Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

J Gilasbey

 

 

5. Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd P. N. Thompson

 

 

Mae'r Cynghorydd Gilasbey yn Gynghorydd ar Gyngor Tref Cydweli.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 9FED MEDI 2016 pdf eicon PDF 216 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Medi 2016, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD S. HUSSAIN pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 11 Medi, 2015 (gweler cofnod 12), wedi caniatáu gollyngiad, tan 4 Rhagfyr, 2016, i'r Cynghorydd S. Hussain, aelod o Gyngor Cymuned Cwmaman, siarad ond nid i bleidleisio, yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Cwmaman ynghylch unrhyw drafodaeth yngl?n â symud Swyddfa Bost Glanaman.

Dywedwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Hussain fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd y paragraffau canlynol, gan fod y safle newydd a gynigiwyd ar gyfer y Swyddfa Bost yn orsaf betrol sy'n eiddo i'r Cynghorydd Hussain;

1.    10(2)(a)(i) gan fod y mater yn ymwneud â busnes a wneid ganddo, neu'n debygol o effeithio ar y busnes hwnnw.

2.    10(2)(a)(ix)(bb) gan fod y mater yn ymwneud â chwmni y mae'n dal swydd reoli gyffredinol ynddo, neu'n debygol o effeithio ar y cwmni hwnnw.

3.    10(2)(b)(i) oherwydd gellir ystyried yn rhesymol bod y mater yn effeithio ar ei lesiant.

Roedd buddiant y Cynghorydd Hussain hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod am fuddiant busnes ac ariannol y Cynghorydd Hussain yn y mater, yn ystyried yn rhesymol bod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd ehangach y cyhoedd.

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Hussain wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 ar y sail bod modd cyfiawnhau ei gyfranogiad oherwydd ei rôl neu'i arbenigedd penodol.

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Hussain fod ei brofiad o adleoli swyddfeydd post, a goblygiadau ariannol hynny, yn unigryw o blith aelodau’r Cyngor a phe na bai'n gallu cyfrannu byddai perygl i'r Cyngor wneud penderfyniadau anwybodus.

Roedd consensws cyffredinol ar y Pwyllgor y byddent wedi dymuno cael rhagor o wybodaeth am y busnes a oedd i'w drafod yng nghyfarfod/ydd Cyngor y Dref parthed y mater hwn ac y dylai unrhyw geisiadau pellach a wneir gan y Cynghorydd Hussain gynnwys gwybodaeth fwy manwl i gynorthwyo'r Pwyllgor i wneud penderfyniad gwybodus.

Yn dilyn trafodaeth fanwl

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Shahid Hussain SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Cwmaman mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch symud Swyddfa Bost Glanaman, hyd at 4 Mai, 2017.

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD P. N. THOMPSON pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd J Gilasbey ddatgan buddiant yn yr eitem hon a gadawodd yr ystafell.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Philip Nigel Thompson o Gyngor Tref Cydweli am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd y Cyngor Tref Cydweli mewn perthynas â'r canlynol:

 

1) Ymwneud y Cynghorydd Thompson gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol Ynghyd (y mae'n gyfarwyddwr ohono), yn enwedig trosglwyddo asedau - cyfleusterau cyhoeddus - Cyngor Tref Cydweli.

 

2) Ymwneud y Cynghorydd Thompson gyda Hwb Cymunedol Cydweli yn rhinwedd ei aelodaeth o'r Pwyllgor Rheoli.

 

Dywedwyd bod cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Thompson fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd y paragraffau canlynol yn y Côd Ymddygiad:-

 

1) 10(2)(a)(ix)(bb) gan fod y mater yn ymwneud â busnes y mae'n dal swydd reoli gyffredinol ynddo, neu'n debygol o effeithio ar y busnes hwnnw

2) 10(2)(a)(ix)(ee) gan fod y mater yn ymwneud â chymdeithas breifat y mae'n dal swydd reoli gyffredinol ynddi, neu'n debygol o effeithio ar y gymdeithas honno.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Thompson hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Thompson wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(f)(g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

O ran buddiant personol y Cynghorydd Thompson yng Nghwmni Buddiannau Cymunedol Ynghyd, eglurodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol mai cwmni cyfyngedig oedd Cwmni Buddiannau Cymunedol oedd â nodweddion ychwanegol arbennig a grëwyd at ddefnydd pobl oedd yn dymuno rhedeg busnes neu weithgaredd arall er budd y gymuned ac nid er elw preifat yn benodol. 

 

Gan ymateb i gwestiwn ynghylch y gwahaniaeth rhwng siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith o'r darnau perthnasol yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

 

Mewn ymateb i'r ymholiad ynghylch y gollyngiad i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig, cynigiwyd bod y ffurflen gais yn cael ei haddasu i roi eglurder i'r ymgeisydd a'r Pwyllgor sy'n ystyried y cais. Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n ystyried addasu'r ffurflen.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f)(g) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd Philip Nigel Thompson SIARAD OND NID CYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd y Cyngor Tref Cydweli mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau cyhoeddus Cyngor Tref Cydweli, a chael Cwmni Buddiannau Cymunedol Ynghyd a Hwb Cymunedol Cydweli i'w rhedeg, a bod y Gollyngiad yn ddilys tan 4 Mai 2017.

 

 

6.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Ail-ymunodd y Cynghorydd J. Gilasbey â'r cyfarfod.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2015/16 i'r Cyngor Sir, ar 9 Tachwedd 2016, lle nodwyd ei fod wedi dod i law.

 

Yn dilyn ymholiad, dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n anfon e-bost at yr Aelodau ynghylch dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau