Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Llun, 28ain Ionawr, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGELU BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

S.J.G. Gilasbey

Eitem 4, 5 a 6 –

4.            Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey.

 

Hi yw'r ymgeisydd.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR SAFONAU A GYNHALWYD AR Y 7FED RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 255 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 7 Rhagfyr, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Gilasbey Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Cymuned Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn aelod o Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Nododd y Pwyllgor NAD OEDD y gollyngiad i siarad yn cynnwys materion yn ymwneud ag unrhyw gais rheoleiddiol a wnaed gan yr Amgueddfa a/neu'r Ymddiriedolaeth neu ar eu rhan. Mae hwn hefyd yn cynnwys ceisiadau cynllunio neu drwyddedu.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd Gilasbey yn bresennol yn Siambr y Cyngor ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi Tref Cydweli.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn aelod o Glwb Rygbi Tref Cydweli.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Nododd y Pwyllgor NAD OEDD y gollyngiad i siarad yn cynnwys materion yn ymwneud ag unrhyw gais rheoleiddiol a wnaed gan y Clwb Rygbi neu ar ei ran. Mae hwn hefyd yn cynnwys ceisiadau cynllunio neu drwyddedu.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chlwb Rygbi Cydweli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD JEANETTE GILASBEY pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd Gilasbey yn bresennol yn Siambr y Cyngor ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Jeanette Gilasbey o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyngor Plwyf Eglwysig Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad sef ei bod yn aelod ac ymddiriedolwr o Gyngor Plwyf Eglwysig Eglwys Santes Fair yng Nghydweli.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Gilasbey hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Nododd y Pwyllgor NAD OEDD y gollyngiad i siarad yn cynnwys materion yn ymwneud ag unrhyw gais rheoleiddiol a wnaed gan yr Eglwys neu ar ei rhan. Mae hwn hefyd yn cynnwys ceisiadau cynllunio neu drwyddedu.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jeanette Gilasbey SIARAD yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Cydweli mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyngor Plwyf Eglwysig Eglwys y Santes Fair yng Nghydweli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.

 

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Ymunodd y Cynghorydd R James â'r cyfarfod].

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Amnesty International UK.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Amnesty International UK.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Amnesty International UK a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2020.

 

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r sefydliad Campaign for Real Ale.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o'r sefydliad Campaign for Real Ale.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r sefydliad Campaign for Real Ale a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

 

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Gyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

 

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Gadawodd y Cynghorydd R. Evans y cyfarfod].

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â Chyfeillion Archifau Caerfyrddin.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Gyfeillion Archifau Caerfyrddin.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chyfeillion Archifau Caerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

 

11.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen Cwlwm Munduli.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod ac ymddiriedolwr o Cwlwm Munduli.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen Cwlwm Munduli a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

12.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA).

 

Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor fod y Cynghorydd Lloyd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio. Yng ngoleuni hyn, dywedodd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol cynnwys y wybodaeth hon mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA).

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru (HOWLTA) a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

 

13.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen MIND.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o elusen MIND.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag elusen MIND a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

14.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymgyrch Cefnogi Nicaraguan.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o Ymgyrch Cefnogi Nicaraguan.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ymgyrch Cefnogi Nicaraguan a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

</AI14>

 

15.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Cysylltu Bywydau.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad sef bod ganddo gysylltiadau personol agos gyda phobl sy'n ofalwyr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Cysylltu Bywydau a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

</AI15>

<AI16>

 

16.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Ken Lloyd o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag UNSAIN.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn aelod o UNSAIN.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lloyd wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai, wrth ystyried y cais, nodi mai paragraffau 2 (d) a (h) oedd y rhesymau mwyaf priodol pe byddai'r Pwyllgor am gymeradwyo'r cais i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2 (d) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Caerfyrddin mewn perthynas â materion yn ymwneud ag UNSAIN a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2020.

 

 

17.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD OWEN ALEXANDER MARMION WILLIAMS pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y gall fod yn fuddiol i Aelodau'r Pwyllgor gael rhestr o fuddion Cynghorwyr Sir fel rhan o'r adroddiad. Cytunodd yr Aelodau y byddai cynnwys y wybodaeth hon yn yr adroddiad yn fuddiol oherwydd byddai'n eu galluogi i wneud penderfyniad mwy gwybodus.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Williams o Gyngor Cymuned Maenordeilo a Salem am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Williams fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan fod unrhyw drafodaethau gan y Cyngor ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o effeithio ar gartref teuluol y Cynghorydd Williams.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Williams hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Williams wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Owen Alexander Marmion Williams am gael gollyngiad i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Maenordeilo a Salem mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cael ei wrthod.

 

 

18.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM CHARLES LOYNTON pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Loynton o Gyngor Cymuned Maenordeilo a Salem am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Loynton fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn berchen ar dir y mae'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn debygol o effeithio arno oherwydd ffin gyffredin.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Loynton hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor sylweddol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. 

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Loynton wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliad 2 (d) (e) (f) (g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiad) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD bod y cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd William Charles Loynton am gael gollyngiad i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Maenordeilo a Salem mewn perthynas â materion yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol diwygiedig Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei wrthod.

 

 

19.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol eglurhad i'r Aelodau ynghylch eu hawliad lwfansau teithio.