Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 3ydd Mehefin, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.A.L. Roberts a G.B. Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor oedd wedi eu cynnal ar 11eg Ebrill ac ar 3ydd Mai, 2016, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD A. SMITH. pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Alexander Smith, a oedd yn aelod o Gyngor Tref Rhydaman, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas â materion yn ymwneud â'r Ammanford Enterprise Partnership Limited.

 

Dywedwyd bod y Cynghorydd Smith yn gofyn am ollyngiad gan fod ganddo fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(x)(c)(v) o'r Côd Ymddygiad gan fod ei gymar yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni.

 

Yr oedd buddiant y Cynghorydd Smith yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd wrth ystyried materion ynghylch y cwmni neu a fyddai'n debygol o effeithio ar y cwmni.

 

Gan hynny yr oedd y Cynghorydd Smith wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (c)(d)(e) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, fod a wnelo rheoliad 2(c) ag aelodau o Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref yn unig.

 

Ar ôl trafodaeth fanwl a chan nad oedd y Pwyllgor yn fodlon y bodlonwyd unrhyw rai o'r rhesymau yn y cais,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cais gan y Cynghorydd Alexander Smith am gael gollyngiad i SIARAD yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas â'r Ammanford Enterprise Partnership Limited yn cael ei wrthod.

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN GYNGHORWYR O GYNGOR CYMUNED LLANBOIDY. pdf eicon PDF 375 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan 7 o aelodau Cyngor Cymuned Llanboidy a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiadau yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanboidy ynghylch materion oedd yn ymwneud â Neuadd y Farchnad, Llanboidy.

 

Dywedwyd bod y Cynghorwyr yn gofyn am ollyngiad gan fod ganddynt fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(ee) o'r Côd Ymddygiad sef eu bod yn aelodau o Bwyllgor Neuadd y Farchnad a oedd yn gysylltiedig â chynnal y neuadd.  Nid oedd y Cynghorwyr wedi eu penodi'n aelodau o'r Pwyllgor gan y Cyngor Cymuned.

 

Yr oedd buddiant y Cynghorwyr yn rhagfarnol gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.  Yn benodol yr oedd y Cyngor wedi cael cais gan Bwyllgor y Neuadd am grant o £1,000 ac yr oedd trafodaethau ar waith gyda'r Pwyllgor ynghylch prydlesu neu brynu tir o amgylch y Neuadd oedd yn eiddo i'r Cyngor.

 

Nid oedd gan y Cynghorwyr fuddiant ariannol uniongyrchol o ran rheoli'r Neuadd nac o ran y materion penodol yr oedd angen eu trafod ar hyn o bryd. 

 

Yr oedd Clerc y Cyngor wedi dweud, pe na fyddai'r aelodau hyn yn cael gollyngiadau, na fyddai'r Cyngor yn gallu cael cworwm i drafod y materion hyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor petai ei fryd ar ganiatáu'r gollyngiadau hyn y gallai wneud hynny'n unol â 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 gan fod y buddiant yn effeithio ar ddim llai na hanner aelodau'r Awdurdod.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliad 2(a) o ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr L.Davies, D. Phillips, S. Thomas, N. Thomas, R. Williams, J. Gibbin a H. Phillips BLEIDLEISIO A SIARAD yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanboidy ynghylch unrhyw drafodaethau am Neuadd y Farchnad, Llanboidy a hynny tan ddiwedd eu cyfnod gwasanaethu presennol sef yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

 

6.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G. HOWELLS. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Gerald Howells, a oedd yn aelod o Gyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Llansteffan ac Eglwys y Plwyf, Llansteffan.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Howells fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(aa) o'r Côd Ymddygiad mewn perthynas â'r ysgol a pharagraff 10(2)(ix)(ee) mewn perthynas ag Eglwys y Plwyf i'r graddau:

 

(1)      Bod yr ysgol yn gorff sydd â swyddogaethau cyhoeddus a bod y Cynghorydd, yn rhinwedd bod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr, yn dal swydd reoli gyffredinol.  Nid oedd y Cynghorydd Howells wedi'i benodi'n llywodraethwr yr ysgol gan y Cyngor Cymuned;

 

(2) Dylid ystyried yr Eglwys yn gymdeithas breifat yr oedd ef, fel Warden yr Eglwys, yn aelod ohoni.

 

Yr oedd buddiant y Cynghorydd Howells yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny yr oedd y Cynghorydd Howells wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d) a (f) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru).

 

Yr oeddid wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Howells siarad ond nid pleidleisio o ran y materion hyn ym mis Rhagfyr 2015, ac yr oedd y gollyngiad hwnnw'n darfod ar 10fed Mehefin, 2016.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Gerald Howells SIARAD OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch Ysgol Gynradd Llansteffan ac Eglwys y Plwyf, Llansteffan, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei gyfnod gwasanaethu presennol sef yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

 

 

 

 

 

 

7.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD G. THOMAS. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Sir Gareth Thomas am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a/neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(i) o'r Côd Ymddygiad gan fod y materion yn ymwneud ag unrhyw gyflogaeth neu fusnes a wneid gan y Cynghorydd Thomas, a oedd yn ffermwr.

