Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Andre Morgan (Cadeirydd)

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

R. James

3 – Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd R. James

Mae ei bartner yn aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

J. Gilasby

3 – Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd R. James

Mae ei berthnasau yn aelodau o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ROBERT JAMES. pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.    Gadawodd y Cynghorwyr K. Lloyd a J. Gilasbey, a oedd wedi datgan buddiannau yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor ac nid oeddent wedi cymryd rhan ym mhenderfyniad y Pwyllgor ar yr eitem

2.    Fel aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed, gadawodd Mr R. Edgecombe, Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, y cyfarfod tra oedd y cais am ollyngiad yn cael ei ystyried. Roedd Mr K. Thomas, Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd, sydd hefyd yn aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed, wedi aros yn y cyfarfod i gymryd cofnodion.

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Robert James o Gyngor Sir Caerfyrddin am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar 9 Hydref, 2019 mewn perthynas â Rhybudd o Gynnig i annog Cronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd James fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(1) o'r Côd Ymddygiad gan fod ei bartner (cyfaill agos personol) yn aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd James hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod y ffeithiau perthnasol, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwn mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd James wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(d) o ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Robert James SIARAD a Phleidleisio yng nghyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 9 Hydref 2019, mewn perthynas â'r Rhybudd o Gynnig a fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor i annog Cronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil.

 

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor ar y cais am ollyngiad, cafodd y Cynghorydd R. James a Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol eu galw yn ôl i'r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at benderfyniad y Pwyllgor i ganiatáu gollyngiad y Cynghorydd James a dywedodd oherwydd y gallai fod gan aelodau eraill o'r Cyngor fuddiant tebyg mewn perthynas â'r Rhybudd o Gynnig a byddai angen iddynt ddatgan y buddiant hwnnw a gwneud cais am ollyngiad i gymryd rhan yng nghyfarfod y Cyngor ar 9 Hydref, roedd y Swyddog Monitro wedi holi a fyddai'r pwyllgor yn rhoi awdurdod dirprwyedig iddi ganiatáu unrhyw geisiadau o'r fath a allai ddod i law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi awdurdod dirprwyedig i Swyddog Monitro'r Cyngor benderfynu ynghylch ceisiadau am ollyngiad a allai gael eu cyflwyno gan Gynghorwyr Sir eraill i Siarad a Phleidleisio yng nghyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 9 Hydref, 2019 mewn perthynas â'r Rhybudd o Gynnig i annog Cronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil.

 

 

4.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau