Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 3ydd Mai, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan M. Dodd, y Cynghorydd Cymuned J. Gilasbey a'r Cynghorwyr Sir S.M. Allen a G.B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD J. TREMLETT pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Jane Tremlett am ollyngiad o dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau  (Gollyngiadau) (Cymru) 2001 fel y gallai siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ei Fwrdd Gweithredol neu ei Bwyllgorau mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â Strategaeth Parcio arfaethedig Tref Talacharn.

 

Adroddwyd bod cais wedi'i wneud am ollyngiad gan fod gan y Cynghorydd Tremlett fuddiant personol yn y mater hwn gan ei bod hi'n byw yn Stryd y Brenin, Talacharn, ac y byddai'n cael ei heffeithio gan y cynllun arfaethedig i gyflwyno trwyddedau parcio i breswylwyr ar y stryd honno. Hefyd, gan fod gan ei g?r fusnes yn Stryd y Brenin, Talacharn, a allai elwa ar y maes parcio arfaethedig oddi ar y stryd.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Tremlett hefyd yn rhagfarnol gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol bod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd ehangach y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Tremlett wedi gofyn am ollyngiad fel y gallai siarad a phleidleisio.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cais y Cynghorydd J. Tremlett am ollyngiad fel y gallai SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ei Fwrdd Gweithredol neu ei Bwyllgorau mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud â Strategaeth Parcio arfaethedig Tref Talacharn yn cael ei wrthod.