 

Yr oedd buddiant y Cynghorydd Thomas yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny yr oedd y Cynghorydd Thomas wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yr oedd y Cynghorydd Thomas wedi cael gollyngiad ar delerau tebyg (ond a oedd wedi'i gyfyngu i faterion ynghylch ffermio llaeth yn unig) ar 29ain Gorffennaf, 2015.  Hefyd yr oedd wedi cael gollyngiad i siarad, ond nid i bleidleisio, ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o ran amaethyddiaeth yn gyffredinol ym mis Rhagfyr 2015.  Yr oedd y gollyngiad hwnnw'n darfod ar 10fed Mehefin, 2016.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Gareth Thomas SIARAD OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei gyfnod gwasanaethu presennol sef yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017

8.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J. LEWIS. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Sir Jean Lewis am ollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad a/neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â ffermio'n gyffredinol.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lewis fuddiant personol mewn materion o'r fath yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(i) o'r Côd Ymddygiad gan fod y materion yn ymwneud ag unrhyw gyflogaeth neu fusnes a wneid gan y Cynghorydd Lewis, a oedd yn ffermwr.

 

Yr oedd buddiant y Cynghorydd Lewis yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny yr oedd y Cynghorydd Lewis wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yr oedd y Cynghorydd Lewis wedi cael gollyngiad ar delerau tebyg (ond a oedd wedi'i gyfyngu i faterion ynghylch ffermio llaeth yn unig) ym mis Gorffennaf, 2015. Hefyd yr oedd wedi cael gollyngiad i siarad, ond nid i bleidleisio, ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o ran amaethyddiaeth yn gyffredinol ym mis Rhagfyr 2015.  Yr oedd y gollyngiad hwnnw'n darfod ar 10fed Mehefin, 2016.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Jean Lewis SIARAD OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â ffermio yn gyffredinol, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei chyfnod gwasanaethu presennol sef yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

</AI8>

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J. JONES. pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Julia Jones, a oedd yn aelod o Gyngor Tref Llandeilo, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad yn unig yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo mewn perthynas â materion yn ymwneud â G?yl Gerdd flynyddol Llandeilo Fawr, neu fyddai’n debygol o effeithio ar yr ?yl.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(ix)(bb) o'r Côd Ymddygiad gan ei bod yn Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr Artistig yr ?yl.

 

Gan hynny yr oedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliad 2 (d)(f) a (h) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yr oeddid wedi caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Jones ar delerau tebyg ym mis Rhagfyr 2015, ac yr oedd y gollyngiad hwnnw'n darfod ar 10fed Mehefin, 2016.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d)(f) a (h) o'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i'r Cynghorydd Julia Jones SIARAD OND NID PLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch G?yl Gerdd flynyddol Llandeilo Fawr neu a fyddai'n debygol o effeithio ar yr ?yl, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei chyfnod gwasanaethu presennol sef yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

 

 

10.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J.F. GWYNFRYN-EVANS. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais gan y Cynghorydd Jonathan Francis Gwynfryn-Evans, a oedd yn aelod o Gyngor Tref Rhydaman, ac a oedd yn gofyn am ganiatáu gollyngiad yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas â materion yn ymwneud ag Ammanford Enterprise Partnership Limited.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Gwynfryn-Evans fuddiant personol yn y mater yn rhinwedd paragraff 10(2)(x)(c)(v) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn gyfaill i Gyfarwyddwr y cwmni.  Oherwydd bod y cyfeillgarwch mor glos dylid ystyried yr unigolyn hwn yn gydymaith personol agos i'r ymgeisydd.

 

Yr oedd buddiant y Cynghorydd Gwynfryn-Evans yn rhagfarnol hefyd gan y byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd oedd yn gwybod y ffeithiau perthnasol ystyried bod y buddiant mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o ddylanwadu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd wrth ymdrin â materion oedd yn gysylltiedig â'r cwmni neu oedd yn debygol o effeithio ar y cwmni.

 

Gan hynny yr oedd y Cynghorydd Gwynfryn-Evans wedi gofyn am ollyngiad o dan reoliadau 2 (c)(d) ac (e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor y dylai nodi, wrth ystyried y cais, fod a wnelo rheoliad 2(c) ag aelodau o Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref yn unig.

 

Ar ôl trafodaeth fanwl a chan nad oedd y Pwyllgor yn fodlon y bodlonwyd unrhyw rai o'r rhesymau yn y cais,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cais gan y Cynghorydd Jonathan Francis Gwynfryn-Evans am gael gollyngiad i SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Rhydaman mewn perthynas ag Ammanford Enterprise Partnership Li

11.

CYMERADWYO NEWIDIADAU I GÔD YMDDYGIAD YR AELODAU. pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol)(Cymru) (Diwygio) wedi dod i rym ar 1af Ebrill, 2016, gan gyflwyno newidiadau i'r Côd Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig.

 

Yr oedd adroddiad, a oedd yn gofyn am newidiadau i'r Côd yn unol â Gorchymyn 2016, wedi'i roi gerbron y Pwyllgor ar 11eg Ebrill, 2016 (gweler cofnod 5). Gwaetha'r modd yr oedd yr adroddiad, drwy gamgymeriad, heb gynnwys nifer o'r newidiadau oedd yn ofynnol gan y Gorchymyn.

 

Felly yr oeddid yn gofyn i'r Pwyllgor gymeradwyo'r Côd Ymddygiad diwygiedig oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, gan ei fod yn cynnwys yr holl newidiadau gofynnol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1    cymeradwyo'r newidiadau oedd wedi'u cyflwyno gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol)(Cymru) (Diwygio)2016 i'r Côd Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig;

 

11.2    ARGYMELL I'R CYNGOR fod y Côd Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig yn cael ei ail-fabwysiadu yn ei ffurf ddiwygiedig.