwyd pryder y bydd staff dan bwysau cynyddol o ystyried y toriadau a'r mesurau effeithlonrwydd sydd ar ddod a'i fod yn bwysig bod hyn yn cael ei fonitro.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol drafft, gan gynnwys Adroddiad Cynnydd yr Ail Flwyddyn ar y Strategaeth Gorfforaethol.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor am i'r eitemau canlynol gael eu hychwanegu at yr agenda:-

 

- Y newyddion diweddaraf am y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

- Y newyddion diweddaraf am y Gwasanaethau Cymraeg i Bobl H?n

- Y diweddaraf am Safonau'r Gwasanaeth Ambiwlans

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Gwener, 23ain Tachwedd, 2017.

 

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 20FED EBRILL, 2017. pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi ei gynnal ar 20fed Ebrill, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau