Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 9fed Medi, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 3YDD MEHEFIN, 2016 pdf eicon PDF 256 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 3ydd Mehefin, 2016, gan eu bod yn gywir.

 

4.

HYFFORDDIANT CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 12 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Mawrth 2016, rhoddwyd adroddiad i'r Pwyllgor yn ymwneud â'r sesiynau hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad a gynhaliwyd ym mis Mehefin ar gyfer cynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned lleol. Roedd llawer o bobl wedi dod i'r sesiynau ac roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol. Roedd y rhai oedd yn bresennol wedi gwerthfawrogi'n benodol y llyfryn canllawiau ynghylch buddiant personol a rhagfarnol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

5.

CYDYMFFURFIO Â'R CÔD YMDDYGIAD GAN GYNGHORWYR TREF A CHYNGHORWYR CYMUNED pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'i rôl mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth â'r Côd Ymddygiad gan Gynghorwyr Tref a Chymuned, cafodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn manylu ar lefelau'r hyfforddiant a gafwyd ynghylch y Côd, datganiadau o fuddiant a wnaed, ceisiadau am ollyngiad a ganiatawyd a chwynion a gofrestrwyd mewn perthynas â'r  Côd o ran Cynghorau Tref a Chymuned yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

6.

ADOLYGU'R POLISI DATGELU CAMARFER CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch yr adolygiad blynyddol o'r Polisi Corfforaethol ynghylch Datgelu Camarfer, gyda golwg ar gynnwys gwybodaeth berthnasol am hynny yn adroddiad blynyddol y Cadeirydd i'r Cyngor. Nodwyd bod y Cyngor wedi parhau i gymryd camau i gynyddu ymwybyddiaeth staff ynghylch y polisi a sicrhau bod rheolwyr wedi cael eu hyfforddi'n llawn i adnabod cwynion datgelu camarfer a rhoi sylw iddynt yn briodol. Roedd y Polisi Corfforaethol ynghylch Datgelu Camarfer wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau sefydliadol ac adborth o'r sesiwn briffio aelodau etholedig a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn ymateb i sylw, ei fod wedi pwysleisio wrth swyddogion yr angen i roi gwybod i staff am ddatblygiadau o ran eu cwynion yn amodol ar gyfyngiadau ynghylch gwybodaeth bersonol;

·       Cytunodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Cyfreithiol i roi sylw i bryder ynghylch pa mor briodol oedd cynnwys astudiaeth achos Datgelu Camarfer 3, yn enwedig os oedd yn achos go iawn, o ystyried y canlyniad sef 'y byddai'r Cyngor yn cadw llygad barcud ar y cartref....'

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r polisi diwygiedig.

 

7.

ADRODDIAD OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2015/2016 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am y cyfnod 2015/16 a oedd yn cynnwys manylion am gwynion o gamweinyddu a methiant gwasanaeth yn erbyn cyrff cyhoeddus a honiadau yn erbyn aelodau Awdurdodau Lleol eu bod wedi torri'r Côd Ymddygiad.

Yn gyffredinol, roedd nifer y cwynion o gamweinyddu yn erbyn awdurdodau cyhoeddus wedi cynyddu 4% o gymharu â chynnydd o 7% yn y flwyddyn flaenorol. Roedd cwynion yn erbyn awdurdodau lleol wedi gostwng ychydig o 938 i 906, ac roedd y cynnydd cyffredinol mewn cwynion wedi deillio o gynnydd pellach mewn cwynion yn erbyn y GIG. Dim ond 1 Adroddiad er Budd y Cyhoedd oedd wedi cael ei gyflwyno yn erbyn awdurdod lleol yn ystod y cyfnod hwn ac nid oedd hwnnw'n ymwneud â Chyngor Sir Caerfyrddin. Roedd nifer y cwynion o gamarfer yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gostwng 57% i 40 yn 2015/2016. Roedd hyn yn cymharu'n ffafriol â chyfartaledd Cymru sef 53 o gwynion. Bu cynnydd o 19% mewn cwynion o ran y Côd Ymddygiad o gymharu â'r llynedd,  i'w briodoli i raddau helaeth i'r cynnydd o 49% mewn cwynion yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned. Roedd cyfanswm o 8 cwyn o ran y Côd Ymddygiad wedi cael eu gwneud yn erbyn aelodau etholedig Cyngor Sir Caerfyrddin er bod rhai o'r rhain wedi ymwneud yn bennaf â rôl yr aelod fel Cynghorydd Tref a Chymuned.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

CWYNION A CHANMOLIAETH pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth a oedd yn rhoi dadansoddiad o'r cwynion a'r sylwadau canmoliaethus a ddaethai i law'r Awdurdod yn ystod 2015/16. 

