Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Iau, 21ain Tachwedd, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr. A.L Fox a M.J.A. Lewis.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

AROLYGIAD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU O WASANAETHAU OEDOLION HYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Dr. Michael Holding o Arolygiaeth Gofal Cymru i'r cyfarfod.

 

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i archwilio pa mor dda y mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn atal anghenion rhag cynyddu i oedolion h?n. Roedd yr adolygiad yn nodi lle y gwnaed cynnydd a lle mae angen gwella.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a roddai drosolwg ar yr arolygiad. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

Cryfderau - Cydweithio, rhannu gweledigaeth, cyfathrebu a chymorth.

Blaenoriaethau ar gyfer gwella - Cysondeb, sicrhau ansawdd, sefydlu a gwreiddio gweithio ataliol.

Y prif gasgliadau - diwylliant a rennir, bodlonrwydd ar y gwasanaethau, diffyg tystiolaeth o fonitro cynnydd, pwysau ar wasanaethau oherwydd absenoldebau staff, rheoli a chefnogi'n dda, arferion diogelu a arweinir yn dda, nid yw staff bob amser yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael, asesiadau gallu meddyliol o safon dda, cysylltiadau sylweddol â thechnoleg gymorthedig a teleofal.

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb lle codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol:

 

·         Gofynnwyd a oedd gofalwyr teuluol wedi cael eu cyfweld yn ystod y broses arolygu.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y siaradwyd â gofalwyr teuluol a chafwyd adborth cadarnhaol.

·         Gofynnwyd a oedd staff yn cael eu cyfweld ar eu pen eu hunain neu gyda'u rheolwyr.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod staff yn cael eu cyfweld ar eu pen eu hunain i osgoi dylanwad posibl.

·         Gofynnwyd sut y cafodd y ffeiliau a arolygwyd eu dewis.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y cafodd y ffeiliau eu dewis gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dewiswyd rhwng pumdeg a chwedeg o ffeiliau ar hap a oedd yn cynnwys categorïau atgyfeirio gwahanol.

·         Nododd y Pwyllgor mai un maes i'w wella oedd y dull o gyfleu'r gwasanaethau, y wybodaeth a'r cyngor sydd ar gael.

Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod gwaith wedi'i wneud yn y maes hwn a bod pecynnau gwybodaeth a dogfennau rhanbarthol ynghylch cymorth i ofalwyr yn cael eu diweddaru a'u hadnewyddu. Roedd meysydd gwaith eraill yn cynnwys edrych ar arferion da, Rhaglen Buddsoddwyr mewn Gofalwyr a phasbort gofalwyr. Roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag Adnoddau Dynol i ddarparu cymorth a seilwaith i weithwyr sydd hefyd yn ofalwyr. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor nad oedd Swyddog Asesu Gwybodaeth Gofalwyr wedi bod yn ei swydd am y 12 mis diwethaf ond ei fod yn gobeithio y byddai'r swydd hon yn cael ei newid yn fuan i alluogi'r tîm i fod yn fwy rhagweithiol.

 

Daeth Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig i'r casgliad bod yr adroddiad yn gytbwys ac yn deg a'i fod yn adlewyrchu sefyllfa bresennol y gwasanaethau integredig yn gywir. Roedd yr adroddiad yn cydnabod swyddogion am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u harferion da.

 

Roedd llawer o swyddogion yn bresennol yn y cyfarfod a diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Bu i'r Cadeirydd gydnabod yr heriau maent yn eu hwynebau yn sgil  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

RHAGLENNI TRAWSNEWID A GYLLIDIR GAN LYWODRAETH CYMRU YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Ardal Leol drosolwg i'r Pwyllgor o'r cronfeydd trawsnewid cymeradwy a ddyfarnwyd i'r rhanbarth gan Lywodraeth Cymru a sut y byddent yn cael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r tair rhaglen i'w cyflawni yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys:

·         Gofal Rhagweithiol trwy Gymorth Technoleg,

·         Integreiddio Cyflym a Chyson

·         Creu Cysylltiadau i Bawb

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb lle codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol:

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y meini prawf ar gyfer gwneud cais am wasanaeth larwm personol Lifeline ac os oedd y gwasanaeth hwn yn addas i rywun â phroblemau iechyd meddwl.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynllun yn cael ei dreialu ar hyn o bryd a bod y gwasanaeth am ddim ar gyfer 6 mis y peilot. Cafodd y defnyddwyr ar gyfer y cynllun peilot eu dewis o blith cyfuniad o haenau atal a oedd yn cynnwys practisau Meddygon Teulu, teuluoedd, gofal canolraddol a galwyr cyson. Pan fydd tystiolaeth bod y peilot yn gweithio, byddai'r gwasanaeth yn cael ei ymestyn i ddefnyddwyr eraill.

·         Gofynnwyd a oedd Sir Gaerfyrddin yn barod i gydweithio â sefydliadau megis sefydliadau dielw a chyda'r cymunedau.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cydweithio o ran cyllid yn her ond bod angen ystyried y canlyniadau a chysylltu'r rhain â darpariaeth gymunedol. Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod y cynlluniau cyllid/grant amrywiol wedi ysgogi twf ac wedi helpu i ddod â sefydliadau ynghyd i ddarparu gwasanaethau. Hefyd dywedwyd wrth y Pwyllgor fod sefydliadau'r 3ydd sector yn gallu manteisio ar gyllid nad yw gwasanaethau statudol yn gallu ei gael. Rhoddodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y prosiect Noddfa Min Nos newydd a lansiwyd yn ddiweddar yn Llanelli drwy ddefnyddio'r cyllid ar gyfer Trawsnewid Iechyd Meddwl. Nod y prosiect yw dargyfeirio pobl o adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac er mai dim ond yn ddiweddar y cafodd ei lansio, mae'n cael effaith gadarnhaol. Ar hyn o bryd gobeithir ehangu'r prosiect i gynnwys darparu gwelyau. Mae'r prosiect hefyd yn gobeithio cydleoli gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans i flaenoriaethu galwadau er mwyn sicrhau ymateb mwy priodol i unigolion y mae angen cymorth arnynt.