Adroddwyd bod yr Awdurdod wedi derbyn 501 o gwynion yn ystod 2015/2016, o gymharu â 573 yn 2014/2015. Roedd hyn yn dangos tuedd barhaus lle roedd nifer y cwynion wedi gostwng o 727 yn 2012/2013. Ymatebwyd i gyfanswm o 463 o gwynion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys nifer a oedd wedi cael eu cario ymlaen o flwyddyn flaenorol y cyngor. Roedd nifer yr achosion yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r amserlenni gofynnol wedi gostwng o 66% i 62%, gan wrthdroi'r duedd flaenorol. Yn sgil ad-drefnu sylweddol yn yr adrannau yn ystod y cyfnod perthnasol roedd yn anodd gwneud cymariaethau uniongyrchol â'r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag roedd y rhan fwyaf o'r cwynion yn dal i ymwneud ag Adran newydd yr Amgylchedd (a oedd yn cynnwys gwasanaethau gwastraff a chynllunio), ac wedyn yr Adran Cymunedau newydd a fyddai hefyd yn gyfrifol am gyfran o'r Cwynion Statudol y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Roedd nifer y sylwadau canmoliaethus a gyflwynwyd wedi gostwng ychydig o 545 i 542 ac roedd 78% o'r rhain wedi cael eu cyflwyno i'r Adran Cymunedau ac Adran yr Amgylchedd.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD I.R. LLEWELYN pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 11eg Mawrth, 2016 (gweler cofnod 9), wedi caniatáu gollyngiad, tan 9fed Medi, 2016, i'r Cynghorydd I.R. Llewelyn, aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned, mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Llewellyn, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd Llewellyn, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo Asedau'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Llewellyn fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(ii) o'r Côd Ymddygiad gan fod y mater yn ymwneud â'i gyflogwr, neu'n debygol o effeithio ar ei gyflogwr, sef Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Llewellyn yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Llewellyn wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) ar y sail na fyddai ei gyfranogiad mewn unrhyw drafodaeth yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned yn niweidio hyder y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd I.R. Llewellyn SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo asedau'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol [Mai 2017].

 

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD W.R.A. DAVIES pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 11eg Mawrth, 2016 (gweler cofnod 8), wedi caniatáu gollyngiad, tan 9fed Medi, 2016, i'r Cynghorydd W.R.A. Davies, aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned, mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Davies, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd W.R.A Davies, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Davies yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd W.R.A Davies SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol [Mai 2017].

 

11.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD E.W. NICHOLAS pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 11eg Mawrth, 2016 (gweler cofnod 7), wedi caniatáu gollyngiad, tan 9fed Medi, 2016, i'r Cynghorydd E.W. Nicholas, aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned, mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Nicholas, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd E.W. Nicholas, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Nicholas fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Tennis Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Nicholas yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd E.W. Nicholas SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau tennis o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol [Mai 2017].

 

12.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD B. REES pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 11eg Mawrth, 2016 (gweler cofnod 6), wedi caniatáu gollyngiad, tan 9fed Medi, 2016, i'r Cynghorydd B Rees, aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned, mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Cynghorydd Rees, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cais am adnewyddu ei ollyngiad.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais am adnewyddu'r gollyngiad gan y Cynghorydd B Rees, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas â'r bwriad i drosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i'r Cyngor Cymuned.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Rees fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn Llywydd Clwb Bowlio Llandybïe.

 

Hefyd yr oedd buddiant y Cynghorydd Rees yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd B Rees SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandybïe mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch trosglwyddo cyfleusterau bowlio o'r Cyngor Sir i Gyngor Cymuned Llandybïe, a bod y Gollyngiad i fod yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol [Mai 2017].

 

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2015/16 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Blynyddol drafft ynghylch y gwaith oedd wedi ei gyflawni gan y Pwyllgor yn ystod 2015/16 a nododd, petai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu, y byddai'n cael ei roi gerbron cyfarfod y Cyngor Sir naill ai ym mis Tachwedd neu ym mis Rhagfyr i'w gymeradwyo.

Cytunodd y Cadeirydd i ddarparu 'Casgliad' i'r adroddiad.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2015/16.