·         Gofynnwyd a fyddai modd dosbarthu rhif y gwasanaeth min nos i'r ysbytai.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor fod y rhif eisoes wedi cael ei ddosbarthu i'r ysbytai.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am sicrhau'r cyllid ar ran Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

6.

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION 1AF EBRILL, 2019 - 30AIN MEDI, 2019 pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o g?ynion a'r maes gwasanaeth sy'n ymwneud â chwynion a chanmoliaeth.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

  • Gofynnwyd sut oedd yr adran yn ymdrin â chwynion cymhleth ac os oedd arbenigwyr yn cael eu defnyddio i reoli'r cwynion hyn.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig, pan fo cwyn yn dod i law ac yn cael ei hasesu fel un gymhleth, mae'n symud ymlaen yn syth at g?yn Cam 2. Byddai cwyn Cam 2 yn cael ei rheoli gan swyddog annibynnol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gellid darparu enghreifftiau o'r mathau o gwynion.

  • Cyfeiriwyd at y nifer isel o gwynion a dderbyniwyd o gymharu â'r nifer uchel o ddefnyddwyr gwasanaeth. Gofynnwyd sut oedd gwaith monitro'n cael ei wneud i sicrhau bod pob cwyn yn cael ei chofrestru, yn enwedig cwynion yn erbyn asiantaethau allanol.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig y cyflawnwyd gwaith monitro perfformiad trwyadl a defnyddiwyd nifer o ddulliau (gan gynnwys siarad â defnyddwyr gwasanaethau) i bennu lefel y gwasanaeth a ddarperir.

  • Pan oedd Gweithiwr Gofal Cartref yn hwyr yn mynychu apwyntiad, gofynnwyd a oedd amser penodol wedi'i osod cyn y byddai'n rhaid iddo ffonio'r cleient.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod modd caniatáu hanner awr cyn ffonio.

  • Gwnaed sylw bod y graffiau yn yr adroddiad yn dangos bod cwynion yn cael eu hateb yn eithriadol o gyflym.

Nododd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau fod swyddogion ymchwilio wedi cael hyfforddiant a bod gweithdrefnau llym yn cael eu dilyn i sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni. Os oedd oedi, rhoddwyd gwybod i'r holl bartïon am y rhesymau a thrafodwyd estyniad a chytunwyd arno.

  • Gofynnwyd a ellid ystyried ymholiadau gan Gynghorwyr yn g?ynion.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod ymholiadau'n cael eu cyfeirio at y Penaethiaid Gwasanaeth a'u cofnodi fel cwynion pan oedd angen.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £816k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£2k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2019/20.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Atodiad A - Crynodeb o'r sefyllfa

  • Gofynnwyd a oedd arwydd bod y gorwariant a ragwelwyd o £816K yn cynyddu.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor y gobeithir gweld gostyngiad yn y ffigur. Yn ogystal â hyn, efallai y byddai grant gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi a fyddai hefyd yn lleihau'r ffigur.

 

Atodiad B - Y Prif Amrywiadau

  • Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol yn enwedig gan fod y swyddi hyn yn allweddol o ran cyflawni'r agenda ataliol.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod proses recriwtio ar waith. Fodd bynnag, roedd pryderon ynghylch y nifer isel o geisiadau a dderbyniwyd.

  • Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch cynllun datblygu'r gweithlu.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig y bwriedir darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn yn sesiwn datblygu'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ym mis Rhagfyr. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud yn lleol i ymchwilio i wahanol opsiynau ar gyfer recriwtio. Nodwyd bod cronfa o weithwyr cymdeithasol achlysurol yn cael ei chreu ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Byddai'r gronfa'n cael ei defnyddio i gefnogi timau pe byddai argyfwng. Cynhaliwyd ymgyrch "Gofalwn Cymru" i ddenu pobl i'r proffesiwn.

  • Dywedwyd bod cynnydd demograffig o flwyddyn i flwyddyn o ran nifer y bobl h?n a gofynnwyd a oedd data cywir ar gael i ragweld demograffeg y dyfodol.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig y defnyddiwyd data Daffodil Llywodraeth Cymru yn ddiweddar i ragweld. Yn ôl pob golwg roedd y data yn gywir ac yn cyfateb i wybodaeth leol.

  • Mynegwyd pryder ynghylch y gost a'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod adolygiad TIC yn cael ei gynnal i ymdrin â'r mater hwn.

 

Atodiad F - Yr Amrywiadau'n Fanwl

  • Mynegwyd pryder ynghylch y £100k o arbedion rheoli ar gyfer 2019/20 nad oedd yn cael eu cyflawni.

Er bod hyn yn bryder, dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod hyn yn bennaf oherwydd oedi o ran y prosiectau Datblygu Llety i Bobl ag Anableddau Dysgu.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

  • Datblygu a Chynnal y gweithlu
  • Strategaeth Anableddau Dysgu (2018/2023)

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Rhagfyr 2019.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24AIN MEDI, 2019 pdf eicon PDF 330 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 24 Medi 2019 gan eu bod yn gywir.